Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

6 0 * Y WERS SABOTHOL. A ft

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

6 0 Y WERS SABOTHOL. A ft y 2 Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. | m$ & 6an y Parch. D. EUROF WALTERS, 6 M.A., B.D., Abertawe. | 9  MEDI i6eg. -Y Ffwrn Dan.—-Daniel iii. Y TESTyn EURAIDD. Pan elych trwy y dyfroedd, Myfi a fyddaf gyda thi a thrwy yr afonydd, fel 11a lifant drosot; pan rodiech trwy y tan, d'th lcsgir ac ni eimyn y fflam arnat.' Esaiah cliii. 2. AWGRYMWYD yn y nodiadau ar y Wers ddiw- eddaf mai un o amcanion cyfansoddiad Llytr Daniel, yn ol pob tebyg, ydoedd calonogi'r Iddewon mewn dyddiau blin yn eu ffyddlondeb i'w crefydd a'u harfeiion cenedlacthol. Bu prawf ar eraill cyn hyn, a daethant allan o'r prawf yn fuddugoliaethus. Ymhlith- y rhai a ddaliasant yn ffyddlon ynghanol profedigaethau yr oedd Daniel a gwyr ieuainc eraill yu y gaeth- lud ym Mabilon, ac yr oedd ar gof a chadw-- naill ai yn ysgrifenedig neu yn nhraddodiadau'r genedl-enghreifftiau o'u ffyddlondeb. (Cym- harer Ezeciel xiv- 14, 20 xxviii. 3 Pe byddai yn ei chanol y tri wyr hyn, Noah, Daniel a Job,' &c. Wele di yn ddoethach na Daniel.') Ymgadwasant rhag bwydydd wedi eu cysegru i'r duwiau, a rhag gwinoedd a moethau gwa- harddedig. Er hynny, daeth Daniel i barch ac awdurdod, a thrwy ei ffyddlondeb amlygwyd rhagoriaeth ei Dduw ar dduwiau'r Cenhedloedd. Yr hyn fu yr Arglwydd i'w bobl gynt a fydd Efe eto. Rhoddwyd i Daniel ddoethineb oddi- uchod, fel y rhagorodd efe ar ddoethion Babilon mewn dehongli gweledigaethan. Dyrchafwyd ef a'i dri chydymaith i awdurdod. Yna Daniel a ymbiliodd a'r brenin, ac yiitau a osododd Sadrach, Mesach ac Abednego ar lywodraeth talaith Babilon ond Daniel a eisteddodd ym mhorth y brenin > (ii. 49) Yn ein Gwers cawn enghraifft arall o brawf a osodwyd ar y gwyr ieuanc hyn ym Mabilon. Nebuchadresar, brenin Babilon, a osododd i fyny ddelw aur fawr yng ngwastadedd Dura, ac a roddodd orchymyn drwy ei deyrnas ar fod i bawb ei haddoli, dan gosb o gael eu taflu i fiwrn dan am wrthod. Ar arwydd, syrthiai ff-wrn daii tiii wrthod. pawb ger ei bron. Ond daeth cyhuddiad i glust- iau'r brenin yn erbyn Sadrach, Mesach ac Abed- nego, sef nad addolent dduwiau'r deyrnas, ac nad ymgryment i'r ddelw aur. Galwyd am danynt o flaen y brenin, ac er eu bygwth ni addawent blygu i'r ddelw. Dwy aduod gwerth eu pigo allan o'r Wers ydyw 17 a xS Wele, y mae ein Duw ni, yr Hwn yr ydym ni yn Ei addoli, yn abl i'n gwared ni allan o'r ffwrn dan- llyd boeth ac Efe a'n gwared ni o'th law di, 0 frenin. Ac onide, bydded hysbys i ti, frenin, na addolwn dy dduwiau, ac nad ymgrymwn i'th ddelw aur a gyfodaist.' Hyd yn oed os na fyn eu Duw eu gwaredu, ni phlygant i'r ddelw. Bwriwyd y tri wyr i'r ffwrn danllyd (a dwymesid seithwaith mwy nag y byddid arfer o'i thwymo hi) yn rhwym. Gaii boethter y ffwrn lladdwyd y gwyr a fwriasant Sadrach, Mesach ac Abednego iddi. Ond gwelai Nebuch- adresar bedwar o wyr rhyddion yn y ffwrn, heb niwed arnynt, a dull y pedwerydd yn debyg i i 'fab y duwiau.' Galwyd arnynt i ddyfod allan o'r tan, a gwelwyd na finiasai y tan ar eu cyrff,' ac na ddeifiasai ftewyn o'u pen,' ac nad aethai sawr y tan arnynt.' Cydnabyddai'r brenin fod Duw y tri llanc wedi danfon Ei aiigel, i'w gwaredu. Rhoddodd Nebuchadresar orch- ymyn na ddywedid dim ar fai yn erbyn Duw y tri wyr, a mawrhawyd hwythau o fewn tal- aith Babilon. Fel y gwaredodd Duw Ei bobi gynt, felly y dichon Efe waredu eto. Hanes gwaredigaethau ar law eu Duw ydyw hanes cenedl Israel. Ac yn liiwedd yr amserau, er colli o'r genedl ei mawredd a'i hannibyniaeth, ni ddylai wadu ei Duw, ac ni ddylai gydymffuriio ag arferion cen- hedloedd