Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
,..DIOI/CHGARWCH. I
News
Cite
Share
DIOI/CHGARWCH. I At Olygydd y Tyst. I SYR,—A fyddwch chwi mor garedig a rhoddi i mi gongl fechan o'r TYST i gyfleu fy niolch- garwch o ddyfnder calon i'r lliaws cyfeillion a ysgrifenasant lythyrau o gydymdeimlad a mi yn fy ngalar a'm colled ? Derbyniais lawer o lythyrau oddiwrth gyfeillion, ac amryw oddi- wrth eglwysi a chyfundebau ac yr wyf, trwy gryn ymdrech, wedi eu hateb bob yn un ac un. Ond yn anffodus cawn fod rhai o'r mails wedi myned i waelod Mor y Caaoldir felly, os oes rhywrai heb dderbyn gair o ddiolchgarwch oddi- wrthyf, dyna'r esboniad. Hefyd, os darfu rhyw- rai ysgrifennu ataf tua diwedd Mai neu ddechreu Mehefin, da chwi, gyfeillion, ysgrifennwcli eto, gan fod y llythyrau hynny hefyd wedi myned yn aberth i raib yr EUmyn. Ydwyf, yn ddiolchgar iawn, Ambohimandroso, T. ROWLANDS. Betsileo, Madagascar, Gorff. 2ofed, 1917.
EGLWYS WAG.I
News
Cite
Share
EGLWYS WAG. I At Olygydd y Tyst. SYR,-Y mae yn fy mwriad ers peth amser I bellach i anfon gair neu ddau i'r TYST ar ymwel- iadau gweinidogion ag eglwys wag. Yr wyf yn digwydd bod yn. aelod mewn eglwys fellg ers tair blynedd, ac yr wyf wedi cael y fraint yn y cyfamser o wrandaw enwogion y pulpud yn traethu'r Hen, Hen Hanes gyda hwyl a bias; ond ofnwyf nad oes ffrwyth yn canlyn i'r graddau y disgwyliem. Beth sydd i gyfrif, tybed, am hyn ? Tebyg fod amryw o resymau a ellid eu henwi, ond boddlonaf y waith hon ar enwi un, ac mae hwnnw yn dra phwysig. sef eu hvmddyg- iad tuagat yr Ysgol Sul. Ychydig iawn o sylw delir ganddynt i Ysgol Sul yr eglwys wag. Ni chyfeiliornaf wrth ddweyd mai un o bob pedwar o'r gweinidogion a wasanaethant yn ystod y mis sydd yn presenoli ei hun yn yr Ysgol Sabothol. Mae rhyw esgus gan y tri arall yn bathaus. Un eisiau mynd i weled hen ffrind sydd yn aros yng nghymdogaeth yr eglwys wag, y llall yn teimlo anhwylder corftorol ar "brynhawn Sul, a'r un arall yn ymorffwys ar y syniad mai y boreu a'r hwyr yn unig ydyw ei gytundeb a'r eglwys am v Sul, ac felly yn rhydd o'r cyfrifol- deb am yr Ysgol. Carwn ofyn i'r tri wyr hyn a ydynt mor ynfyd a chredu fod Duw yn myned i fendithio eu cenadwri o dan y fath amodau ? Na, choelia i fawr. Os nad ydyw, mae'r eglwys yn gwario ei harian am yr hyn nid yw fara.' Gobeithio y gwna pob un feddwl am hyn mai eu lie ar brynhawn Sul ydyw yr Ysgol Sabothol tra fyddo yn gweinidogaethu i eglwys wag ac onide, gwna eu hymddygiad agor y drws i gytundeb am ddwy bregeth, ac nid am Saboth. Yr eiddoch, AEI,OD 0 EGLWVS WAG.
