Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hide Articles List
10 articles on this Page
Coleg Coffa Aberhonddu.
News
Cite
Share
Coleg Coffa Aberhonddu. Dyohwelodd myfyrwyr y Coleg uchod yn ol dydd Linn diweddaf, Hydref 8fed. Bydd yn bleser ganddynt wasanaethu yr eglwysi eto leI cynt. Danfoner pob gohebiaeth yngI)În a supplies i'r-Secretary ot Supply Class, Memorial College, Brecon.
Athrofa Annibynnol Bala-Bangor.
News
Cite
Share
Athrofa Annibynnol Bala-Bangor. Dechreuoddfy tymor newydd ddydd Mawrth, Hydref 2il, pan y daeth nifer dda o'r myfyrwyr hen a newydd, ynghyd. Teimlir yn dra diolchgar i'r eglwysi am eu nawdd i'r Coleg yn y gorffennol, a theimla'r myfyrwyr yn dra hyderus yr adfynegir yr unrhyw gefnogaeth drwy'r eglwysi eto eleni. Parhaed brawd- < garwch. M. Ap RHYS, Ysg.
PENCADER.
News
Cite
Share
PENCADER. YrYsgol Ramadegol.-Pasiodd tri o fyfyrwyr yr ysgol hon i Goleg Aberhonddu, set Mri. Thomas o Lanstephan, Williams o Dynygwn- dwn, a Davies o Drewyddel. Gosodwyd y ddau flaenaf yn gyfochrog ar ben y rhestr allan o bump o ymgeiswyr. Ysgol y Cyngor.-Y mae'r ysgolfeistr newydd, Mr. James Davies, Ffynnon Wen, mab-yng-nghyfraith i'r Parch. D. E. Williams, Henllan, wedi dechreu yma ar ei waith ers mis. Y mae'n gymeradwy iawn gan yr athrawon cynorthwyol a chan y plant. Cychwynodd ddosbarthiadau hwyrol sydd yn argoeli bod yn Uwyddiannns. Wrth reswm, y mae efe a'i briod yn Annibynwyr ffyddlawn. Is-athraw yn yr ysgol hon yw Mr. Rhys Eirwyn Rees, enillodd ar y Telynegion yn Eisteddfod Birkenhead allan o 27 o gystadleuwyr. Oladdedigaeth-Dydd Gwener, yr 21ain Cynfisol, claddwyd yn Llanfihangel y chwaer annwyl Miss Mary Jones, Penygraig, yn 62 oed-un o'r chwiorydd mwyaf ffyddion yn eglwys y Tabernacl. Gweinyddwyd yn y ty gan y Parchn. D. Adams, B A,, Lerpwl; D. John, Gwyddgrug a T. Lloyd Jones, B.A., B D., ei gweinidog yn yr eglwys a'r gladdfa gan y Parchn. J. T. Hughes, fleer, a D. E. Thomas, curad. Cyfoded yr Arglwydd eraill tebyg i'n chwaer hoff, a rhodded ei nodded i'w chwaer alarus a'r holl berthynasau.
Maohynlleth -
News
Cite
Share
Maohynlleth Priodas.- Yng nghapel Maengwyn, yn y dref hon, gan y Parchn Cunllo Davies (M.C.) a Henry Williams, B.A., priodwyd Mr Vincent Evans Jones, Territorial Stores, mab Mr. J. Jones (Gwladwr), & Miss Annie Lioyd, gynt o'r Ogof Fawr. Y uiae ef erbyn hyn wedi gorfod dilyn ei ddau frawd i wasanaethu yn y fyddio. Felly dyna dri mab y Gwladwr wedi gorfod ymuno. Pwy nesaf, tybed? Tra nad y w llawer o deuluoedd eto wedi eu eyff wrdd, aethant a'r oil o'r uchod, er bod eu hannwyl fata ya wanllyd lawn ar ol gwasanaethu am 27 mlynedd fel meistres y ivorkhouse yma, ac wedi colli ei hiechyd yn y gwaith o wasanaethu y cyhoedd.
