Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Cymanfa Bregethu Eglwysi Annibynnol…

News
Cite
Share

Cymanfa Bregethu Eglwysi Annibynnol Lerpwl. Cynhaliwyd y Gymanfa hon eleni ar Hydref iafed, y I3eg a'r 14eg, pryd y gwasanaethwyd gan y gweinidogion canlynol :-Parchn. Hugh Hughes (W.), Hen Golwyn; W. J. Nicholson, Porthmadog y Prifathro T. Rees, M.A., Bangor; y Proff. D. Miall Edwards, M.A., Aberhonddu R. M. Rhys, Ystradgynlais; H. Elvet Lewis, M.A., Llundain Gwilym Rees, M.A., Merthyr T. Idwal Jones (B.), Rhos O. Lloyd Owen, Pontypridd, a J. L. Williams, M.A., B.Sc., Aberystwyth. Yn ol yr arfer, trefnasid i gynnal y Gyfeillach nos Sadwrn-y tro hwn yng nghapel Grove-st. Y testyn ddewisasid i siarad arno oedd Col. i. 9-11. Llywyddwyd y Gyfeillach gan Mr. R. H. Jones, Liscard, yr hwn yn ei anerchiad agor- iadol a ddywedodd Mor fawr yw ein braint A ni ynghanol trychineb mwyaf hanes, wele lli yn cael tawelwch a hamdden i ddyfod i fyny i'r uchel-wyl fel arfer. A heno dyma ni wedi cael y fraint o ddyfod i gyfarfod mwyaf cysegredig y Gymanfa, sef y Gyleillach. Fel y gwyddoch, enw a roddir ambell waith ar y cyfarfod hwn yw, y Seiat Fawr. Ac onid yw wedi bod yn Seiat Fawr lawer tro ? Nid oherwydd lluosowg- rwydd y rhai oedd yn bresennol yn unig, nac ychwaith am fod rhai o wyr mawr ein cenedl yn cymryd rhan ynddi, ond Seiat Fawr yn ei phrofiadau-niawr yn ei dylanwad ar feddwl a chalori a chydwybod y rhai oedd yn bresennol. A'n gweddi yn awr yw ar i hon hefyd fod yn Seiat Fawr mewn gwirionedd, am fod ein cym- deithas i. i nid yn unig gyda'n gilydd, ond hefyd gyda'r Tad a chyda'i Fab Ef Iesu Grist. Y mae yn hyfrydwch gennym weled cynifer wedi dod ynghyd ag ystyried yr amgylchiadau, ac y mae yn dda odiaeth gennym weled rhai yn bresennol y buwyd yn pryderu'n fawr yn eu cylch yn ystod y fiwyddyn ar gyfrif stad eu hiechyd. Ni allaf lai na chyfeirio at un wrth ei enw—un a welodd ami a blin gystuddiau-ul1 a daflwyd 0 don i don, Nes ofni bron cael byw ond y sydd, drwy drugaredd, wed.i ei arbed a'i adfer ac yr ydym o galon yn dymuno i'r brawd annwyl Pedrog flynyddoedd lawer eto i wasan- aethu ei genhedlaeth yn ofn yr Arglwydd. Bu angeu'n llawdrwm iawn ar yr eglwysi hyn yn ystod y deuddeng mis. Nid yn unig fe gwymp- odd llawer o'n dynion ieuainc hoff, ym mlodau eu dyddiau, wrth ymladd drosom, a thros yr egwyddorion sy mor annhraethadwy bwysig yng nghyfrif pawb ohonom, ond hefyd fe wnaed bylchau mawr gan angeu yn yr eglwysi gartref. Amser a ballai imi'n awr gyfeirio at y cyfryw bob yn un ac un. Ymhlith y rhai a gollwyd yr oedd rhai o ddynion amlycaf y cylch. Dyn- ion nodedig am eu ffyddlondeb, eu haelioni a'u gwasanaeth. Y mae eu coffadwriaeth yn aros yn berarogl yn yr eglwysi, a chwith iawn meddwl na cheir gweled eu hwynebau siriol byth mwy yn ein Cymanfaoedd. Ond y mae llu yn absennol oddiwrthym heno y disgwyliwn yn hyderus iawn gael eu gweled yn ein plith drachefn, a hynny cyn bo hir bellach. 