Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
;Salem, Caernarfon.I
News
Cite
Share
;Salem, Caernarfon. I Priodas.—Yn y capol uchod, dydd Mercher, Medi'r 5ed, unwyd mewn glan briodas Miss Enid Stanley-Jones, B.A, (merch hynaf y Parch. a Mrs Stanley Jones) gyda'r Parch. D J. Davies, B.A., Capal Als, Llanelli Gwas- anaethwyd gan y Parch. D. Stanley Jones, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. W. J. Nicholson, Porthmadog. Rhoddwyd y briod- ferch ymaith gan ei hewythr, Mr. Arthur J. Williams, cyfreithiwr, Porth, ac yn gweini arni vr oedd ei chwaer, Miss May Stanley Jones. Yn gweini as y priolfab yr oedd ei gefoder, y Parch. J. Brenni Davies, B.A., B.D., Gowerton. Golygfa hardd oedd gweled capel helaeth Salem yn orlawn o edmygwyr, tra'r oedd mwy na hynny wedi casglu tuallan yn methu cael mynediad i mewn. Yn ystod y gwasanaeth chwareuwyd amryw ddarnau pwrpasol gan organydd Salem, Mr Pritchard, a chanwyd dau emyn dan arweiniad Mr. Hugh Owen. Ymhlith y gwahoddedigion i'r boreufwyd yr oedd y rhai caulynol: -Mr. A. J. Williams, Porth; Mr. J. Bowen, H.M.I., a Miss Bowen, Casnewydd; y Parchn. W. J. Nicholson; J. Brenni Davies; ac E. C. Davies, Bynea, Llanelli; Mr. a Mrs. O. N. Roberts a Miss Menai Roberts, Abertileri; Mrs. Clarence Ellis; Miss Margaret Williams Miss G. Charles Jones, Caernarfon; Miss May Edwards, Manceinion; Mr. H. Owen a Mr. R Pritehard, Caernarfon. Mae'r amryw roddion a dderbyniwyd o ball ac agos gan y dieuddyn ieuanc yn arwydd gywir o'r lie dwfn sydd iddynt yng nghalon eu cyfeiUion. Treulia'r Parch. a Mrs. Davies eu mis mel yug Ngholwyn Bay.
Advertising
Advertising
Cite
Share
GARMEL, PENRHIWOEiiiu.-Y Parchn. Peter Price, B.A., D.D., Rhos, a J. J. Williams, Treforris, a wasanaethai yng ngwyl bregethu yr eglwys hon y Sul a'r Llun, Medi y 9fed a'r lOfed.
CYFUNDEB DWYREINIOL CAERFYRDDIN.
News
Cite
Share
CYFUNDEB DWYREINIOL CAER- FYRDDIN. Cynhaliwvd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yng Nghrugybar, dyddiau Mawrth a Mercher, Awst y 7fed a r 8fed, 19x7. Cynhadledd prynhawn Mawrth am 2 o r gloch, pryd yr ethol- wyd y Parch, D. Lloyd Morgan, D.D., Pontar- dulais, Y11 gadeirydd am y tro yn absenoldeb y Parch. R. Gwylfa Robert; D. Litt., Llanelli. Dechreuodd y Parch. W. James, Drefach, Llan- arthney, trwy weddi.-Dywedodd y Cadeirydd yn ei anerchiad agoriadol ei fod yn gwerth- fawrogi'r anrhydedd a osododd y Gynhadledd arno y prynhawn hwnnw, a'i fod yn falch o'r cyfle i longyfarch y gweinidog, y Parch. D. B. Richards, oedd wedi cyrraedd deugain mlynedd o waith y weinidogaeth yng Nghrugybar. Yr oedd wedi arwain diadell yr Arglwydd yn llwydd- iannus mewn cylch pwysig am y tymor maith a nodwyd, ac yr oedd ef yn enw'r Cyfundeb yn dymuno cyflwyno iddo ein dymuniadau da ynghyda gobaith yr estynnid iddo flynyddoedd lawer o ddefnyddioldeb yng ngwinllan yr Ar- glwydd.