Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

HELION HULIWR.

News
Cite
Share

HELION HULIWR. Daeth i'n clustiau yn ddiweddar y newydd da a chalonogol fod Arglwydd Leverhulme'wedi rhoddi £ 500 tuagat ein Cronfa Gynorthwyol. Pan oedd ei arglwyddiaeth yn Syr William Lever yr oedd ei haelioni tuagat achosion crefyddol a dyngarol ymron bod mor liysbys a chynorthwyol a'i Sunlight Soap, a da gennym nad yw ei ddyrch- afiad i'r bendefigaeth wedi oeri dim ar ei frwd- frydedd yn y eyfeiriad hwn, eithr yn hytrach i'r gwrthwyneb. Y mae yn iawn crybwyll hefyd fod y rhodd fawr hon wedi ei diogelu i'r Gronfa trwy ddoethineb a dylanwad y Parchn, H. Elvet Lewis, M.A., Llundain, ac O. L. Roberts, Lerpwl. Y mae buddiannau en Henwad yn agos at galon y gwyr rhagorol hyn, a theimla eu brodyr sydd gyfyng arnn,iit o ran eu hamgylchiadau, a phawb sydd mewn cydymdeimlad a hwy, yn dra diolch- gar i'r ddau am eu hymgaisganmoladwy i ysgafn- hau beichiau eu pryder yn y blynyddoedd dyf- odol.Jf: Onid oes gennym lawer allent arfer eu dylanwad gydag uchelwyr cyfoethog yn yr un modd, pe ewyllysient wneud hynny ? Anturied y cyfryw ar y gorchwyl yn ddiymdroi, ac ni adewir hwy heb wobr mynwes gymeradwyol. Y mae un o'n Cyfundehau wedi derbyn cymuii- roddion o tuag ugain mil mewn cyfanswm yn y blynyddoedd diweddaf. Pa nifer öOi eglwysi naawrion, liyd yn oed y rhai sydd wedi derbyn rhoddion o bedwar a phuni cant o bunnoedd, sydd wedi dangos unrhyw barodrwydd i gy- llorthwyo eghvysi gwan i gynnal eu gweinidog- aeth ? Derbyniasoch yn rhad., rhoddweh yn rhad: Cvdwybod, meddaf.' •. Y mae'r Gerinaniaid, trwy eu hymosodiad ditreddaf ar Lundain, wedi colli pump neu chwech o Zeppelins, yr Inai olyga iddynt y golled enfawr mewn nieddiannau o ryw dair niiliwn o bunnoedd a 145 o fywydan. Bernir fod yr ysti-3-w a wnaethant ar feddiannau i ni yn golygu colled o £ 12,000 ac 80 o fywydau. Anturiaeth ddrud oedd hon i'r gelyn Gwnaed ymosodiadau llechwraidd ar Mr. Asquith yn y wasg yn ddiweddar, a hynny o dan gochl cydymdeimlad ag ef yn ei gystudd. Yn wyneb y gwasanaeth amhrisiadwy a rydd y cyn-Brifweinidog i'w deyrnas yn ei chyfyng- der, ac yn enwedig yr ysbryd aiiliunangar a mawrfrydig a ddangosir ganddo oddiar ei ym- ddiswyddiad o'r Briflywyddiaeth, y mae di- raddiad o'r fath yn anfaddeuol. Ac nid ydym yn synnu i'r Athro John Msasie ainlygu ei atgas- rwydd o'r peth yn y geiriau miniog canlynol :— Y mae y pryder y ughylcli iechyd Mr. Asquith yn galw i gof enghraifft henaiol ddeil gymhwys- iad diweddar. Adroddir yr hanes yn Ail Lyfr Samuel, a'r ugeitifed bennod "A dywedodd Joab wrth Amasa, A wyt ti yn llawen, fy mrawd ? A llaw ddeheu Joab a ymaflodd ym marf Amasa i'w gusanu ef. Ond ni ddaliodd A.1asa ar y cleddyf oedd yn llaw Joab felly efe a'i tarawodxl ef ag ef dan y burned ais." Yn y llwyddyn 1756 cyfrifai Edmund Burke fod y nifer o fywydau dynol gollasid drwy ryfel, yn uniongy-rchol ac anuniongyrchol, yn 35,ooo,000,ooo--tna thri ar hugain cynifer a phoblogaeth bresennol y belen ddaearol, yr hon a gyfrifir yn awr yn 1,425,000,000. Y mae nifer y iladdedigion wedi cynhyddu'n arswydus oddiar dyddiau Edmund Burke. Gwrthun i'r eithaf ydyw ymyriafi. y Pab ymhlaid heddweh, canys y mae erthyglau credo ei Eglwys yn ei anuog i dywallt gwaed y rhai aOu gwrthodent, pan ddaw iddo gyfleustra, ac y bydd yn ddiogel iddo wneud hynny. Yn wyneb hyn, ni syrmwn fod Golygydd y British Weekly yn amheus o ddilysrwydd a diogelwch ymyriad y cadnaw hwn a'r crew sydd o'i gylch. Yn ei anerchiad mawr yn Lerpwl dywedodd Mr. Asquith Y peth gwaethaf allai ddigwydd i'r byd fyddai heddwch wedi ei glytio i fyny, yr hwn ni wnai ond rhoddi lie i'r cenhedloedd anadlu i wella eu harchollion a gwregysu eu hunain ar gyfer ymdrech arall, a'r tro hwn un derfynol. Sonnir fod R. J. Campbell i ddychwelyd i un o eglwysi gwladol Llundain, ond y farn gyffredin yw mai ofer fydd yr ymgais i roddi amlygrwydd iddo, canys rywfodd i lawr yr a o ran ei ddy- lanwad, lie bynnag y byddo.

Advertising

Diaconiaid Ddoe a Heddyw.