Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

I Y WERS SABOTHOL. | l YWERSSABOTHOL.Q

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

I Y WERS SABOTHOL. | l Y WERS SABOTHOL. Q Y WERS RYNGWI,ADWRIABTHOL. f I Gan y Parch. D. EUROF WALTERS, t) { M.A., B.D., Abertawe. { $M.A., B.D., Abertawe.v "<C7Iit1C7.CóIIt" HYDREF 14eg.-Dychwelyd o'r Caethiwed.—■ | Ezra i. 1-11. I YTESTYN ETJRAIDD.—' Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion am hynny yr ydym yn Ilawen.' —Salm cxxvi. 3. GAN fod y rhan fwyaf o'r Gwersi o hyn i ddiwedd y flwyddyn yn Llyfrau Ezra a Nehemiah, ac mai'r lh-irau hynny yw eill prif awdnrdodau gyda golwg ar y dychweliad o'r Caethiwed, y mae'n briodol sylwi yma amy at. Nid oes fawr amheuaeth nad un llyfr ar y dechreu ydoedd Llyfrau Ezra, Nehemiah a'r Cronicl (1 a 2). Y mae'r arddull yn debyg yn y tri llyfr, ac ymdriiiir a hanes o'r un safbwynt ynddynt. Dechreua Llyfr Ezra lie y diwedda Llyft y Cronicl; yn wir, yr un geiriau geir yn nwy adnod gyntaf Ezra ag yn y ddwy olaf o Lyfr y Cronicl. Gyda golwg ar Lyfrau Ezra a Ne- hemiah gellir dywedyd yn lied bendant mai un ydynt, a gellid o ran hynny edrych arnynt fel i ac 2 Ezra. Felly y cyfrificl hwynt gan ysgol- heigion Iddewig gynt, ac felly y rhoddir hwynt yn y cyfieithiadau boreaf. Gwelir bod y cyfnod hanesir yn Llyfr Ezra- Nehemiah yn ymestyn o'r adeg y cyhoeddwyd ail-adeiladiad y deml gan Cyrus hyd ail-ymwel- iad Nehemiah a Jerusalem. Ond nid yw yr hanes yn gyflawn a difwlch. Rhoddir amlyg- rwydd i ddau bwynt (r) Y Dychweliad o Babi- Ion gydag ail-adeiladiad y deml; (2) Diwygiadau Ezra -Llyivyddiaeth Nehemiah. Y mae'r tri ugain nilyliedd rhwng y ddau hyn yn ddisylw, ac awgryma hynny amcan yr hanesydd, sef rhoddi hanes adsefydliad llywodraeth grefyddol yn Judah a Jerusalem. i Wele amlinelliad o gynnwys Llyfr Ezra :— (1) Penodau i.-vi. Y Dychweliad o Babilon dan Zorobabel. [Pennod i. Cyhoeddi ail-adeiladiad y deml. Pennod ii. Rhestr o'r teuluoedd a ddychwelasant. Pennod iii. Cysegru allor y poeth-offrwm Gwyl y Pebyll; gosod sylfeini y Deml newydd. Pennod iv. Gwrthwynebiad gelynion yn rhwystro'r ail-adeiladu. Pennod v. Ail-gychwyn y gwaith wrth anogiad Haggai a Zechariah. Pennod vi. Gorffen y Deml, a chadw Gwyl y Cysegriad a Gwyl y Pasg.] (2) Ezra yn dyfod a chenadwri i Jerusalem. [Pennod vii. Ezra yn dyfod i Jerusalem. Pennod viii. Rhestr teuluoedd y dychweledigion. Pennod ix. Ezra yn awgrymu diwygiadau. Pennod x. Y diwygiadau yn cael eu cario allan.] Yr ydym yn y Wers ddiweddai wedi cy- ffwrdd ag achlysur y Dychweliad, sef cymryd Babilon gan Cyrus o gylch y flwyddyn 538 C.C. Y mae ar gael yn yr Amgueddfa Brydeinig (British Museum) goflech yn rhoddi hanes cym- ryd y ddinas gan Cyrus (the cylinder of Cyrus). Y11 ol y cyfrif ar y goflech hoimo, mewn heddwch y daeth Cyrus i'r ddinas syrthiodd o'i flaen heb ymdrech. Gyda llawenydd y derbyniwyd ef yn y ddinas, ac un o'r pethau cyntaf wnaeth yntau ydoedd talu parch i'r duwiau, gan ddych- welyd o Babilon i'w cartreti y delwau a gymer- asid gan Nabonaid (brenin olaf Babilon) ac adgyweirio'r temlau. Arfer breuhinoedd Babilon ydoedd caethgludo'r cenhedloedd gorchfygedig, ond cynllun Cyrus ydoedd heddychu'r bobloedd drwy eu sefydlu yn eu gwledydd, gyda rhyddid i addoli eu duwiau. Gwelai Cyrus hefyd mai mantais i'w ddiogelwch fyddai sefydlu'r Iddewon yn gryfion yn eu gwlad rhyngddo a'r Aifft. Felly, yn y flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad, fel y dywed Cyrus ei hun ar y goflech, efe a gyn- hullodd y cenhedloedd, ac a barodd iddynt ddychwelyd i'w gwledydd eu hun.' Ond ym- ddengys iddo ffafrio'r Iddewon mewn modd arbennig, a dichon fod eu crcfydd neu eu cref- yddoldeb wedi apelio ato. Yn ol popeth ellir gasglu am Cyrus, nid