—Darllenwyd a chadarnhawyd cofnod-. ion y cyfarfod diweddaf, gyda'r ychwanegiad fod y Parch. J. H. Rees, Burry Port, wedi preg- ethu yn y cyfarfod hwnnw ar lachawdwriaeth o Ras '—mater roddwyd iddo gan Gynhadledd y Cvf un deb. —-D ar lien wy d llythyr oddiwrth Gyf- undeb Gogledd Morgannwg yn trosglwyddo'r Parch. J. Huws Jones, Siloa, Llanelli, i'r Cyf- undeb hwn fel gweinidog ffyddlon, pregethwr da, cymeriad glan, a brawd annwyl yng Nghrist, ac yn dymuno ei lwyddiant yn eigylch newydd. —Pasiwyd ein bod yn derbyn y Parch. J. Curig Davies, dyn ieuanc oedd newydd ei ordeinio .yn weinidog yn Berea, Bynea, yn aelod o'r Cyfun- deb, i fod yn ygfraillio,, -o'ii breintiau a 11 cyfrif- oldeb, gan ddymuno iddo lwyddiant mawr fel gweinidog da i Iesu Grist. Wedi siarad gan y Parchn. D. Richards, Myddfai J. Evans, Bryn, a W. Trefor Davies, Soar, Llanelli; J. H. Rees, A.T.S., Burry Port D. Lloyd Morgan, D.D., Pontardulais, a Mr. Morgan Griffith;, Berea, Bynea, rhoddodd y Cadeirydd i'r ddau ddeheu- law croeso i'r Cyfuildeb.-Cyiihclir y Cwrdd Chwarter nesaf yn Hope, Pontardulais, yn ol y gylchres, a'r Parchn. W. Bowen, Penygroes, a D. Bowen, Hermon, i bregethu ar y pynciau -y cyntaf ar fater i'w benderfynu gan eglwys yr Hope, a'r ail ar Lywodraeth Foesol Dnw '— a'r Parch. D. Huws Jones, Siloo, Llanelli, ar y Genhadaeth. Rhoddodd y Cadeirydd groeso calonnoc i'r Parch. Owen, Llanuwchllyn, i'r Gynhadledd.—Pasiwyd pleidlais o gydym- deimlad a'r Parch. T. Davies, Liangennech, yr hwn oedd mewn tristwch oherwydd cystudd ei dad tirion. Da gennym ddeall fod y driniaeth law-feddygol wedi pasio'n llwyddiannus, ac yn ol rhagolygon y claf yn adfeddiannu ei iierth yii gyflym. Dymunwn i'r Arglwydd fendithio'r oruchwyliaeth chwerw i'n hannwyl frawd ac i'w dad yn iachawdwriaeth a sancteiddrwydd. Hefyd ein bod yn cydymdeimlo a r Parch. D. Hewid Williams, Llandeilo, a'i briod, yn eu galar ar ol en 111am. Cysured Duw liwynt, gan eu cymhwyso-.i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni.-Ein bod yn cydymdeimlo a theulu- oedd sydd mewn galar dwys ar ol rhai annwyl a laddwyd ar faes y rhyfel nen a fuont feirw o'u clwyfau yn y clafdai neu o gystudd ac yr ydym yn cydymdeirnlo a theuluoedcl sydd mewn gofid- iau oherwvdd bod eu hanwyliaid mewn clafdai tan glwyfau ac wedi eu hanafu, neu yn gorwedd yno yn gystuddiol. Dymunwn i'r rhai hynny adferiad prydlon a chyflawn, Hefyd cydym- deimlwn a'r teuluoedd hynny ydyut mewn pryder dyddiol. rhag i'r peth a fawr ofnant ddyfod arnyut. Da lawn fyddai gennym pe deuai llywodraethwyr y teyrnasoedd i gydym- gynghoriad, a thrwy hynny osod diwedd ar dywallt gwaed pobl ddiniwed. Dymunwn ar y Tad Anfeidrol gysuro a nerthu'r holl rai trallod- edig yn eglwysi'r Cyfundeb a thuallan i'r eglwysi. Dymuna'r Gynhadledd ar bob eglwys ddarllen y penderfyniad hwn mewn cyfarfod ar y Saboth nesaf.—Penderfynwyd ein bod yn gohirio ystyr- iaeth o'r penderfyniad i gynnal Cyfarfod Chwart- erol yn y Cyfundeb pan fydd y Gymanfa yn y Cyfundeb Gorllewinol, hyd nes byddo'r rhyfel heibio.-Dygodcl y Cadeirydd waith y Gynhadl- edd i ben yn brydlon, fel y cawsom liannex awr o ymddiddan ar faterion ysbrydol a chymdeith- asol. Gorffennodd y Cadeirydd y Gynhadledd ragorol lion drwy weddi.