Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
GWELLHEWCH EICH ECSIMA. Iacha INOLAK holl Afiechyd y Civ-n. Bydd i Inolak dynnu allan yr holl amhur- eddau allan o'ch croen; bydd iddo ladd egin afiechyd, lliniaru ysfa, a symud plorynod, crofenau neu darddiantau. Gwnaeth Inolak lawer iachad rhyfeddol o'r math gwaethaf o afiechydon y croen. Miloedd o'r rhai oeddynt ddigalon oherwydd methiant darpariaethau eraill a glywsant yn drugarog am Inolak ac a wellhasant eu hunain. Na fydded i chwi gael Ecsima, Crachen y Clafr, Plorynod, Cornwydon, Tarddiantau, Tar- oden, Brech yr Eilliwr, nac unrhyw anhwylder perthol i'r croen. lachewch eich hun a Inolak. Mae'r gyraeradwyaeth oddiwrth y rhai a well- hawyd wedi peri galwad mawr am dano. Ond os yw eich fferyllydd allan o stoc, anfonwch at y Perchenogion—-66, Whiteladies-road, Bristol (1/3, 3/ a 5/- yn rhydd trwy'r post). INOLAK Isctad Anffaetedig I'r Croen.
,Diaconiaid Ddoe aHeddyw.…
News
Cite
Share
Diaconiaid Ddoe aHeddyw. I GAN GRIFFITH JOBN. I VIII. I Ymhen rhai blynyddoedd drachefn ymaelod- ais yn A- eglwys gref, ac un hefyd, ers hir amser, oedd ag enw da iddi y mhlithTeg 1 wy>si Annibynnol Cymru yr oedd ei safle ddaear- yddol ynghyda ffafr amlwg Rhagluniaeth megis pe wedi uno i'w gwneud yn gymdeithas gref- yddol lwyddiannus. Bum mewn rhyw fath o gysylltiad a'r eglwys hon er pan oeddwn yn llanc, Ond ni fum erioed yn grwydrol fy arfer- ion ar y Suliau gwaharddai fy rhieni i mi fod yn gyfryw pan oeddwn yn blentyn, fel pan ddaethwn i oedran gwr nis gallaswn fod yn rhol- faen o gapel i gapel. Parheais felly ar hyd fy mywyd. Ond, am ryw reswm, yr oedd gan odfeuoll arbennig A—— atyniad mwy I'm meddwl nag eiddo yr un eglwys arall yn y cylch, a mynychwn ei hodfeuon nosweithiau gwaith bryd bynnag y gwasanaethai doniau dieithr ei phulpud neu ei hareithfa. (Gynt, fel y gwyr yr oedraimus yn ein mysg, yr oedd y ddarlith yn elfen bwysig yn hanes gwaith eglwysi Cymru) a galwai A- am y gynnau mawr- ion i'w gwasanaeth yn amlach nag unrhyw eglwys arall. Trwy weithredu felly cefais yr hyfrydwch o wrando ymron yr oil o brif breg- ethwyr ein Plenwad yn yr oes o'r blaen. 0 bosibl, mai ar gyfrif hynny y deuthum yn edmygydd mawr o bregethwyr—i feddwl yn uwch am danynt hwy fel dosbarth nag odid unrhyw un arall. Yn wir, pan oeddwn yn ddyn ieuanc, tybiwn y safent hwy ar biniacl uwch o anrhydedd ac urddas na neb pobl eraill. Ai doeth ynte annoeth oeddwn i wrth goleddu'r fath syniad, nis gwn i eithr nid yw edifar gennyf heddyw mai felly y syniwn. Dyweder a fynner am eu diffigion, hwynt-hwy a alwyd i fynegi am yr anchwiliadwy olud sydd yng ughroes ein Harglwydd Iesu G-rist. Tybed yn awr, pwy ddywed faint dyled Cymru heddyw i'r cyfryw alwedigion ? Yn sicr, bendith amhrisiadwy i blant yw rhieni a anrhydeddant weinidogion y Gair, ae a'u cymeradwyant yn galonnog i edmygedd eu plant. Oni wireddir hynny gan yr Eglwys ymhob oes ? Nid oedd fy ymaelodiad yn A-- yn