Advertising
Advertising
Cite
Share
GWELLHEWCH EICH ECSIMA INOLAK a dim ond INOLAK a'ch Iacba. r Llawer a fuont yn ferthyron am flynyddoedd 1 anhwylder y croen sydd o drugaredd wedi eu hachub o'u trueni gan INOLAK, ac yn awr sydd yn iach a hapus. INOLAK a dim ond INOLAK a wna i chwi yr hyn a wnaeth iddynt hwy. Nis gall INOLAK fethu dinystrio egin Ecsima, lliniara ysfa, sychu i fyny blorynnod aytrllyd, symud crofennau neu darddiantau. Yr unig feddyginiaeth at Grachen y Clafr, Brech yr Eilliwr, Llosg Eira (toredig neu annhoredig), Maroden, Mardon, neu unrhyw anhwylder perthynol i'r croen. Txr^rCi,iwCh ag arbed unrhyw ymdrech i gael INOLAK. Chwi a fendithiwch y dydd y pen- derfynasoch i'w ddefnyddio. Gan eich iieryiiydd, neu yn rhydd trwy'r post oddiwrth Y Perchenogion-66, Whiteladies-road, Bristol (tri math-r/3, 3/ a 5/-).
I PONTYPRIDD. .I
News
Cite
Share
I PONTYPRIDD. I Priodas Dda.—Fore dydd Mercher yn blygeiniol iawn y priodwyd Mr. John Rees o Gapel-y-Wig, Aberteifi, a Miss Mona Lloyd Owen, merch y Parch, a Mrs Lloyd Owen, Sardis, Pontypridd. Yng nghapel tad y briod ferch y gwnaethpwyd y cwlwm, a'r tad ei hun yn gweinyddu, a'r Parch. Fred Joues, B A B D., Treorci, yn gynorthwywr iddo. Arweiniwyd y ferch ieuanc at y bwrdd gan ei brawd, y Capten Davies-Owen, sydd ag anaf yr Armagedon arno. Yr oedd yn Uawenydd mawr inni ei weled Hawer yn well. Caffed fyw'n hir i weled daioni yn dal am ei wroniaeth. Gwasanaethodd y ddwy Miss Owen, chwiorydd y briodferch, fel morwynion priodas, ac fel gweision, Mri. Collins o Bontypwl, a Robert Arthur Evans, brawd y priodfab. Yn y parti hefyd yr oedd Mrs. Williams, Machynlleth, a Master Roger Lloyd Owen, chwaer a brawd y briodferch. Ni feiddiaf ddechreu disgrifio'r gwisgoedd: dyn o'r byd ydwyf, a drws teml ffasiwn yng nghlo iddo. Ond mi welwn fod yno degwch mawr a gwedduster mawr. Wedi'r gwasanaeth fe aethpwyd i gartref lletygar tad a mam y wraig ifanc, ac yno yr eisteddasom ae y cafodd pawb ei wala a'i weddill. Yr oedd y bwrdd [Ni chaniata'r food controller inni gyhoeddi rhagor!-GOL ] Fel y gallesid disgwyl ar yr awr gynnar—hanner awr wedi wyth-yr oedd capel Sardis yn llawn o gared- igion teulu'r gweinidog annwyl a chyfeillion y priodfab. Brodor o Gapel-y- Wig-ail fab Capten a Mrs. Evans, Castellmyn-ydyw'r priodfab: o'r bane, fel cannoedd eraill, y galwyd ef i'r fyddin. Y mae yn hanfod o deuluoedd sydd wedi bod am flynyddoedd maith yn golofnau'r achos goreu yng Nghapel y-Wig. Yn ei wisg khaki yr oedd ef, ac ar ychydig ddyddiau o ollyngdod o'i wersyll yn Southampton. Y mae'r cysgod sydd dros y wlad i gyd yn mynnu ei daffn ei hun ar bob gwyl a gwledd hefyd Fe ganodd yr organ yn y capel amryw ddarnau detholedig taz4 fysedd y ferch ieuanc sydd yn organydd yn Sardis. Fe ddanfonwyd ewyllys da'r eglwys a'r dref a llu caredigion y ddeuddyn ieuanc gyda hwy ar eu mis met i Clevedon ac oddiyno i'r byd—melys a chwerw. Dyma englyn a ddanfonodd Ben Prifardd Pant-teg i'r briodas. Y mae'r englyn wedi dyfod trwy Dreforris, fel na raid ymddiheuro I Mona y dymunaf—uef o gan Efo'i gwr anwylaf; Bythol ddydd o ddedwydd haf Ar'ei haelwyd sirioiaf. F. i. I
