Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
MYFYRWYR ABERHONDDU YNGI NGHAERDYDD.
MYFYRWYR ABERHONDDU YNG NGHAERDYDD. At Olygydd y Tyst. SYR,—A fyddech gajrediced a chyhoeddi yn y TYST y bydd y Coleg yn dechreu ar v gfed o'r mis nesaf, ac y byddwn fel myfyrwyr yn dra diolchgar i gael supplies fel arfer ? Yr eiddoch yn gywir, DAVID EVAN EVANS, Secretary. I Brecon Supply Class, University College, Cardiff.
I' GWFLLIA'.\TT AR BRYNU.'…
GWFLLIA'TT AR BRYNU.' I At Olygydd y Tyst. I SYR,—Diolch yn fawr i chwi am eich ysgrif arweiniol yn y TYST yr wythnos hon ar y Gwcll- iant ar Brynu.' Ystyriaf hi yn gryf, yn glir a theg iawn. Yn sicr, llwybr canol y ffordd yw'r llwybr posibl i fuddugoliaeth. Trueni colli buddugoliaeth fawr oherwydd cyndynrwydd eithafolwyr. Yn gywir, E. J. LLOYD. I
PRYNU'R FASNACH FEDDWOL- I
PRYNU'R FASNACH FEDDWOL- I At Olygydd y Tyst. I SYR,—Hyderaf y caniatewch i mi, er mor ddiweddar, ychydig eiriau ar lythyr fy nghyf- aill, y Parch. D. Davies, ar y pwnc uchod. Credaf mai camddealltwriaeth sydd gan mwyaf yn rhannu rhengoedd dirwest heddyw, ac yn bygwth distrywio pob gobaith am unrhyw ddiwygiad a'r gwasanaeth mwyaf a ellid wneud i achos dirwest yn awr fyddai symud pob cam- ddealltwriaeth, ac uno pleidwyr sobrwydd i geisio diwygiad. 1. Prif faen tramgwvddMr. Davies, fel llawer o ddirwestwyr eraill, yw fod polisi'r Prynu yn gwneud y deyrnas yn uniongyrchol gyfrifol am y fasnach.' Ond tybed a ydyw yn bosibl gwneud y deyruas yn [fwy cyfrifol am y fasnach nag y mae yn awr ? Y deyrnas a'i creodd yn fonopoli, trwy ganiatad y deyrnas y parha i fodoli, a'r deyrnas a gaiff ryw bedwar rhan o bump o'r elw oddiwrthi. Credaf y symudid tipyn o'r camddealltwriaeth ar y pen hwn pe yr edrychid yn fanylach beth yw ystyr perch- enogaeth.' Nid oes y fath beth a pherchenog- aeth ddiamodol. Rhan-berchennog yn unig yw pob dyn o'r pethau sydd lwyraf yn ei feddiant. Prif elfennau perchenogaeth yw cyfrifoldeb, llyw- odraeth ac elw. Fel y sylwais, ni all cyfrifoldeb y Wladwriaeth am y fasnach fod yn fwy nag ydyw yn awr. Ac er fod hawl gan y Wladwr- iaeth i lywodraeth lwyr ar y fasnach, un o brif achosion ei drygau yw y caniateir rhan helaeth o'i llywodraeth i'r rhai sy'n gwneud elw per- sonol oljoni. Y felltith yw fod y Llywodraeth yn esgeuluso llywodraethu'r hyn a greodd hi ei hunan. Mae'r Wladwriaeth yn barod, felly, yn rhan-berchennog yn y fasnach, a chanddi'r share fwyaf ynddi. Y ffordd effeithiolaf i y111- ryddhau oddiwrth bob elfen o berchenogaeth fyddai yn wir llwyr ddileu'r fasnach, pe y cytunai'r holl wlad i wneud hynny; ond ni welais i eto yr un dirwestwr, ac ni chlywais am un, a gred fod hyn yn bosibl. Yr unig ddewis yw gadael pethau fel y maent, neu geisio ffordd i ddileu'r fasnach yn raddol fel yr addfeda'r wlad, ac hefyd i symud y drygau sydd ynglyn a'r berchenogaeth, trwy gymryd llwyr feddiant a llywodraeth lawn ar y fasnach i ddwylaw'r Wladwriaeth. 2. Cred Mr. Davies mai rhwyd yw'r Dewisiad Lleol er mwyn cael gan ddirwestwyr i lyncu'r Pryniad. Yniddengys i mi mai fel arall yn hollol y mae-mai cyfrwng ac amod yw'r Prynu er clirio'r ffordd i Ddewisiad Lleol. Buddiant per- sotiol rhywrai yn y fdsnach yw'r rhwystr mwyaf 1 g?u tafarnau a chael unrhyw ddiwygiad dir- f westol, a phrif amcan y Prynu yw symud y rhwystr pennaf i ddiwygio. 0 leiaf, felly y i" deaflsf fi'r polisi, ac felly y gosodwyd ef gerbron y wlad yng Nghynhadledd Llandrindod. 