Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

-0 FRYN I FRYN. !

News
Cite
Share

0 FRYN I FRYN. | —— Daliwn y ddwy foneddiges Gristionogol hyn I sei- bron er budd i'r ferrli q.'r Y Ddwy I Feistves Evans. teulu ieuanc yn y dyddiau hyn. j Pwnc pwysicaf y dydd ydyw'r fam a'r ferch. Mwy pwysig ydyw na'r tad a'r mab. Benyw yn deffro o'i chyfyngderau o'r blaen, a'u heffeithiau ydyw benyw heddyw. Nid rhyfedd ei bod yn dweyd pethau byrbwyll, ac yn gwneud pethau an- weddus, ac yn ymylu ar fynd yn greulon, oblegid dechreu deffro y mae wedi nos o hunllef a chwsg Minderus. Y mae ar hyd ei hoes, ac, i raddau mwy a llai, heddyw, yn bradychu yn wylaidd yn wir, ryw ymdeimlad sydd ynddi o isanaeth i'w gwr ac i'r dyn. Mae'n wir y ceir samplau i'r gwrthwyneb heddyw, a hynny'n bennaf o ddosbarth merched ieuainc sydd a'u hanwybod- aeth a'u balchter yii gryfach v,a'u diiiylliaiit a'u ^oesgarwch ac un o'r pethau mwyaf anhapus yn y ferch ydyw'r digywilydd-dra hwn a welir Ynddi mor blaen ac anweddus yn ei gwisgo a'i throi allan. Diau fod a fvuno r chwareudy ag ef, a'i fod yn gamgymeriad am y ffordd i fod Yn gymeradwy ac enillgar. Yr ydym yn gadael y dosbarth hwn yn ddisylw, gan dosturio wrtho, a gwybod mai yr hen fyd a ddaw a hwy i'w gweddusrwydd cynhenid, neu, ysywaeth, i'w darostyngiad babilonaidd. Son ydym am ryw ymostyngiad caeth-for- wynol sydd yn y ddynes tuagat y dyn ac nid yw fod yr argae yn torri ambell dro ac yn yniarllwys ar ei ben nes ei foddi bron, ond cadarnhau gwirionedd y gosodiad hwn. Bid sicr, daw hyn i'r golwg yn ffiaidd yn y gwledydd anwaraidd, lie ceir y dyn yn ddiog yn ei gwsg, I* ddynes ar fynd yn ddarnau ocldiwrth ei gilydd, gymalau ac aelodau, yn ei chaledwaith, ac eto yn ei hufudd-dod dirwgnach a boddlon. Wynebir ar yr un olygfa yng Nghymru. Nid i'r \1.n graddau bob pryd, mae'n wir, ac nid yn yr inoddau eto mae'n bod, ac mae i'r ymddyg- au ei athroniaeth o bwys i'r diwygiad cym- eithaso1. Gynifer o wragedd bach sydd yn y oUywysogaeth a'u gwisg yn llwm, ac A'u, tamaid ft brin, ac a u troad allan yn anfynych, er mwn SWell gwisg a bwyd a throi allan i'w arglwydd- IReth ef. Sylwer ar wr a gwraig yn mynd allan alli dro ar brynhawnddydd. Mor anocld ei chael ht i gydgerdded ag ef. Mae'r ddau yn mynd, ond VjoCliiydig ar ei ol ef yr a hi, ac nid hawdd ganddi 1 gydgerclded. Mae eithaf cynghanedd yn eu ytgan yn y capel, ond nid cystal yn eu cydgam r yr heol. Y mae'r naill yn annwyl o'r Hall hefyd. Ond, rywsut, efe yw ef, a hi yw hithau all nid oedd y 11 1 mwy na'r llall yn gweld dim ° Ie yn yr ymddygiad, a llai fyth y credent in u —1 .r fath ymddygiad ei stori am anystvriaeth, ^ntihegwch a gorthrwm. ^effry'r fenyw i'r weledigaeth hon, ac o'r biaidd yr adnebydd