'Rwy'n cyfeirio at y bechgyn sydd ynghanol yr enbydrwydd ofnadwy, yn hiraethu am eu cartrefi, ac yn blysio am gyn- teddau yr Arglwydd. Yna galwodd ar y Proff. D. Miall Edwards, M.A., i siarad ar yr adnod gyntaf o'r testyn. (Ymddangosodd yr anerchiad hwn yn ein rhifyn diweddaf.) Yr ail i siarad oedd y Parch. O. Lloyd Owen, ac yr oedd ganddo ef i seilio ei sylwadau ar y rhan gyntaf o adnod 10-- Fel y rhodioch yn addas i'r Arghvydd i bob rhyng-u bodd.' Y mae ein brawd w.edi bod Y11 son am rywun neu rywrai ar eu gliniau, ac na fynnent godi oddiar eu gliniau. Yn wastad mewn gweddi a deisyf. Ond am dipyn bach, ymwneud a phobl ar eu traed y byddaf fi. Fel y rhodioch yn addas-i'r Arglwydd, i bob rhyngu bodd.' Pobl yndy.gu cerdded, fel ag i ddod i rodio'n addas i'r Arglwydd, i bob thyngu bodd. Ac nid ar unwaith y daw neb i'r cyflwr yma. Ac yn yr adnod o'r blaen yma, y mae yn rhaid i rywun fynd ar ei liniau cyn y gall eraill fynd ar eu traed. Nid ydym yn peidio a gweddio drosoch,' &c., fel y rhodioch.' Gair bychan ydyw'r gair fel' yma, a gair digon diolwg ydyw, ond dyna gydio'r pethau mwyaf y mae Cydio amser a thragwyddoldeb cydio Duw a phechadur. Rhyw gulfor yw Gibraltar, ond dyna gydio y mae Cydio cefnforoedd a chydio cyfandiroedd cydio Dwyrain a Gorllewin. Gair gwerthfawr ydyw'r gair fel yma. Rhyw Andreas o air ydyw, yn dod a'i frawd at yr Iesu, ac wrth ddod ag ef yn cydio pechaduriaid oesoedd a gras ac a thru- garedd y Gwaredwr trugarog. Y mae yn ddyn da ar ei liniau,' meddai rhywun wrth yr Hybarch Joseph Thomas, Carno. 'Felly wir,' meddai yntau, ond sut ddyn ydyw o ar ei draed ? Nis gwn a gafodd o ateb ond fe wn i, os oedd o yn ddyn da ar ei liniau, ei fod yn help iddo fod yn ddyn da ar ei draed hefyd. Fel y. rhod- ioch.' Y mae'r gair rhodio yn cyfuno'r syniad. o bleser ac o ddyledswydd, o awdurdod ac o urddas a'i gilydd. Pan y mae'r hen sant wedi cael y maes ar y bwystfil sydd ynddo, rhodio mewn awdurdod gyda Duw, fel Eiioc, y mae. A phan y mae dyn ieuanc wedi cael y goreu ar y gelynion sydd y tuallan iddo, y inae'u rhodio fel y gwyr ieuainc yn y tau gynt. Yr oedd Avvstin Fynach yn ddyn anlluwiol iawn un adeg yn ei hanes, ond fe 'drodd yn ddyn da iawn, ac yr oedd rhyw gyfeillion yn methu deall hyn. Dyna oedd ei esboniad—ei fod wedi cael crefydd yn llaeth ei fam. Yr oedd rhywun wedi bod mewn llafur drosto, ac erbyn iddo ei gael ei hunan yr oedd yr ymdrech wedi troi yn goncwest bywyd. Y mae cyfriniaeth yn y gair yma. Rhodio'n addas.' Rhodio'n debyg; rhodio mewn gwaith cyffelyb i rywun. Rhodio yn weddus i'r Ar- glwydd. Y maent yn dweyd 'fod yna syniad milwrol yn y gair. Digon tebyg. Yr oedd mil- wriaeth yn Rhufain, ac yr oedd Paul yn llusgo milwriaeth i mewn i bopeth. Yr oedd yn gweld y milwr in step. Rhodio in step a'r Tywysog. Rhodio yr un fath a Iesu Grist. A dyma rodio urddasol yclyw hwn! Dyna ddymunol ydyw gweld dynion yn rhodio in step gyda Hwn. Peth annifyr ydyw cerdded gyda dyn sydd byth a hefyd allan o gain a chwi. Dywedir mai arwydd o feddwl bach ydyw gweld dyn yn cerdded Y11 fan ac yn fuan. Sut bynnag, peth di-urddas ac annatmiol iawn ydyw gweld dyn dwylath yn caniu bob yn