PRYNU'R FASNACH.I
News
Cite
Share
PRYNU'R FASNACH. At Olygydd. y Tyst. SYR,—Mi wn fod llawer fel fy hunan yn teimlo'n wir ddiolchgar i Mr. Pari Huws am roddi i ni ei anogaeth i bleidio Gwaharddiad hollol ynglyn a phwnc v Fasnach mewn diod feddwol. Gallem feddwl fed tuedd mewn amryw o'ch gohebwyr i gefnogi cynllun y PrifweinMog ynglyn a'r Pryniant, ac mae meddwl fod Mr. Eynon Davies a'r Prifathro T. Rees yn ffafriol yn beth anesboniadwy. Brodyr sydd wedi bod yn ddirwestwyr eithafol ar hyd eu hoes (os oes eithafedd ynglyn a'r mater yn bosibl) yn awr yn barod i wneud cyfaddawd a hyrwyddwyr y Fasnach sydd ar hyd y blynyddoedd wedi gwneud mwy o ddifrod yn y wlad nag a fedr neb ddych- mygu ac yn ol llythyr y Prifathro, mae llawer iawn o weinidogion Cymru o'r un farn. Ai nid mynd yn ein holau yr ydym fel hyn ? Mae'r ddiod mor feddwol ac mor niweidiol ag erioed ac er fod y pris wedi codi, ac arian y gwerth- iant yn y tafarndai wedi en cwtogi, eto ym- ffrostia'r tafarnwyr yn eu cymdeithasau fod y Fasnach yn talu'n well nag erioed. Os dylid gwneud ymdrech glir a diamwys o'r blaen, fe ddylid bod yn fwy egnlol o lawer yn awr. Mae'n gof gennyf ddarllen araith y Prifwein- idog ym Mangor ers peth amser yn ol ar y pwnc, a dyna ddywedai y pryd hwnnw Fod y fasnach feddwol yn llawer gwaeth gelyn i'r deyrnas hon na Germani nag Awstria. Yr oedd ysbryd iach, cryf, nerthol ac ysgubol yn rhedeg trwy yr araith o'i dechreu i'w diwedd, a theimlem am ychydig fod gwaredwr y caethion wedi gwneud ei ym- ddangosiad. Lloyd George, cyfreithiwr Dirwest- wyr y Gogledd, yn defnyddio ei safle fel Cang- hellydd y Trysorlys i arwain y byddinoedd i'r gad yn erbyn gelyn pennaf dynoliaeth. Fe god- wyd disgwyliadau'r wlad yn uchel, ac mi wn fod paratoadau wedi eu gwneud mewn amryw ardaloedd i roddi iddo'r gefnogaeth oreu yn ei ymdrech glodwiw. Ond wedi mynd yn ei ol i'r Ty, rhaid ei fod wedi gweled, er ein siom, fod dylanwad y Lords laddasant Fesur Dirwestol Asquith yn rhy gryf. A gallem feddwl ei fod er hynny yn ceisio cael llwybr canol i ddod allan o'r anhawster, ac o'r fan yma mae'r Pryniad wedi dod. Cais i ddigolledu'r perchenogion ar y draul o wneud y deyrnas yn uniongyrchol gyfrifol am y Fasnach. Honnir y gall y Llyw- odraeth felly leihau cyfleusterau i ymyfed. Y mae hynny'n bosibl ond y drwg yw, nid y gallu sydd ar ol yn awr, ond yr ewyllys. Mae'n rhaid cael Llywodraeth a'i hysbryd yn ddirwestol cyn y gellir gwneud daioni yn y ffordd hon. Fe gyplysir Dewisiad Lleol fel rhwyd er ceisio cael gan y dirwestwyr eithafol i lyncu'r Pryniad. Ond paham nas gellir gweithio o blaid Dewisiad Lleol yn ol syniad Syr Wilfrid Lawson, heb son am y Pryniad ? Credaf y byddai'n hawddacli o lawer i berswadio'r ardaloedd gwahanol i wneud i ffwrdd a'r Fasnach na'r llywodraeth- wyr, am fod cymaint o'u heiddo wedi ei fndd- soddi ynddi. Heblaw hynny, mae'n ofnus fod y rhan fwyaf ohonynt mewn cydymdeimlad
CODI PRIS 'Y TYST.'
