Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
 Llandeilo a'r Cylch. i
News
Cite
Share
Llandeilo a'r Cylch. Gwn y bydd yn flin gan liaws cyfeillion a chydnabod Mr. H. W. Griffiths, Gwili House, Llandeilo (gohebydd ffyddlon y TYST a adna- byddir wrth yr enw Tywifab), ddeaU ei fod ar hyn o bryd yn Ysbyty Abertawe yn mynd dan driniaeth feddygol. Dymunwn iddo wellhad buan i'w gynefinol iechyd, Un o swyddogion ffyddlonaf eglwys y Capel Newydd ydyw. Fel y gwyr Uawer ohonom, nid oes gartref nac ael- wyd yn y wlad barotach ei lletygarwch i wein- idogion a myfyrwyr ein Henwad. Mae Mrs. Griffiths ac yntau yn eithriadol yu y cyfeiriad yma. Gobeithio y bydd adref yn fuan gyda'i deulu anuwyl. CYFAILL,
u ^ Machynlleth a'r Cylch.…
News
Cite
Share
u Machynlleth a'r Cylch. $Oydymdeimlad.—Oydymdeimlir yn gyffredinol 4'r brodyr Mri R. L. Williams, Penrhosbach, a John Richards, Cwmbyr, oherwydd colli eu gwragedd—y oyntaf wedi ei adael gyda phump o blant bychain yn amddifad o fam, a'r olaf gyda dan o blant. Y mae'r ddan frawd yn ddiacon- iaid yng nghyloh gweinidogaeth y Parch. W. Thomas, Aberhosan, yr hwn a wasanaethai yn y claddedigaethau. Eiddanwn iddynt nawdd Oysurwr Mawr y byd. GWULDWR.
I Y WERS SABOTHOL I 1; 6 §…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
I Y WERS SABOTHOL I 1; 6 § Y WERS SABOTHOL. §6 I | Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. | I Gan y Parch. D. EUROF WALTERS, § M.A., B.D., Abertawe. Q 4 4 lVIEDI 23ain.-Dalliel yn Fian y I,lewod.— Daniel vi. Y 'fESTYN EURAIDD.—'Angel yr Arglwydd a gastella o amgylcli y rhai a'i hofnant Ef, ac a'u gwared hwynt.'—Salm xxxiv. 7. SONNIR yn nechreu pennod v. am Belsassar y brenin,' a dilynir ei hanes yn gwneuthur gwledd. Ac yn niwedd y bennod a diwedd y wledd dy- wedir Y noson honno y lladdwvd Belsassar brenin y Caldeaid. A. Darius y Mediad a gyiner- odd y frenhiniaeth.' Ac yn niwedd pennod vi. ceir y geiriau 'A'r Daniel hwn a lwyddodd yn nheyrnasiad Darius, ac yn nheyrnasiad Cyrus y Persiad.' (Cymharer i. 21 'A bu Daniel hyd y flwyddyn gyntaf i'r brenin Cyrus.') Gwneir i fywyd Daniel felly ymestyn dros deyrnasiad pedwar o frenhinoedd-Nebuchadresar,Belsassar, Darius a Cyrus. Yn ol v. 11, mab i Nebuchadresar ydoedd Bel- sassar. VV mae haneswyr mewn dyryswch gyda golwg ar y brenin hwn. Gwyddys am dywysog o'r enw Belsassar (Belshazzar, neu Bel-sarra- usur), ond mab ydoedd efe i Nabunaid, brenin olaf Babilon, yr hwn a deyrnasai pan gymer- wyd Babilon gan Cyrus. Rhwng Nebuchadresar a Nabunaid bu tri o frenhinoedd ar orsedd Babilon. Ond dichon y gelwir Nebuchadresar yn dad i Belsassar yn yr un ystyr ag y gelwid Dafydd yn dad i frenhinoedd Judah. Ac er na fu Belsassar yn frenin ar Babilon, y mae prawf yn hen gofnodion Babilon ei fod yn dal swydd bwysig dan ei dad; ac efallai, tra yr oedd ei dad oddicartref