Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Cymdeithas Genhadol Llundain.

News
Cite
Share

Cymdeithas Genhadol Llundain. ADRAN GYNORTHWYOl CAERDYDD A PHFINARTII. Cynhaliwyd cyrddau blynyddol y Gangen hon ar ddyddiau Sadwru, Sul a LIun, Medi 22ain i'r 24ain. Y Ddirprwyaeth oddiwrth y Gymdeithas y tro hwn ydoedd Mr. W. H. Somervell, Y.H., o Kendal (y Trysorydd newydd) Miss String- fellow o India a'r Parch. C. D. Cousins o Canton, China. Y cyntaf o'r gyfres oedd cyfarfod yn un o ystafelloedd capel Annibynnol Charles-street er hyrwyddo Mudiad Cenhadol y Lleygwyr, yr Hen- adur T. W. David, Y.H., yn llywyddu, a Mr. Somervell, yr hwn sy'n* dwyn ymlaen fasnach helaeth mewn gwneud esgidiau, yn argymell y ddyledswydd o wisgo am ein traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd.' Rhoddodd am- linelliad diddorol o waith y Gymdeithas, a dangosodd yr amrywiol foddau y gall lleygwyr Cristionogol sy'n troi mewn cylchoedd mas- nachol helpu'r Genhadaeth Dramor. Hyderir y daw daioni o'r mudiad newydd hwn ymysg lleygwyr fel y cyfryw. Nos Sadwrn, yng nghapel Charles-street, cyn- haliwyd cwrdd cyhoeddus i dderbyn adrodd- iadau'r Adran I,eoi ac i wrando ar y Ddirprwy- aeth. Cymerwyd y gadair gan Mr. R. W. J. Sutherland, a chdfwyd adroddiad yr ysgrifen- nydd, y Parch. Thomas Hughes, a'r trysorydd, Mr. George Birt. Yn y blaenaf hysbyswyd mai £ 120,000 a ddisgwyliasai'r Cyfarwyddwyr am y flwyddyn yn terfynu Mawrth 3 lain diweddaf drwy gyfraniadau o'r Ynysoedd Prydeinig ac er aniled y galwadau ychwanegol oblegid y rhyfel, dderbyn o'r Gymdeithas £ 118,358 bod y rhoddion o'r Maes Cenhadol tuagat waith y Gymdeithas yn fwy o £ 1,220 na'r flwyddyn flaenorol; ac ar ol talu treuliau'r flwyddyn, fod tuewn IlaNi, 4298 is. 2C., yr hyn a aiff i leihau'r diffyg ariannol a bentyrrwyd mewn blynydd- oedd o'r blaen. Swm y diffyg yn awr yw £ 13,602. Yn ol adroddiad y trysorydd lleol, cyfrannodd eglwysi Cymreig a Seisnig Caerdydd a Phenarth 4729 15s. ice. yn ystod y flwyddyn. A ganlyn yw cyfraniad pob un o'r eglwysi Cymreig :— Ebenezer, £ 84 5s. gc. Minny-street, f,48 us. 3c Bethlehem, £22 128. 8c. Severn-road, £6 14s. 6c Mount Stuart, £ 3 4s. 8e. Gofidus i'r Adran yw ymddiswyddiad Mr. Birt oherwydd gwaeledd iechyd cyflawnodd ei waith fel trysorydd am flynyddoedd gyda manylder a deheurwydd, a diolchwyd iddo yn gynnes am ei lafur cariad ar gynygiad yr ysgrifennydd, yr hwn a eiliwyd yn galonnog gan y Parch. H. M. Hughes, B.A. Llaweiiydd inni yw fod Mr. D. E. Howell, trys- orydd eglwys Roath, yr hwn sy'n byw yn 165, Malefant-street, Cathays, yn garedig wedi cyd- synio a'u cais i ymgymeryd a thrysoryddiaeth yr Adran. Anerchwyd y cyfarfod hwn gan Mr. Somervell a'r Parch. C. D. Cousins. Ar y Sul yr oedd y trefniadau fel y canlyn :— Y bore a'r hwyr, Mr. Somervell yn annerch cynulleidfaoedd Charles-street ac Ebenezer Mr. Cousins yn siarad yn Christ Church, Penarth, a Star-street, Caerdydd; a Miss Stringfellow yn St. Paul's, Cowbridge-road. Prynhawn Sul, yn ol yr arfer ar y cyfryw achlysur, ymgynhullodd Ysgolion Sabothol yr Annibynwyr Cymreig a Seisnig yng nghapel eang Wood-street a golygfa brydferth ydoedd y llu o wynebau plant, pobl ieuainc ac athrawon yn canu'n fywiog ac yn gwrando'n astud. Llywydd y cyfarfod hwn oedd Mr. John Beynon, diacon o eglwys Ebenezer. yr hwn a brofodd ei hun yn rhcolwr effeithiol. Yr oedd ei ymddangosiad, ei hunan-feddiant, a'i sylwadau byw mewn Saes- neg coeth yn creu argraff ddymunol iawn. Enillodd y genhades hefyd sylw'r plant, ac ychwanegodd at ddiddordeb y gweithrediadau drwy ddilladu rhai merched ieuainc mewn gwisg- oedd Dwyreiniol a'u disgrifio. Cafwyd casgliad gwell nag arferol. Hyfryd oedd gweld rhai pobl ieuainc yn dod i'r llwyfan, gan gyflwyno rhodd- ion Cenhadol oddiwrth Boys' Brigade a Girl Guides perthynol i gapeli New Trinity a Wood- street. Derbyuiwyd y rhoddion yn ddiolchgar gan Mr. Somervell, a siaradodd ymhellach. Prynhawn LIun yr oedd Cwrdd y Gwragedd, dan lywyddiaeth Mrs. Marychurch, yr hon sydd yn selog o blaid y Gymdeithas, a'i thy bob amser yn agored i'r cenhadon. Ac yn Mrs. Watts Thomas ceir ysgrifenyddes ofalus a medrus. Gweithia adran y chwiorydd yn rhag- orol drwy gyunal cyrcldau tri-inisol er mwyn cadw'r tan Cenhadol i losgi yng nghalonnau mamau a merched ieuainc ein heglwysi. Hyderwn y bydd yr adroddiad uchod yn sym- byliad i eglwysi cyfagos i'w gilydd i flurfio undeb er hyrwyddo amcanion Cenhadol. Heb- ryngwn [y cenhadon] fel y gweddai i Dduw canys er mwyn yr Enw yr aethant allan, heb gymryd dim gan y Cenhedloedd. Ni a ddylem gan hynny dderbyn y cyfryw rai, fel y byddom gyd-gynorthwywyr i'r gwirionedd.' T.H.

Porth madog.

Advertising

GWELLIANT AR BRYNU. ¡