Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
MR. J. TOWYN JONES, M.P.,…
News
Cite
Share
MR. J. TOWYN JONES, M.P., AND TEM- PERANCE REFORM. To the Editor of the Tyst. SIR,—As there seems to be considerable mis- apprehension concerning the attitude I took up at Llandrindod on the vexed question of Tem- perance Reform in Wales, I shall be glad if you will allow me to make my position, which is quite claer to me, clear to others also. I have consistently supported the effort to secure Prohibition for the period of the War, and for six months after. But War-time Pro- hibition, even if practicable, would not be a permanent solution of the Drink problem. I am extremely anxious to secure, if possible, some permanent contribution to the solution of a problem which has baffled all our efforts in the past. In my opinion, State Purchase and Local Option, as suggested by the Prime Minister, would be such a contribution. And is it not the one and only proposal which stands the slightest chance of being approved by Parlia- ment ? In my mind, to reject Mr. Lloyd George's suggestion is to postpone effective Temperance Legislation for a very long time. I have maintained for the last thirty years at Temperance gatherings in the Principality that Temperance Reformers in the past, by asking for too much, failed to secure any reform. It is to be hoped that at this critical juncture in the history of the movement wisdom will prevail in the Temperance ranks. I am, etc., J. TOWVN JONES.
CYNHADLBDD HEDDWCH.
News
Cite
Share
CYNHADLBDD HEDDWCH. At Olygydd y Tyst. SYR,-—Hwyrach mai nid anniddorol i ddar- llenwyr y TYST fyddai atgof o'r penderfyniad canlynol Fod y Gynhadledd hon o gyfeillion heddwch cyffredinol a gynhaliwyd yn Frankfort, Awst 22ain-24ain, 1850, yn ystyried Rhyfel yn gross i grefydd a rheswm a dynoliaeth a moesoldeb, ac yn barnu y dylai pawb ymhob man ddefn- yddio pobmoddion yneigallu er lluddias rhyfel ac yn anaog ar i'w holl aelodau lafurio yn eu priodol gylchoedd drwy addysgiad y plant, drwy yr areithfa a'r argraff-wasg, ac ymhob dull arall, i ddadwreiddio o'r byd y rhagfarnau gwladol a masnachol sydd wedi bod yn achosion o ddis- tryw Rhyfel.' Yr oedd yn y Gynhadledd, Liebig o'r Almaen M. Giacardin, o Paris Elihu Burrit, o'r America; Geo. Dawson, Miall, a Cobden, o Loegr a dau Gymro, Henry Richard a Samuel Roberts, sef S.R.' Trim sarpu. T. E. DA VIES.
PRYNU'R FASNACH FEDDWOL.
News
Cite
Share
PRYNU'R FASNACH FEDDWOL. At Olygydd y Tyst. SYR,—Cydolygaf i fesur a'r hyn a ddywed y Prifathro Rees yn ei eglurhad ar berchenogaeth. Eto nid eiddo'r Llywodraeth yw'r Fasnach pe felly, ni fua;ai son am brynu. Goruchwylwyr ydynt ar eiddo eraill, sydd yn cael elw personol oddiwrth y Fasnach, ac yn eu gorfodi i dalu ryw bedair ran o bump o'r elw ddaw oddiwrthi am wneud. Mae cymryd meddiant yn beth gwahanol iawn i hyn. Mae gan Mr. Rees hyder, pe cymerai y wlad (drwv'r Llywodraeth, wrth gwrs) feddiant, ac i'r dirwestwyr gymryd mantais iawn ar y cyfle, y gellid cael Cymru lan a sobr o fewn un genhedlaeth. Wrth edrych ar ymddygiadau'r Llywodraeth tuagat y Fas- nach ar hyd y blynyddoedd, nis gallwn weled fod sylfaen sicr i'r hyder hwn. Meddylier am gynrychiolwyr y wlad, y rhai sydd yn gwneud i fyny Dy y Cyffredin ar hyn o bryd. Fe bas- iodd Bil Dirwestol Asquith ei drydydd ddar- lleniad, ac fe'i hanfonwyd i fyny i Dy'r