Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
SARON, 'BEDWAS, A PHENIEL, TRE_DOM;OS. CVFARFODYDD ORDBINIO MR. D. RICHARDS, M.A., CAERDYDD. QHBRWTDD amgylchiadan milwrol, bydd rhaid gohirio y oyfarfodydd uchod. Gwneir hysbysiad pellaoh yn y TYBT mor fuan ag y bydd yn bosibl. T. HARRIS A T. J. WILLIAMS, Ysgn.
AT EIN GOHEBWYR.I
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Mewn Llaw.-Llanystumdwy-Achos Soar, Pontygwaith—Gendros,, Abertawe-Mynydd- bach, ger Abertawe-Tibernacl, Bargoed- 'Jacob o'r Poel'-Siloa, Aberclar-Priodasau.
GWELLIANT AR BRYNU. ¡
News
Cite
Share
GWELLIANT AR BRYNU. Y DYDD o'r blaen ysgrifennai un o brif arweinwyr Cymru atom fel y canlyn :— 'Ai nid yw yn bosibl cyfuno Cymru ar gwestiwn y Fasnach Feddwol ? Mae yn drueni ein bod yn ddwy garfan mor anghymodlawn ar fater sydd mor bwysig i ffyniant dyfodol Cymru. Sylwais nad oeddych yn bresennol yng Nghymanfa'r Prynu yn Llandrindod, ac nad yw eich enw ar restr cefnogwyr y mudiad, er eich bod yn cael eich ystyried yn bleid- iol iddo. O'r ochr arall, cly\vais mai fel effaith eich ymdrech chwi a'ch cyfeillion y mabwysiadodd Cyngor Cymreig yr Bglwysi Rhyddion, fel rhan o'i bolisi ar y mater, yr adran fod yr iawn am atal trwyddedau, pan welo'r bobl yn dda wneud hynny, i'w dalu o Drysorfa'r Wladwriaeth. Gan fod y Cyngor trwy hyn wedi cydnabod a derbyn, fel y deallaf bron yn unfrydol, yr egwyddor o bryniant, tybed nad yw yn bosibl myned gam ymhellach, a ffurfio cyf- addawd fo'n cyfuno yr holl genedl yn ei hymdrech i ddelio yn effeithiol a therfynol a'r cwestiwn holl-bwysig (all- important problem) hwn ? Yn bersonol nis gallaf gytuno ag ymgyrch y pryn- iant fel y corfforir ef ym mhenderfyn- iadau Cynhadledd y Prynu, ac mae Gwaharddiad nocth hyd yn oed am dymor y rhyfel, ac yn sicr wedi hynny, yn ymddangos i mi yn hollol amhosibl. Ond pe gallai'r Cyngor Cenedlaethol fyned gam ymlaen eto, ac ail-ystyried yr holl bwnc yn bwyllog, credaf y deuai o hyd i lwyfan ar yr hwn y gallai pawb ohonom sefyll, oddigerth efallai nifer fechan o eithafwyr anymarferol.' Hwyrach y goddefir i ni egluro ein bod yn bleidiol i fath arbennig ar bryniant, a theg yw dweyd i ni gael gwahoddiad cynnes a thaer i ddod i Gynhadledd Llan- drindod a siarad ar ei llwyfan; ond ni allem gydsynio a'r cais am y credwn erbyn hyn, fel ein gohebydd galluog, nad yw rhaglen y Pryniant Cenedlaethol, fel y corfforir ef yn yr ymgyrch sydd wrth y drws, yn debyg o gyfuno Cymru mewn un polisi glir a brwdfrydig. Ac o'r ochr arall, yr oeddym o blith y rhai a bleidiodd yn gryf yr adran yng nghynllun y Cyngor sy'n darparu ar gyfer talu iawn am atal trwyddedau o'r Drysorfa Wladwriaethol, am mai hollol ofer yw disgwyl arian digonol o unrhyw ffynhonnell arall. Addefwn fod hyn yn dderbyniad rhannol o'r egwyddor o Bryniant Cenedlaethol, ond dylid cofio yr un pryd mai prynu i gau y dafarn yw hyn, ac nid prynu i'w chario ymlaen mewn dull gwahanol ar ol ei phrynu Ac mae llu o Waharddwyr selog sydd yn barod i brynu, pe golygai hynny gau hefyd. A thybed, fel