News
Cite
Share
CODI PRIS 'Y TYST.' Oherwydd priuder a drudaniaeth papur ac achoaion eraill gotfodlr ni i godi pris y TYST i lic. yr wythnos, gan ddechreu yn yr wythnos gyntaf o ifs Hydref. Yr ydym wedi cadw at yr hen bris mor hired ag y gallem, ac nid o'n bodd y gwnawn y cyfnewidiad ond gwyr ein darllenwyr yn dda fod yn amhosibl i ni ddal ymlaen ymhellach heb fod yn golledwyr trwm bob wythnos. Deisyfwn am help a chyd- ymdeimlad a chefnogaeth ein derbynwyr yn yr argyfwng pwysig yr ydym ynddo fel gwlad, gan obeithio y gwawria dyddiau heddwoh yn faan ar ein daear. Yr eiddoch yn ff yddlon, Y PERCHBNOGION.
, RHAGOL YGON CRFFYDD.' I
News
Cite
Share
RHAGOL YGON CRFFYDD.' I At Olygydd y Tyst. BYR,—-Lymeral yn ganiataol mai chwi yw awdur yr adolygiad ar un o lyfrau Dr. Orchard geir dan y pennawd uchod yn y TYST am Medi igeg. Y11 yr adolygiad hwn ceir y gosodiad a ganlyn Nid yw Dr. Orchard yn cytuno o gwbl a safbwynt y gwrthwynebydd cydwybodol.' Carwn wybod ar ba sail y gwnewch y gosodiad hwn. Darllenais y llyfr a adolygwch ychydig wythnosau yn ol, ac heb un os yn fy meddwl i mae Dr. Orchard yn cytuno a safbwynt y gwrth- wynebydd cydwybodol, ie, ac yn foddlon mynd ymhellach nag ef, os rhywbeth, mewn dibynnu ar nerthoedd heddwch. Pa argraff arall fedr unrhyw un gael ar ol darllen ei adran ar The Perils of Pacifism'? Pa le ceir condemniad llymach neu lwyrach o safle yr Eglwys a'i har- weinwyr yn ystod y tair blynedd diweddaf ? Gellid dyfynnu'n ddiddiwedd allan o'r adran nodwyd ac o adrannau eraill i ategu hyn, ond mae gofod yn brin a drud heddyw. Ffaith arall a'm rhwystra i dderbyn eich gos- odiad yw, fy ngwybodaeth o'r hyn wnaeth ac a wna Dr. Orchard i helpu'r bechgyn amhobl- ogaidd hyn pan y dygir hwynt i rai o garcharda. Llundain. Pe yn anghytuno'n hollol a'u saf- bwynt, fel y tystiwch chwi, nis gallai byth fod wedi gwneud a wnaeth drostynt.. Ymhellach, dywedwch am y gwrthwynebwyr cydwybodol Maent yn fradwyr i'w cyfrifoldeb dinesig yn ddiameu.' Ond gaf fi ofyn, a ydynt yn fradwyr i'w cyfrifoldeb crefyddol. Ai gofyn- ion cyfrifoldeb dinesig ynte gofynion cyfrifoldeb crefyddol sydd i gael y llais llywyddol ym mywyd dyn ? Ac os mai yr un yw gofynion cyfrifoldeb dinesig a gofynion cyfrifoldeb crefyddol dyn, pa angen defnyddio'r ansoddair dinesig sydd mewn cysylltiad o'r fath ? Yr eiddoch, &c., Abercanaid. ENOCH HUGHES. Medi 2iain, 1917. [Ein bwriad oedd dweyd nad oedd Dr. Orchard yn gwbl yn cytuno a'r gwrthwynebwyr cyd- wybodol, ond rhywfodd aeth yr yn yn o, a gwna hynny gryn wahaniaeth. Cydymdeimla'r Doctor a hwy yn fawr, ac edmyga eu gwroldeb, ond nid yr un yw ei safbwynt ef a hwy. Ni ddywedasom air bach erioed am y gwrth- vvyriebwyr cydwybodol, ac yr ydym droion wedi condemnio'n ddiarbed ymddygiad y Ivlywodraeth tuag atynt, fel y prawf yr erthygl dan sylw. Ond daliwn er hynny i ddweyd eu bod yn fradwyr i'w cyfrifoldeb dinesig, er y gall hyn godi o'r hyn a dybiant eu cyfrifoldeb crefyddol yr un pryd. Cytunwn a Dr. 0. They are no doubt dangerous persons—per- sons who, if they were left free to go about, would stop at nothing to bring the war to an end, whatever the results might be.' Nyni sydd wedi italeiddio.—Goi,.] .JJ