yn rhyfela, mai efe weinyddai'r llywodraeth. Y mae mwy o anhawster gyda golwg ar Darius y Mediad,' yr hwn a gymerodd y frenhiniaeth' ar ol Belsassar. Dywed hanes yn bendant mai Cyrus y Persiad gymerodd Babilon, ac iddo flynyddoedd cyn hynny orchfygu'r Med- iaid a meddiannu eu teyrnas. Ond y mae'n ddigon posibl fod cynrychiolydd i Cyrus yn llywodraethwr ar Babilon am beth amser son- nir am Gobryas, a dichon fod awdur Llyfr Daniel yn golygu hwnnw wrth yr enw Darius. Wedi nodi rhai o'r anawsterau a flinant yr ysgolheigion, rhaid i ni eu gadael. gan gymryd y Wers, megis y cymerasom hanes y tri llanc, fel pennod yn calonogi Iddewon gorthrymedig yn eu ffyddlondeb i'w crefydd dan anfanteision. Dyrchafwyd Daniel gan Darius uwchlaw y rhag- lawiaid oil, ac enynnodd hynny eu digofaint. Oblegid hynny cynlluniant i rwydo Daniel. Gwyddant am ei ymlyniad wrth grefydd ei dadau mewn gwlad ddieithr. Ant at y brenin gyda chyngor iddo lunio deddf yn gwahardd i neb am fis cyfan erchi dim gan na duw na dyn ond y brenin. Llunir y ddeddf a chyhoeddir y gorchymyn. Ond a Daniel i'w dy ar oriau gweddi, a theirgwaith y dydd y gweddia ar ei Dduw, a'i ffenestri'n agored tua Jerusalem, er bod y ddeddf yn bygwth y teflid y neb a dros- eddai i ffau y llewod. Gwylid Daniel gan y rhag- lawiaid eraill, a phan welwyd ei fod fel arfer yn gweddio Duw, cyhuddwyd ef wrth y brenin. Bwriwyd Daniel i ffau'r llewod, ond ni chysgodd y brenin y noson honno. Gyda'r wawr aeth y brenin at enau'r lfau, a da oedd ganddo wybod fod Daniel yn fyw. Cyfodwyd Daniel o'r ffau, a bwriwyd y cyhuddwyr a'u teuluoedd i mewn 'Ac ni ddaethant i waelod y ffau hyd oni orch- fygodd y llewod hwynt, a tlryllio eu holl esgyrn.' Cyhoeddwyd drwy'r deyrnas fod Duw Daniel i'w ofni a'i barchu Oherwydd Efe sydd Dduw byw, ac yn parhau byth; a'i frenhiniaeth Ef yw yr hon ni ddifethir, a'i lywodraeth fydd hyd y diwedd.' Fel y bu i'r tri llanc gael eu gwaredu am ymwrthod ag eilunaddoliaeth, felly y gwared- wyd Daniel am lynu wrth grefydd ei dadau. Felly y bu profedigaethau i'r Iddewon ar y naill law i gydymffurfio ag arferiou y Cenhedl- oedd, ac ar y flaw arall i wadu eu crefydd a'u harferion cenedlaethol. Heb deml yn y golwg, 11a chymdeithas ei gyd-genedl, daliodd Daniel y prawf. Felly y dylai'r Iddewon erlidiedig hyn wneud. Dysgwch y ddameg hon.' Ni lwydda un offeryn a lunier i'th erbyn a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i'th erbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr Arglwydd, a'u cynawnder hwy sydd oddiwrthyf Fi, mcdd yr Arglwydd' (Esaiah liv. 17). Ac i ninnau y mae yr un wers heddyw, pan y mae egwyddor- ion yn cael eu hanwybyddu. Oni cklylid cofio bod egwyddor yn gysegrcdig-yn fater ag y mae tynged enaid yn dibynnu arno ? Rhoddir heddyw mwy o bwys ar y corff a'i fuddiannau tymhorol nag ar cnaid a'i dynged tragwyddol. Adn. 1-9.