yr awgryma'r llythyr, nad oes yn y fan yma ddrws agored i gyfaddawd teg a ddylai ein hunoli fel ecnedl ? O'r hyn lleiaf, beiddiwn ddilyn yr awgrym, a gosod gerbron ein darllenwyr ystyriaeth neu ddwy ddylai ein cynorthwyo i ddod yn nes at ein gilydd. Wrth gwrs, Gwaharddiad fuasai'n ddy- munol gan bron bob dirwestwr, ond ofnwn mai gobaith gwan sydd i gael y Llywodr- aeth i gymryd y cynllun hwn i fyny, hyd yn oed am weddill tymor y rhyfel a gwasgariad y milwyr. Ac yn sicr ni chymer hi byth ef i fyny fel ffordd o setlo yn bar- haol y dyrysbwnc mawr. Byddai LIafur ac Eglwys Loegr a'r Pabyddion a chorff mawr cymedrolwyr Prydain yn erbyn hynny. Yn wir, mae llawer dirwestwr nas gallai gydsynio a Gwaharddiad hollol heb ryw fath ar daliad o iawn, gan fod llawer o bobl ddiniwed a'u harian yn y Fasnach. A gofynnwn eto, o ba le y ceid y tal ond o'r coffrau gwladol ? Ac nid yw pleidlais gweithwyr Clyde Bank ond dros Wahardd- iad am dymor y rhyfel a'r gwasgariad yn unig. Nid yw yn profi o gwbl eu bod yn ffafriol i Waharddiad fel polisi derfvnol a pharhaol. Ond beth am barhad y Bwrdd Rheol- eiddiad a chyfyngu ar oriau a chyfleus- terau'r Fasnach fel polisi barhaol ? Da iawn ond nid yw yn ddigon i sobri'r wlad, fel y dengys y parhad, os nad cyn- nydd, mewn yfed a meddwi. Ac mae'n amheus gennym a oddefir y Bwrdd i fodoli, fel y mae, wedi i heddwch gael ei adfer. Mae galluoedd y faril yn gryf, a buan y gorchfygant bob cynnyg at gadw y Bwrdd, os na cliynhygir dim ond hynny. Maent yn chwyrnu yn enbyd yn awr, a gwnant fwy na hynny os na thorrir eu dannedd cyn i'r rhyfel derfynu. Eithr a ydyw'r ffaith fod y Cyngor wedi cytuno i dalu'r iawn o'r Trysorlys am y tafarnau a geuir yn gwneud rhyw wahan- iaeth ynglyn a Dewisiad Lleol, yr hwn a gymhellir gan y ddwyblaid fel ei gilydd ? Ydyw siwr, a dyna lie mae rhagoriaeth ac advance dirfawr polisi'r Cyngor ar yr hen safle yn dod i'r golwg. Nid ellir delio a'r trwyddedau yn Lloegr a Chymru ar yr un tir a rhai'r Alban, am fod Deddf Balfour wedi rhoi freehold yn eu trwydded i dafarnwyr Lloegr a Chymru, ac am nad yw y Ddeddf yn gymwysiadol o gwbl at yr Alban. Felly mae rhybudd yn ddigon yno, tra nad yw yma. Heblaw hyn, mae'r cylillun o dalu iawn wedi ei gydnabod eisoes, ac wedi torri i lawr eisoes, am fod gweddill y tafarnau yn analluog i'w dalu —o'r hyn lleiaf, dyna ddadl yr awdur- dodau. Ni bu Balfour yn fwy cyfrwys- ddrwg erioed nag yn y Ddeddf honno, ac mae pob ymgais i'w dadwneud wedi methu. Ond paham mae eisiau talu i dafarnwr mwy nag i grocer a chigydd. ac adeiladydd --pobl sydd eisoes wedi eu colledu yn ddirfawr ? Yn un peth, am fod business committees eisoes yn ystyried rhai o'r achosion hyn ond yn fwy na hyn, am y cant ail gychwyn ar ol y rhyfel, tra mai'r amcan yw rhwystro'r tafarnwr i ail ddechreu o gwbl. Wrth dalu o'r Trysor- lys rhwyddheir Dewisiad Lleol yn ddir- fawr. Wedi clirio'r tir fel hyn, sylweddolir ym eglur mai'r prif wahaniaeth bellach rhwng polisi'r Cyngor a pholisi'r Pryniant yw fod y Prynwyr am feddiannu'r cwbl er mwyn