eraill. Na wna i ti ddelw gerfiedig.' Yr Arglwydd yn unig a wasanaethi.' Ar orch- mynion cyffelyb y dibynna ei bodolaeth fel cenedl, ac nid oes iddi ddcwis rhwng eilunaddol- iaeth ac angeu. Nid am ffyddlondeb y cosbir neb, eithr am anffyddlondeb- 'A holl gaethglud Judah, yr hon sydd ym Mabilon, a gymerant y felltith hon oddiwrthynt hwy, gan ddywedyd, Gwneled yr Arglwydd dydi fel Sedeciah ac fel Ahab, y rhai a rostiodd brenin Babilon wrth y tan, am iddynt wneuthur ysgelerder yu Israel,' &c. (Jer. xxix. 22, 23). Adij. i-Y (idelw atir. Ni roddir un dyddiad, ond y mae'n ddigon tebyg mai ar ol buddugoliaeth fawr y cyfodai brenhinoedd ddelw o'r fath, ac y ddisgwylient i'w deiliaid addoli fel arwydd o'u ffyddlondeb i'r deyrnas. A dichon mai delw o brif dduw Babilon—-Bel-Merodach ydoedd hon: Ni wyddys yn sicr leoliad gwastadedd Dura, er bod teithwyr yn awgrymu dau neu dri o faimau posibl, a rhai yn tybio eu bod wedi darganfod olion priodol i sylfaen delw fawr mewn un maes. Yr oedd hon, yn ol y mesuriad roddir (tri ugain cufydd) yn un a wel-sid o bell ac yn hawdd gau dorf fawr. Galwyd pob math a gradd o lyw- odraethwyr a swyddogion ynghyd i wyl cysegru y ddelw. Yna'r cyhoeddwr a roddai'r arwydd mai pan seiniai'r offer cerdd y dylid syrthio i addoli'r ddelw. 'A'r hwn ni syrthio ac ni addolo, yr awr honno a fwrrir i ganol ffwrn o dan poeth.' [Sonnir am chwe math o offer cerdd, ond ofer ceisio eu hadnabod a'u disgrifio yn faiiwl.] Adn. 8-18.-—Y tri wyr 0' Iddewon yn gwrthod addoli'r ddelw. Pan glywyd sain yr offer cerdd, plygodd pawb ond Sadrach, Mesach ac Abednego—tri chyf- aill Daniel, a llywodraethwyr yn nhalaith Babi- lon. Ar hynny rhai o'r Caldeaid a ddygasant gwyn yn eu herbyn at y brenin. Y mae gwyr o Iddewon a osodaist ti ar oruchwyliaeth talaith Babilon, Sadrach, Mesach ac Abednego y gwyr hyn, 0 frenin, ni wnaethant gyfrif ohonot ti dy dduwiau nid addolant, ac nid ymgrymant i'r ddelw aur a gyfodaist' (adnod 12). [Gair cryf ydyw'r un am gyhuddo yn adnod. 8. Golyga 'fwyta'r darnau llarpio.'l Mewn llidiowgnvydd a digter y gorchmynnodd y brenin ddwyn y tri wyr ger ei fron. Dichon y dylid cyfieithu yn adnod 14 'Ai yn fwriadol nid yelych yn gwasanaethu fy nuw i, nac yn addoli'r ddelw aur a gyfodais i ? Caent gynnyg eto ar addoli. Ond y maent wedi penderfynu pridio addoli, serch y ffwrn dan. [Efallai mai'r cyfieithiad iawai i adnod 17 yw Wele, os yw ein Duw ni, yr Hwn yr ydym yn Ei wasan- aethu, yn abl i'n gwared ni, Efe a'n gweryd ni allan o'r ffwrn danllyd boeth, ac o'th law di, 0 frenin.'] Beth bynnag a ddigwydd, nid oes addoli i fod. Gall eu Duw eu gwaredu, ond efallai nad yw yn unol a'i ewyllys i'w gwared. Er hynny, glynent yn eu proffes. Adn. 19-30.—Dull y pedwerydd. Fflamiodd nwydau'r brenin ei wyneb, a gorch- mynnodd boethi'r ffwrn seithwaith mwy nag arfer. Galwodd ar rai gwyr nerthol oedd Y11 ei fyddin i rwymo'r tri Iddew a'u bwrw i ganol y ffwrn. Fel yr oeddynt, a'u gwisgoedd am danynt, taflwyd hwynt i'r ffwrn. Gan wres y fflamau, syrthiodd y gwyr nerthol yn farw, eithr y tri llanc a ddisgynasant yn ddianaf i'r ffwrn. A gwelai Nebuchadresar.bedwar o wyr rhyddion heb niwed arnynt yn rhodio ynghanol y tan 'A dull y pedwerydd sydd debyg i Fab Duw.' [Yu Ilytllretinol, 'A dull y peclwerydd sydd debyg i fab y duwia-Li-hyiiuy yw, angel neu fod nefol.] Llosgasid y rhwymau, ond ni ddeifiwyd dillad y tri wyr. Nid oedd hycl yn oed fiewyn o'u pen wedi crino, ac nid oedd sawr y tan arnynt pan alwyd hwynt allan o'r ffwrll gan y brenin. Effaith y waredigaeth ryfedd hon ydoedd cydnabod o'r brenin fawredd Duw Sad- rach, Mesach ac Abednego, a dyrchafu'r tri wyr yn uwch eto yn nhalaith Babilon.

Advertising

Machynlleth a'r Cylch.

Advertising