3. Cytunaf yn h? llol a Mr. Davies y bydd yn hawdda ch i berswadio ardaloedd gwahanol i WUeud ffwrdd a'r fasnach na'r llywodraethwyr.' Dyna yw hanfod y polisi yr ydys yn dadleu drosto. Ymddengys i mi, yn wir, yn hollol anobeithiol i gaisio perswadio'r Llywodraeth i gau'r tafar.uau ond credaf y gellid perswadio llawer o ardaloedd Cymru a rhai siroedd cyfain, pe y ceid hawl i wneud hynny, a phe y symudid rhwystr yr elw personol. A liwu yw'r polisi a addawodd y Prifweinidog i'r ddirprwyaeth a fu'n dadleu mater y Prynu ger ei fron—y Wlad- wriaeth i feddiannu, a'r ardal i ddewis. Hwn yw polisi Cynhadledd Llandrindod, ac ychydig o'r rhai oedd yno a dybiai'r Prynu. yn werth ei gael onibai ei fod yn agor drws i ddiwygio a dileu'r famach. Mae gennvf hyder, pe yr auturiai'r wlad, yr hon sydd gyfrifol am y fas- nach ac a dderbyn y rhan fwyaf o elw'r fasnach, i gymryd ei llywodraeth yn llwyr i'w dwvlaw ei hunan, a phe y cymerai dirwestwyr fantais lawn ar y fath gyfle, y gallem gael Cymru Ian a sobr o fewll un genhedlaeth. Ond y mae perygl amlwg i ni wrth wrthod yr hyn a ellir ei gael i beidio cael dim.' Yr eiddoch, Bangor, T. REES. I Hydreffsed, 1917.
I Tabernact, Bargoed.I
I Tabernact, Bargoed. I Marwolaethau.—Syn gan bawb adwaenai y brawd Mr. John Edmunds, diacon hynaf ac ysgrifennydd yr eglwys hon, ddeall ei fod wedi ei gymryd oddiwrth ei waith at ei wobr. Ganed ef yng Nghendl yn 1833, a thteuliodd oes diwyd. Bu am flynyddoedd yn oruchwyliwr pyllau glo yn yr ardal, ac er yr holl alwadau arno mynnodd gyfle i wasanaethu mewn cylchoedd cyhoeddus. Yn ystod ei arhosiad yng Nghoed-duon cafodd y fraint o letya'r Prifweinidog presennol. Yr oedd hyn dros 20 mlynedd yn ol, pan fu'r Prif- weinidog yn darlithio ar Gymru Fydd ym Mhenmain. Aetii Mr. Edmunds, a rhai o'r teulu gydag ef, i weled bedd Islwyn. Gweithiodd yu egniol gydag achosion crefyddol am dros 50 mlynedd. Diddorol iawn oedd ei glywed yn adrodd hanes Cymanfa Mynwy yng Ngliarmel, Cendl, yn Awst, 1849. Y gweinidog y pryd hwnnw oedd yr Hybarch Ddr. T. Rees (Aber- tawe wedi hynny), ac yr oedd y cholera yn ofn- i adwy Yl11 Mrynmawr, Nantyglo, Cenedl a T'hre- degar. Torrodd diwygiad mawr allan yny cylch, a derbyniwyd mewn un Cymundeb yng Nghar- mel 210 o'r newydd, ac yr oedd Mr. Edmunds yn eu plith. Yr oedd ganddo adgofion byw am Ddiwygiad '59. Cymerodd ran flaenllaw yn sefydliad yr eglwys yn New Tredegar, Deri a'r Bargoed. Bydd ei le yn wag yn y Tabernad, a cholled fawr ar ei ol. Yr oedd rhywbeth nefol- aidd yn ei osgo. Yr oedd ein brawd yn hardd a lluniaidd ei gorff, a phob aniser yn hawddgar a boneddigaidd. Yr ydym yn sicr fod ei enaid yn hardd hefyd, ac yn awr yn berl yng nghoron ei Waredwr a wasanaethodd mor ffvddlon. Diddaned yr ArgIwydd ei blant yn eu galar Heddwch i'w Iwch.Bu farw y chwaer ffyddlon a charedig Mrs. Hughes, Gwerthonor-road, yn nhy ei chwaer ym Merthyr. Cafodd gystudd hir a tlirwiii., ond diocldefodd } cyfan yn ddirwgnach gan ymddiried yn ei Gwaredwr. Claddwyd ei gweddillion yn Aberdar, pryd y gwasanaethwyd gan ei gweinidog, y Parch. G. J. Jones, a'r Parch. E. J. Owen, Moriah, Cwniaman. Pregethodd Mr. Jones bregeth angladdol oddiar i Cor. xv. 55 y nos Sul ganlynol. j Cyfarfodydd Blynyddol.—Cynhaliwyd y rhai hyn Mecli'r 26ain a'r 27am, pryd y gwasanaeth- wyd gyda grym gan y Parchn. R. J. Pritchard, B.A., Casnewydd, a Gwilym Rees, M.A., Soar, Merthyr. Cafwyd cyrddau ardderchog. Dilyned benditli. M.