ei hun ynddi; a gwedy y drwy qlw y naill yr 'Hen Fenyw,' a.?y?s drwy alw y naill yr Hen Fenyw' Y FENYW XEWYDD.' r fenyw (nid y gwryw) sydd wedi deffro i'w WliaU ei hun. Y mae ei deffroad yn liollol o • om hi ei hun. Y mae'n gwbl hunan-gynhyrf- "'1, lc yn hyn mae ei iechyd a'i dyfiant. Prawf v, hyn o bersonoliaeth grefa c o annibyniaeth Ysbryd ac o ewyUys ddi-droi-yn-ol. Cenfydd ?laraf y deSry r dyn i gydnabod ei chenhad- <\th. Nid 7W pob ?y' hyd yn oed heddyw, o'r fod y ddynes yn achubadwy yr un ffor/i Bid sicr, ni wedy ei chadwedigaeth, M ymfoddlona ynddo, a chreda y dihanga ?? bod yn ei haddoldy dipyn yn selog a Yddlon. Pa btyd y aieddyhodd y dyn o ddifrif f?(I i'r fe"y*w ei* dynoliaeth fel yntau ? Y mae dlsgwyl1adau heddyw oddiwrth y mab yn fwy 1a? oddiwrth y ferch. Etyb y ferch gyda r manion ac i loffa,' ond na sonier am dani yn na Ser y Bore nac Eco'r Hwyr; ac er eu gwerth yn y rhyfel, cadwer pawb ohonynt allan o'r papur dyddiol, oddieithr eu bod i briodi rhyw gapten neu iarll, neu wedi cael het o'r ffasiwn ddiweddaraf. Dylasai niamau a merched pob gwlad godi yn erbyn y fath wawd-draeth, a phrofi i'r byd eu bod yn amgen hyn. Bellach mae'r ferch yn ddigon llygad-agored i bwpwo rhyw dipyn o daffi o'r fath, ac i ymgynddeiriogi am ei lie a'i chydraddoldeb. Ei phrofedigaeth ar hyn o bryd yw colli yn ei hamynedd, a'i gwedduster, a'i pharch i drefn. Ond ni raid iddi ofni yr a yn waeth nag yr aeth y dyn lawer tro ar ei esgynfau i'w deyrnas. Gesyd y fenyw ei hun, o angenrheidrwydd, ar hyn o bryd ar ei phrawf, ac heb ofal mawr geill ddinistrio ei hachos ei hun, a dinistrio ei hunan yn y fargen a geill hyn godi'n gyntaf oil o'i chamsyniadau, yr hyn a rydd fod i'w chamymddygiadau. Ysgrifenna un Dr. Elizabeth Sloan Chesser ar hyn drwy ddweyd The benefits of high schools and colleges for girls are universally acknow- ledged. This is the age of clever girls. But the pendulum swings to the extreme. In a reaction against the educational limitations of our grand- mothers there is pressing danger that the present zeal for higher education of women is doing a great deal of harm. If the highly educated girl is ignorant of cooking and household manage- ment, her education is something of a farce.' Y mae profedigaeth y fenyw ar hyn o bryd i gymryd yn ganiataol mai y ffurnau gweddus ar ei bywyd hi ydyw addysgiaeth a gwleidyddiaeth, a'i bod hi i fod yn addurn cymdeithas ac nid yn wasanaeth felly nid yw, yn ei cham o'i hen fyd i'w byd newydd, ond yn newid ei hisanaeth o waith caled i falchter cyhoeddus. Gellid meddwl mai prif ddadl y fenyw yw ei hethol- fraint, ond camgymeriad yw hyn. Dadl gym- harol ddibwys yw hon, ac mae'n arwynebol. Y mae iddi hi ei dadl ddwyfolach na hon, a