Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Cefn Coed.

News
Cite
Share

Cefn Coed. M arwoweth.-Cbwith yw cofnodi marwolaeth Mrs. Margaret Davies, annwyl briod Mr. William Davies, 12, Charlotte street, Dowlais. Diweddodd ei gyrfa ddaearol ar y Sal, Awst 5ed, wedi oystudd maith a chaled. BIl hi yn aelod o eglwys Ebenezer am flynyddoedd, ac yn fawr ei set a'i brwdfrydedd dros lwyddiant yr aohos Br symad ohoni i fyw i Ddowlais parhaodd yn ystod ei nychtod i fynychu, fcra medrai, gyfarfodydd yr eglwys. Dynes eithr- iadol oedd Mrs. Davies ar lawer cyfrif Meddai wroldeb di-gyinar. Mynaodd fynyoha un o gyfarfodydd yr Undeb a gynhelid ym Merthyr, Gorffannaf, 1915, cyn myned ohoni o dan operation bwysig. Aeth yn syth o was- anaeth crefyddol i gwrdd &'i thynged dan ddwylo'r meddygon. Am ddwy flynedd ymdrechodd wella, a chafodd bob cymorth a fedrai daear ei roi. Am y misoedd diweddaf gweinyddwyd ami gan ei chwaer-yng- nghyfraith. Ofer fa pob dyfais a chynllun Daeth y diwedd, a hithau'n foddtoa hollol i'r drofn ddwyfol. Ar yr Iau dilynol i'w marwol- aeth, daeth torf enfawr i dalu'r gymwynas olaf iddi. Ynghanol arwyddion o bareh, daearwyd ei gweddillion marwol ym mynwent Ebenezer. Gwasanaethwyd yn y t, gan y gweinidog, y Parch J. Seymonr Rees. Yna aeth yr orymdaith i'r eapel, a dechreuwyd y gwasanaeth yno gan y Parch. D. Adams, B A., B.D. Pregethwyd gan Mr. Rees. Cymerth y Parch. T. Sinclair Davies, Merthyr, ran hefyd ar Jào y bedd. DetbolwJd emynau ilw canu gan gor Ebenezer, dan arweiniad medrus Mr. William Morgan. Yn y gwasanaeth nos Sul, Awst 12fed, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad & Mr. William Davies a'r teulu oil yn eu galar. Canwyd y Dead March in Saul' ar yr organ gan Miss Williams, Hiraetha'r eglwys yn brudd ar ol Mrs. Davies, gan baroted hi bob amser i gynorbhwyo'r teilwng a'r dyrchafol. Gweddir ar i'w phriod twymgalon dderbyn nerth y nef yn y ddrycin. Ceir haul ar ol glaw creulon Oei di haul,—cawod yw hon.

TREFFYNNON.I

Advertising

I Abersoch.

Advertising