i'r bobl gau yn araf y nifer fynnont, tra mae'r Cyngor am dalu yn unig am y rhai a geuir yn gyntaf gan y bobl. Awn ymlaen yn awr i awgrymu pont rhyngddynt. Di- bynna'r ddau am gau neu leihau y taf- arnau ar Ddewisiad Lleol. Ond ofnwn na sylweddolir yn glir iawn rai anfanteision ynglyn a'r cyfrwng hwn. Yn sicr, mae perygl i'r cyhoedd ei hun fod yn gyndyn i gau pan deimlant ddyled lethol y rhyfel a'r tafarndai yn gorffwys ar eu hys- gwyddau. Cryn ysgafnhad i'r taxes fyddai cynnyrch y dafarn. Dyna'r gwrthwyneb- iad i Bryniant. Or ochr arall, pan eir i geisio can dan gynllun y Cyngor, bydd holl bwerau'r faril ac uffern yn ein herbyn, ac nid oes allu ariannol a pholiticaidd cryfach yn y wlad na Bung. Gwaeth wedyn: y mannau lie mae fwyaf o eisiau cau fydd y very lleoedd i fotio yn ei erbyn, a dyna brif amcan Dewisiad Lleol yn cael ei golli. Mae wards yng Nghaerdydd ac Abertawe na chauent yn oes neb sy'n fyw, a phe mai'r dref i gyd, ac nid wards, fuasai'n fotio, nid ydym yn sicr y concrid y dafarn mewn brwydr o'r fath. Hyd yn oed mewn etholiadol seneddol yn awr mae y dafarn yn ofnadwy gryf, ac yn sicr ymladdai fel tigress pan fyddai ei bywyd hi ei hun mewn perygl. Modd bynnag, ni byddai achos sobrwydd fawr ar ei ennill yn y lleoedd meddwaf. Yn awr, gan fod yr egwyddor o dalu iawn o Drysorfa'r wlad am gau tafarn wedi ei derbyn gan y Cyngor, a'r Pryn- iant Cenedlaethol yn cydnabod Dewisiad Lleol fel rhan hanfodol o'r cynllun hwnnw, ai ni allem uno ar brynu'r cyfan, gan ei gwneud yn amod fod un ran o dair o dafarnau Prydain yn cael eu cau ar un- waith, heb aros am Ddewisiad Lleol o gwbl ? Yn hytrach na dibynnu ar weith- rediad araf ac amheus Dewisiad Lleol yn y mannau lie mae mwyaf o angen cau, ai nid gwell fyddai gwneud i ffwrdd ar unwaith ag un ran o dair trwy ddeddfwr- iaeth, yn lie Dewisiad Lleol ? Gosoder y peth yn yr Act, ac nid at drugaredd dam- wain. Ond pwy fyddai i benderfynu pa dafarndai fydd i'w cau ? Dau neu dri o ddirprwywyr penodedig dan yr A ct--dyn- ion hollol rydd oddiwrth fuddiannau a dylanwadau lleol. Setlai y rhai hyn yn fuan dynged tafarnau gwaethaf ein slums a'n parthau gweithfaol. Ond beth am y ddwy ran o dair fyddai yn weddill o dafarnau'r tir ? Gellid gadael y rhai hynny i dynged Dewisiad Lleol. Byddai elw personol y tafamwyr wedi ei ddileu, a gellid apelio yn rhydd at y bobl, a hynny yn adrannau goreu'r wlad. Yn araf ond yn sicr teneuid hwy yn ddirfawr, ac ni byddem yn hir cyn gweled ambell sir gyfan heb dafam o'i mewn. Ond beth am y demtasiwn i ysgafnhau'r taxes trwy gadw'r dafarn ymlaen ? Addefwn y teimlid hyn ar y cyntaf, ond wedi i'r rhai gwaethaf gael eu cau dan y Ddeddf deuid yn fuan i ganfod fod sobrwydd y parthau gwaethaf ynddo'i hun yn ysgafnhau'r beichiau arian- nol cvhoeddus. Blai llai o arian i dlotai a gwallgofdai a charcharau a pholis, &c., a lefeiniai hyn y wlad yn araf. Gwellhai iechyd a thai a chyflwr y bobl. Mwy na hyn os parhai diwydiannau yn llewyrchus —a byddai sobrwydd cynhyddol yn help i hynny, ac yn arbennig i gysylltiadau