Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
DIODCHGARWCH. j
News
Cite
Share
DIODCHGARWCH. j At Olygydd Y Tyst. SYR,- D ymuna fy nliad, a ninnau fel plant, ddiolch yn gynnes iawn i bawb fu mor garedig I a datgan cydymdeinilad a ni fel teulu yn y brofedigaeth fawr a'n goddiweddodd Y11 symud- iad ein hannwyl fam o'n plith. Mawr ocdd ein dyled iddi a thrwm vw'r hiraeth am dani, ond gallwii sicrhau ein cyfeillion fod eu geiriau car- edig, a'r llythyrau dderbyniasorn wedi bod o gymorth nid bychan i ni 3-11 nydd ein trallod. Yr eiddoch, Yn ddiolchgar a galarus dros y teulu, W. H. CASSAM. i
AT OLYGYDD Y ' TYST.' I
News
Cite
Share
AT OLYGYDD Y TYST.' SYR,-Mae'n hysbys i'ch lliaws darlleuwyr y cynhelir Cynhadledd yn Dlandrindod ar yr 2ofed o'r mis hwn i gefnogi eynlluu Mr. Lloyd George o drin y Fasnaeh Feddwol. Mae nifer, safle a brwdfrydedd y rhai sydd eisoes wedi addaw bod yn bresennol yn sail dda dros gredu y profa'r G-ynhaclledd ymhlith y pwysicaf yn hanes y mudiad Dirwestol yng Nghymru. Hyderir y bydd amgylchiadau yn caniatau i'r Prifweinidog ei hun fod yn bresennol, ond yn ei absenoldeb fe lywYddir gan y Gwir Anrhyd- eddus Syr Alfred Mond, A.S., yn cael ei gy- northwyo gan nifer o'r Aelodau Cymreig. Cy- merir rhan yn y Gynhadledd gan arweinwyr yr eglwysi o bob enwad, yn ogystal ag arweinwyr Llafur a Dirwest. Cyfyngir y Gynhadledd i bleidwyr cynllun Mr. Lloyd George (sef State Purchase and Local Option). Ceisir gennyf gan y Pwyllgor i hys- bysu y gall unrhyw un sydd yn gefnogol i'r mudiad ac heb dderbyn gwahoddiad eisoes gael tocynnau yn rhad drwy anfon at--The Secre- taries, Welsh National Campaign, Parliament Mansions, Victoria-street, London, S.W. i. Yr eiddoch, 61, Sydenham Park, J. T. RHYS. London. S.H. 26.
,EGLWYSI ANNIBYNNOL HEB WEINID-OGION…
News
Cite
Share
EGLWYSI ANNIBYNNOL HEB WEINID- OGION ARNYNT. At Oiygydd y Tyst. SYR,—A mi'n ùigwycld perthyn ar hyn o bryd i eglwys a gamenwir yn eglwys wag. am nad oes gweinidog ami, cydiais ym Mlwyddiadur 1917 ac o gywreinrwydd, mwy neu lai, cyfrifais y gweinidogaethau a'r eglwysi gwag," gan gynnwys Mynwy yng Nghymru. Teg yw i mi ddywedyd 11a dclilYllais y Blwyddiadur yn llyth- rennol, canys pan w37ddwii am eglwys a roddodd alwad i weinidog, er ei bod yn wag yn ol y rhestr, eto cyfrifwn i hi fel un yn meddu ar weinidog. O'r ochr arall, gwelais enghraifft neu ddwy o eglwysi sydd erbyn hyn yn wag,' er na ddengys y Blwyddiadur mo hynny. Felly j pan ystyrrir y ddau beth hyn, credaf nad yw'm cyfrif ymhell iawn o'i le. Gellir ei ystyried yn gywir i bob pwrpas ymarferol. Wele'r