honno ydyw ei safle gymdeithasol neu ei chydraddoldeb a'r dyn. Un o dan law ydyw hi wedi bod yn rhy hir o clan law yn ei dawn, ei dysg, ei defn- yddioldeb, ac ar ambell dro, mewn ambell fan, yn ddibris ac ar y ffordd. Oherwydd hyn, y mae hi yng ngafael teimladau caethiwed maith yn ddibarch o'i hannibyniaeth a'i hawliau personol ac fel petai yn ddiofal. Dyma yw rhai o arddang- osiadau caethwasanaeth a'r ymdeimlad o an- chware teg, ac fe'i gwelir mewn teuluoedd bob dydd. Sefyll ar Y GROES^FORDD mae'r fenyw heddyw. Y mae bellach ar ddihun i'w hiawnderau a'i ehyfrifoldeb, ac mae ei thynged ei hun a thynged cymdeithas yn gyff- redinol yn dibynnu ar y cam a rydd. Prif sefydliad pob eenedl a theyrnas yw'r aelwyd. Hon yw'r brifysgol ymhob gwlad. Yma y ceir ffynhonnell y dyfroedd a rydd fywyd a ffrwythlonder 'ir ddinas a'i hamgylclioedd. Geilw y teulu am y dawn doethaf, a'r ddysg uchaf, a'r hyfforddiant pennaf. Ac yn y teulu y ceir gorsedd a maes y fam a'r ferch. Os collir hwynt o'r aelwyd, collir teuluaeth a chartref yr un pryd. Nid heb ofn y meddylir am gartrefi Cymru heddyw. Y mae Cymru yn mynd yn fwy-fwy di-aelwyd a di-gartref, ac mae hynny'n bod oherwydd anfiycldlondeb y fam a'r ferch i'r cartref. Aliffyddlolideb ydyw hwn sydd yn cod i o oferedd, neu o ddiogi, neu o anwybodaeth, neu o falchter cymdeithasol. Y rhain yw pedwar angel drwg, angylion coll, yr aelwyd ar hyn o bryd. Yr ydys yn son am ddysg i'r fam a'i- ferch. A pha le a eilw am ddysg fel yr aelwyd ? Yr ydys yn son am ddawn siarad a chylch gwas- anaeth. A pha le pwysicach i hyn na'r teulu ? Y mae trefniant addysg y plant yn amherffaith gan bob gwladlywiaeth, oddieithr fod ei harol- ygiaeth yn cyrraedd dros y teulu. Yn sicr, os geill llywodraetk wladol orfodi plant i fynd i'r ysgol ddyddiol, y mae mwy o reswm dros ei bod yn ymyraeth ag ymddygiad addysgol rhieni at eu plant ar eu haelwydydd ac heb hyn nis geill y trefniant addysgol fod yn berffaith. Rhagrith a chreulonder ydyw gwasanaeth pob benyw ar Fwrdd neu Gyngor neu Senedd, ar draul esgeuluso ei chyfrifoldeb i'w theulu. Y mae cryn wahaniaeth rhwng mamaeth yr aelwyd a swyddogaeth y bleidlais, a cheir samplau cywilyddus o hyd o'r olaf yn newynnu y blaenaf. Gynifer o famau sydd yn declino ac yn marw bob blwyddyn yn herwydd trahauster y swydd- oges Ac eto mor glochaidd y sieryd y rhai hyn am wladgarwch, pryd mai eu gwladgarwch hwy yw bod ar eu haelwyd a gofalu am eu plant. Nid yw hyn yn eu hainddifadu O'll pleidlais nac o'u gwerth cyhoeddus, eithr y mae'n diogelu. ac yn mwyhau'r gwerth hwn. Y mae ad-eni'r cen- hedloedd, fel y dywedir, wedi'r rhyfel yn am- hosibl heb adnewyddu teuluaeth, a'i ad- newyddu drwy weinidogaeth y fam a'r ferch ac heb hyn ni bydd