Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
HELION HULIWR.
News
Cite
Share
HELION HULIWR. Daeth i'n clustiau yn ddiweddar y newydd da a chalonogol fod Arglwydd Leverhulme'wedi rhoddi £ 500 tuagat ein Cronfa Gynorthwyol. Pan oedd ei arglwyddiaeth yn Syr William Lever yr oedd ei haelioni tuagat achosion crefyddol a dyngarol ymron bod mor liysbys a chynorthwyol a'i Sunlight Soap, a da gennym nad yw ei ddyrch- afiad i'r bendefigaeth wedi oeri dim ar ei frwd- frydedd yn y eyfeiriad hwn, eithr yn hytrach i'r gwrthwyneb. Y mae yn iawn crybwyll hefyd fod y rhodd fawr hon wedi ei diogelu i'r Gronfa trwy ddoethineb a dylanwad y Parchn, H. Elvet Lewis, M.A., Llundain, ac O. L. Roberts, Lerpwl. Y mae buddiannau en Henwad yn agos at galon y gwyr rhagorol hyn, a theimla eu brodyr sydd gyfyng arnn,iit o ran eu hamgylchiadau, a phawb sydd mewn cydymdeimlad a hwy, yn dra diolch- gar i'r ddau am eu hymgaisganmoladwy i ysgafn- hau beichiau eu pryder yn y blynyddoedd dyf- odol.Jf: Onid oes gennym lawer allent arfer eu dylanwad gydag uchelwyr cyfoethog yn yr un modd, pe ewyllysient wneud hynny ? Anturied y cyfryw ar y gorchwyl yn ddiymdroi, ac ni adewir hwy heb wobr mynwes gymeradwyol. Y mae un o'n Cyfundehau wedi derbyn cymuii- roddion o tuag ugain mil mewn cyfanswm yn y blynyddoedd diweddaf. Pa nifer öOi eglwysi naawrion, liyd yn oed y rhai sydd wedi derbyn rhoddion o bedwar a phuni cant o bunnoedd, sydd wedi dangos unrhyw barodrwydd i gy- llorthwyo eghvysi gwan i gynnal eu gweinidog- aeth ? Derbyniasoch yn rhad., rhoddweh yn rhad: Cvdwybod, meddaf.' •. Y mae'r Gerinaniaid, trwy eu hymosodiad ditreddaf ar Lundain, wedi colli pump neu chwech o Zeppelins, yr Inai olyga iddynt y golled enfawr mewn nieddiannau o ryw dair niiliwn o bunnoedd a 145 o fywydan. Bernir fod yr ysti-3-w a wnaethant ar feddiannau i ni yn golygu colled o £ 12,000 ac 80 o fywydau. Anturiaeth ddrud oedd hon i'r gelyn Gwnaed ymosodiadau llechwraidd ar Mr. Asquith yn y wasg yn ddiweddar, a hynny o dan gochl cydymdeimlad ag ef yn ei gystudd. Yn wyneb y gwasanaeth amhrisiadwy a rydd y cyn-Brifweinidog i'w deyrnas yn ei chyfyng- der, ac yn enwedig yr ysbryd aiiliunangar a mawrfrydig a ddangosir ganddo oddiar ei ym- ddiswyddiad o'r Briflywyddiaeth, y mae di- raddiad o'r fath yn anfaddeuol. Ac nid ydym yn synnu i'r Athro John Msasie ainlygu ei atgas- rwydd o'r peth yn y geiriau miniog canlynol :— Y mae y pryder y ughylcli iechyd Mr. Asquith yn galw i gof enghraifft henaiol ddeil gymhwys- iad diweddar. Adroddir yr hanes yn Ail Lyfr Samuel, a'r ugeitifed bennod "A dywedodd Joab wrth Amasa, A wyt ti yn llawen, fy mrawd ? A llaw ddeheu Joab a ymaflodd ym marf Amasa i'w gusanu ef. Ond ni ddaliodd A.1asa ar y cleddyf oedd yn llaw Joab felly efe a'i tarawodxl ef ag ef dan y burned ais." Yn y llwyddyn 1756 cyfrifai Edmund Burke fod y nifer o fywydau dynol gollasid drwy ryfel, yn uniongy-rchol ac anuniongyrchol, yn 35,ooo,000,ooo--tna thri ar hugain cynifer a phoblogaeth bresennol y belen ddaearol, yr hon a gyfrifir yn awr yn 1,425,000,000. Y mae nifer y iladdedigion wedi cynhyddu'n arswydus oddiar dyddiau Edmund Burke. Gwrthun i'r eithaf ydyw ymyriafi. y Pab ymhlaid heddweh, canys y mae erthyglau credo ei Eglwys yn ei anuog i dywallt gwaed y rhai aOu gwrthodent, pan ddaw iddo gyfleustra, ac y bydd yn ddiogel iddo wneud hynny. Yn wyneb hyn, ni syrmwn fod Golygydd y British Weekly yn amheus o ddilysrwydd a diogelwch ymyriad y cadnaw hwn a'r crew sydd o'i gylch. Yn ei anerchiad mawr yn Lerpwl dywedodd Mr. Asquith Y peth gwaethaf allai ddigwydd i'r byd fyddai heddwch wedi ei glytio i fyny, yr hwn ni wnai ond rhoddi lie i'r cenhedloedd anadlu i wella eu harchollion a gwregysu eu hunain ar gyfer ymdrech arall, a'r tro hwn un derfynol. Sonnir fod R. J. Campbell i ddychwelyd i un o eglwysi gwladol Llundain, ond y farn gyffredin yw mai ofer fydd yr ymgais i roddi amlygrwydd iddo, canys rywfodd i lawr yr a o ran ei ddy- lanwad, lie bynnag y byddo.