I ,BIRMINGHAM.I
News
Cite
Share
I BIRMINGHAM. I Y Gymanfa Flynyddol — Cyuhaliwyd yr uchod yr wythnos olaf ym Medi. Gwasan- aethwyd gan y Parchn. O. L. Roberts, Lerpwl, a'r Athraw Mia!I Edwards, M.A, Aberhonddu. Cafwyd tywydd dymunol, cynulleidfaoedd lluosog, a phregethau nas anghoiir yn fuan. Bu Pwyllgor y Mi!wyr mor feddylgar a chyrchu nifer o'r miiwyr clwyfedig o'r ysbytai mown motor cars, a mwyuhasant y pregethau yn fawr. Y Gymdeithas Lenyddol —Y mae pob argoel y cawn dymor Uwyddiannns gyd,r gymdeithas uchod..Trefnodd y swyddogion a'r pwyllgor raglen ddiddorol. Cyuhaliwyd y cyfarfod cyntaf Hydref y 5ed, dan lywyddiaeth Mr. Tom Evans, gan yr hwn y cafwyd anercbiad pwrpasol. Datganwyd gan barti Mr W H. Jones, a chan Mrs. Lizzie Phillips, Miss M. Evans, Miss Biodwen Williams, Mri. W. H. Jones (ysgrifennydd y Gymdeithas). J. E. Roberts, John Pritchard, Edward Jones a Walter W. Watkin. Cafwyd adroddiadau gan Miss Nellie Williams a Mr. J. T. Edwards. Cafwyd chwareuad ar y berdoneg gan Miss Gwladus Lloyd, A.N C.M. Mr. W. W. Watkin enillodd y wobr am araeth ar 'Y Cadfridog Smuts' Cafwyd gair gan Mri Herbert Williams ac B. Jenkins. Amrywion. Y Parch Tecwyn Evans sydd i wasanaethu yng nghym-anfa y Wesleaid ae i ddarlithio ar 'Ann Griffiths.'—Y mae eglwys Wheeler-street wedi bod neb weinidog bellach ers naw mis, ond wedi cael gweinidogaeth ardderchog yn gyson byd yn hyn. Os bydd rhyw weinidog caredig yn hoffi ein gwasan- aethu yn y dyfodol, gwnai gymwynas a nl trwy ohebu a Mr. Robert Jervis, 142, Lozells street, Birmingham. GOEIEBYDD.
Berea. Blaina, Mynwy.
News
Cite
Share
Berea. Blaina, Mynwy. Cyngerdd ac Anrhegu'r Gweinidog.-Cynhal- iwyd cyngerdd llwyddiannus iawn yn ddiw- eddar yn yr I eglwys uchod. Aethai'r elw at gronfa'r organ newydd. Cymerwyd y gadair gan y brawd ieuanc gweithgar Joseph Jones. Efe hefyd yw arolygydd yr Ysgol Sul yn bresennol. Canwyd unawdau gan Mri. Thomas a Meater, a chanasant ddeuawd wefreiddiodd y dorf. Cymerwyd rhan hefyd gan aelodau ieuengaf yr Ysgol Sul. Cawsom ein diddori gan offerynnau cerdd gwahanol; a than ar- weiniad medrus ein horganydd, Mr. A. J. Witherall, perfformiwyd y 1 Toy Symphony' o Hadyn. Yna, yn ddiarwybod i'r gweinidog ieuanc, y Parch. E. Morris Jones, troes y cyngerdd yn gwrdd anrhegu Fel arwydd o'u parch diffuant a'u gwerthfawrogiad o'i ym- drechion diflin, penderfynodd pobl ienainc yr eglwys gyfrannu'n ddirgel er eyflwyno anrheg i'w gweinidog. Troes yr ymgyrch yn llwydd- iant perffaith. Cyflwynwyd iddo godaid o aur fel ag i'w alluogi i ychwanegu at ei lyfrgell. Cydnabyddodd Mr. Jones yr anrheg mewn araith fer a destlus. Rhoes ddiolch cynnes i bawb am y ddangoseg yma o'u gwerthfawrog- iad o'i lafur, ac anogai'r eglwys i ragor o gydymdrech a chydweithrediad. Eglwys barchus yw Berea, a bu iddi weinidogion enwog, a da gennym weld ein eyfaill ieuanc yn dilyn yn eu camrau. Gyfarfod Blynyddol.-Y Parch, Joseph James, B.A., Bethesda, Llandysilio, fu yma eleni yn gwasanaethu yn ein cyrddau mawr. Cafwyd cynulliadau rhagorol, a gwrandawyd y progethau ardderchog yn aiddgar ac astud. Dilyned bendith. LL.
