Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

GLOYWi'R GYMRAEG.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

GLOYWi'R GYMRAEG. [Danfoiier pob gofyniad a gohebiaeth ynglyn a'r golofn hon i'r Parch. FRED JONES, B.A., B.D., Treorchy. Ymchwil-gar.—(a) Pa un ai sain dywyll ynten sain eglur sydd i'r y yn adfywio, gwynnu, &c. ? Gail fod eich hawl ynglyn a'r hyn a fu dan sylw y tro o'r blaen, gwell fydd cael yr ateb rha.g blaen. Y lllae'n debyg mai'r w yn ymyl yr y sydd yn peri dryswch i cliwi. Fe ellir dywedyd ar unwaith fod y yn eithaf rheolaidd yn sain dywyll yn y ddau air a nodwch-hynny yw, yr un sain ag a geir yn bryniau. Eto y mae eithria.dau lie ceir y yn ei sain eglur o flaen w yn y sillaf olaf ond un. Mor agos ag y gallaf i weled, fel hyn y mae'r mater Yn y dyddiau gynt yr oedd yw yn sillaf olaf rhai geiriau yn tueddu i feinhau i iw, megis amriw, distriw, heddiw. Chwi gofiwch ddeuair Dafydd ab GWilYIU- Nid oes fyd 11a rhyd na rhiw Na lie rhydd 11a llawr heddne* Y11 naturiol iawn, pan ycliwauegid sillaf at y gair fe'i seinid yn distrmio. Fe geir y gair alllryzuÏo yng Ngramadeg J. D. Rhys, inedd J. Morris Jones, a'r cynhaniad amr-wwio iddo. Ond ychydig ydyw'r geiriau hynny. Y mae'r rheol fel y dywedwyd uchod. Yr ateb i'ch gofyniad ynglyn a'r ddwy linell Cynghallecld Lusg felly yw Mae'r yd yn gwynnu,' ac iiid Yr yd fyn wynnu sydd gywir. Sylwer yllihellach mai'r sain eglur sydd i gwywo am y rheswm, y mae'n debyg, fod yr w bob ochr i'r y yn ei chadw felly. (b) 'A fuasai I adfywio dy fywyd yn gywir ? Wel, y sain dywyll sydd i'r ddwy y. Y pwnc ydyw, a ydyw hi'n euog o'r bai rhy deby- ? Wel, y mae ugeiniau yr un fath a hi yng ngweitli- iau beirdd heii a diweddar, a'r traddodiad yw nad oes fai oni bydd y tebygrwydd yn cyrraedd i fwy o sillafau, iiiegis' Cyfarch y dosbarth cyfan.' Ond ni ellir condemnio, dyweder, Cyfoeth y dosbarth cyfan,' er y mae'n rhaid cyfaddef nad hyfryd i'r glust ydyw hyd yn oed y gyntaf. (c) Edmwnd Prys, Archddiacon Meirionnydd, ydyw awdur y llinell, 'Ainlwg fydd trwyn ar wyneb.' W.J.R.—' Gwelais yn ddiweddar y feirniad- aeth hon Pan fo yr yn dyfod o flaen oil, try'r olaf yn hull. Dylid darllen, Mae'r holl ddy- munwn ynddo nghyd," ac nid Mae'r oil ddy- munwn ynddo nghyd." Beth yw arfer y clas- uron ynghyda iaith llafar gwlad ar y mater ? Pan roddes y beirniad y soniwch am dano ei law ar yr aradr, fe aeth yn gymwys am dipyn, ond oherwydd rhyw amryfusedd fe aeth ei gwys yn gain iawn cyn iddo gyrraedd y talar. Ni a ddechreuwn fel yntau gyda'r gwir. Y mae v yn y Gymraeg, yn enwedig lie caiff hi gar- trefu'n hir, megis ynghanol ymadrodd, yn diieddol iawn o fagu h yn ei chesail o flaen llafariad. Cyinerer, er enghraifft, yr ymadrodd rhif un-ar-hugain,' o'r tri gair un, ar, ugain. Yr wyf wedi sy.lwi'n ddiweddar fod rhai ysgrif- enwyr yn ysgrifennu un ar ugain yn gyson iawn, gan dybied, mi wn, fod yr iaith drwy hynny'n burach. Eithr fe wel y cyffredin ei amgyffred mai cam farn yw hyn. Fe fyddafn llawn cyn lleied trosedd ysgrifennu yr aid am yr haul. Y mae'r un peth wedi digwydd i'r gair oil. Er mwyn gwneuthur ymadrodd ansoddeiriol, fe roed yr o'i flaen, ac 3-nihen amser ni a gawsom o yr x oil yr ymadrodd yr holl, a ddefnyddir fyth yn gywir lel ansoddair, megis yr holl fyd,' yr holl bobl.' Ie, eithr lel ansoddair yn unig, cofer. Dyfais ddiweddar iawn ydyw gosod yr o flacll oil i gyfansoddi ymadrodd i gyflawni swydd rhagenw yr un fath a'r Saesneg, the whole. Y tebyg yw mai dynwared y Saesneg a wnaed. Boed hynny fel y bo, y mae'r gystrawen sydd yn y llinell a nodwch chwi yn holl 1 ddiweddar ac yn hollol ddiangen. Y mae'r awdurdodau diweddar, megis J. Morris Jones a'r diweddar Syr Edward AnwyJ, yn ei cliondemnio fel peth diangen. Gadawer i'r iaith dyfu ar bob cyfrif, ond. nid yw corff yn tyfu wrth feithdn dafaden ddrwg. Arfer y clasuron ac arfer Ilafar gwlad dilwgr ydyw'r ymadrodd y cwbl Swm y cwbl a glybuwyd yw ofna Dduw,' &c. Mewn ystyr ragferfol yn unig yr ysgritennir oil- (a) Weithiau. ar ol brawddeg-er enghraifft. 'A hwy a godasaut oil.' (b) Ar ol enw—er enghraifft, Y dynion oil 'Defaid ac ychen oil' (Salm viii. 7). (c) Er mai ar ol y frawddeg neu'r enw, fel rheol, y ceir ef, fe'i ceir hefyd o flaen, megis 'Ac oil y sydd ynddo yr 1111 peth yw'r ystyr o'i roddi vii olaf—'Ac y sydd ynddo oll-' Y mae llafar gwlad yn bendant ar y pwnc y cwbwl yw'r 3rmadrodd yn wastad. Wrth reswm, y mae llafar gwlad rhai pobl erbyn hyn wedi mabwysiadu yanadroddion fel yr oil. Pan ddywedaf llafar gwlad,' yr wyf i bob amser yn golygu tafodiaith gysefin preswylwyr y tir sydd heb ei llygru gan arddull lac y' papur newycld a'r 11 wyf an. Swm y cwbl a glybuwyd felly yw ansoddair ydyw yr holl, a daw bob ainser o lfaen ei enw dyfais ddiweddar am y cwbl yw yr oil, ac i'w ochelyd fel y gwahanglwyf. F.J.

YR EISTEDDDFOD GENEDLAETHOL.