Advertising
Advertising
Cite
Share
AL Peidiwch Anghoflo Formamint ar Ymdaith Hirfaith' (Dyfyniad o'r O.T.C. Year Book), Dolur y Gwcldf yw dinystr y swyddog newydd. Mae'r wasgfa ar ei lais a'i gyfansoddiad —gorfod bod allan ar bob math o dywydd-yn ei wneud y n aberth rhwydd i anhwylderau o'r fath. Dyna'r rheswm am y cyngor swyddogol hwn yn yr Officers' Training Corps Year Book am 1917:— Peidiwch anghofb cymryd potelaid o Formamint gyda chwi, a sugnwch dabled yn eich genau pan ar ymdaith hirfaith.' I'r genau a'r gwddf bliuedig, poenus a sych- edig, y mae Fonnamint yn gysurwr adfywiol lawn, ond gorwedd ei brif ddefnydd llleWll rhyvystro a iachau anh^-ylderau lieintus y gwddf. Felly, yn Aldershot, llwvr ddidaymwyd yn ymarferol haiut o'r Ysbinog trwy i'r Prif Swyddog Meddygol beri defnyddio yn gyffred- inol Formamint yn yr holl wahanluoedd.' Pan yn y-marferyd gartref neu yn ymladtl oddicartref niae angen ar eich dyn mewn khaki gael Formamint, felly anionwch botelaid iddo heddyw—a pheidiweh anghefio ei gymryd eich hunain pryd bynnag y cewch Ddolur y Gwddf neu pan deimlwch ei fod yn dod ymlaen.' FORMAMINT: 'Tabled y Gwddf at Ladd Egin Afiechyd.' Pa fodd bynnag, byddweh ofalus i beidio camgymeryd Formamint am y tabledi formalin cyffredin, neu y rhai hynny a elwir yn sugeni gwrthbydrol.' Oblegid y gwir Formamint yw yr unig ddar- pariaeth a wir ddinistria yr holl egin aiiechy-d yn eich genau a'ch gwddf heb wneud niwed i chwi. Felly y mae yr un pryd yn Feddyginiaeth ac yn Rhwystrydd. Er enghraifft, mewn achosion o Ddolur y Gwddf neu'r Ysbinog rhydd esmwythad buan oddiwrth bocii-Ileiha y chwydd ar enyniad- tyn y tymlieredd i lawr ac iacha y pilenuau rhwygedig—felly yn iachau yr anhwylder yn yr amser lleiaf posibl. Nid yw gallu Formamint fel rhwystrydd yn cael ei gvfyngu i afiechydon ysgafn perthynol i'r gwddf os cymerir ef mewn pryd tioa heibio afiechydon peryglus fel yr Anwydwst, Diphtheria, y Dwymyn Goch, y Frech Goch, &c. Gofynnwch i'ch Fferyllydd am y gwir Forma- mint—pris 2/2 y botel-a gwelwch ei fod yn dwyn ein henw a'n cyfeiriad ar y label :-Gell- atosan, Ltd. (Prynwyr Prydeinig Cwmni y Sanatogen). Cadeirydd: Lady Mackworth-12, Chenies-street, London, W.C. i. Sylwch Er mwyn cich diogelu chwi rhag efel- ychiad, rhoddir i Formamint ymhen amser enw newydd, yr hwn a gyhoeddir yn fuan.
Diaconiaid Ddoe a Heddyw.