ddim mwy na cliydffurfiad a rheol eglwysig y dydd, oblegid yr oeddwn yn gyfarwydd iawn a'r capel a'i wasanaeth, yn bersonol adnabyddus 1 amryw o'r swyddogion ac i lawer o'r aelodau cyffredin. Felly cymerais fy lie yn eu my3g ymron fel pe buasai A erioed yn gartref crefyddol i mi. Ond fel un o'r aelodau distaw, ond gwir ffydd- lon, y gwneuthum hynny, ac felly hefyd yr adwaenid fi yn ystod fy arhosiad yno. Yn anfynycli iawn y cymerwn i ran gyhoeddus yng ngwasanaeth y frawdoliaeth. Cofier, serch hynny, 11a syniaf yn fychanus am ordinhadau a gwasanaeth ty Dduw, nac ychwaith am y bobl dda a gymerant rhan yn eu dygiad ymlaen cithr credaf fod yr oil o benodiad dwyfol, ac onibai hwynt darfyddai pob gobaith am gref- yddoli'r werin. Ond i mi yn bersonol, mae y fath ofnadwyaeth ynglyn a bod yn enau ey- hoeddus-i weitliredu megis dyddiwr-fel y mae'n dreth llethol ar fy ysbryd i fod yn ddyn cyhoeddus yn gymaint felly, fel nas gall fy enaid ei ddwyn. Felly ymgadwaf i raddau pell yn encilion y gwersyll. Milwaith gwell gennyf fi yw ufuddhau i gyngor Paul i'r gwragedd Tawed y gwragedd yn yr eglwysi'; hynny sydd fwyaf cydnaws a'm hanianawd i. Dywedwyd eisoes fod i A- enw da ymhlith ei chwiorydd. Oedd, ac ymddygai hithau fel yn gwbl hysbys ac ymwybodol o'r ffaith honno. Yr oedd ei chapel, ei gweinidog ar yr adeg yma (ac erioed o ran hynny) wedi rhoddi cyfle o nod ac urddas i'w haelodau. Ac ymdeimlent fod aelodaeth yn A- yn anrhydedd mwy ac uwch nag odid mewn nemor i eglwys arall. Nid wyf am awgrymu y gwnaent arddangosiad o'r anrhydedd tybiedig berthynai iddynt hwy, eithr gwisgent ef fel y gwna pendefig ei urddau -yn arwyddnod oedd yn eu gweddu. Ac ni awgrymaf ychwaith yr ymwthient i sylw fel pobl a. haeddent y prif gadeiriau mewn cy- nadleddaii a chynulliadau o'r fath; eithr am ryw reswm, gwneid iddynt hwy eistedd yn uwch i fyny 118'r lliaws, am mai pobl A oeddent. A digwyddai hyn, nid ar gyfrif eu safle fydol ac amgylchiadol, ond yn unig am mai pobl A- oeddent hwy. Yr oeddent, megis ar wys Rhagluniaeth, wedi eu pennu i fod yn amlycach na'r lliaws yng nghynghorau yr Enwad yn y cylch. Ond liwyrach mai'r hyn 10. -C"li iII'r'¡.rm,f..¿;œ w: ,1,o.Jió- .L.ao.L fydd o ddiddordeb i'r darllenydd yw, Sut bobl oeddent hwy ymhlith eu hunain, a sut y gwnaent hwy eu gwaith ? Ac ymgais i ddangos hynny fydd gw ddill yr ysgrif hon. Nodweddid cynulliadau A- gan wedduster y rhai fyddent ynghyd. Hwyrach fod a fynno'r adeilad i ryw fesur a hynny. lVIaf"ll gapel eang o wneuthuriad cadarn—yn un megis na fwr- iedid fyth newid ei ddodrefn; f ei liwiad a'i addurniantlf"yn sawri i raddau o'r pruddaidd, ac felly yn dueddol i beri dwyster ysbryd. Oher- wydd safle'r capel-ynghanol pob math o adeil- adau—nid .yw yn gapel goleu cydffurfia felly a syuiad y|cynoesoedd am le o addoliad, ac yn gydweddol a delfryd Milton pan ganodd :— And storied windows richly dight, Casting a dim religious light. There let the peeling