Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

AT Y BEIRDD.II

News
Cite
Share

AT Y BEIRDD. II Ymadawiad y Parch. E. Macdonald.—Mne y ] llinellau hyn o'r goreu i'w darllen mewn cyfarfod ymadawol, ond o'r braidd y talant am eu har- graffu. Yr ydym yn gorfod gwrthod llawer o bethau tebyg. Y Parch. D. Rees, Capel Mawr.—Cymeradwy. Sio;,n.-Cin dlos, a'i chyffyrddiad yn fedrus a chain. Nid ydym yn hoffi dechreu'r pennill olaf- Y swyn a fantellai y llyfnu, A'r pleser a gawn yn y gwaith, Hwy ffoisant fel niwl o flaen heulwen, A heno mae'r talar yu faith. Gwell fuasai dweyd bod y swyn a'r pleser yn ffoi fel heluwen o flaen niwl nag fel uchod. Ond ymddengys fel y mae. Plant yr Ysgol Sir, &c.—Cymeradwy iawn, oddigerth yr englyn olaf. Hawdd gweled bod rhyw gloffni rhyfedd ar hon.- Yr un drwg fawr iawn o dro-ddeil ei dir.' Dewi AIedi.-Cyineradwy, er iiad oes yn y gan gymaint o gelfyddyd ag o galon. Can Natur.—Ymddengys wedi peth trwsio. Peidiwch ysgrifennu eanghau ni freuddwyd- iech am siarad felly. Rhaid i'r emyn gael myned i'r fasged, am ein bod eisoes wedi cyhoeddi gor- mod o emynau heb ddim neilltuol ynddynt. Dechreu Oedfa.—Oes, y mae prinder fel y dywedwch. Ond anodd iawn yw osgoi cyffred- inedd. Ymddengys y ddwy. Emyn: Craig yr Oesoedd.-Yinddeng-ys, am eich bod yn ieuanc. Treiwch destyn gwahanol. Rhaid cael bywyd ysbrydol cyfoethog i ganu emyn mawr ac nid ar ddechreu'r daith, fel rheol, y ceir hwnnw. Efe a Gollasid ac a Gaed.-Yiiiddengys, os gall y cysodydd ddarllen eich llaw. Cofiwch atalnodi. Mae rhyw ddwyster hyfryd yn rhedeg drwy'r penillion. I Pedyog.-I mewn ar ei union, Bihn bron a chylymu hwn wrth ei gynffon- Gwerin ni phaid a'i garu,—a heulwen Oleu dry'n afagddu Cyn y ceir caniiau cu Organ Pedrog yn pydru. Yr Eira, &-c.—Cymeradwy. Dylech osgoi ymadroddion gwerinol fel Dest yma,' Dei ar frongoch.' Bu rhai o'r penillion i Gydwybod broil myned yn rhy farddonllyd. Croesaw Gweinidog Bynea.—-Campus i gyfar- fod croesaw, ond rhaid cau'r golofn hon i ddarnau o'r fath os na bydd teilyngdod mwy na'r cyff- redin. Hen Ddyffryn Ceri^—'Ymddengys. Croesaw bob amser. Priodas Euraidd, &c.-Bliii gennym fod ein gofod yn llawer rhy brin i roddi i mewn un ar bymtheg o benillion ar destyn fel hwn. Gwrth- odwyd eisoes lawer o'u bath. Y Cwmwl Gwyn.—-Cymeradwy iawn. Cofiwch sillafu fel hyn—' melys,' afiaith,' disglair.' Hefyd peidiwch roddi'r fannod o flaen enw afon byth. Ym mro ramantus Taf '—nid y Taf. byth. Yin mro rama- Fe'i gwelwch yn enwau lleoedd.' Glan Taf, nid Glan y Taf; Aberteifi, nid Aber y Deifi,' &c. Da gennym weled boneddiges yn gwneuthtir cvstal cynnyg am gan dlos. Mae gennych awen felyo, ac y mae'n werth i chwi drafferthu er mwyn ca1u'n gywir a glan. Gweddi, Y Morwr, &c.-Gresyn i gystal cyng- aneddwr a chwi ysgrifennu'r ddwy ochr i'r ddalen. Anfonir eich gwaith i'r Swyddfa, ond gobeithio y bydd y cysodydd mewn tymer weddol ar y pryd. Y Nos.-I'r Swyddfa. Ym myd' y gorthrýmderau.Gwell i chwi adael yr emyn fel yr anfonwyd ef i'r Swyddfa. Nid yw agos cystal y tro hwn. Oni theimlwch wendid chwaeth mewn llinellau fel hyn Y llidiog fellt ddiffoddaut Yn nhrochion gwaed fy Nuw.' y Parch. Tywi Jones a Moelotia.-Heb frych- euyn na chrychni. Y Milwr.—Vx Swyddfa. Heddyw y Byd, &-c.—I'r Swyddfa. Carem yn :avvr i chwi anfon darnau byrrach. Ceisiwch jromii eich meddyliau i linellau byrrach ac ymadroddion byrrach. Tuedda eich gwaith, fel y mae, i fod yn wyntog a chwyddedig. Mae'r ffasiwn hoxmo yn prysur ddarfod o'r tir, a gwared da ar ei hoi. Erfyniwn unwaith eto am i'n cyfeillion beidio ein blino a darnau nad oes iddynt ond diddordeb Lleol neu bersonol. Yn ddieithriad, djoia'r pethau hwyaf a gwannaf a ddaw i mi. Hefyd, yr ydym ar gael digon ar yr emynau. Nid ydynt nemor byth ond ymadroddion y cyfarfod gweddi a'r gyfeillach wedi feu hodli. Cafodd amryw ym- ddangos, nid am fod teilyngdod ynddynt, ond am fod eu hawduron yn ieuainc. A hefyd, trist yw gweled beirdd cyfarwydd fel pe wedi pen- derfynu na ddysgant ddim ynglyn a'r orgraff. Nid am fod ganddynt wrthwyneibad i ddyblu cydsain, canys gofalant ei dyblu bob tro pan na bo eisiau. Sylwed pob un ar y cyfnewid fu ar ei waith pan ymddengys, a gwnaed ei oreu i wybod paham y newidiwyd pethau. J. J. W ILYLYLAMS.

Y DA. -I

Y MILWR. I

Advertising