Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

PREGETH YR EISTEDDFOD.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

PREGETH YR EISTEDDFOD. BIN CENEDL A'I DYFODOL. GAN Y PARCH. O. L. ROBERTS, LERPWL. [Wele un o'r pregethau arbennig a dradd- odwyd yn rhai o addoldai Lerpwl y Sul cyn yr Eisteddfod. Bwriada Undeb y Cymdeithasau Cymraeg drefnu cyfar- fodydd pregethu arbennig o'r fat h ynglyn ag Bisteddfodau Cenedlaethol yn y dyfodol.] 'Agorwch y ftyrth, fel y del y genedl gyj- iawn i mewn, yr hon a geidiv wirionedd.' -ESAIAH XX-vi. 2. MAE dyfodol ein cenedl yn mynd i gael ei benderfynu gan ei ffyddlondeb a'i theyrn- garwch i'r delfrydau inoesol ac ysbrydol uchaf. 'Cyfiawnder' yw gair mawr yr Hen Destament am y bywyd uchaf hwn, ac mae'n gyfystyr a chariad yn y Testa- ment Newydd. Yr hyn a wahaniaethai'r genedl Iddewig oddiwrth genhedloedcl eraill oedd ei delfryd uchel o fywyd moesol ac ysbrydol. Hyn a'i gwnaeth ar hyd yr oesau y gallu crefyddol a moesol mwyaf yn lianes y byd. Gwir na sylweddolodd ei delfryd, eto ni chollodd erioed mo'i golwg arno. Bendithiwyd hi ar* hyd y canrifoedd a phroffwydi mawrion, swydd- ogaeth y rhai oedd cadw o llaen llygaid y genedl v ddelfryd aruchel. b Mae'r hyn sydd yn wir am y genedl Iddewig yn wir hefyd mewn ystyr arben- nig am y genedl Gymreig. Nid oes genedl ar y ddaear heddyw wedi ei ber>dithio'n fwy na'n cenedl ni yn yr ystyr hon. Eiddo hi yw'r tadau mae'r proffwyd wedi arfer llenwi lie mawr ym mywyd ein cenedl. 0 ddyddiau Dewi Sant i ddyddiau'r Tadau Anghydffurfiol a Methodistaidd, mae llais y proffwyd wedi ei glywed yng Nghymru ym mhen pob heol, ac nis gall ein gwlad byth anghofio ei dyled i'r proffwyd. Dyn- ion Duw yn llefaru megis ag y cynhyrf- wyd hwy gan yr Ysbryd Glan oedd y Tadau Anghydffurfiol. Dynion felly oedd Walter Cradoc a Stephen Hughes, Howell Harris a Daniel Rowlands, John Blias, Williams o'r Wem a Christmas Evans, ac y mae iddynt ddilynwyr teilwng hyd y dydd heddyw. Dan eu dylanwad hwy y daeth Cymru yn wlad yr Ysgol Sul, y Cymanfaoedd, a'r Cyfarfodydd Gweddi. Ac ar adeg ein Huchel-wyl Genedlaethol ni ddylem eu hanghofio, nac anghofio ein dyled iddynt. Y ffordd i b.archu eu coffad- wriaeth yw cadw o'n blaen y ddelfryd uchel a ddaliwyd ganddynt hwy. Ofna rhai nad ydym mor ffyddlon i'r ddelfryd hon ag y buom. Gwnaeth Cymru gynnydd mawr mewn llawer cyfeiriad o fewn Y 50 mlynedd diweddaf. Bu'n gyf- nod o ddiwygiad a chynnydd mawr mewn ystyr wleidyddol. Mae gwerin Cymru .heddyw yn mwynhau manteision addysg | na bu gall eu tadau eu cyffelyb ar lawer cyfrif cyfundrefn addysg Cymru heddyw i yw'r perffeithiaf yn y deyrnas. Amheuir er hynny gan lawer a yw'r awyrgylch foesol mor iach ag y dylai fod. Prydera llawer beth fydd dylanwad y rliyfel ar fywyd moesol ac