Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

HELION HULIWR. I

News
Cite
Share

HELION HULIWR. I Yn aiiil ym myd y Cymro Cyntefig yr oedd yr heliwr a'r huliwr yr un, tra yr oedd y rhai a eisteddent wrth ei fwrdd yn lliaws dedwydd. Ac wrth lanw y golofn hon o wythnos i wyth- nos, bwriadwn fabwysiadu egwyddor yr arferiad cysefin. Dygwn iddi gynnyrch ein hymchwil ar feysydd pell ac agos lien a llafar, gan ei osod yn ddisgleidiau danteithiol gerbron ein darllenwyr. Ac os daw ffeithiau a syniadau newyddion o fudd a diddordeb i gylch gwybodaeth ein cyf- eillion, derbynnir y cyfrif yn ddiolchgar yn Swyddfa'r TYST ac os barna ein Huliwr hwy yn gyfaddas, rhydd hwy yn ddestlus a llawen ar ei fwrdd. V, mae ffeithiau i'r meddwl yr un peth a bwyd i'r corff,' meddai Burke. Dichon nad amhriodol fyddai gosod ar ben ein bwrdd y ddysglaid flasus hon gan Coleridge Pa fwyaf wyddom, mwyaf yw ein syched am wybodaeth. Y mae lili-y-dwr, ynghanol y dyfr- oedd, yn agor ei dail ac yn lledu ei gwullddail gyda thrwst-guriadau cyntaf y cawodydd, ac yn 11 awenhau yn y diferynnau gwlaw gyda chyd- ymdeimlad cyfiymach na'r prysgen gras yn yr anialwch tywodlyd.' ?? ? R?hyfeddol 1' y datblygiad sydd wedi *cymrYd lie yn y wyddor o deithio trwy yr awyr oddiar ddechreu'r rhyfel. Dydd Llun, Medi 24ain, daeth Capten Laureati, yr hwn sydd yng Ngwasanaeth Awyrol Itali, drosodd yn ei awyren o Turin i Lundain, pellter o 650 milltir, heb aros. Cych- wynnodd ar ei daith yn y bore, ac er gorfod brwydro yn erbyn y gwynt wrth groesi mynydd- oedd yr Alpau, cyrhaeddodd ein Prifddinas mewn saith awl" a 22 o funudau. Ni rydd hanes rhai o brif wleidyddwyr yr oes o'r blaen fawr calondid i neb i ymgymeryd a cheisio arwain deniocratiaeth. Dywed Mr. Massingham yn y Nation fod pump o wyr enwog perthynol i'r oes hon a'r un o'r blaen yn ym- ddangos unwaith yn debyg o fod yn arweinwyr democrataidd llwyddianllus, ond iddynt oil farw yn anamserol, neu heb gyrraedd 11awn- addewid eu dynoliaeth. Y gwyr hyn oeddent Gambetta, Parnell, Chamberlain, Dilke a Churchill. Yn ddiweddar gwerthwyd hen goty syml Thomas Parr, yn Shrewsbury, am £ 130. Gan- wyd Parr yn 1483; priododd yn 80 mlwydd oed, a thrachefn pan yn 122 mlwydd oed. Bu farw yn 1635, ar ol cyrraedd ei 152 mlwydd oed, a byw trwy dcleg brenhiniaeth. Dywed y Cadfridog Smuts fod y rhyfel eisoes wedi ei ennill geiinym, a bod y Germaniaid yn gwybod hynny. Yn y rhyfel yn Ne Affrica, meddai, yr oedd y Boeriaid yn gwybod chwe mis cyn terfyn y frwydr eu bod wedi colli'r dydd, ond er hynny daliasant i ymladd yn y blaen. A'r un modd yn awr, deil y Germaniaid i ymladd yn egniol, er eu bod yn ymwybodol eu bod wedi eu gorchfygu. Nid oes gennym inwyach ond gwneud y defnydd goreu o'n manteision er diogelu smashing victory. Dywedodd un o arweinwyr crefydd Lloegr y dydd o'r blaen Nis gellir gwaredu Dloegr os gollwng hi ei gafael ar Dduw, ac y mae Lloegr yn gollwng ei gafael ar Dduw.' Yng nghwrs ei bregeth yn ei gapel yn Blooms- bury y Sul cyn y diweddaf, gofynnodd y Parch. Thomas Phillips 'A oes y fath beth ag IJglwys y Testament Newydd yn Lloegr ? Ac ychwan- egodd 'Ag eithrio ychydig o eneidiau etholedig, hyd yn oed yn yr eglwysi goreu, nid a yr ael- odau fodfedd o'u ffordd er 111 wyn dwyn y rhai sydd oddiallan i'r cysegr. Y mae ein heglwysi ymhob cangen ohonynt ymhell yn yr un ystad a'r Llywodraeth cyn y rhyfel, yn llawn o rwd. a llwch a llinyn coch.' Y mae'r Parch. Rowland Knox, mab i Esgob Manchester, wedi cefnu ar ei Eglwys, a myned i fyw i'r drws nesaf ati, sef i EglwysfRhufain. Dyna gaffaeliad olaf y Babaeth, ac efallai y pwysicaf ers rhai blynyddoedd. Vr oedd Dr. John Hunter yn ddyrysbwnc yn ei fywyd, a phery felly ar ol ei farwolaeth. Methir penderfynu pa un ai pregethwr wrth natur ydoedd, ai trwy lafur caled. Drwgdybid ef o fod yn fwy na hanner Undodwr er hynny Ili chlywsom neb o bulpud yn gwneud ymosod- Jad niwy deifiol ar Undodiaeth.

GLOYWI'R GYMRAEG.1 I ? !,;-…

Llygaid Oeddwn i'r Dall.

[No title]