adeuedigaetli Ewrop yn ei fan goreu ond clytwaith. Un o obeithion siriolaf y dyfodol ydyw'r chwalu a a ymlaen ar Bleidiaeth. A hynny a wna y rhyfel hwn. Y mae Toriaeth a Rhydd- frydiaeth eisoes yn dioddef am hyn, a tlieimla hyd yn oed I. L. Piaetli a Sosialaeth oddiwrth y wasgfa. Edrychid o'r blaen ar wleidyddiaeth. a chrefydd, o ran hynny, yng ngoleuni plaid a dosbarth. Gwnelai dynion eu hunain yn ddigon bychain a gwamal i fod yn ddynion plaid, ac aethant yn farnol i weled yn bleidgar, a dim ond hynny. Bellach mae gwrthuni hyn wedi dod i'r golwg. Yr ydys i gymryd cwestiynau Gwleidyddiaeth a Christionogaeth mwyach er mwyn pawb ac nid er mwyn plaid. Ni welwyd plaid erioed yn gwneud fawr o dda yn y byd yr oedd y blaid yii ac os buasai yn gwneud da, yr oedd y blaid yn y golwg yn fwy o lawer na'r daioni, ac fe'i gwrthwynebid gan blaid neu bleidiau eraill. Ond o hyn allan, Senedd pawb a fydd Senedd Cymru a Phrydain a'r byd. Deffry'r fenyw i'w hawliau a'i gwerth yn y. goleuni hwn, a hi a fydd yn un o'r galluoedd iachaf i roi i'r fath ysbryd ei fynegiant, os ceidw gydag eiddigedd santaidd ei He a'i gwaith cartref. Wel, beth ydyw perthynas Y ddwy feistres. Evans a hyn ? Yr oedd un ohonynt o Aberdar, yn marw yn yrnyl ei phedwar ngain, ac yn, crippled o'i hanner i lawr er ei 23 oed. Yr oedd ei gwr 3-11 fasnachwr o ymddiriedaetli, a'B yn gymeriad cyhoaddus fele i fab ar ei ol, mewil cerddoriaeth glasurol. Rhagorai hi mewn barn bwyllog a meddwl gafaelgar ac ewyliys gref. Er yn sefyll ar ei ffyn ac yn analluog i gerddcd cam, eto nid oedd ei flyddlonuch yn ei haddoldy na'i rhagorach yn ei dosbarth fel athrawes a theimlid oddiwrth ei gwerth cyhoeddus yn y dref, er nad oedd un amser i'w gweld mewn Pwyllgor a Cltyiihadledd a Cwrdd Siarad a The Misol. Yr oedd ei Chynhadledd hi ar ei hael- wyd, a'i Phwyllgor Gweithiol ar yr un llawr, a'i Synod a'i Senedd yr un modd ac yr oedd hithau yn ltywyddes yn y cwbl. a theimlid ei hawdurdod hyd ylrihell. Yr oedd y Feistres EVclJB arall yng Nghaer, a bu hithau farw wedi croesi ei phedwar ugain oed. Yr oedd yn dywys- oges yn ei dinas ac o fewn ei Chaer fel yr oedd ei thad yn ei ddydd yn Dywysog Cymru.' Meddai ar lawer o athrylith ei thad, ei awen, a'i ddawn dweyd '—yn enwedig dawn i ddweyd stori. Ceid yn ei chalon wythïen lan o ddigrifwch a dyfnder o ddifrifwcli prydferth yr 1111 pryd, ac yr oedd ei chariad fel codiad haul i bawb. Claddodd ei gwr anrhydeddus, a hi ac yntau yn ieuanc, a'u plant yn llnosog a man, a'r fas- nach yn fawr ac ar ei chynnydd. Benyw alluog a llawer o'r ymherodres ynddi ydoedd hon, etc cysegrai ei galluoedd i'w masiiach a'i chartref a'i chrefydd ac yn ei chytihebrwng wylai y ddinas. Pa bryd y dangosir ein gwerthfawrogiad o