Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Cyflogau Gweithwyr Amaethyddol.

News
Cite
Share

Cyflogau Gweithwyr Amaethyddol. Y mae Deddf Cynhyrchu Yd, a basiwyd ar yr aiain o Awst, yr hon sydd yn sicrhau lleiaf-bris am wenith a cheirch, hefyd yn gwneud darpar- iaeth at sefydlu lleiaf-dal mewn cyflogau. Y mae pob gweithwyr fferm, ac hefyd weith- wyr mewn gerddi marchnad, meithrinfeydd coed, perllannau, coedfeydd a gwinllannau helyg, yn cael eu cynnwys dan y Ddeddf, yr hon sydd yn gymwysedig at fechgyn, merched a genethod yn ogystal a dynion. I'r pwrpas o gytuno, dan y Ddeddf, ar y cyflogau lleiaf a ellir dalu i weithwyr mewn amaethyddiaeth, yr ydys yn ffurfio BWRDD CYF- LOGAU AMAETHYDDOI, CANOLOG, yn cynnwys un ar bymtheg o aelodau yn cynrychioli meistrad- oedd, un ar bymtheg o aelodau yn cynrychioli gweithwyr, a saith o bersoxiau diduedd wedi eu penodi gan Fwrdd Amaethyddiaeth a Physgod- feydd. Sefydlir y Bwrdd Cyflogau gan Fwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd wedi ymgyng- horiad a. Gweinidog Llafur. Bydd gan y Bwrdd Cyflogau hawl i roddt cennad i alluogi gweithwyr methiannus, neu anafedig, i gael gwaith am gyflogau is na'r lleiaf-dal. Nid oes dim yn y Ddeddj i rwystro alu cyflogau uwch na'r lleiaf-dal. Sefydlir Pwyllgorau Cyflogau Rhanbarthol trwy Gymru a Lloegr, pob un yn cynnwys yr un nifer o gynrychiolwyr meistradoedd a gweithwyr, ac hefyd un neu ragor o bersonau diduedd wedi eu penodi gan Fwrdd Amaethyddiaeth a Physgod- feydd. Bydd yn ofynnol i'r Pwyllgorau hyn gynghori'r Bwrdd Canolog ynglyn a maint y cyflogau a gymeradwyant i'w talu yn y rhan- barthau a gynrychiolant. Bydd i'r cynrychiolwyr ar y Bwrdd Canolog gael, mewn rhan, eu hethol gan gorfforiaethau yn cynrychioli ffermwyr a rhai yn cynrychioli gweithwyr, ac, mewn rhan, eu henwebu gan Fwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd. Byddai yn dda gan y Llywydd gael ac ystyried awgrym- iadau ynglyn ag enwau persollau cyfaddas fel cynrychiolwyr meistradoedd oddiwrth gorffor- iaethau o ffermwyr, neu oddiwrth gynulliadau yn cynnwys o leiaf ddeg o ffermwyr, a phersonau cyfaddas fel cynrychiolwyr gweithwyr oddiwrth gorfforiaethau llafurwyr, neu gynulliadau yn cynnwys o leiaf ddeg o lafurwyr amaethyddol. 0 fysg y personau a awgrymir felly, bydd i'r cynrychiolwyr enwebedig ar y Bwrdd Canolog a'r Pwyllgorau Rhanbarthol gael eu dethol. Dylai pob awgrymiadau ynglyn ag enwau, ynghyda chyfeiriad llawn y personau a'awgrymir gael eu hanfon yn ddioed i Ysgrifennydd y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd wedi ei gyf- eirio fel y canlyn THE SECRETARY, BOARD OF AGRICULTURE AND FISHERIES, 80, PAI,I, MALL. LONDON, S.W.I. Caniateir tal i aelodau'r Bwrdd Canolog a'r Pwyllgorau Rhanbarthol i gyfarfod eu treuliau. Gellir cael Cofnodeb yn rhoddi manylionllawll- ach am ddarpariaethau'r Ddeddf ynglyn a lleiaf- dâ1 mewn cyflogau yn rhad ond gwneud cais i'r cyfeiriad a roddir uchod. Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd, Medi, 1917.

[No title]

Advertising

Hermon, Brynaman. I

IJiwbili y Parch. W. C. Jenkins,…

6ALWADAU.