cyfrif :— Gweinidogaethau gwag^Cymraeg a Saesneg, 195, Eglwysi—Cymraeg, 181 Saesneg, 67. Golyga hyn fod rhyw 248 o eglwysi Annibynnol ar hyn o bryd heb weinidog afnynt. Credaf y dylasem fel Enwad ystyried hyn yn ddifrifol, canys hyd y gwelaf fi, nid oes fawr gobaith am gyflenwad o bregetliwyr o'n colegau am amser maith. Ychydig yw'r myfyrwyr a adawyd heb eu tynnu i mewn i'r fyddin, ac nid yw nifer yr ymgeiswyr am y weinidogaeth yn rhyw luosog iawn ers bljnyddoedd. Old adlcwyrcha hynny yn anffafriol ar ei: 1 heglwysi ? Gwn yn dda y cynhwysir yn y rhifedi uchod eglwysi sydd yn rhy wan i gynnal gweinidog. Gresyn hymty, Dyna un rlieswm dros brysuro er dwyn y Drysorfa Gynorthw3rol yn alln cadarn o blaid y gwan. Hyd y sylwais i, yng N'ghyfundehau Gor- llewin a Gogledd Caeruarfon, ac yng Nghy^fun deb Dwyrain Morgannwg y mae'r nifer mwyaf o eglwysi gwag tra nad oes yng Nghyf uudeb Cymraeg sir Benfro yr un eglwys wag, er pan roddodd Trefgarn alwad i un i'w bugeilio. Yn ddilys ddigon y mae angen y gweleclycld yn ein pulpudau lieddyw. Ni wna defaid heb arnynt fugail ddim namym crwydro. Meithriner ysbrydolrwydcl yn yr eglwysi fel y codo ynddynt eto lu o fechgyn a gysegra eu hunain i waith mawr y weinidogaeth. Pa beth a wnawn heb oleu claer A grym yr Y sbryd Glan <'•' ( Y cynhaeaf yu ddiau sydd fawr, ond y gweith- wvr yn anaml am hynny atolygwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i'w gynhaeaf.' Er niwyn popetli. hyderaf y rhydd Annibynia fawr sylw buan i'r diffyg mawr hwn yn ei rheng- oedd ond, beth yw'n son, nid i enwad y mae'r golled, ond i grefydd y bendigedig Iesu. A oes gan rywnn air ymhellach ar y pwiic ? Yn bur, Glyn Geraint, Barry. D. ARTHEN EVANS.
JIWBILI Y PARCH. W. C. JENKINS,…
News
Cite
Share
JIWBILI Y PARCH. W. C. JENKINS, CAPI-U SUL, CYDWELI. "It Olygydd Y Tyst, SYR,—Fel y mae'n hysbys i'r lliaws fod ein hannwyl weinidog, Mr. Jenkins, wedi bod yn gweinidogaethu am banner can mlynedd vil yr eglwys hon, yr ydym fel eglwys wedi pender- fynu ddathlu'r amgyIchiad trwy gyflwyno tysteb iddo ar y dyddiad, sef Tachwedd 5ed, 1917. Credwn fod amryw y tuallan i'r eglwys hon yn ei barchu a'i edmygu am lendid ei gymeriad fel gweinidog yr Efengyl. ac maent yn ei aduabod yn well nas gallwn ni ysgrifeunu am dano. Nid peth bychan yw bod yn yr un eglwys am 50 mlynedd heb 1111 aughydfod ynddi. Felly hyderwn y cyfrennir at y dysteb gan ei adna- byddion er chwyddo'r drysorfa. Anfouer pob tanysgrifiad i'r cyfeiriad isod. Dros 3-r eglwys, W. H. WILLIAMS, Ysg. Peuygaer, Kidwelly, Car 111.
YR EISTEDDDFOD GENEDLAETHOL.
