Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

- !-fL-CYFLOGAU GWEINIDOGION…

News
Cite
Share

fL- CYFLOGAU GWEINIDOGION ANNI- BYNNOL. At Olygydd y Tyst. SYR,—-Yn bendifaddeu, wedi'r tair blynedd ryfeddaf yn hanes dynion, y mae'n hen bryd i'r mater uchod gael ei wyntyllu a'i gyhoeddi ar bennau tai,' er yr ofnwn, beth bynnag a wneir, nad rhyw lawer o welliant ddaw o hynny yn ol yr argoelion presennol; ond dylai byd ac eglwys gael gwybod gwir sefyllfa pethau yn ein mysg fel Enwad y dyddiau hyn. Er yn caru Annibyniaeth ac wedi meddwl yn uchel am dani erioed, a gweithio drosti, wrth ystyried ymddyg- iad iselwael ugeiniau o'n heglwysi at eu gwein- idogion yn y dyddiau presennol, y mae arnom gywilydd wyneb ein bod mewn un fath o gy- sylltiad a hi, fel y dylai rhywrai wrido, os oes gwrido yn bosibl. Gwelsom ohebydd caredig neu ddau o dro i dro yn eich colofnau yn taflu'r bai wrth ddrws diaconiaid yr eglwysi, ac yii rhyw oglais tipyn ar eu mawrhydri i ymysgwyd a thosturio wrth drueiniaid; ond dyn a'u helpio Buasai cystal iddynt grafu'r graig 'Does gan ddiaconiaid heddyw yr un dust i wrando cwynion felly, heb son am PIDser i waith o'r fath, gan gymaint eu hawydd a'u prysurdeb i ddyrneidio aur ac arian i'w llogellau. Clywsom ddiacon eglwys Anni- bynnol—diacon bach, mae'n wir—-yn dweyd yn ddiweddar na roisai efe yr un geiniog goch yn rhagor yng nghasgliad ei weinidog, pwy bynnag a roddai—er ei fod ef ei hun yn Old Age Pen- sioner ac yn derbyn ei io/- bob wythnos gan y Llywodraeth, sef dwbl y tal a gawsai cyn y rhyfel, a'r hanner olaf yn hollol oblegid hynny ac yr oedd y gwr bach wedi ymddeol o i fferm, a rhai cannoedd o bunnau ganddo yn y bane yn ychwanegol! Dyna i chwi wyneb a chalon Llywodraeth wladol yn dyblu ei dal, a'r diacon bach yn rhoi yr un geiniog goch yn rhagor ac nid rhyw lawer mwy na hynny oedd ei rodd yn barod Dyna i chwi ras Ond ofnwn nad dim ond yr un bach hwn yn unig a adawyd.' Gall fod yna rai mawr o'r golwg yn y cysgodion. Diaconiaid yn darllen y TYST, yn wir Na, 'does dim un o bob ugain ohonynt yn ei weld o un flwyddyn i'r llall, serch ei ddarllen, os yn gwybod am ei fodolaeth, yn enwedig yn yr eglwysi gwledig ac amaethyddol. Dim ond rhyw bapurau lleol yn dweyd prisiau'r Farchnad a'r Mart, a rhywbeth yn rhoi helyntion yr amgylch- oedd, welir ganddynt hwy 1 Cyfaddefwn fod yna ychydig enwau yn Sardis hefyd sydd yn eithriadau gogoneddus; ond mae'r mwyafrif o ddigon fel arall, ac heb fod yn hidio botwm corn am neb, ac yn arbennig pregethwr. Profer yn wahanol os ydym yn camgymeryd. Amddi- ffynned y diaconiaid eu hunain os yn cael cam. Na, nid gwiw disgwyl i ddiaconiaid i symud, perthyn i'w swydd neu bcidio Ond lie mae aelodau ein heglwysi ? Pam 11a wnant hwy symud yn y mater ? Sut y mae'n bosibl fod eglwysi Annibynnol a chyfraith Crist ar eu tafod a'u calon yn goddef y fath greulondeb crefyddol ? Ai nid am fod llawer ohonynt hwythau hefyd yn cyfranogi'n ddistaw o'r un caledwch a chamwri ? Neu, os nad ydynt, y mae'n llawn bryd iddynt droi pob diacon dros y drws, a goreu oil pa fuaned. Mae'r fath awdur- dod neu lonyddwch yn rhy beryglus i fodolaeth yr eglwysi. Gwyddom ein bod yn ysgrifennu'n gryf, ond tybed nad yw'n hen amser siarad felly, ac nid rhyw oglais a maldodi diaconiaid sydd yn rhy galed eu crwyn a'u calon i ddim effeithio arnynt; a dywedir mai diaconiaid parthau amaethyddol sydd waethaf yn y cani- wedd. Eisiau arweinwyr sydd, medd rhai. Ie yn wir, dyna sydd yn eisiau ond sut y ceir hwynt lie nad ydyut i'w cael ? Edrycher ar y mater mewn difrifwch. Cyf- logau pob math o weithwyr a chrefftwyr drwy'r deyrnas wedi dyblu a rhagor amaethwyr yn cael mwy na'r dwbl am eu hanifeiliaid a'u nwyddau; ond ugeiniau o weinidogion eglwysi Annibynnol a'u teuluoedd yn ystod y tair blynedd diweddaf wedi goddef eisiau yn ddistaw, gan rhyw ddisgwyl y rhyfel i ddod i ben, a neb yn gwneud dim--hynny yw, neb o'r rhai ddylai yn gofyn sut y mae arnynt, na gwneud dim i symud eu gofidiau cudd Mae'r bunt cyn y rhyfel wedi myned lawr