anthem blow, To the full-voiced quire below, In service high and anthems clear As may with sweetness, through my ear, Dissolve me in ecstasies, And bring all Heaven before mine eyes.' Meddyliaf mai argraff o'r fath adewid ar fedd- yliau'r dieithriaid ddigwyddent droi i fewn yn achlysurol i'r capel. Ac am fod i'r cglwys enw da ymhlith ei chwiorydd, delai llawer o'r cyfryw i'r lie. Yr oeddent hefyd yn bobl foesgar i ddieithr- iaid yn ogystal ag ymhlith eu hunain. Heblaw y ffeithiau a nodwyd eisoes, yr oedd yr eglwys yn rhydd o un o beryglon eglwysi-nid oedd yn ei phlith yr un teulu lluosog, chwaethach amryw o'r fath. Felly, ychydig neu ddim o adnoddau oedd o fewn ei chyfansoddiad i feithrin ysbryd pleidgar neu i achlysuro clymbleidiaeth. Nid oedd o'i mewn yr un gwr gwirioneddol gyfoethog, ond yr oil o'r aelodau ymron mewn amgylch- iadau cysurus felly yr oeddent megis ar yr un level, oddigerth fel y rhagorent mewn gwasan- aeth i'r eglwys yn y lie a'r sefydliadau a'r mud- iadau cydberthynasol i'r eglwys fel unigolion yn Eglwys Iesu Grist. Mae yna berygl ynglyn i'r cyfoethog mewn eglwys gwireddwyd hyn rai gweithiau yn hanes crefydd yng Nghymru. Ond serch hynny, nid cyfoeth ynddo ei hun yw'r perygl, eithr ansawdd ysbryd ei berchennog. Os mai tyrru golud fydd amcan bywyd y dyn, er i'r dyn hwnnw fod yn aelod o eglwys, rheolir ei ymddygiad yn yr eglwys, fel ymhob man, gan ysbryd y byd hwn. Ac mae'r ysbryd hwnnw, lie bynnag y byddo, yn berygl ac yn rhwystr i lwyddiant eglwys mewn gair, mae yn hollol elynol i'r bywyd sicrha ei Uwyddiant gwirion- eddol. Fel y dywedwyd eisoes, gwyr a gwragedd oedd aelodau A- ymron oil ar yr un safle gymdeithasol; ac felly y byddent yn ymwneud a'i gilydd ni theimlai neb ohonynt unrhyw reidrwydd i ymgreinio i un o'i gyd-aelodau. Ond er bod felly yn foesgar i bawb, 11a chym- hellent hyfdra o du neb pwy bynnag. Ac os ddigwyddai newydd-ddyfodiad dybied y gallai ef arfer hyfdra, cai hwnnw brawfion buan nad oedd ymddwyn felly yn talu o gwbl yn A- A'r unig ffordd i sicrhau dedwyddwch cyrn- deithasol a chrefyddol yn yr eglwys hon oedd arfer symylrwydd ac ymatal rhag uchel-synied. Hwyrach y credai'r dieithr neu'r anwybodus mai pobl anhyblyg ac anghynnes eu teimlad oedd pobl A-. Hwyrach fod y modd hamddenol a dirodres y aeshaent at y cyfryw yn peri i rai goleddu'r fath -yniad am dallynt hwy. Er hynny, pan roddai unrhyw un ei fryd ar osod ei oreu yng ngwasanaeth y frawdoliaeth, nid hir y byddai cyn canfod fod calon yr eglwys yn un gynnes iawn. Llawenychent a gorfoleddent yn eu ffordd hwy—nid yn arddangosiadol, ond yn weddaidd—bryd bynnag y delai rhyw un atynt a fyddai'n debyg o gyfoethogi bywyd ysbrydol yr eglwys.
Advertising
Advertising
Cite
Share
fHYARCHER^^H COLDENRETURNS H f ?*   ???'?'???° ?)S?   er— One.OwJœ ?M?a<. I Fae-au'nUe oj One-Omvx Padttf, fo. Archer's Golden Returns | j I The Parf6etion of Ftps Tobacco, jg SW=f AMD r-CK&W- ;se.l).c4-'¡õ.r.fl8.