News
Cite
Share
garwch y dawn mawr, yr oedd iddynt hwythau eu gras gwreddigar cadwai eu hunanfeddiant hwy rhag llefaru ymadroddion amheus lien an- chwaethus, ac hefyd rhag yngan gair annheilwng o bechaduriaid anhaeddiannol pan yn agoshau at y Duw sydd yn dan ysol' i %owr3aB*JgSH.l. • 11. BtHr Yr un modd hefyd y dygid ymlaen waith y cyfeillachau ni chai neb gyfle i ■ ddweyd gair' yn amlach nag unwaith mewn mis o amser, gan fod cynifer o daoniau siarad wrth law. Y blaenor y cyfeiriwyd ato uchod fyddai, fel rheol, yn trefnii'r cyfeillachait. A'i arfer ef bob amser, wedi yr eli'drwy rannau rhagarweiniol y cwrdd, oedd enwi yn eu tro y brodyr oeddent i annerch y frawdoliaeth. Cyffredinedd eto nodweddai'r siaradwyr ni ellid dweyd fod yr un ohonynt wedi ei fendithio ag athrylith y dyn cyhoeddus. Ond er eu bod yn ddiffygiol mewn hyawdledd, ac yn bur amddifad o allu i frawddegu'n ddeheig, y gyfeillach yn A-- oedd arf effeithiolaf yr eglwys yn ei milwriaeth ysbrydol. Yn y cynull- iadau hynny y dyfnheid cenadwri'r pulpud, ac y troid ei gymhellion yn ffeithiau ymarferol yng nghrefydd y ffyddloniaid. Sylwer ar y cyfyng- iad, oblegid perthynai i A- ami i aelod pech- adurus o anffyddlon. Gan amlaf hefyd, sylwadau a nodiadau, I megis wrth fynd heibio,' ar breg- ethau y Sul blaenorcl, D eu awgrymiadau'r preg- ethau hynny, fyddai baich y siarad i gyd. Ond mae'n amheus gennyf a oes rhagorach fiordd, neu un fwy effeithiol, i wneud cyfeillach yn foddion gras i'w mynychwyr na'r dull y dygid y gwaith ymlaen yn A- Tybed, yn awr, a ddyry unrhyw ddull arall gystal cyfleustra i'r gweinidog ddyfod i wybodaeth o ansawdd meddwl ac ysbryd ei bobl ? Ac yn sicr, hynny yw un o anhepgorion gweinidog da i lesu Grist. Hefyd, a yw rhyw ddull arall mor debyg o fod yn galoiiogiad mwy i'r gweinidog yn wyneb ei anawsterau, yn enwedig pan goner mor gym- karol ychydig yw'r rhai a ddychwelir o bellter y colledig ? Yn sicr dylai cynulliadau cyfiredin yr eglwys fod yn rhai calonogol i'w gweinidog, ac yn rhyw gymaint o ygbrydiaeth iddo ef ynglyn i'i waith. Ond yr oedd ym mrawdoliaeth A- un hen frawd hynod mewn rhyw ystyr, Ni fyddai bervgl un amser yr elai neb i foliannu na llawen- ychu pan gaffai ef ei gyfle i annerch y cwrdd. Yn ei syniad ef, gorweddai holl ogoniannau Eglwys Dduw yn y gorffennol, yn y blynydd- oedd hynny pan oedd ef yn ddyn ieuanc. 'Doedd gweddiau a mawl a phregethau y presennol yn ddim wrth eu cymharu ag eiddo'r gorffennol. Pe bernid ansawdd a sefyllfa'r Eglwys yn ol yr hyn ddywedai ef, yr oedd wedi ei hamddifadu o'r hyn a'i gwnai yn Eglwys i'r Duw byw yr oedd yr Ysbryd Glan wedi ei gadael i'w chlaiar- ineb cywilyddus. A phan weddiai yr hen frawd, gellid meddwl mai un hwyrfrydig iawn oedd y Duw a addolai ef i sylweddoli Ei fwriadau Ei Hun ynglyn ag achubiaeth y ddynolryw. Er kynny mi gredaf fod W.R. a gwreiddyn y mater ynddo ef, ar waethaf ei rwgnachrwrydd. a'i ridd- fannau dolefus. Diau ei fod yn awr yn y wlad sydd yn dygyfor o orfoledd ac os caniatawyd iddo gadw nodwecld arbennig ei grefydd yma, mae ei gloch acw yn un o'r rhai uchaf ei thon. Ond gras pennaf ac amlycaf A- oedd ei hysbryd Cenhadol. Sefydlwyd yr eglwys pan oedd ei hamgylchoedd yn amhoblog. Ond o hynny ymlaen cynhyddodd rhifedi'r trigolion, a daeth capel A- yn ganolfan i boblogaeth fawr iawn. Yn ffodus yn hanes y cylch, ac er anrhydedd a chlod dyfodol A-, cafodd gyfres o weinidogion oedd yn angherddol awyddus i grefyddoli'r werin. Caffai'r ddyledswydd a'r fraint honno eu pwysleisio yng nghenadwri'r pulpud ar hyd y blynyddoedd, ac ymatebdd A- i gymhellioii ei gweinidogion..Cyfeiriwyd eisoes at ei pharodrwydd i gynorthwyo eglwysi a sefydliadau crefyddol fyddent mewn anaws- terau yn herwydd prinder adnoddau ariannol. Yr oedd A-- mor barod, os nad yn fwy felly, i estyn cortynnau preswylfeydd pyrth merch Seion lie bynnag yn ei hamgylchoedd y gwelid angen am hynny. Ac ni fyddai un amser yn oedi symud pan gaffai ddatguddiad ar ei dyled- Swydd brysiai i osod cyfleusterau crefyddol wrth law lie bynnag y cynhyddai'r boblogaeth. Bu yn offerynnol felly i gychwyn nifer dda o eglnv-ysi newyddion, a'r rhai hynny oil o fewn cwmpas ychydig bellter i'w chapel ei hun. Ac ni chychwynnodd yr un o'r cyfryw heb roddi kelp sylweddol iddi gwaddolai ei merched oil. Mewn amryw enghreifftiau felly aeth i gryn sw*i o ddyled ei hun benthyciodd yr arian gwaddol.