ddwy fodfedd. Y mae'r dyn sydd wedi arfer cydgamu gyda Hwn wedi dod i rodio'n urddasol. Ac os mewn cam gyda Hwn, y mae mewn cam gyda pawb arall. Y dyn sydd allan o gam gyda Hwn, y mae allan o gam a phawb arall. Ac nid oes neb yn medru cerdded yn addas gyda phawb arall ond yr hwn sydd wedi bod mewn training gyda Hwn. Rhaid i chwi fynd trwy y drills dan ddisgyblaeth Hwr, ac yna chwi fyddwch yn rhodio'n addas ac yrn urddasol. A bydd y byd yn falch ohonoch yn rhodio i'r Arglwydd i ryngu bodd. Dynia'r unig ffordd i blesio pawb ydyw trwy blesio'r Ar- glwydd. Bydd gennym rhywbeth i ddweyd wrth bawb ond rhyngu bodd Hwn. Nid ydym yn debyg iddo, ond fe ddown yn debyg iddo. A gallwn ganu gyda Phantycelyn-- Minnau gerddaf drwy'r byddinoedd Ond it' gerdded o fy mlaen Mae Dy gamre'n torri'r tonnau, Mae Dy gamre'n diffodd tan 'N ol Dy droed gwna imi ddod Fy hyfiydwch mwya' erio'd.' Wedi dysgu unwaith, ni aughofiwn ni byth mo'r step wedyn. Y mae'r dyn sydd wedi rhodio mewn step gyda Christ yn mynd ymlaen yn well o hyd. 'A rhodio'n ddifyr wedi hyn Gyda"r Brawd fu ar y bryn.' Wedi hyn siaradodd y Parch. H. Elvct Lewis, M.A., ar y rhan olaf o adilod lo- I Can ddwyn ffrwyth. ymhob gweithred dda, a chynhyddu yng ngwybodaeth am Dduw.' Dyma ydyw Cristionogaetli--adiiabod Duw, a rhoolo ii addas iddo. Y mae'r adnabyddiaeth a'r buchedd, gyCla'i gilydd, yn dwyn ffrwyth ymhob gweithred dda. Ac y mae'n debyg y gallwn newid ychydig ar ffurf rhan olaf yr ymadrodd Gan ddwyn ffrwyth ymhob gweith- red dda trwy adnabvddiaeth o Dduw.' Trwy adnabod Duw yn well. Y mae'r Apostol wedi newid y ffigiwr. Nil rhodio 3Y ganddo bcllach, ond pren ffrwythlon. Y niae r pren yn dwyii ffrwyth yn ei bryd. Y mae yn dwyn amryw ffrwyth. Ac y mae yn bren yn dwyn ffrwyth, nid am ei fod yn perthyn i'r ddaear, na'i fod tir da, ond am ei fod yn edrych i fyny, ac am fod gwlith y nefoedd, y wybodaeth am Dduw, yn ei ireiddio ac yn ei adfywio. Y ffordd i ffrwytho ymhob gweithred da ydyw trwy adnabod Duw yn well. Nid trwy addunedau, nid trwy ffurfiau, y mae dyn yn ffrwytho oreu, ond trwy adnabod Duw yn well. Faint o amser sydd wedi cael ei roi gan bob un sydd yma heno yn ystod y fiwyddyn er pan fu Cymunfa fel hon o'r blaen i adnabod Duw yn well ? Ei adnabod trwy y meddwl, trwy y deall ysbrydol. Tybed nad oes yn hanes ein gwlad ni bethau fel hyn yn bbd--y gwyddon yn rhoi misoedd i ddeall X ser yn well, a phrin awr mewn blwyddyn 1 adnabod Duw yn well ? Oriau mewn blwyddyn i adnabod y blodau yn well, ond prin awr adnabod Duw yn well ? A oes yma mewn gwir- ionedd ymdrech wedi bod i adnabod Duw yn well ? Tybed nad oes beth o naws yr agnostic wedi dod dros bobl dduwiol-—dweyd fod Duw yn bod, ond gwneud cyn lle-ied fedrant i'w adnabod yn well ? Y gwlith a'r heulwen o'r uchelderau fydd yn gwaeud y ffrwyth yn addfed. Pwy yW hwnnw sydd wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd ? Yr hwn sydd a'i ewylfys yng nghyf- raith yr Arglwydd, ac yn myfyrio yn Ei gyf- raith L, f ddydd a nos.' Ylghanol byd fel heddyw, sydd yn derfysg drwyddo, a gaf n