Ar- glwyddi gyda mwyafrif anrhydeddus. Ond pe dygid yr un bil i fewn yn awr, mae'n amheus a gai ef fwyafrif o gwbl, er nad oes ond ychydig o wahaniaeth yng nghyfalisoddiad y Ty mor bell ag y mae pleidiau yn y cwestiwn. Pe buasai yr un sel yn parhau, gellid gwneud y bil yn gyfraith drwy gyfrwng y Parliament Act, yr un fath ag Ymreolaeth yr Iwerddon a Mesur",y Datgysylltiad. Ond ni wnaed osgo i'r cyfeiriad hwn, er fod gan y Rhyddfrydwyr ddigonedd o fwyafrif wrth gefn. Mae hyn Y11 profi'n ddigon eglur mai mewn ofu a dychryn y dylem fod rhag i'r Llywodraeth gael eu gwneud yn ddar- llawyr a thafarnwyr. Edrychwn eto ar y modd y mae'r rhai hyn wedi ymddwyn tuagat y Fasnach er dechreu y rhyfel. Mae yn gof gennym fod y Brenin wedi cymryd yr ardystiad, ac wedi gwneud pender- fyniad na chyffyrddai efe a dafn o ddiod feddwol tra parhao y rhyfel, ac yn gwneud hyn yn drefn yn ei deulu. Chware teg iddo am weithredu mor noble ac yn rhoi esiampl dda i'r wlad. Fe dyb- iodd rhai mai ardderchog o beth fyddai i bob Aelod Seneddol wneud yr un fath, ac fe siarad- wyd y peth yn Lobby y Ty Cyffredin. Ond beth fu'r canlyniad ? Yr oedd yno rai yn frwdfrydig o blaid y syniad, chwarddai erai11 a gwawdiai'r lleill; ac, fel mae'n resynus meddwl, fe'i myg- ,N, y d yn y fan. 14, wyd yn y fan. Er cymaint teyrngarwch y rhai oedd yno, a'r rhai sydd yn awr yn gweiddi am fod yn patriotic and loyal to the King, nid oedd yn werth ganddynt ganlyn eu Brenin pan yn gwneud gweithred wirioneddol dda. Na, mae'n resynus meddwl fod y rhan fwyaf o'r rhai sydd mewn awdurdod mewn cydymdeimlad dwfn ac ymarferol a'r Fasnach hon. Pe caent feddiant llawn ohoni, mae gennyf ofu y byddai'r wlad mewn mwy o drybini nag erioed. Edrycher eto ar y Prynu o safbwynt ariamiol. Yn ol y British Weekly, amcan-gyfrifir y bydd y gost o brynu tua 500 millions sterling Y fath swm anferth Yr ydym oil yn gresynu ac yn dwbl rhyfeddu at y •, costau dychrynllyd sydd
GWYBODAETH El EWYLLYS EF.*
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
mohoni yn y lie cyntaf, ond gwybodaeth brofiadol, yn seiliedig ar adnabyddiaeth bersonol o Dduw fel y mae'n Berson hunan-ddatguddiol. Nid oes neb wedi pwysleisio'n fwy nag a wnaeth Paul fod i'r wybodaeth hon ei hamod ysbrydol. Chwi gofiwch ei eiriau yn I Cor. ii. Ni welodd llygad, ni chlyw- odd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i earant Ef. Eithr Duw a'u heglurodd i ni trwy Ei Ysbryd. Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw: canys ffolineb ydynt ganddo ef ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt. Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd ? Ond y mae gennym ni feddwl Crist.' A chwi gofiwch eiriau Iesu I chwi [gredinwyr] y rhodded gwybod dirgelwch Teyrnas Dduw eithr i'r rhai sydd allan, ar ddam- hegion y gwneir pob peth fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant ac yn clywed y clywant, ac ni ddeallant' (Marc iv. II, 12). Mae'r ddoethineb a'r deall ysbrydol y sonia Paul am danynt yn dwyn meddwl dyn i gyffyrddiad ag order uwch o ffeithiau a gwirioneddau nag sydd o fewn cyrraedd doethineb fydol. Mae llygad ffydd yn gweld ymhellach i fyd reality na llygad rheswm di-ailenedig. Nid anwybodaeth yw ffydd, ond y math uchaf ar wybod- aeth. O'm rhan i, ni allaf gytuno a geiriau Tennyson— We have but faith we cannot know For knowledge is of things we see.' Na, nid rhywbeth croes i