News
Cite
Share
Williams o Erromauga, ac annhraethadwy was- anaeth Thomas Bevan, David. Jones, a David Griffi th, Madagascar, h yd amser Jerman Jones a'i ddilyiiwyr yn Khasia ac, efallai yn bennaf oil, Griffith John a Timothy Richard yn China. Pan yr ystyrrir maint a natur ei gwaith Cen- hadol, a'i chysylltiad a sefydliad y Feibl Gym- deithas, gwelir mor ymarferol a fu gwasanaeth Cymru i ledaeniad crefydd drwy'r byd. Yn wleidyddol gwnaethom ein rhan drwy'r oesoedd—yn ddiamheuol bu ein gwrthsafiad ystyfnig ac hirfaith yn erbyn goresgyniadau Rhufain, y Saeson, y Daniaid a'r Normaniaid yn ddisgyblaeth iachus iddynt hwy, ac yn adgyf- nerthiad i ysbrydiaetli dianwadol, diysgog, a dyfalbarhad haearnaidd ein cenedl, Gadawaf i eraill beuderfynu effaith Hywel Dda a'i gyf- reithiau gwrhydri a challineb Gruffydd ap Cynan ac Owain Gwynedd cydweithrediad Llywelyn Fawr a 'r Barwniaid ymmnvydr Magna Charter, ac eiddo Llywelyn ap Gruffydd a Simon de Montfort yn yr ymdrech enillodd i Loegr ei Senedd gyntaf, ar lywod-ddysg brenhinoedd a gwladweinwyr Lloegr ac ar ddatblygiad ei Chyf- ansoddiad. Yn sicr, ni fu gwrthsafiad hirfaith Owain Glyndwr heb ei effeithiau, ac ni ellir ameu dirfawr ddylanwad teulu Owain Tudur ar hanes Prydain, na phwysigrwydd arweijiyddiad Oliver Cromwell, y gwerinwr anhyblyg. Yn y Rhyfel Cartrefol caed jar ddiamheuol Gymry blaenllaw ar y ddwy ochr, ond tebyg yw fod barn a ehycl- wybod y genedl gyda'r Senedd, er fod teimlad yr Uchelwyr yn ami o blaid y breuin. Mewn amseroedd diweddarach cawn werin Cymru yn cofleidio mudiad y Siartiaid,' a'r Uchelwyr yn rhoddi i'r Senedd Syr George Corne wall Lewis—lienor addfed yn ogystal a gwlad- weinydd call a phrofedig. Heddyw gwelir meib- ion Cymru yn eistedd ymhlith cedyrn y gwled- ydd—yma ym Mhrydan ac yn Ynys-Gyfandir Mor y De, ac o'r bron yn cipio Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau. Nid yw'r Unol Daleithiau ychwaith wedi anghofio'r rhan amlwg a gymer- wyd gan Grynwyr sir Feirionydd yn sefydliad Talaith Pennsylvania, na gwaith a gwasanaeth ( that brilliant, energetic, attractive young Welsh- man, Roger Williams of Rhode Island. Pan ystyriwn felly un ai presennollleu orffen- nol ein cenedl, ni raid i ni ameu na phetruso ynghylch medr gwleidyddol gwerin Cymru. I'm tyb i, cynrychiolir delfrydau gwleid- yddol Cymru gartref ac oddicartref yn addysg ac athrolliaeth Robert Owen o'r Drenewydd, a Hemy Richard—corffoliad Cristionogaeth mewn gwlfcidyddiaeth ymarferol. Ond nid yw gwasanaeth Cymru mewn unrhyw fodd yn gyfyngedig i feysydd llenyddiaeth, crefydd a gwleidyddiaeth. Yn y Celfau Cain gallwn adalw clodydd Richard Wilson a John Gibson (mab garddwr o Lanidan), Inigo Jones, Owen Jones (awdur Gramadeg Addurn '), G. A. Watts, Burne Jones, Augustus John, Gos- combe John a Havard Thomas. Diddorol yw hanes gwrhydri'r' Cymry ynglyn I a masnach a datblygiad adnoddau materol y gwledydd anturiaeth Syr Hugh Myddelton yn disychedu Llundain Thomas Williams o Lan- idan yn llywio gwaith mwn Mynydd Parys ym Mon Richard Roberts a'i ddyfais yn hyrwyddo yn ddirfawr masnach Lancashire David Edward Hughes a Syr William Preece yn perffeithio defn- yddioldeb y trydan; David Davies o Landinam, a llawer o'i gydwladwyr, yn gosod i lawr sylfeini masnach glo enfawr Deheudir Cymru; John Hughes yn sefydlu gweithfeydd haearn yn Rwsia; David Thomas a William Jones yn cychwyn ac yn hwylio cynnydd masnach haearn a dur arutlirol yr Unol Daleithiau John Vaughaiu Edward Williams a William Jenkins yn gwneud yr unrhyw wasanaeth i Brydain yng Ngogledd Lloegr a'r Cymro ieuaiic Sidney