Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

I Free [Church Hall, Kinmel…

News
Cite
Share

I Free [Church Hall, Kinmel Park. AT EGWYSI ANNIBYNNOL CYMRU. ANNWYI, FRODYR A CHWIORYDD ,—GoddefWCH i ni ddwyn y mater a ganlyn i'ch sylw. Oddeutu blwvddyn yn ol penderfynodd yr Ymneilltuwyr godi Neuadd at wasanaeth ein milwyr yn y Gwersvll uchod. Cafwyd addewid am un rodd « £ 1,000 tuagat y sefydliad, ar yr amod fod y gwahanol enwadau Ymneilltuol yn casglu y gweddill angenrheidiol, sef £ 500 yr un. Erbyn kyn y mae'r sefydliad wedi cael talu am dano, a'r holl enwadau wedi mwy na chyflawni eu haddewidion tuagato. Bydd yn dda gennych wybod fod yr Annibynwyr wedi cyfrannu 4524 ics. tuagat y sefydliad, yr hwn sydd wedi costio £ 2,500. Amcan pennaf y sefydliad yw gweiiu cysur a bod yn gysgod i foes a chrefydd ein clynioll ieuainc ddvgir i'r gwersyll hwn o gartrefi cref- yddol a glan ein gwlad—o Dde a Gogledd Cymru ac o drefi IJoegr-ac sydd heddyw yn gorfod byw mewn amgylchoedd sydd ar y goreu yn cynnwys llu o demtasiynau. Ac ar dystiolaeuh y caplaniaid a gweinidogion y cylch a lafuriant ymhlith y miloedd milwyr geir yn Kinmel, ynghyda thystiolaeth y milwyr eu hunain, gallwn ddweyd yn ddibetrus fod y sefydliad daionus hwn eisoes wedi sylweddoli ei amcan. Ond v mae rhai gwelliantau eto yn angen- rheidiolvn y Neuadd, a hynny er cysur y boncdd- igesau sydd yn dod yno i weini ar y milwyr, ac ydynt yn rhoddi eu gwasanaeth yn rhad ac am ddÏtn. Bydd y draul hon oddeutu £250, ac y mae Pwyllgor yr Annibynwyr wedi penderfynu yn unirydol i ddwyll rhan ohoni. Vr ydym felly yn apelio'n daer ac yn hyderus at bawb sydd mewn cydymdeimlad a'n milwyr ac wedi gwneud llawer tuagat eu cysur tym- korol yn ystod y tair blynedd diweddaf, i wneud eu rhan eto i gynorthwyo sefydliad sydd Y11 gysgod. a diogelwch i'w bywyd moesol ac ysbrydol. Byddwn ddiolchgar am y rhodd leiaf. Axwyddwyd ar ran Pwyllgor yr Annibyn- wyr, Parch. W. E. JONES, Old Colwyn (Llywydd). Capt. E. J. GRUFF YD D, C. F., Free Church Hall, Kinmel Park, Denbighshire (Trysorydd). Parch. BEN WILLIAMS, Hwart Villa, Prestatyn (Ysgrifennydd). li.S.-Anioner pob cyfraniad i'r Trysorydd i'r cyfeiriad uchod.

Family Notices

i I Y WERS SABOTHOL. I A "í

CYFARFODYDD.

Advertising

PRYNU'R FASNACH FEDDWOL.