Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Diaconiaid Ddoe si Heddyw.

News
Cite
Share

Diaconiaid Ddoe si Heddyw. GAN GRIFFITH JOHN. VI. Pan yn gorffen yr ysgrif ddiweddaf, rhedodd fy meddwl i'r blynyddoedd oeddent o'r tu ol i'r amgylchiadau y soniw^^d am danynt yn yr ysgrifau eraill. Yr amser hwnnw yr oedd fy rhieni yn aelodau yn Z- eglwys anenwog, ond a ddaeth ymhen rhai blynyddoedd yn glod- fawr led-led Cymru, cam's llanwyd ei pliulpud am dymor hir gan un o ddoniau hyotlaf ein gwlad yn yr oes o'r blaen. Yr adeg honno nid oeddwn i ond plentyn rhwng 9 a 12 mlwydd oed—yn rhy ieuanc, yn ol syniad y dydd, i fod yn aelod eglwysig. Ond pe gofynnid i mi heddyw pa bryd y deuthum yn aelod, atebwn yngwbl ddibetrus, 'Yr oedclwii felly er y cof cyntaf feddaf am danaf fy hun.' Er hynny, addefaf a gwrid cywilydd ar fy wyneb, Haeddwn lawer- oedd o weithiau wedi'm dyfod i oedran gwr i gael drws Eglwys Dduw ynghau i'nl herbyn.' Ond er pellecl y gwyrais oddiar yr uniawn, ac er gwyrgamed iy rhodiad, ni fum erioed heb deimlo i mai'r addoliad a'i anigylchoecld oeddent y pethau mwyaf eu diddordeb i'm meddwl. Ac mi wn hyd sicrwydd y tarawn i yn well ac yn esmwyth- ach yug llgwasanaeth Eglwys Dduw nag mewn odid i gymdeithas arall. A chredaf i mi ddod i'r cywair calon hwnnw ar gyfrif yr argraJfiadau daionus ac arhosol adewid ar fy ysbryd gan ymarweddiad a chynghorion a gweddiau dwys y rhai a flaenorent yn y capeli bychain a di- addurn a fynychid gellnyf pan oeddwn yn blen- tyn bach. Ac hyd yn oed yn awr, pan wyf wedi cyrraedd gwth o oedran, mae'r atgof sydd gennyf am eiriau a phersonau'r bobl dda hynny ynlvqg profiadau hyfrytaf fy enaid ac erys y dwyster gyda pha un y'm trafodent i a'm cyfoedion ieuainc yn flynhonnell gyson o ysbrydiaeth i tni ym mrwydrau bywyd. Maent hwy holl ers amser maith wedi distewi, a phob yr un ohonynt ym man fechan ei fedd.' Er hynny oil mae eu hysbiyd yn treiddio trwy fy ymwybyddiaeth. Gredaf heddyw, yn wyneb fy mhrofiad o fywyd, mai 311 ystod y blynyddoedd cydrhwng y 7 a'r 12 mlwydd oed yn hanes y plentyn y gosodir i lawr syifeini bywyd dyfodol y dyn. Hwyrach fod eithriadau-y sylweddola rhai pobl droedig- aeth lwyr wedi cyrraedd cyflawn oed. 0 bosibl, serch hynny, pe gwyddid hanes mewnol y cyfryw y canfyddid mai cynnyrch argraffiadau da tymor eu plentyndod achlysurodd eu troedigaeth. Gad- awaf y mater uchod i ystyriaeth y clarllcllycld gyda dweyd hyn yn ddios, un o hanfodion l1wydcliant presennol ein helwysi yw presenol- deb yn eu mysg naenoriaid yn awyddu yn angherddol am dywys plant bach i gredu fod IddYllt hwy-than ran bwysig yng ngwasanaeth yr Eglwys hefyd, eu dwyn i deimlo fod yn y gwasanaeth ddigonedd o ddiddordeb i feddyliau a chalonnau y plant lleiaf. Ac yr oedd yn Z- ar yr adeg yma dri o frodyr o leiaf oeddent fawr iawn yn eu dylanwad ar fy meddwl a'm calon i. Pobl ienainc oedd dau o'r tri, a'r trydydd yn ymylu, feddyliwn i, ar fod yn 50 mlwydd oed. Cyfeirir atynt yn ol E.T., D.T. ac R.E. Glowyr oedd E.T. ac R.E., a llafuriai D.T. yn un o weithfaoedd glannau'r Tawe. 0 ran ymddangosiad personol gwahan- 1aethent yn fawr iawn, ond eill tri o daldra corfforol cyffredin. Gogwyddai E.T. i fod yn gorffol, yn wridgoch ei wyneb, a'i wallt yn droellog a melyngcch. Cerddai megis un ag awdurdod ganddo. Prof odd ei hanes dilynol y Eieddai ar alluoedd deallol ciyfion. Doniwyd ef gan natur a gallu i ymadroddi'n rhwydd ac yn hyawdl, a gallai draethu ei syniadau a dehongli'r Ysgrythyrau mewn clull egl ur a byl&w. Bum yn ei ddosbarth yn yr Ysgol Sul am tua blwyddyn o amser. Ac er fod bb-nyddoedd .wer er yr adeg honno, erys yr ysbryd