i hanner ei gwerth y gweinidogion oedd yn derbyn £70, 480 neu 4ioo yn y flwyddyn cyn y rhyfel, yn derbyn y gwerth masnachol heddyw o £ 35, 440 a £50 y flwyddyn Sut y gallant lai na bod yn slarvio ? Pa gorff ac enaid all.fyw heddyw ar gymaint hyd yn oed a £50 y flwyddyn ? Oes yna ddiacon ddigon mawr a etyb ? A dyma'r dosbarth sydd yn dioddef fwyaf. Os nad oeddynt yn cael dim ond digon i fyw cyn y rhyfel, y mae'n sicr eu bod yn cael llai na digon i fyw yn awr neu, os ydynt yn cael digon 3-11 awr, yr oeddent yn cael llawer gormod cyn y rhyfel—a sut y di- gwyddodd y fath anffawd i ddiaconiaid cynil a chyfiawn yr eglwysi Annibynnol, y mae yn anodd gwybod Dywedir fod y rhan fwyaf o weinidogion y Methodistiaid yn derbyn o £ 60 i £ 100 y flwyddyn am y fugeiliaeth, ac o £ 2 i £3 am eu gwaith Sabothol yn ychwanegol. Yn wir, gwell i bawb droi yn Fethodistiaid. Paham rhaid celu hynny ? Mae'r gyfundrefn yn well Dyweder a fynner, mae un pcth yn ffaitli—yn ei chydnabyddiaeth ddyladwy i'w gweinidogion, y mae Annibyniaeth wedi ac yn profi ei himan yn fethiant yn yr argyfwng presennol. Nid yw Annibyniaeth OfllUS yr eglwysi yn caniatau i neb o'r tuallan i ymyraeth, fel nas gellir cael dim dylanwad efleithiol o'r cyfeiriad hwnnw, faint bynnag fyddo. Ofer hefyd disgwyl i wein- idogion y cyflogau mawr' yn yr eglwysi cryf- ion i symud ac nis gellir eu beio, am nad ydynt hwythau yn cael gormod i gwrdd a'r amseroedd. Nis gallant wneuthur dim a phe gwnaent, ni fyddent ond yn curo'r awyr. Gan mwyaf yn yr eglwysi gwledig, bychain, 'does mo'r cyflogau mawr yma i'w cael, ond yr hen drefn o ewyllys da sydd mewn arferiad a grym, fl. honno'11 ddim ond digon i fyw, rhag ofn i'r pregethwr ymgyfoethogi ar gefn yr Efengyl rasol—a dyma un o wendidau mawr ein Hannibyniaeth. Camgymeriad Dysgawdwr Mawr y byd a Phen corff yr Eglwys oedd dweyd Teilwng yw i'r gweithiwr ei gyflog ond y cwestivvn yw, sut mae cael Efengyl rhad, a Dad- waddoliad yr Eglwys Wladol yn y fargen ? Gor- mod llofruddiaeth ar egwyddor a theimlad gwein- idog yr ewyllys da yw ymostwng yn gardot- aidd i ofyn am ragor i gwrdd a'r amgylchiadau tra yn derbyn £70 neu £ 80 neu £100 y flwyddyn yn awr fel cynt. Mae'r swm yn swnio'r un faint o hyd, faint bynnag yw hyd a lied a gwerth y bunt, fel nad oes gan ei deulu ac yntau ond dioddef caledi'r Rhyfel Fawr mor ddistaw ag a allo ynghanol pobl yn llwytho eu hunian ag aur ac arian ar waed trueiniaid diniwed. Airan peryglus i'w cadw yw arian y gwaed.' Prynu claddfa dieithriaid wnawd ag arian felly gynt, ond nid tebyg y gwneir hynny a'r rhai hyn, gan irior felys ydynt ar hyn o bryd Gwell gan weinidog yr 'ewyllys da' ddioddef camwri ac angen na dianrhydeddu cymaint ar ei swydd a throi yn gardotyn. Nid cyflog teilwng yw'r pwnc ond cyflog rheidiol—living wage. Son am grefydd a Phregeth y Mynydd, yn wir Yn ol y rhai 17n ol y rhai hyn heddyw, y mae Sosialaeth rhonc yn talu'n well i fyw yma, os yw Cristionogaeth yn well ar ol marw. Does mo'n pregethwr ni wedi gofyu am ddim rhagor" meddir. Na, a sut y gall, a chadw urddas ei swydd ? Onid yw'r eglwysi wedi addaw cynhaliaeth iddo pan yn ei alw i'w gwasanaethu ? Ac 05 nad yw'n deilwng o gymaint a hynny, pam na ollyugir yr ebol yn I rhydd ? Clywsom am tui o'r gweinidogion anffodus hyn yn ddiweddar wedi mynd i tua ^40 o ddyled, er byw yn gynil a dioddef llawer. Yr oedd ei gyfyngder y fath fel yr hysbysodd hynny i'w eglwys, a mawr y twrw a'r canlyniad fu i'r diaconiaid fyned oddiamgylch yr eglwys a chasglu iddo y -44(). Gweithred dda, ac mae'r cyfryw rhai yji liaeddiannol o barch. Gwir nad oeddynt yn gwncud ond eu dyledswydd, ond y cwestiwn yw, Paham raid fod y fath sarhad ar y weinidogaeth ? Dywedai un rywdro y dylasai gweinidogion cyflogau by chain yr ewyllys da mewn ardaloedd amaethyddol ofalu cadw tyddyn a hynny am fod cadw tair o ieir yn talu'n well mewn mis na chwech o aelodau eglwysig. Wel, cadw fowls am dani yn wir Yr ciddoch yn ffyddlan, GwiRIONEDD.

PRYNU'R FASNACH FEDDWOL. -

SECTYDDIAETH YNGLVN A'R EISTEDDFOD…