Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

Gan fod Buddugol iaeth yn y golwg Cryfhewch eich Giau i barhau hyd y diwedd. ERS tair blynedd yn awr y mae eich L Giau wedi eu dirdynnu yn ddibaid- wedi eu cyweirio i fyny i gyweirnod direol-a gellwch fod yn falch os ydynt yn cario ymlaen heb eu hamharu. On.d cofiwch fod y dirdyniad gwaethaf eto i ddod-a bydd hynny pan ddaw y diwedd i'r golwg. Meddyliwch am dano- y tyndra gieuol hwyhaol yn tyfu fwy-fwy edlym; y gobeithion aIr ofnau; y chwedlau gwyllt a newidiant o awr i awr; ac yna o'r diwedd-Heddwch, a'r adweithiad mawr ar ol hynny! Nid rhyfedd os bydd giau cryf llawer un i dorri fel crwth- linynnau Gall y dyddiau tyngedfawr hynny fod yn nes nag y meddyliwch. Darperwch ar eu cyfer yn awr. Cryfhewch a sefydlwch eich Giau yn awr-rhoddwch iddynt yr ystor o allu sydd angen arnynt -rhoddwch iddynt SANATOGEN. YFWCH SANATOGEN BOB DYDD. Chwi gewch allan fod Sanatogen yn effeithiol iawn i alluogi'r ymenydd a'r corff i wrthsefyll pall ynni (Mr. G. H. Roberts, A.S.)—yn wir, dywed yr arlunydd enwog, Mr. Charles Mottram, fod ei effaith cynhyrfiol ar yr ymenydd yn rhyfeddol'; tra y sicrheir ni gan foneddiges a ysgrifenna ffugchwedlau, Mrs. Gertie de S. Wentworth James, fod Sanatogen wedi ei chyfnewid hi 'o fod yn waethafydd hunan-ddinystriol i fod yn orafiaethydd arsafol I' Os nad ydych wedi treio Sanatogen o'r blaen, dylech gychwyn trwy gymryd o leiaf ddwy lond llwy de ddwywaith neu dair y dydd. Y peth pwysig ydyw ei gymryd yn rheolaidd am amryw wythnosau o'r bron, canys y mae ei effeithiau yn raddol a chwanegol. Gellwch ei brynu gan unrhyw fferyllydd am 1/9 i 9/6 y tin, yr hwn ni chyst ond dwy geiniog y dognaid. Ceisiwch gael tin ohono heddyw, ond byddwch ofalus ei fod wedi ei labedu f Wedi ei wneud yn Penzance/ oblegid os fel arall, efelychiad gwael fydd. GENATOSAN, LIMITED (Prynwyr Prydeinig Cwmni y Sanatogen). Cadeirydd: Lady Mackworth. 12 CHENNIES-STREET, LONDON, W.C. 1. SYL WER.-Bydd iSanatogen yrnhen amser gael ei ail-enwi Genatosan- C gwir Sanatogen -i' ch diogelu rhag efelychiad.

.- '-""""- - -_- -_.....,..__v.-__-…