—Yr oedd yn bresennol y Parchn, D. Lloyd Morgan, D.D., Hope, a G. Jones, Capel Newydd Hendy, Pontardulais W. Trefor Davies, Soar, J. Evans, Bryn, T. Orchwy Bowen, Ebenezer, D. J. Davies, B.A., Capel Als, D. Huws Jones, Siloh, a Curig Davies, Berea, Llanelli; E. G. Rees, Abergorlech D. Richards, Myddfai; W. Bowen, Penygroes D. Bowen, Hermon W. J. Williams, Carway John Davies, Capel Isaac J. H. Rees, Burry Port D. Har- ford Evans, Crosshands J. C. Evans, Llandebie S. Thomas, Salem, Llandeilo R. G. Owen, B.A., Llanuwchllyn; D. J. Moses, B.A., Moriah, Ty- croes W. James, Drefach; T. Thomas, Llan- deilo; D. B. Richards, Crugybar; J. Davies, Tabor, Llanwrda G. G. Williams, Gwynfe, a D. Harriet, Penrlieol, Llandeilo Mri. Morgan Griffiths, Berea, Bynea, a D. Howells, Bryn, Llanelli; Seth Jones a D. Thomas, Capel Als, a D. Phillips, Soar, Llanelli; Isaac Lloyd a H. Thomas, Tycroes; H. W. Griffiths, Llandeilo R. W. Jones, Pumsaint, a James Morgan, Albert Mount, Caio.—-Pregethwyd y noson gyntaf yn Pumsaint gan y Parchn. W. J. Williams, Carway, ac S. Thomas, Salem, Llandeilo yn Caio gan y Parchn J. H. Rees, A.T.S., Burry Port, a D. Richards, Myddfai; yn Siloh, Llansawel, gan y Parchn. T. Orchwy Bowen, Llanelli, a T. Thomas, Llan- deilo.—-Dechreuwyd yr oedfa yng Nghrugybar gan y Parch. Curig Davies, Berea, a phregethodd y Parchn. D. J. Davies, B.A., Capel Als, a D. Huws Jones, Siloa, Llanelli.—'Dechreuwyd oedfa bore Mercher am 10 gan y Parch, J. C. Evans, Llandebie, a phregethodd y Parchn. G. Jones, Capel Newydd Hendy, a J. Evans, Bryn, Llan- elli-y cyntaf ar Hawliau Crist,' mater rodd- wyd iddo gan Gynhadledd y Cyfundeb.—De- chreuwyd oedfa 2 o'r gloch gan y Parch. D. Bowen, Hermon, a phregethodd y Parchn. D. J. Moses, B.A., Tycroes, a W. Trefor Davies, Llan- elli.Pregethw-yd yn oedfa 6 o'r gloch gan y Parchn, D. Harford Evans, Crosshands, a D. Lloyd Morgan, D.D., Pontardulais. Gwnaed y casgliad arferol at Drysorfa'r Cyfundeb yn yr oedfa hon.—Gwnaeth gweinidog ac eglwys Crug- ybar drefniadau helaeth ar gyfer derbyn y Cwrdd Chwarter, a chariwyd y trefniadau hynny allan yn hwylus—cerbydau yn ein cyfarfod yn Llan- wrda, a dymunol iawn oedd y daith oddiyno i Grugybar, canys yr oedd y prynhawn yn deg. Cawsom gyflawnder o groeso-bwyd mewn cyf- lawnder, bara heb flas rhyfel arno, byrddau wedi eu haddurno'n deg, a chwiorydd serchog yn gweini. Croesawyd a lletywyd ni mewn teulu- oedd yn urddasol-rhai. yn caru Crist ac yn awyddus i ogoneddu Ei enw. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch cynnes iawn i bawb am eu croeso a'u derbyniad. Hebryngwyd ni yn ol at y tren mewn modur. Er fod y gwlaw wedi dod dydd Mercher, caswom gynulleidfaoedd mawrion, a phregethodd y gweinidogion gyda, nerth. Llongyfarcliwn y gweinidog ymdrechgar ar ol deugain mlynedd o lafur. Yr oedd yn hoyw ei ymddangosiad, egniol ei feddwl, clir ei lais, ac angherddol ei ysbryd. Llawer wyneb a goll- wyd o'r rhai oedd yn y Cwrdd Chwarter diw- eddaf gynhaliwyd yma, ond cafodd rhai aros hyd heddyw. Boed bendith Duw ar ymweliad y Cwrdd Chwarter, ar eglwys enwog Crugybar, ac ar vr ardaloedd cvlchvnol. .¡ JOHN EVANS, Ysg. I
ILlantrisant.