oedd efe, mae'n bur debyg, ond eilunaddolwr fel eraill o'r brenhinoedd—yn credu mewn amrywiol dduwiau. Ond dichon i'w lygaid gael eu hagor ar y fiaith mai ato ef y cyfeiriai'r proffwydi pan yn son am waredig- aeth. Beth bynnag, yn y flwyddyn gyntaf o'i lywodraeth ar Babilon, rhoddodd orchymyn mewn ysgrifen :—- Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, Yr Arglwydd, Duw y nefoedd, a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaear, ac Efe a orchmynnodd i mi adeiladu iddo Ef dy yn Jerusalem, yr hon sydd yn Judah. Pwy sydd ohonoch o'i holl bob! Ef ? Bydded ei Dduw gydag ef, ac eled i fyny i Jerusalem, yr hon sydd yn Judah, ac adeiladed dy yr Arglwydd, Duw Israel (y Duw sydd yn Jerusalem). A phwy bynnag a adawvd mewn un man lie y mae efe yn ymdeithio, cynorth- wyed gwyr ei wlad ef ag arian, ac ag aur, ac a golud, ac ag anifeiliaid, heblaw ewyllysgar offrwm ty Dduw yr hwn sydd yn Jerusalem.' Mor sydyn y daeth y waredigaeth, fel mai nid hawdd ydoedd cyffroi yr Iddewon oil i ddychwelyd. Er cyhoeddi'r waredigaeth led-led y wlad, amheuai rhai, ac yr oedd era ill wedi ymgolli ym mywyd a masnach Babilon. Diau i'r rhai hyn gyunyg cynorthwyo a'u harian bawb a fynnent ddychwelyd. Ond am danynt hwy eu hunain, gwell oedd ganddynt aros yn Babilon. Ac heblaw y rhai hyn, yr oedd llawer wedi dysgu addoli Jehofah heb gynhorthwy teml na gwlad sanctaidd. Gallent fyned ar bererindod i wlad eu tadau, a chaent eu claddu ym meddrod eu teulu. Ond yr oedd yno lawer hefyd a hiraeth- ent am ddychwelyd yn ol cyfrif y bennod nesaf, yr holl dyrfa ynghyd. oedd cldwy fil a deugain, tri chant a thri ugain, heblaw eu gweision a'u morwynion y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain (Ezra ii. 64, 65; Nehemiah vii. 66, 67). Dichon mai'r gwyr yn unig gyfrifir yma, ac y dylid ychwanegu at y cyfanswm, heblaw gwragedd. a phlant.' NODIADAU. Adnod i.-Fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas. Yn llythremiol, Fel y gwnaeth i lef dramwy trwy ei holl deyrnas.' Parodd Cyrus i genhadon fyned drwy y deyrnas i gyhoeddi y waredigaeth. I gyflawni gair yr Arglwydd o enau Jeremiah. Sef y broSwydoliaeth am waredig- aeth ymhen tri ugain a deg o flynyddoedd (Jer. xxv. 12, 13; xxix. 10). Cymharer Esaiah xliv. 28: Yr Hwn wyf yn dywedyd wrth Cyrus, Fy mugail yw, ac efe a gyflawna Fy holl ewyllys gan ddywedyd wrth Jerusalem, Ti a adeiledir, ac wrth y denil, Ti a sylfeinir.' Adnod 2.-Tebyg mai sylwedd cyhoeddiad Cyrus geir yma. Sonia Cyrus ar ei goflech am Marduk (Merodach) fely prif neu yr Arglwydd- dduw. Hwnnw ydoedd un o brif dduwiau'r Babiloniaid. Arferid meddwl am dduw'r genedl fel yr arglwydd ar wlad y genedl, fel y sonnir yn adnod 3 yma am Jehofah fel y duw sydd yn Jerusalem.' Yn iaith ac o safbwynt yr Iddewon, Jehofah ydoedd yr Arglwydd Dduw. Ond y mae ein gwybodaeth am ddaliadau cref- yddol Cyrus yn ddiffygiol. Adnod 3.-Nid oedd neb i'w gorfodi i ddych- welyd Pwy bynnag sydd ohonoch o'i bobl Ef, bydded ei Dduw gydag ef,' &c. Adnod 4.-—-Pwy bynnag ewyllysio aros yn Babilon, cynorthwyed y rhai sydd yn bwriadu dychwelyd, heblaw iddo gyfrannu at adeiladu'r Deml. Adn. 5, 6.—Enwir dau arweinydd ynglyn a'r dychweliad, sef Jesua mab Josadac, a Zorobabel mab Salathiel (iii. 2). Yma awgrymir parod- rwydd pennau'r teuluoedd i ddychwelyd, a nodir y cynhorthwy a gawsant gan gymdogion a chyf- eillion yr Iddewon. Adn. 7-11.—Nid oedd gan yr Iddewon ddelwau fel y cenhedloedd eraill, ond yr oedd ganddynt lestri eu teml. Adferwyd y rhai hyn iddynt gan Cyrus, a' throsglwyddwyd hwynt i law Sesbassar pennaetli Judah gan Mithredath, ceidwad y trysorau. [Y mae'n ddigon posibl mai yr un ydoedd Sesbassar a Zorobabel. Cymharer Ezra iii. 8 a v. 16.]

ILLANELLI.

IRock, Cwmafon.

[No title]