Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y DRYSORFA GYNORTHWYOL. -!

CADLE. j

News
Cite
Share

CADLE. Claddedigaeth.—Claddwyd y diweddar Mr. W. F. Samuel, ysgolfeistr, Cadle, ddydd lau, Gor- ffennaf y 6ed, yng nghladdfa Bethel, Scety. Yr oedd y gwasanaeth yn un tarawiadol neill- tuol, ac hebryngwyd ef i'r capel gan lu o'i berthynasau a chyfeillion, ynghyda llawer o'i hen ddisgyblion yng Nghlade, yn ogystal a'r athrawon presennol a'r disgyblion. Daeth ael- odau Cadle a Soar yn enwedig yn lluoedd i dalu eu gwarogaeth olaf o barch i'w goffadwriaeth. Gweinyddwyd gan y Parchn. J. Davies, Cadle J. H. Hughes, Soar; D. O. Rees, Scety; S. Williams, Glandwr, E. J: Hughes, Calfaria, a J. H. Stewart, ficer, Scety, y rhai oil a ddyg- asant dystiolaeth i'r golled drom i gymdeithas, addysg, moes a chrefydd o golli dyn mor rhag- orol. Gwasanaetliwyd wrth yr organ gan Mr. Davies, organydd Bethel, yr hwn a chwareuodd 0 Rest in the Lord' a'r Dead March in Saul gydag effeithiolwrydd neilltuol. Arweiniwyd y canu gan Mr. D. J. Richards, Cadle. Derbyn- iwyd nifer fawr o lythyrau o gydymdeimlad, ac yn eu mysg rhai oddwrth Mr. D. Lleufer Thomas, ynad cyflogedig, Peaitypridd T. Powell, arol- ygwr ysgolion, Castellnedd; W. Bryn Davies, arolygwr ysgolion, Barry, ac E. Samuel, M.A., Ysgol y Sir, Porth. Ymhlith y rhai oedd yn bresennol gwelwyd y Mri. D. B. Thomas, Dow- lais W. Evans, Llanelli; E. Powell, Castell- nedd D. Grey, Cadeirydd Bwrdd y Gwarcheid- waid, Abertawe, &e. Ganwyd yr ymadawedig ym Merthyr, Mawrth y X4eg, 1857. Mab hynaf oedd i'r diweddar Barch. F. Samuel, Soar, Aber- tawe—un o gewri Annibyniaeth yn Abertawe a'r cylchoedd am flynyddoecld meithion, cqffadwr- iaeth yr hwn sydd eto'n annwyl a bendigedig yn y cylch-ac yr oedd yn fab teilwng o dad mor deilwng. Apwyntiwyd ef yn ysgolfeistr yng Nghadle yn 1879, a daliodd y swydd hon yn anrhydeddus bron hyd ei farwolaeth. Fel ysgol- feistr ar yr ysgol hon am 37 mlynedd, yr oedd ei gymeriad unplyg, ei ymroddiad cydwybodol i'w waith, ei dynerwch, ei barodrwydd i gy- northwyo pob achos da a theilwng, wedi gadael argraff ddofn ar yr ardal, yr hon ni ddileir byth. Bu'n drysorydd eglwys Cadle am flynyddoedd, ac yn ddiacon, trysorydd ac athraw yn yr achos Annibynnol Saesneg yn y Gendros am gyfnocl hir, a gwerthfawrogid ei wasanaeth yn fawr. Cynhaliwyd oedfa coffadwriaethol iddo yng Nghadle nos Sul, Gorffennaf y gfed, a phreg- ethwyd gydag arddeliad gan y Parch. J. Davies, Cadle. Yr oedd y capel yn orlawn—tystiolaeth gref o'r parch a'r cariad deimlir tuag ato gan yr ardal yn gyfiredinol.

LLANDEILO A'R CYLCH.I

.Siloa, Maerdy.

CYFARFODYDD.