Advertising
DOLUR Y' GWDDF? yna cymerwch Formamint. BYDD i'ch Dolur Gwddf ddiflannu'n JI) fuan os sugnwch Dabledi Forma- mint. Esmwythant y boen, tynnant i lawr y chwydd a'r enyniad, ac achosant wellhad i'r meinweoedd drylliedig. Ysgrifenna larll Euston Cymeradwj^wyd Formamint i mi gan feddyg enwog iawn, a llwyddodd i wella Dolur y Gwddf unwaith ac Annwyd dro arall. Ni fu dim a dreiais o'r blacll yn abl i'w rhwystro i redeg eu cwrs.' Cewch allan fod Formamint lawn mor effeith- iol i rwystro Dolur y Gwddf, &c. Fel hyn yx ysgrifenna Lady Firbank—' fod rhai o feddygon goreu Dlundain wedi cymeradwyo Formamint iddi hi, a cha hi allan fod y tabledi bron yn sicr o rwystro Anliwylderau y Gwddf, ac .)"11 rhag- feddyginiaeth rhag Annwyd Heintus. Os blinir chwi gan Ddolur y Gwddf yn awr- neu os teimlwch fod un ar ddod '—paham 11a fynnwch wared ohono ar imwaitli trwy sugno ychydig o Dabledi Formamint ? Ceisiwch y g-wir FORMAMINT, Tabled y Gwddf at Ladd Egin Afiechyd. Unwaith y rhoddwch brawf ar y gwir Forma- mint ni bydd i chwi bytli fethu ei adnabod oddiwrth yr efelychiadau diwerth, neu oddiwrth yr hyn a elwir sugeni gwrthbydrol.' Y mae'r gallu i ddinistrio egin afiechyd sydd yn Forma- mint wedi ei brofi yn wyddonol, a gwarentir ei fod yn hollol ddiniwed i'r meinweoedd dvnol. Felly, byddwch ofalus eich bod yn cael ygwiv a'r gwreiddiol gynnyrch a wneir yn 12, Chenies- street, London, W.C. i, gan Genatosan, Ltd. (Prynwyr Prydcinig CNi-nini Sanatogen). Cad- eirydd, Lady Mackworth. Prynwch botelaid ohono gan eich Fferyllydd heddyw—pris 2/2— a phob aniser cymerwch ychydig o'r tabledi heb oedi pan y byddwch mewn perygl o gael Annwyd lieu Ddolur y Gwddf oddiwrth bobl eraill. Sylwch Er mwyn eich diogelu chwi rhag efel- ychiad, rhoddir i Formamint ymhen amser enw newydd, yr hwn a gyhoeddir yn tuan.
Gendros, Abertawe. !
Gendros, Abertawe. G -H d I Cyflog y Gie,ei;,iidog.-Hapiis iawn oedd teinil- aclau aelodau eglwys Saron, Gendros, nos jSul diweddafj pan yn penderfynu codi cyflog ein gweinidog, y Parch. D. Jenkins Jones, o naw punt y mis i ddeg punt. Y mae Mr. Jones wedi bugeilio'r eglwys yma bellach ers saith mlynedd ac yn ystod y blynyddoedd liyn y lllae ef a'r eglwys wedi cynhyddu yng ngras a gwybodaeth yr Arglwydcl lesu. Y mae'r Ysgol Sul a'r Gobeithlu a chor yr eglwys wedi gwneud, ac yn parliau i wneud, gwaith rhagorol, a theimlad pawb yw fod llwyddiant pellach yn ein haros yn fuan iawn. Ceir y cydweithrediad llwyraf rhwng y gweinidog a'r swyddogion, ac ni wneir un apel at yr eglwys yn ofer pan fyddo aingylch- iadau neilltuol yn galw am hynny. Ac am hyn oil y telir diolch i Dduw AELOD.