Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Hyn a'r Llall o Babilon Fawr.

News
Cite
Share

Hyn a'r Llall o Babilon Fawr. GAN EYNON. Mae Babilon Fawr yn parhau o hyd i dynnu sylw'r Germaniaid, ac y mae brain duon y Kaiser yn ceisio hofran uwchben ein dinas ymron bob nos. Cefais deirawr annifyr nos Fawrth mewn tynel o dan y relwe yn Leytonstone magnelau yn rhuo gerllaw i in. a'r bombs yn disgyn o'r awyr ond drwy drugaredd cawsom ein gwaredu, er fod yno gannoedd ohonom. Diddorol ydoedd gwylio ysbryd a gogwydd y crowd ar achlysur felly. Rhai yn gollwng jokes allan, rhai yn ceisio canu. Awgrymwyd canu Tipperary,' ond fu fawr hwyl ar Tipperary,' ac ar ol rhyw ddwy llinell nen dair aeth yn Hush drwy'r lie—cystal a dweyd nad lie i ganu nonsense ydoedd lie felly fel yn yniyl glyn cysgod angeu. Yr oeddem wedi ein gwasgu at ein gilydd fel sardines un ddynes fechan yn agos i mi yn crynu drwyddi gan ofn a braw, ac ni fynnai ei chysuro. Eraill yn 11awn bravado, ac fel pe yn hidio am ddim na neb ond y rhan fwyaf yn rhyw wynebu'r storm yn eofn fel rhai yn credu os mai'r Kaiser oedd yn gwlawio'r tan arnom, mai yr Arglwydd sydd yn teyrnasu. Os oes panic yn Llundain yma, ymhlith y toreigners-Iddewon yn bellnaf-y ceir gafael arno. Hen lwfryn o'i fodd yw'r dyn du hefyd- y negro yn enwedig. Ond y mae naw o bob deg ohonom yn meddiannu ein heneidiau mewn amynedd. Go aflwyddiannus yw'r raids diw- eddaraf wedi bod, a saethwyd dau o'r cigfrain melltigedig i'r llawr nos lau. Ataliwyd y lleill rhag cyrraedd y ddinas. Nid yw ynfydrwydd creulonj^fel^hyu yn gwneud dim ond yn peri ein bod yn fwy penderfynol nag erioed i gael Germani i'r llwch a'r lludw. Cyhoeddodd rhai o'r papurau dyddiol fod Mr. Lloyd George, pan ddaeth swn yr adar duon yn agos, wedi cymryd motor ac allan ag ef i'r wlad. Yr awgrym, wrth reswm, ydoedd ei fod yn ffoi! Un o'r awgrymiadau mwyaf shabby yn y byd ar adeg fel hon. A chofier mai nid rhyw Dori lloerig fel y Morning Post oedd yn taenu'r stori. Y prif bechaduriaid oedd y Daily News a'r Westminster Gazette. Synnem fod yr olaf yn rhoddi aden i'r stori; ond am y Daily News, y mae hwnnw mor chwerw fel mai mel ar ei wefus ydoedd hen stori fel hon. Gwelir yng ngoleuni'r amgylchiad bychan hwn fel y mae'r hen bapur enwog, fu unwaith yn ein gwas- anaethu mor ardderchog, wedi syrthio oddiwrth ras. Nid yw'n syndod fod y Prifweinidog yn eu herlyn am libel. Nid oddiar amcanion per- sonol, ond fel dyledswydd gyhoeddus. Fel mater o ffaith, yr oedd y Prifweinidog ar ei ffordd i Ffrainc ar y pryd, ac yn wynebu peryglon tir a mor. Mae Dr. Vauglian Pryce, hen Brifathro New College, wedi blaenu, yn hen wr 82 mlwydd oed. Efe oedd rhagflaenor Mr. Morgan Gibbon Y11 Stamford Hill, ac yr oedd yn ddigon mawr i ymhyfrydu yn y llwyddiant mawr sydd wedi dilyn ei ganlynwr enwog yn y weinidogaeth honno. Ar ol diosg ei fantell fel prifathro, aeth yn ol i'w hen ardal, ac am y deuddeg mlynedd olaf o'i fywyd bu'n mwynhau gweinidogaeth ein cyfaill athrylithgar Morgan Gibbon, Bum yno yn pregethu yn ddiweddar, ac yr oedd Vaughan Pryce bob amser yn ei le ac yn wran- dawr annwyl iawn. Yr wyf yn gwneud hyn o gyfeiriad