eich galw yn ol i'r ystafell i fyfyrio a meddwl, er mwy11 adnabod Duw yn well ? Y ffordd i ddwyn ffrwyth ydyw adnabod Duw yn well. Ei adnaboa yn well nes methu peidio a phregethu, a pheiclio a gwcddïo, a dweyd, Yn By waith y mae fy mywyd.' Adnabod Duw yn well gyda deal ysbrydol, er mwyn i bob gweithred dda ddango ein bod yn1- hoffi'r gwaith o feddwl am dano. mae wedi bod yn hanes yr Eglwys droion ddos- barth o .aint yn cael eu galw yn Quietists ain ddysgu gwirionedd fel hyn nad yw plentyn Duw wedi cyrraedd ygradd uchai o wybodaeth o Dduw oni fo'n medru aros i Dduw wneud fel a fynno. Yr enaid wedi ymddistewi yr ysbry wedi ymlonyddu, a Duw wedi llenwi r enaid a i ogoniant Ei Hun. Digon hawdd gweld fod peryg. cyfeiliornad mewn syniad fel yna. Y ffordd ddyi.ion ffrwytho'n ardderchog ydyw meddw yn fwy a meddwl 3-11 well am Dduw. Syt;1d am dano fel Tad nes y byddallt yn methu peidio a. gweddio y brcgeth yn peidio a bod yn faic". Can ffrwytho ymhob gweithred dda trwy yr adnabyddiaeth ddyfnach yma o Dduw. Y inae dynion yn meddwl o ddifrif am eu masnach, al" fyw, ac am lawer o bethau. A gawn ni feddw llawer am Dduw ? Adnabod Duw yn well grea eglwysi ffyddlon, y byddai eu hawddgarwch yll dwyn llawer at Grist. Yr wyf am inni ymgysegrU o ran meddwl, o ran deall ysbrydol, i bendeT- fynu adnabod Duw yn well ynghanol y treialoi1 a'r dyryswch mawr yma. Adnabod Duw y? ddigon da i nrwytho'n brydferth drosto yn ?'y nag eiioed, fel y daw pawb o'n cydch i weld foli yna Arddwr heb ci fath yn ei ardd, pan wela11. y ffrwyth yn datblygu-' Yn ffrwytho dan ga^" odydd marwol glwy.' 'Fedrwn ni ddim ffrwyth o dan y rhai hynny oni bydd yr aclnabyddieth well o Dduw gennym i ddod a ni yn vrell dynion- Gadewch i Dduw gael mwy7 o la yn nwyster el meddyliau, ac yna y mae'r ffrwyth yn sicr 0 addfedu. Rhodded Duw i bob un ohonorn Yr I adnabyddiaeth ddyfnach yma ohono. Yr olaf i annercli y cyfarfod oedd yr Hybarc Hugh Hughes, a'r ymadrodd yinddiriedwyd 1 vmdrtniaeth ef oedd-— Wedi eich. nerthu a phob nerth, yn ol ei gaderM gogoneddus Ef, i bov dioddefgarweh a hirymaf0 gyda llawenydd.' I- Wedi eich nerthu.' Ac y mae hwnnw'11 nertil ysbrydol. Yr wyf am fentro dweyd ei fod y nerth dwyfol. Nid nerth y medr dyn ei gael ynddo nac ohono'i hun. Beth bynnag fyddo allu meddyliol, beth bynnag fyddo'i dcl S-Lleicl- iaeth a chyfoeth ei wybodaeth, 'ddaw o ytti o hyd i nerth heb ddod i touch arbennig a ^1 Dn Mawr". A Duw yn Ei nerth gogoneddus. NI wyf yn gwybod a yw'n iawn imi ddweyd to rhywbeth ardderchocach lla'i gilydd yn y Brel1111 Mawr. Nerth mwyaf gogoneddus Duw nerth Ei garictor, nerth Ei saiicteildrwydQ. nerth Ei gariad. Y mae yn holl-bresennol ac yll holl-wybodol ac yn holl-ddoeth. Ond cariad yw Duw, cariad yw.' Os mai mwyaf Duw ydyw Ei gymeriad, mwyaf dyn ddylai fod e1 gymedad-d gymeriad mewnol, ei gymerid } sbryd' 1 Grym mawr yn nyfnderoedd yrysbryd. Y mae rhyw gyi-greddfau mcwn dyn, ac y ma y ac ?ir Bi un i ou- Duw yn dod i afael a'r rhai hynny ac 9-r Ei union. Trwy gyfryngau weithiau, ac yn ddigyfrwng <

-0 FRYN I FRYN. !