News
Cite
Share
I Llantrisant. Oyfat-fod Blynyddol yr Ysgol Sabothol.- Cynhaliwyd yr uchod y Sul cyn y diweddaf. Pregethwyd yn y bore gan y gweinidog, cafwyd cyfarfod adrodd a chanu yn y prynhawn, a gwasanaeth cstn o'r enw • Y Gwynfydau I yn yr hwyr. Cafwyd cyfarfodydd da-y plant a'r rhai mewn oed yn gwneud eu rhan yn hynod fedrus. Arweiniwyd y gan gan Mr. G. T. Davies, Y.H. Cyfeiliwyd gan Miss Bronwen Lewis, A.L.C.M. Y mae pob talent yng ngwasanaeth yr Arglwydd yn cael ei gogon- eddu. Yr Ysgol Sul yw mamaeth cewri Ysgrythyrol y gorffennol a gobaith cewri y dyfodol. Llongyfarchiad.-Llongyfarchwn Miss A. Owen ar ei llwyddiant yn sicrhau y gradd urddasol o B.A. yng Ngholeg y Brifysgol yn Aberystwyth. Cartref Miss Owen yw Hawen Athosa ar hyn 0 bryd gyda'i chwaer yn Llantrisant.?Rhwydd hynt iddi i ddringo grisiau anrhydeddus addysg yn y dyfodol fel yn y gorffennol. Goreu art, arf dysg.' Goreu dysg, dysg Crist.
0 FRYN I FRYN.
News
Cite
Share
'l .LI ——— rhoi un cam yn barod. Ac 0 1 mor annwyl ysiaredir am dano yn wyneb hyn. Meddai y Dr. J. D^Jones, M.A. We pray that he may be as richly blessed in the ministry of the Established Church as he was during the twenty years he spent in the work of the Congrega- tional ministry.' Nis gallwn ddeall y weddi hon, yn enwedig y gradd o lwyddiant a ddymunir. Dymunwn ninnau am lwyddiant Eglwys Loegr, ond nis gallwn weddio dros y rhai sydd o'i mewn yn tolach a'r Babaeth canys y mae llwydd y Babaeth yn ddinistr i Brotestaniaeth. Cadwer hyn mewn cof yn y dyddiau hyn. Wele ychydig o gwestiynau p bapur gwlad a wyr yn well am y Babaeth nagy gwyddys yng Nghymru. 'Sut mae'n digwydd taw y Gwyddelod Pabyddol ydyw'r unig rai ym Mhrydain y ca.y German- iaid gyfeillion o'lvplith ? 1 Sut yr hapia fod y Ffrancod a'r Canadiaul Pabjddol yn danfon dim ond 10,000 i wneud byddin o 250,000 ? Sut mae cyfraniadau'r Protestaniaid dros y byd yn 10 ar gyfer 7 o eiddo'r Babaeth i ddioddef- wyr Belgium ?' A gallwn ninnau ychwanegu un cwestiwn bach atynt, a dyma fe Pam yr ymholir yn fanwl ac y bygythir yn llym gan y swyddogaeth Babaidd, os bydd i neb o'r Belgiaid a gedwir mewn adeiladau Protestan- aidd fynychu addoliad crefyddol y Protestan- iaid a'r Ymneilltuwyr ? Y mae i Gymru heddy w -le, i'r Cymry heddyw—wers o hane3 ac un cam y Cardinal John Henry Newman, a honno J ydyw ein bod a'li holl ddeall a'n cydwybod i wylio ar ein chwaeth a'n ffansi mewn crefydd. Ac mae'r ffansi i'w wylio'n llymach na'r chwaeth. Oe, ffansi ydyw'r oes hon. Ac er holl fawredd Newman, cam ffansi ydoedd ei un cam ef. Dyma'r peth sydd yn rheoli'r byd ar hyu o bryd-ffalld. Y mae ef i'w weld yng nghrefydd y tad fel yng ngwisg y ferch, ac yn addoliad y saint fel lyn fienestr y dilledydd a'r myglyswr. Faint o ffansi sydd yn ein crefydd ? Hyn a'n dyd ar y'llwybr a a i ffurf, a defod, a Phab. IJi-i caiii, a boddlon wy' Caner ymlaen, os mynner, ynghanol 110s J. H. Newman, ond gocheler govs a gwaun yr emyn. |