ato yn bennaf am ei fod, er nad wedi ei eni yng Nghymru (ond ym Mryste), ac er nad oedd yn medru llefaru ein iaith ni, eto yn falch o'i waed Cymreig. Vychan, wrth reswm, yw'r Gymraeg am Vaughan,' meddai, ac y mae Pryce yn llefaru drosto ei hun.' Hen Gristion annwyl dros ben oedd Vaughan Pryce, ac er nad oedd yn bregethwr mawr nac yn ysgolhaig llachar, eto yr oedd yn ddylanwad iach ac efeng- ylaidd dros ben ymhlith y myfyrwyr. Gwyn ei fyd Cefais nodyn oddiwrth frawd yn y weinidog- aeth yng Nghymru yr wythnos hon yn galw sylw at waith yr awdurdodau yn codi toll mor anghyfiawn ar ein pregethwyr teithiol. Mae pob swllt bellach yn ddeunaw ceiniog, ac y mae y week-end tickets wedi eu galw yn ol. Y can- lyniad yw fod cost y daith yn llyncu ymron yr oil o'r degwm geir am bregethu. Caulyniad arall yw fod llai o bregethu yn bod, ac yn ami dim pregeth drwy'r dydd mewn llawer man. Colled 1 grefydd ydyw hyn, a cholled i fywyd ysbrydol ein cenedl. Mater ydyw hwn i ofyn am con- cessions, a gadael i bregethwr fyned at ei gy- hoeddiad deithio fel cynt. Gwneir hyn o ffafr a rhai dosbarthiadau yn barod. Pa le mae'r Aelodau Cymreig ar y mater hwn ? Anfoner atynt o'r Cyrddau Misol a Chwarterol, yn gofyn eu sylw a'u help. Ac ond iddynt fod yn unol ac yn benderfynol, dylent lwyddo i gario'r maen i'r wal. Mae swn symud yn y gwersyll Seneddol y dyddiau hyn. Cawn fod y petiaethiaid yn ymgynghori ynghyd yn brysur iawn ar gyfer y Senedd-dymor nesaf yma. Mesur Radicalaidd drwyddo fydd Mesur Addysg Mr. Fisher. Mesur o gyffelyb natur fydd Mesur Helaethiad yr Ftholfraint. Mesur arall bery gynnwrf yn y wlad fydd y Mesur hwnnw fycld yn ail-drefnu'r etholaethau. Bydd yna gyfnewidiadau lawer yng Nghymru, a bydd ami i aelod yn dechreu byd o'r newydd-pan ddaw yr etholiad nesaf. Pa bryd y daw hwnnw, a pha brogram roddir o flaen y wlad, ydynt ymhlith y dirgelion bethau. Y mae un peth, modd bynnag, yn sicr ddigon fod eisiau gwaed newydd yn y Blaid Gymreig. Oes, y mae eisiau Plaid Gymreig, ac nid rhyw happy family fel yr un breseimol. Nid oes angen clean sweep. Mae yna aelodau campus rai ohonynt, ond am y cyfangorfl"—wfft iddynt Byddaf yn ami yn galw i gof sylw yr hen Radical hwnnw yng Nghricieth—ei fod yn credu yn Lloyel George hyd y earn, ond nid yn hoffi ei gwmni 'Does gan neb ohonom fawr ffydd yn Milner, ac nid yw ei hanes yn Affrica yn gwella pethau. Ar hyn o bryd mae'r wasg I Doriaidd yn canu clodydd Milner fel person nef-anedig ymron. Udrychir ar yr udganu hwn o flan Milner fel rhagarwydd fod rhyw swydd  bwysig yn ei aros. Ai rhyw baratoi'r ffordd I yw hyn ? Dylanwad gwrth-werinol yw dylanwad I diweddar Milner, er iddo gychwyn fel prentis o dan John Morley ac nid yw hen Radicaliaid fel ni yn hoffi gweled Milner a Carson a Curzon a'u cyffelyb yn y prif gadeiriau. Eto cofier fod y mesurau nesaf ddaw o flaen y Senedd yn fesurau gwerinol drwyddynt. Hynny yn profi nad y pechaduriaid hyn sydd yn llygru moesau da Lloyd George, ond mai efe sydd yn goleuo'r pechaduriaid. Cawn weledigaeth eglurach ar y pwnc cyn bo hir.

! Rhoi a Chymryd. I

' YR HEN GAPEL NIJWYDD.'

DIOLCHGARWCH.

YMHOLIAD.

[No title]

Tabernacl, Blaenrhondda