defos- tynol ymha un y trafodai ei ddosbarth yn ei Dylanwad daionus ar fy meddwl i yn awr bryd bynnag yr agoraf yr Ysgrythyr I,an. Pan 11 ynghyd yr brynhawn Sul cyfarchai ni » amser mcivii geiriau tebyg i hyn Nawr, n1 meehgyn i, cofiwch mai Gair Duw sy'n 'ch Wvlip chi a mae Duw 'i Hunan 'n'ch watsho hl shwt i chi'n bihafio, ac yn trafod y Beibl anctaidxl. Fe fydd E'i Hunan, cofiwcli, yn sharad a chi ymhob adnod ddarllenwch. Ac Os na fihafiwch chi, fe fydd yna alw i gownt arnoeh 'mhefi tipyn bach o amser.' Yna elid yiniaen a'r wers, ac yn sicr yn ysbryd y cyf- archiad. Teimlwn i fod difrifwch E-T.—difrifwch y gwn i yn awr sydd yn un o anhepgorion athraw u llwyddiannus-yngocchymyn as yn hawlio ymddygiad gweddus i'r achlysur, beth bynnag, yn ystod yr awr honno. Hogiau direidus ddigon oeddem ni y pryd hwnnw, ac mor anhywaeth a'r gwaethaf o blant ond nid oedd beryg £ i'r un ohonom, tra ym mhresenoldeb E.T., i roi'r ffrwyn i'n tueddrwydd drygionus. Gorchmynai ei wynepryd i ni gofio lie yr oeddem, a pheth oedd ein gwaith apwyntiedig. Er ieuenged oeddwn i pan yn nosbarth E.T., nid anghofiais ei gymhellion dwys ef i 3-mwneud bob amser a'r Oraclau Dwyfolmcwn ysbryd gwahanol a dis- gwyliad uwch nag a arferwn a phob Ityfr arall. Ac i Dduw bo'r clod, cefais un gyrn- hysgaeth trwy E-T. barhaodd yn gynorthwyol i mi ar hycl fy ymdaith grefyddol. Ac 11i ddy- munwn ragorach tysteb heddyw nag ym- deiinlad sicr fy mod innau wedi gadael argraff ddaionus a pharhaol ar galonnau'r rhai y bum innau yn eu haddysgu. Ymhen tua blwyddyn penodwyd D.T. yn athraw yn lie E-T. pam, nis gwn. Tebyg fod galwad am ei wasanaeth mewn rhyw ddosbarth arall. Mae'n dra sicr y gosodwyd rhyw orchwyl o waith o dan ei ddwylaw ef. Athraw rhagorol oedd D.T. hefyd ni welais ei well. Ond yr oedd ei ddull ef o addysgu yn un tra gwahanol i'r eiddo E.T. Rheolid ni gan yr olaf megis ag awdurdod gaffer gwaith glo ceid nodweddion swyddog felly ynddo fe lie bynnag y byddai. Ond ni theimlid yr amcanai at ormesu, eithr gwnaed ef gan natur i fod yn aroK-gwr ac yn hwylusydd camre'r llesg a'r egwan ei egnion. Lledneisrwydd oedd nodwedd amlycaf cymer- iad D.T. adnabyddid ef ar hyd ei fywyd fel un o heddychol ffyddloniaid Seion.' Denai ei bergonoliaeth garuaidd, a'i ddull esmwyth o ymvvneud a ni, ei ddisgyblion, bawb ohonom i gymryd diddordeb byw yn y gwersi. Gallaf dystio i'w addysg ef brofi'n fexidithfawr iawn i mi rhagllaw. Gwybodaeth gyfyng gredaf fi oedd gan E.T. rhwystrid ef gan ei alwedigaeth i fod yn ddyn darllengar. Dibynnai bron yn hollol am ei fedr i addysgu ar ei alluoedd deallol naturiol ond yr oedd yn effeithiol iawn, ac yn llawn gymaint felly ynihlith ei blant ar ei ael- wyd ei hun oblegid cododd dau o'i feibion mewn blynyddoedd diweddarach i amlygrwydd cymeradwyol ym nilndpud ein lienwad. Ond yr oedd D.T. yn wr llengar, ac yn gynefin a llenyddiaeth Gymraeg Feiblaidd y dydd. Ac yn y dosbarth bob amser amcanai ynghYlltaf oil i'w ddisgyblion i ddeall llythyren y wers, ac yna ei hystyr, a'i chyflead at fywyd yr ieuanc Pan yn meddwl am yr amser hwnnw ac am amynedd ac arafwch tymer D.T., rhyfeddaf lawer, oblegid pe buasai'n amddifad o'r grasusau hynny, gadawaai ni mewn anobaith. Ond glyn- odd yn ffyddlon, ac yn ffyddiog hefyd, gredaf fi, i ymdrecliu i'n dwyn i ystvried a meddwl drosom ein him. A tlirwy el ffyddlondeb diball ynghyda'i ddyfalbarhad, gwelodd lvvyddiant amlwg ymhen blynyddoedd ar ei waith oblegid ymhen amser cafodd yr hyfrydwch o weled amryw o'i ddisgyblion yn weinidogion cvmer- adwy, ac eraill yn llenwi safleoedd anrln-deddus yn yr eglwysi.

I Rhydlewis, Henllan.

Advertising