Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Bryn Seion, Gilfach Gooh.I

News
Cite
Share

Bryn Seion, Gilfach Gooh. Gwyl Flynyddol y Plant.-Rhoddwyd gwledd ar raddfa eang i'r plant eleni eto, prynhawn ddydd Iau, Awst 2il, pan y cafwyd hin ddy- munol, a phawb wrth eu bodd yn gwneud cyflawnder a'r danteithion a ddarparwyd ar eu eyfer. Yr unig elfen annymunol yn y cwbl oedd absenoldeb ein hannwyl weinidog, Mr. MacDonald, yr hwn sydd, fel y mae'n wybyddus i ddarllenwyr y TYST, yn gwasan- aethu i'r milwyr yn ymyl y ffosydd yn Ffrainc, o dau nawdd y Y.M.C.A. Clywsom ami un o'r plant yn datgan eu telmlad trwy ddweyd, '0 na buasai Mr, MacDonald gyda ni,' yr byn a ddongys pa mor ddwfn y mae yn serchiadau y plant. Baan y gwawrio'r dydd pan welir ef eto'n ol gyda'i braidd. Gwasanaethwyd gan y chwiorydd Mrs. M. Palmer, Mrs. J. Roberts, Mrs. M. Davies, Mrs. E. Bowen, Misses O. Hopkins, 0. Ohilds, R. Evans, R. Thomas, S J. Palmer, M. Jones, ac L J. David. Y brawd ieaanc ymroddgar Mr. D. P. Jones, ysgrifen- nydd yr Ysgol Sal, oedd yn gyfrifol am y trefniadau, yn oael ei gynorthwyo gan y brodyr leuainc Mri. Noah J. Palmer a Willie Lewis, pa rai a wir deilyngant y ganmoliaeth uchaf am eu gweithgarwch a'u ffyddlondeb diflino i'r gwaith da. Wedi i bawb gael eu digoni, awd allan i'r maes i fwynhau tipyn o ddifyrrwch gyda'r plant. Cyfarfod Amrywiol.-Nos Saboth, Awst 19ag, cariwyd y gwasanaeth ymlaen yn y ffurf o adrodd a chanu Llywyddwyd gan Mr. J Hopkins, arolygwr yr Ysgol Sul. Adroddwyd Salm i ddechreu'r cyfarfod gan Miss Phyllis Edwards, a gweddiwyd gan Mr. Noah Palmer. Yna cafwyd adroddiadau ac unawdau gab Garfield Jones, Lily May Jones (Gorseinon), Lena Evans, Evan Evans, Glyndwr David, Idris David, Gwilym David (tri brawd), a David Smith. Gwnaeth yr oil eu gwaith yn ganmol- adwy. Bydd yn galondid nid bychan i'n Parchus weinidog gael ar ddeall fod nifer o'r bob! ieuatnc yn ymroi ati i gynorthwyo'r achos yn ei absenoldeb trwy gysegru eu tatentau i wasanaeth y cysegr. Diolchwn i Mr. J. Webber am ei barodrwydd yn parotoi y bobl leuamc ar gyfer y cyfarfod. Cyfeiliwyd gan yr organydd, Mr. J Jones. Cyfarfodydd Ymostwng ac Ymbil-Mewn orudd-dod i apdl dderbyniwyd oddiwrth Gyngor Eglwysi Rhyddion Oymru a Lloegr, cynhaliwyd cyfarfodydd undebol o dan nawdd 81 glwysi y Bedyddwyr, Annibynwyr a'r Method- istiaid, Sal a LInn, Awst 5ed a'r 8ed. Cafwyd cyfarfodydd dwys, ac arwyddion amlwg fod yr Arglwydd yn agos; a chymaint oedd y dylanwad a deimlwyd fel y penderfynwyd dal ati i gynnal cyfarfodydd bob wythnos. Teimlir fod y llanw yn parhau i godi, a'n dymuniad ydyw, 'Cerdd ymlaen, nefol d&n,' (fee.

Advertising

Rhlwmatlc ae Anhwylder y Kidney.

! Y DRYSORFA GYNORTHWYOL.…

I Pontyclun.I

Nebo, Glyncorrwg.I

Clifton-road, Birkenhead.-,

Family Notices