Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

DYDD MERCHER.

News
Cite
Share

DYDD MERCHER. Agorwyd gweithrediadau yr Eisteddfod yn Birkenhead ddydd Mercher diweddaf. Llyw- yddwyd yn yr Orsedd gan yr Archdderwydd Dyfed, ac wedi i'r Parch. D. Adams, B.A., offrymu Gweddi yr Orsedd, cafwyd anerchiad bywiog gan y prifardd. Blwyddyn yn ol, meddai, gobeithient oil y byddai'r rhyfel drosodd, a'r byd mewn heddwch ond yn lie hynny fod peir- iannau rhyfel yn parhau i ruthro yinlaen, gan sangu ar flodau dynoliaeth y gwledydd. Yr oedd olwynion diwydiant wedi rhedeg yn isel, a gorweddai masnach yn archolledig ar lawr wedi syrthio, fel yr ofnai, ymysg lladron. Er yr holl gynhyrfiadau hyn, daliai yr Eisteddfod yn fyw, a pharhai i ddal i fyny baner Y gwir yn erbyn y byd.' Rhaid i Ymerawdwyr tra- haus Ewrop blygu i'r arwyddair yma, neu fe gollent eu gorseddau a'u pennau. Llywyddwyd yn y babell yn ystod dydd Mercher gan Arglwydd Leverhulme a Syr Henry Jones, gan y rhai y cafwyd areithiau gwerth- fawr. CERDDORIAETH. Enillwyd y wobr gyntaf ar y prif ddarn corawl gan Gor Gledholt, a'r ail gan Gor Maybank, Stoke-on-Trent. Ymgeisiedd wyth o gorau yn y gystadleuaeth Corau Merched; y darnau i'w canu oedd To the Evening Star (Bantock) a From the Green Heart of Waters (Coleridge-Taylor). Enillwyd y wobr gan Gor Gwobrwyol Mr. William Turner, Nottingham, y rhai a dderbyniasant 910 farciau. Derbyniodd Cor Merched Pembroke 80 o farciau. Parti Gwrecsam enillodd ar y pedrawd (heb offeryn). Miss Annie Wood, Penygroes, oedd y fuddugol ar ganu penillion gyda'r delyn yn ol dull y Gogledd. Enillwyd ar yr unawd i denor gan Mr. D. J. Davies, Nantyffyllon. Y fuddugol ar yr unawd contralto oedd Miss M. N. Willis, Abertawe. Yng nghystadleuaeth yr unawd ar y crwtli enillwyd y wobr, ar ol ymdrech galed, gan Pte. Rees, Highbank Camp, yr hwn a wrthododd roddi cyfeiriad ei gartref yn Neheudir Cymru. Wily IFAN YN ENNII, Y GORON. Anfonwyd deuddeg o bryddestau i fewn ar destyn y Goron, Pwyll, Tywysog Dyfed,' a'r pardd buddugol oedd y Parch. W. Evans, gwein- Id?g yr Annibynwyr Seisnig ym Mhenybont. Nid oedd efe yn bresennol, a galwyd ar Llew Wynne (ei gynrychiolydd) ymlaen i fyixd trwy y seremoni arferol. Dyma'r ail waith i Wil Ifaii ennill gwobr y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd y gyntaf yn Eisteddfod Abergafenni. Y tro cyntaf y daeth i sylw oedd yo. Eisteddfod Genedlaethol Llangollen yn 1908, pan y dyfarnwyd iddo'r wobl am gyfres o delyn- egion Cyhoeddodd gyfrol o delynegion o dan y teltI. Dros y Nyth,' yr hon a werthwyd mewn ychydlg wythnosau ar ol ei chyhoeddi. Mae Mr. E,:an wedi derbyn galwad i fugeilio eglwys seisnig Richmond-road, Caerdydd. DYFARNIADAU ERAII.L. Y Parch. T. Mardy Rees, Castellnedd, oedd y buddugol ar y traethawd ar Arabedd yn Llenyddiaeth Cymru.' Enillwyd y wobr am y stori fer ar Fywyd yng Nghymru yn 1859 gan Mr. T. O. Jones (Gwynfor), Caernarfon. Pryddest o 159 o linellau ar Yr Afon Ferswy oedd y testyn yr enillodd Mr. T. Aneurin Rees, Pencader, arno. Y traethawd goreu ar Griffith Jones, Llan- ddowror, oedd eiddo'r Parch. Penar Griffiths, Pentre Estyll. Tynnwyd y wobr yn ol am drefnu cerddor- iaeth i gan wladgarol, ond dyfarnwyd y wobr am y geiriau goreu i'r gan i'r Parch. W. Crwys Williams, Abertawe. Mr. T. Aneurin Rees, Pencader, oedd y budd- ugol ar y bedair telyneg, 'Atebiad y Milwyr i Alwad eu Gwlad.' Adroddiad, 'Anerchiad Glyndwr i'w Filwyr (Beriah Evans). Buddugol, Miss Elsa Davies, Bryn, Llanelli. Mr. Gwernydd Morgan, Pontardawe, enillodd yr ail wobr yn yr adroddiad, Y Gwahanglwyfus.' Am y -camisole goreu i foneddiges gwobrwy- wyd Mrs. Saunders, Caldicott, Casnewydd. Miss Florence Benthall, Casnewydd, gafodd y wobr am y blouse goreu i ferch dan 16 oed. CORWEN YN CAEI. YR EISTEDDFOD AM 1919. Cynhaliwyd eyfarfod unedig Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a Chymdeithas yr Orsedd, o dan lywyddiaeth yr Archdderwydd a Mr. Llewelyn Williams, A.S. Cyflwynodd Syr Vincent Evans, yr ysgrifennydd, adroddiad blyn- yddol Cymdeithas yr Eisteddfod, yr hwn a fab- wysiadwyd. Gan mai Corwen oedd yr unig dref oedd yn ymgeisio am Eisteddfod 1919, pender- fynwyd yn unfrydol i dderbyn y gwahoddiad. Traddododd Mr. Llewelyn Williams anerchiad awgrymiadol ar y perygl o ddirywiad yr Eis- teddfod. CYRHAEDDIAD Y PRIFWEINIDOG. Gadawodd Mr. Lloyd George Lundain ddydd Mercher ar ei ffordd i sir Gaerlleon i gadw ei ymrwymiadau yn Birkexxhead ddydd Iau a dydd Gwener.

DYDD IAU.