wybodaeth yw ffydd, ond y ffurf uchaf ar wybodaeth. Mae gwybodaeth y dyn ysbrydol yn treiddio i'r anweledig, ac y mae'n wir wybodaeth. Mae'n fwy o wybodaeth nag yw gwybodaeth y dealt anianol. Mae'n brofiad byw o ffeithiau dyfnaf bywyd. Mae'n adnabyddiaeth bersonol o Dduw fel Tad a Chyfaill. Mae'n werthfawrogiad o'i gymdeithas fel perl a thrysor pennaf bywyd. Ac onid yw adnabyddiaeth o berson yn ffurf uwch o wybodaeth na gwybodaeth am dano ? Mae adnabydd- iaeth ohono yn cynnwys myned i mewn i ddirgelion ei fywyd, dod yn gyfrannog o'i gyfrinachau a'i feddyliau dyfnaf gwybod ei ewyllys o'r tu mewn, megis, tra nad yw gwybod am berson yn golygu mwy na syllu arno o'r tu allan, megis a llygad estron. Fy nghyfeillion i, pa mor bwysig bynnag y gall fod inni wybod am Dduw o'r tu allan, megis (os yw'r fath beth yn bosibl), annhraethol mwy gwerth- fawr a phwysig yw inni Ei adnabod o'r tu mewn, dod i mewn i'w gyfrinach, mwyn- hau Ei gwmni, cyfnewid meddyliau ag Ef yn yr ystafell nesaf i mewn. Os clyw neb Fy llais I, ac agoryd y dnvs, Mi a ddeuaf i mewn ato ef, ac a swperaf gydag ef, ac yntau gyda Minnau.' lOam dreiddio i'r adnabyddiaeth O'r unig wir a'r bywiol Dduw, I'r fath raddfa a fo'n lladdfa I ddychmygion o bob rhyw.' (4) A sylwer mai ( gwybodaeth Ei ewyllys Ef sydd yma. Nid gwybod Ei natur Ef yn gymaint, ac nid gwybod Ei wybodaeth, ond gwybod Ei ewyllys. Ac y mae Duw yn Ei ewyllys yn nes atom na Duw yn Ei haufod-oblegid dyna yw ewyllys Duw, Ei fwriadau graslon ynglyn a'r byd yn ymegnio i gyrraedd eu sylweddoliad. Duw yn ewyllysio yw Duw yn gweithredu, Duw yn Ei waith, Duw yn gweithio i sylweddoli Ei amcanion yn y byd ac ynom ni. A dyna'r Duw y mae a fynno chwi a minnau ag Ef. Oblegid y mae a fynno Ei ewyllys a ni. Y mae a fynno Ei amcanion a ni. Y mae am i ni fod yn offerynnau i gario! allan Ei fwriadau. Y mae am i ni fod yn gyfryngau i'w ewyllys Ef weithio drwyddynt. Yr ydym i wybod ewyllys Duw er mwyn cydymffurfio a hi, cyd- weithio a hi, ufuddhau iddi, a'i chario allan yn ymarferol mewn buchedd ac ymarweddiad, mewn meddwl, gair, a gweithred. Gwybodaeth ymarferol yn yr ystyr oreu yw hon-gwybod er mwyn gwneud, ac nid er mwyn boddloni cyw- reinrwydd difudd a diffrwyth. 'A deisyf eich cyflawni chwi a gwybodaeth Ei ewyllys Ef y mho b doethineb a deall ysbrydol, fel y rhodioch yn addas i bob rhyngu bodd.' Fy nghyfeillion i, nid mater syml a hawdd yw bod yn offerynnau effeithiol yn llaw'r Ewyllys Ddwyfol. Heblaw egni moesol ac ymgysegriad llwyr, mae'n gofyn gwybodaeth a doethineb a deall ysbrydol. Mae'n gofyn meddylgarwch sanctaidd a dealltwriaeth ddofn i allu treiddio i mewn i gyfrinach Ei ewyllys Ef, mewn trefn i'n hewyllys ni gydgorclio a'i ewyllys Ef, a'n bywyd ni fod in step a'i fwriadau Ef. Nid wrth fyw bywyd gwag, ysgafn, ar- wynebol, a dilyn meddyliau gau, gwibiog, gwamal, y deuwn ni o hyd i'r Ewyllys Ddwyfol i fod yn sylfaen safadwy i'n bywyd; ond trwy inni fod a'n hewyllys yng nghyfraith yr Arglwydd, a myfyrio yn Ei gyfraith Ef ddydd a nos,' trwy inni wthio i'r dwfn nes cyrraedd adnabydd- iaeth bersonol o'r Hwn sydd a'i ewyllys sanctaidd yn graig ac yn sylfaen y bywyd a bery byth. Am y neb sydd yn gwneuthur hyn yn unig y gellir dywedyd 'Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lAn afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd, a'i ddalen ni wywa a pha beth bynnag a wnel, efe a Iwydda.'