Gil- christ Thomas- yn creu chwyldroad drwy ei ddyfais a brofodd yn wraidd ac yn eglurhad llwyddiant masnachol a nettli milwrol gorth- rechol yr Almaen—pethau daionus yn cael eu gwyrdroi drwy uchelgais penadur a chenedl yn aflwydd anaele i ddynoliaeth oil. Amser a ballai i ddarlunio maintioli a natur anturiaeth llongawl Cymry blaenllaw fel Syr Alfred Jones, a llawer agwedd arall ar weith- garwch dynol, megis ein meddygon enwog, rheolwyr cwmniau yswiriaeth mawrion, a chylch- oedd pwysig eraill lie y cyfarfyddir a'r Cymro ymhell ar y blaen mown llawer cyfeiriad annis- gwyliadwy. Pan ystyriwn felly orchestion nodedig Cymru Fu a Chymru Sydd yn wyneb anfanteision fyrdd -cyfulidrefn addysg gymharol newydd, a'i had- noddau yn brin ein meibion yn ami yn gymyn- wyr coed a gwehynwyr dwfr yn ei llysoedd yn hytrach nag yn arweinwyr ac yn Uywiawdwyr yno diffyg cyd-ddealltwriaeth ac undeb agosach rhwng yr eglwysi, rhwng Cyfalaf a Llafur absenoldeb cydgrynlioad egnion cenedl sicrheir drwy hunanlywoclra,cth--rhesymol yw edrych ymlaen i'r dyfodol yn obeithiol a ffyddiog canys hawdd yw canfod gobaith symudiad huan rhai, os nad yr oil, o'r creigiau rhwystr hyn. Felly nid anfuddiol ymholi betli ddylai fod neges a gwaith Cymru I'vdd—Cymru wedi ei rhyddhau oddiwrth l)-ffetheiiiau'r presennol, oddiwrth reolaeth aiinealliis estroniaid mewn byd ac Eglwys, a'i meibion drud a'i nierched syber yn gweithio allan eu liunain iachawdwr- iaeth clymhorol Gwlad eu Tadau heb laesu gafael o gwbl ym mhethall trymioll y gyfraith. Gan ddechreu gyda'r materol, buddiant a dy- ledswydd Cymru yn y dyfodol fydd cwtogi a dileu pob math ar wastraff sicrhau cynnydd eithaf cyniiyrch y tir a holl adnod.dau naturiol y wlad—y moelydd U\?m fel y dolydd meill- ionnog, y rhaeadr trystfawr fel yr afon araf, ddoleuuog. Gwaith cydiiaws fydd hwn, canys er fod yn ein plith ambell Hywel sy'n ddigon 1; hael ar bwrs y wlad,' eto fel cenedl pobl gynnil, ofalus, ddarbodus \"d)in—-rhinweddau gwerth- fawr ac amserol yn wyneb beichiau aruthr y dyfodol. My 11 Cymru weled 11a chaniateir i unrhyw rwystr luddias datblvgiad llawri cynheddfau meddyliol y distadlaf o'i meibion a'i merched. Gwelir yn fuau ein Hysgolion Canolradclol a'li Colegau yn agor eu drysau led y pen, heb ofyn tal gan neb a ddaw. Gwneir telerau cydnahydd- iaeth llafur yn gyffredinol ddigonol i sicrhau i'r gweithiwr a'i deulu, nid yn unig fywioliaeth gysurus, ond rhyddhad llwyr oddiwrth ddibyn- iaeth ar enillon plant a pliobl ieuainc. Law yn 11avv a'r gofal hwn am dyfiant meddyliol ein pobl ieuainc, ceir gofal amgenach am eu hiechyd cornorol-—mangwan bywyd cymdeithasol (.ymru er pan ymadawodd oddiwrth efengyl rachus j mabol-gampau yr hen Gymry. Neges pellach Cymru fydd adfer i'r byd Rhyddid, Cydraddoldeb a Brawdgarwch ystyr ymarferol athrawiaeth Tadolaeth cyff- redin Duw. Mewn llawn hyder ffydd na welir rhyfel mwyach yn anrheithio'r gwledydd, gwelir Cymru Fydd yn dihysbyddu trysorau lien ac hanes, yn cyfoethogi llenyddiaeth a chelfyddyd yr oesoedd, yn dadlennu cyfrinion cudd natur ymhob agwedd, 3-11 arloesi a goleuo tywyll-leoedd y ddaear, gan ad-dalu mewn gwasanaeth i cldyn- olryw freintiau dirif ei hirfaith bererindod, gan ymla wen ha u yug nghnwd toreithiog llafur a lludded a dyfal ddiwyclrwycld ei meibion a'i merched—lien a lleyg, gwreng a hOllheddig-o ddyddiau pell Dewi o Fynnyw hyd alaethus ddyddiau Armageddon, a'r annhraethol amgen- ach adeg paii- Ni hulir aerfa mwy a llachar ddur Ni chyffry'r utgorn croch na chas 11a chur; Pladuriau wneir o'r diles waywffyii, A swch, £u'n gledd, braenarir godre'r bryn