' CYFLOGAU GWEINIDOGION ANNI-,…
News
Cite
Share
CYFLOGAU GWEINIDOGION ANNI- BYNNOI, At Olygydd y Tyst. SVR,Diolch am roddi eich colofnau yn rhydd at y pwnc yma mae eisiau cyhoeddusrwydd. Nid yw ein crefyddolder eto wedi cyrraedd at waelod ein natur—rhywbeth arwynebol ydyw, ac felly yn wir ar ol canrif o bregethau heb ei ail Y11 wyneD pob diffyg y dyddiau hyn, ychydig common sense sydd eisiau. Mae cyf- logau wedi codi chwe swllt. am bob punt cyn dyddiau'r rhyfel mae £ 100 y flwyddynwedi codi at £ 130. Mae cydwybod yn dweyd wrthyf am godi fy nghyfraniadau eghvysig yn debyg. Y mae'n bechod fod eisiau dweyd peth fel hyn. Mae gwirionedd ffeithiau pethau fel y maent yn ddigon i siglo ffydd dyn mewn effeith- iolrwydd pulpud Cymru Fu. Nid eisiau chwyddo ein cyfraniadau yn ol percentage- ein henillion y sydd yn unig, ond ein braint ydyw rhoi rhywbeth yn ychwaneg i wneud i fyny am roddion y bechgyn sydd dros y mor ar ein rhan. Os oes Duw a phulpud yn aros yng Nghymru, gadewch i ni sydd ar enw ein heglwysi ymdrechu ymdrech deg a gonest, Yr eiddoch. IDRIS.
DARIvLENIADAU BEIBLAIDD.
News
Cite
Share
DARIvLENIADAU BEIBLAIDD. At Olygydd y Tyst, SYR,—Y mae rhyw gymhelliad yn fy aflon- yddu i ysgrifennu gair ar y mater uchod. Caw- som ni yng Nghwmbach ein bendithio yn ddiw- eddar a chyfres o gyrddau arbennig, yn y rhai y caed gwasanaeth gwerthfawr y Parch. E. Keri Evans, M.A., Caerfyrddin. Fe'n harweiniwyd ganddo i efrydiaeth o Epistol Cyntaf loan, ac mewn chwech eisteddiad dysgwyd y gynulleidfa astud a dwys a'i gwrandawai i farcio a than- linellu'r adnodau sydd yn allweddu i'r Epistol. Afraid dweyd mor glir a nerthol ydoedd yr Athro yn ei ddehongliad o'r Gair, ond caniataer i mi ddwyn tystiolaeth i ddylanwad dwfn y cyfarfodydd. Ffurf y dylanwad ymysg yr ieuenctyd oedd gwneud ymofynwyr pryderus o rai sydd yn dueddol i wrando pregethau heb ymysgwyd i gwestiyno dim arnynt. Yr oeddynt mor fon- eddigaidd o'r blaen a'r Bereaid i Paul a Silas; ond fel hwythau y maent yn cael bias yn awr ar chwilio yr ysgrythyrau a yw y pethau hyn felly.' Sylwasom hefyd fod ymysg rhai henach ofal a phetruster newydd rhag cam-ddywedyd, neu or-ddywedyd, wrth draethu profiad ysbrydol. Daliwyd ni yn y darlleniadau hyn wyneb yn wyneb a safon-brofion (tests) y Gair fel y gallem wybod a oedd gennym y bywyd tragwyddol. Daeth grym dwyfol y Gair yn deimladwy o'r newydd i ni nes chwilio cyrrau'n calon, a'n gor-
PRYNU'R FASNACH.I
News
Cite
Share
dwfn a hi. Ceisio'r goreu yw y goreu, ac fe ddylai pawb wneud yr hyn allo mewn amser ac allan o amser er symud i ffwrdd yr afhvydd hwn. Burry Port. DAVID DAVIES.