Bethania, -Dowlais.
News
Cite
Share
Bethania, Dowlais. Eisteddfod Ysgol Gellifaelog. Cynhaliwyd eisteddfod lwyddiannus dydd Sadwrn, Hydref y 6ed, yn y Neuadd Ganol, Ysgolion Dowlais, dan nawdd yr ysgol uchod, pryd y gwobrwy- wyd y rhai canlynolCanu I Arglwydd, dyma fi,' i rai dan 12 oed—1, Phyllis Harris, Pen- ydarren; 2, Doris Price, Dowlais; rhoddwyd gwobr galonogol i Sallie Davies, Dowlais. Adroddiad. Pa le mae fy nhad ? i rai dan 12- 1, Katie Hughes, Pant; 2, Briallen Thomas, Penydarren rhoddwyd gwobrwyon calonogol i Muriel Curtis, Penydarren, a Doris Price, Dowlais. Unawd ar y bordoneg-Trevor Harris, Mountain Ash. Unawd i fechgyn, Cymro Bach, Pantywaun. Unawd i ferched, Jennie Protheroe, Bedlinog. Unawd soprano- Miss Maggie Williams, Dowlais. Unawd contralto-Miss Maggie Williams, Penywern. Adroddiad Incidents of the French Camp Ada Davies, Dowlais Unawd tenor-Jenkin Jones, Dowlais. Unawd bass—W. Howells, Penywern. Prif adroddiad, Araeth Brutus '— Miss Annie Ruth Price, Penydarren. Her unawd- James John Lewis, Penywern. Cor plant-Penydarren, arweinydd, Mr. W. H. Morgan, Penydarren Prif gor-Dowlais Music Lovers, arweinydd, Mr. W. T. Harris, Caeharris. Beimiaid y canu oedd Mri J. T. Jones a D. JJ*. Thomas, A C., Dowlais; yr adroddiadau, Mr. J. T. Owens, Penydarren. Llywyddwyd gan ffrind hoff i ysgol fechan OGellifaelog, sef Mr. J. Prosser Davies. Yr arweinydd oedd Mr Evan Thomas, a chyfeiliwyd gan Mri. J. R. Morgan, Pant, a T. S Thomas, Awelfryn, Penydarren. Cyrhaeddodd y cystadleuaethau safon uchel iawn yr oeddynt yn frwd, yn ddyrchafol, ac mewn ysbryd llednais Cyn diwedd yr eisteddfod, cafwyd ychydig eiriau gan y Cynghorwr J. Davies, cyn-Faer Merthyr, ar ymdrechion Ysgol Sal Gellitaelog i gyrraedd safon bywyd moesol ac ysbrydol. Gwnawd y gwaith yn ddeheig gan y llywydd a'r arwein- ydd, a rhoddwyd pob boddlonrwydd gan y beirniaid. Dymuna'r pwyllgor gyflwyno ei ddiolchgarwoh cynhesaf i'r personau hynny fu mor garedig a rhoddi eu help i wneud yr eisteddfod yn llwyddiant. D. J. THOMAS. Ysg.
Advertising
Advertising
Cite
Share
rThW'. F&voQfitc. I MABON Sauce I |V ?jroo?aw? j?VtMM. I PW As good as its Nanta ?.?!S??? '? '?' IL, ??*'