.- '-""""- - -_- -_.....,..__v.-__-…
News
Cite
Share
:-=. ddangos ein gwerthfrqgiad o'ch gwasanaeth trwy gyflwyno i yn cynnwys datganiad syml o'n parch uiffuant i chwi, a'n teimladau da tuag atoch fel swyddog ffyddlon, ac hefyd un sydd wedi llafurio yn ein mysg yng ngwasanaeth yr Efengyl am gynifer o flynydd- oedd gyda ffyddlondeb a chymeradwyaeth didor a chynhyddol. Yr ydych wedi gwasanaethu ein Cyfundeb fel ysgrifennydd am gyfnod o 18 mlyncdd, gan ymroddi i'r gwaith gyda manylder a llwyredd roddasai foddlonrwydd cyffredinol. Yn awr, y mae pawb ohonom yn uno i amlygu ein gwerth- fawrogiad ohonoch ac o'ch gwaith, gan deimlo yn ddiolchgar i'r Arglwydd, nid yn unig am eich llafur a'ch gwasanaeth, oncl hefyd am eich bod wedi eich cyuysgaeddu gan natur a gras a chy- nifer o gymwysterau i fod yn ddefnyddiol ac i'ch galluogi i wneuthur cymaint o ddaioni. Yr ydym bob amser yn edmygu eich ysbryd caredig a dirodres, cywirdeb eich amcanion, ffyddlondeb a symledd eich llafur, doethineb eich cyngor a'ch arweiniad, ynghyda. phurdeb dilych- win eich cymeriad, ac hefyd heb anghofio eich ffraethineb hapus. Wedi ymddeol ohonoch o'r weinidogaeth sef- ydlog.yn 1898, bu eich gwasanaeth yn eglwysi'r Cyfundeb, a thuallan iddo, yn gymeradwy a bendithiol. Ym mharodrwydd eich gwasanaeth i'r eglwysi, yn enwedig i'r rhai gweiniaid, prof- asoch eich hun yn ddyn Duw. Par hyn fod eich enw yn gynnes ar ein haelwydydd ac yn ein heglwysi a'r Cyfundeb, lie y treuliasoch eich holl fywyd cyhoeddus. Yr ydym yn hyderu y bydd i'n gwaith yn amlygu ein parch a'n teimladau cynnes tnag atoch yn yr anerchiad hwn lonni eich ineddwl ac adnewyddu eich ysbryd. Dymunwn i chwi nawnddydd tawel a digwmwl, a hyderwn y cawn eto, am lawer o flynyddoedd, eich cymdeithas a'ch gwasanaeth gwerthfawr yn ein plith; ond pan ddelo y diwedd, y pryd hwnnw gael ohonoch fynediad helaeth i mewn i dragwyddol Deyrnas ein Harglwydd a'n Hiach- awdwr Iesu Grist.' Arwyddwyd ar ran y Cyfundeb, I J. RHYDDERCH, Cadeirydd y Cyfarfod Chwarterol. JOHN R. OWEN, Trysorydd eto. RICHARD ROBERTS, Cadeirydd y Pwyllgor. SAMUEI, ROBERTS, Trysorydd eto. EVAN T. EVANS, Ysgrifennydd eto. Medi lofed, 1917. Cydnabu Mr. Davies yr anrhydedd mewn geiriau pwrpasol a thoddedig, gan ddiolch i'r lioll eglwysi am yr hyn a wnaethant i'w an- rhydeddu.—Derbyniwyd llythyr oddiwrth Mr. J. Jones Morris, Porthmadog, yn gofidio nas gallai fod yn bresennol ar yr amgylchiad di- ddorol.-—Sia^adwyd ymliellach gan y Parchn.. T. Williams, W. Ross Hughes, M. Price, a Mri. Davies, D. R. O. Prydderch, a Richard Roberts (Cadeirydd Pwyllgor y Dysteb), a dywedasant ')11 eiriau canmoliaethus am Mr. Davies a'i was- anaeth.—Yn wir, cyfarfod i'w hir gofio ydoedd hwn.-—Diolchwyd i'r eglwys yn Sardis a'r gwein- idog ffyddlon, y Parch. T. Williams, am eu car- edigrwydd a'u sirioldeb yn eu derbyniad o'r Cyf- arfod Chwarterol.—Pregethwyd nos Lun a dydd Mawrth gan y Parchn. E- T. Evans, Morfa Nefyn T. Lloyd, Rhostryfan R. M. Edmunds, Llaiibedrog J. W. Edwards, Tabor J. Mostyn, Porthmadog, a J. Rhydderch, Pwllheli.—Cyf- raniadau'r eglwysi, £ 2 17s. Casgliad Sardis, {p. ios. gc. Cyfanswm, £ 5 7s. gc. Morfa Nefyn. E. T. EVANS (Ysg. am y tro).