-Gorchymyn y blcnin. Yn nechreu ei deyrnasiad gosododd Darius 120 o lywodraethwyr ar y wlad, a thri arlywydd ar y rhai hynny. O'r tri yr oedd Daniel yn un (nid yn bennaf ohonynt,' eithr yn un ohonynt —-adnod 2). Oblegid yr ysbryd rhagorol oedd ynddo ef,' rhagoroi Daniel ar y ddau arlywydd arall, a bwriadai'r brenin ei osod ef ar yr holl deyrnas. Cyffrodd hyn eiddigedd y swyddogion oil, a gwylient am fai ynddo fel y gallent.gwyno arno wrth y brenin. Ond yr oedd efe yn ffyddlon ymhob peth. Gwelsant nad oedd iiiodd ei rwydo yng nghyflawniad ei swydd. Ni chawn yn erbyn y Daniel hwn ddim achlysur, oni chawn beth o ran cyfraith ei Dduw yn ei erbyn ef.' Yna y daeth y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr yn derfysgus (adnod 6) at y brenin, gan geisio ganddo osod deddf frenhinol, a gwneuthur gwaharddiad cadarn, fod bwrw i ffau y llewod pwy bynnag a archai arch gan un duw na dyn dros ddeng niwrnod ar hugain,' ond gan y brenin. Pherm,ydd hyn y seliodd y brenin Darius yr ysgrifen a'r gorchymyn." Adn. 10-17.—Daniel yn gweddio. Arferai Daniel weddio dair gwaith yn y dydd, a hynny a wyddai'r rhaglawiaid a'r Uywodraeth- wyr. Yn awr yr oedd ganddo yn ei oruwch- ystafell ffenestri yn agored tua Jerusalem. Jerusalem ydoedd mangre'r deml a chartref gobeithion yr Iddewon, ac arferai'r Iddewon droi eu hwynebau i gyfeiriad Jerusalem pan nad oedd ganddynt deml mewn gwlad ddieithr. Ni wnaeth gorchymyn y brenin un gwahaniaeth yn arferion addolgar Daniel. Daliwyd ef ar weddi gan ei elynion, a daethant at y brenin gyda'r cyhuddiad yn ei erbyn. Nid ar unwaith y gos- ododd Darius y .ddeddf mewn gweithrediad efe a fu hyd fachludiad haul yn ceisio achub Daniel. Ond y gwyr hynny a ruthrasant dra- chefn at y brenin, i'w gymell i gosbi Daniel. Bwriwyd ef i ffau y llewod, a seliwyd carreg ar enau y ffau, fel na byddai newid amcan o berthynas i Daniel.' Yn groes i'w ewyllys y bwriodd y brenin ef i'r ffau, a gobeithiai'r goreu Dy Dduw yr Hwn yr ydwyt yn Ei wasanaethu yn wastad, Efe a'th achub di.' Adn. 18-28.-Cctit sa/nau'r llewod. Noson ddigwsg fu honno i'r brenin, heb fwyd na cherdd. Ar doriad y wawr brysiodd at y ffau, a galwodd ar Daniel. Yntau, fel pe na fuasai dim gwahanol i arfer, a gyfarchodd y brenin 0 frenin, bydd fyw byth.' YmheUach, eglurodd pa fodd y bu: Fy Nuw a anfonodd Ei angel, ac a gauodd safnau y llewod, fel na wnaethant i mi niwed,' &c. Ar hynny codwyd Daniel o'r ffau, a thaflwyd y cyhuddwyr a'u plant a'u gwragedd i'w fiarpio gan y llewod. Fel y bu gyda'r tri llanc, felly y bu gyda Daniel Ni chaed niwed arno, oherwydd credu ohono yn ei Dduw.' Gadawodd y waredigaeth effaith mor ryfedd ar feddwl Darius fel y danfonodd orchymyn at holl bobloedd ei deyrnas ar i bawb grynu ac ofni rhag Duw Daniel yr Hwn a waredodd Daniel o feddiant y llewod.'