ysbrydol ein pobl ieuainc. A gadwant hwy ddelfryd eu tadau yn swn y fagnel a barbareiddiad maes y gad. ? Ar y cyfrif hwn llawenheir yn y gwaith ardderchog a wneir yn y camps ac yn y front gan y caplaniaid Cym- reig. Ceir yno lu ohonynt yn cadw baner delfrydau moesol ac ysbrydol yr hen genedl yn chwifio--a Duw yn unig a wyr werth eu gwaith. Credaf y daw llawer o'n bech- gyn yn ol a'u syniad yn uwch am ddel- fryd foesol ac ysbrydol y tadau nag erioed. Ac yn hynny y mae gobaith ein cenedl. Nid yw'r genedl ddelfrydol eto wedi ei sylweddoli. Tybia rhai ein bod ymhellach nag erioed o sylweddoli hwnnw. Mae rhyw gymaint o wirionedd yn hyn. Mae'n anodd meddwl am y rhyfel ofnadwy hon ond fel set-back difrifol i sjdweddoliad y bwriadau dwyfol. Eto cofiwn-- God moves in a mysterious way His wonders to perform.' Ac mae'r rhyfel hwn, fel y mae yn rhyfel dros Ryddid ac Iawnder, yn un o'r mys- terious ways' drwy y rhai y mae Duw yn dwyn Ei amcanion i ben. Dyweder a fynner, y mae'r genedl gyfiawn' ar y ffordd yn dod, a hynny yn Hen Wlad ein Tadau.' Ond mae gennym ni, fel Israel gynt, ein rhan i'w wneud er dwyn hynny oddiamgylch. Mae gennym i agor y porth, fel y del y genedl gyfiawn i mewn, yr hon a geidw wirionedd.' Beth ynte yw rhai o'r pyrth y rhaid i ni eu hagor a'u cadw'n agored, fel y del y genedl gyfiawn i mewn ? 1. Sylweddoliad o bwysigrwydd hawliau Duw cyfiawn mewn bywyd. I.1e na bo hynny, y diwedd yn wastad ac anochel- adwy ydyw myned i lawr yn foesol ac ysbrydol. I/le na bo gweledigaeth, marw wna y bobl.' Mae Cymru wedi arfer bod yn ffyddlon i hawliau crefydd, a dyna sydd wedi rhoddi iddi ei safle yn y byd heddyw. Da gennym feddwl fod y Cymro cyntaf a ddyrchafwyd i fod yn Brifwein- idog Prydain yn dal yn ffyddlon y tradd- odiadau crefyddol y dygwyd ef a'i briod i fyny ynddynt. 2. Rhaid i ni feithrin syniadau eang am ddefnyddioldeb a gwasanaeth. Mae'r dyn sydd yn byw iddo'i hun yn hwyr neu hwyrach yn marw allan ac mae'r hyn sy'n wir am y person unigol yr un mor wir am y genedl. Ar feddgolofn General Gordon yn Eglwys St. Paul ceir yr argraff Who at all times and everywhere gave his strength to the weak, his sustenance to the poor, his sympathy to the suffering, and his heart to God.' Nid rhyfedd iddo ennill iddo ei hun y fath safle ymysg mawrion y byd. 3. Rhaid i ni gadw yn fyw o'n blaen y syniad o hawliau a rhyddid eraill. 4. Rhaid i ni, wrth fanteisio ar gyfleus- I terau newyddion, gadw yn ffyddlon y pethau goreu ym mywyd y tadau—efel- ychu eu rhinweddau, ysgoi eu ffaeleddau, ac yna byddwn yn abl nid yn unig i godi yr Hen Wlad yn ei hol, ond ei gyrru ymhellach yn ei blaen, ac i brysuro'r dydd pan y del y genedl gyfiawn i mewn, yr hon a geidw wirionedd.'

CYELE I'R CYMRO.

CERDD I'R HEN GERDDOR.

IYR HYDREF.

I WILSON A'R PAB.