Advertising
Advertising
Cite
Share
TRI 0 GATECISMAU (A R GA N) I BLA NT, Gan y Parch. H. T. JACOB. Atorgwawi. ( I.— Y Deg Gorchymyn. Sef- 4 II.—Y Nefoedd. (III.—Y Gaethes yn Nht Namaan. Y Tri uchod yn Un Paniphledyn.-fth Otinlog. loc. y Dwsiu. 30 am 38. icoamss.ad. dudlad wwdt of Mo mm Iteadil. — I'w cael o Swyddfa's TYs' MSRTHYK
PRYNU'R FASNACH FEDDWOL. -
News
Cite
Share
GOHEBIAETHAU-parhad. dibynnu am en bywoliaeth ar y Fasnach. Ac yn ol arfer y Ivlywodraeth, diau y bydd llu o swyddogaethau breision a blwydd-daliadau da ynglyn a'r busnes yu ei agwcdd ncwydd. Di- ddymu'r vested interest, wir Ai nid ei ehangu a'i barchuso y byddys ? A difrifolach 11a dim ydyw y bydd gan y Llyvvodraeth fwy o vested interest yn y Fasnach nag erioed.. Ac nid rhyfedd ei bod am ddal ei gafael ynddi, oblegid gall yr elw oddiwrth y Fasnach leihuu peth ar y perygl o Conscription of Wealth er tain dyled y rhyfel. Nid rhyfedd mai'r bobl gyfoethocaf sydd fwyaf selog dros ei phrynu. Ond syniad ofnadwy yw peryglu bywydau'r plant sy'n fyw er talu dyled y rhyfel gwympodd y rhai a gollwyd. 4. Dywedir liefyd fod llu o ddynion cyhoeddus Cymru a Mynwy wedi arwyddo Memorial o blaid y prynu. Gwelais y rhestr, a theimlwn yn falch mai ychydig iawn o wcinidogion yr Eglwysi Rhyddion a gynhwysai. Er fod llawer o'n hynadoii yn wyr blaenllaw yn ein heglwysi, dichon na ddylid syunu fod cynifer ohonynt yn y rhestr, gan mai creadigaeth y Ivlywodraeth ydynt hwy fel ynadon. Ond gresyn fod y gwyr da hyn yn ffyddlonach i deyrnas Lloegr nag i Deyrnas Crist. Ac am y Cynghorwyr Sirol sydd ar y rhestr, ai teg iddynt ymddangos yma fel Cynghorwyr, gan na ofynnodd eu hetholwyr iddynt eu cynrychioli ar y mater ? Nid cwest- iwn i swyddogion nac arweinwyr yn unig yw cwestiwn y ddiod, ond i'r bobl hefyd-a phaham na ymgynghorid mwy a hwy ? Canmolir Wilson am wrthod trafod telerau heddwch ag arwein- wyr (diplomats) yr Almaen y mae am gael barn y bobl hefyd ar y mater. A dyna ysbryd Lloegr yn ogystal. Gwylier rhag ceisio setlo cwestiwn y ddiod heb ymgynghori a'r bobl. Cytundebau diplomats y gwledydd sydd wedi dwyn y gwled- ydd i fwyaf o helbulon. Ac y mae'r wlad hon wedi cael mwy o boen a cholled drwy gytun- debau'r Ivlywodraeth a'r Fasnach, ar wahan i'r bobl, na thrwy ei chytundebau a gwledydd eraill. A thaer apeliwn at Gyngor yr Eglwysi Rhydd- ion yng Nghymru i wneud a allont i sicrhau na anwybyddir barn y bobl yn y mudiad presennol: oblegid ein harweinwyr crefyddol yw ein har- weinwyr a'n cynrychiolwyr ynglyn a'r mudiad hwn. Gwir y dywedir mai fel mater gwladol yn unig y gall y Ivlywodraeth drafod mater y Fasnach, ac nid fel un dirwestol a chrefyddol. Ond ai nid yw pob cwestiwn cymdeithasol yn gwestiwn crefyddol yn y gwaelod ? Ac amlwg yw nad yw'r ffordd arferol o drafod y Fasnach yn effeithiol i atal ei drygau. Ac i amcanion crefyddol y bodola'r Cyngor yn bennaf. Ac oni pharha yn ei safle bendant ar fater y Fasnach, cyll y cyfle goreu a gafodd erioed i gyfiawnhau ei fodolaeth, ac i fod o wasanaeth i'n gwlad. Awgryma'r ymdrech a wneir i ennill Cymru o blaid y Prynu ei bod yn gadarn dros Wahardd, a byddai'n llawer mwy selog dros ei barn pe cai lonydd i feddwl a meithrin ei syniadau ei hun ar y mater. A gresyn fod rhaid cysylltu Cymru a Ivloegr ynglyn ar y mater hwn. Yr eiddoch, &c., i W. PARI Huws. I