Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

CYMRU A'R MESUR ADDYSG.

News
Cite
Share

CYMRU A'R MESUR ADDYSG. BLAENFFR WYTH CYNHADLEDD6LLAN- DRINDOD. AREITHIAU YR AELODAU CYMREIG.. Dygodd Mr. Fisher, Llywyddy BwrddAddysg, ei Fesur Addysg newydd i mewn i Dy'r Cyff- redin yr wythnos ddiweddaf. Yn y ddadl ar y darlleniad cyntaf, gwelwyd blaenffrwyth Cyn- hadledd Llandrindod, ynglyn a'r lion CYll ei chynnal y cyhoeddwyd yn y TYST y gyfres ysgrifau dynnodd gymaint o sylw. Er gwrthod o'r Aelodau Cymreig gydweithredu a'r sawl a alwodd y Gynhadledd, cymerodd Syr Herbert Roberts, Cadeirydd y Blaid Gymreig, ran yn y ddadl, gan ddefnyddio rhoi o'r rhesymau a ddadl- euwyd gan y Gynhadledd. Yr unig Aelod Cym- reig arall a siaradodd oedd Mr. E. T. John, yr hwn a wnaeth gymaint dros y Gynhadledd, ac a gafodd bleidlais gynnes o ddiolch ganddi am ei wasanaeth gwerthfawr. Ymddengys erbyn hyn fod y Mesur Addysg newydd yn rhoi yn agos i 4400,000 y flwyddyn yn rhagor o grants i Gymru nag a geir ganddi yn awr. Fel y gwelir oddiwrth ei araith isod, hawlia Mr. John fwy na hyn, tra y gellid meddwl wrth eiriau Syr Herbert Roberts ei fod ef yn foddlon ar a gaed. ARAITH SYR HERBERT ROBERTS. Dywedodd Syr Herbert Roberts :— Yr wyf yn croesawu yn gynnes ddarpariaethau pwysig y Mesur hwn. Nid oes un rhan o'r deyrnas a gymer hvy o ddiddordeb mewn addysg nag a wna Cymru, ac nid oes unrhyw ran o'r wlad wedi aberthu mwy dros y wlad na Chymru a pan ddaw y Mesur hwn i weithrediad, nid oes unrhyw ran o'r deyrnas lie y gwneir mwy o ymdrech nag a wneir yng Nghymru i gael y lies mwyaf o'r Mesur. Diolchaf i'r bonheddwr gwir anrhydeddus, nid yn unig am sicrhau grants ychwanegol, ond am y modd y gwnaeth efe hyriny. Dioddefasom ni yng Nghymru lawer o gam ar hyd y bl- gam ar hyd y blynyddoedd drwy ein bod ar y naill law yn gwario cymaint ar addysg, ac ar y llaw arall drwy fod prisiant eiddo yng Nghymru gymaint yn is nag ydyw yn Lloegr. Credaf yn gryf mewn Ysgolion Nos, a da gennyf fod y IAywodraetli yn penderfynu eu rneithrin. Bydd tua 160,000 o fechgyn a merched Cymru yn man- teisio ar yr adran hon i barhau eu haddysg. Gallwn ni yng Nghymru gario allan yr adran hon o'r Mesur yn well nag a ellir yn Lloegr, oherwydd y profiad arbennig a gawsom drwy weithio Deddf Addysg Ganolraddol Cymru. Mewn perthynas a'r adran sy'n trefnu ffurfio Cynghorau Taleithiol, buom ni yng Nghymru yn ceisio ffurfio cynllun fuasai'n sefydlu rhywbeth felly i. Gymru. Diameu y bydd Llywydd y Bwrdd Addysg yn barod i wrandaw ar yr Ael- odau Cymreig pan, ar ol astudio'r Mesur, y gwel- ant yn angenrheidiol i osod awgrymiadau ger ei fron. Da gennyf glywed y cynygion hyn hyrwyddant welliant yn ein bywyd cenedlaethol. Pan ddaw y Mesur hwn i weithrediad ceir yn ei ddarpariaethau bosibilrwydd iachau clwyfau'r rhyfel ac i arfogi'r genhedlaeth sydd yn codi i gyfarfod yn effeithiol a'r galwadau mawr y gwyr pawb a ddaw pan yr adferir lieddwch. ARAITH MR. E. T. JOHN. I Pan alwodd y Llefarydd ar Mr. E. T. John, dywedodd :— Dymunaf ymuno yn y llongyfarchiadau a gyf- lwynir mor gyffredinol i Lywydd Bwrdd Addysg ar ei waith yn cychwyn polisi addysgol mor rhag- orol. Ategaf yr hyn a ddywedwyd gan fy nghyd- aelod Syr Herbert Roberts na bydd unrhyw ran o'r deyrnas yn dilyn amcanion a llafur Llywydd Bwrdd Addysg gyda mwy o gydymdeimlad nag a welir yng Nghymru. Tra yn gwrando ar ei amlygiad o ddelfrydau addysgol mor aruchel, ni allwn lai na gofidio fod Llywydd Bwrdd Addysg yn gorfod gwisgo ei gynygion mewn gwedd mor lsel. Sicr wyf, pe bai yn annerch cyfarfod o Gymry yng Nghymru, nid yn unig y cai efe gymeradwyaeth g y n n e s i'w ddelfrydau a'i egwyddorion, ond y clywai hwynt yn hawlio'n dra phendant cael darpariaethau llawer ehangach a mwy hael. Yr wyf yn hollol gydolygu a Syr Herbert Roberts am yr hyn a gynygir yn y Mesur, gyda hyn o wahaiiaetli-fy mod i, fel Oliver Twist gynt, yn gofyn am ragor tra yr ysgolheigion eraill yn dawedog. Dymunaf gymell Llywydd Bwrdd Addysg i geisio torri allan o amgylchfyd sydd mor amlwg wrthwynebol, a dwyn ymlaen gynygion llawer mwy eofn na'r rhai presennol. Maenprawf pob diwygiad addysgol yw cwest- iwn yr arian, a djanunwn egluro paliam yr ym- ddengys i mi fod hyd yn oed gynygion hael iUywydd Bwrdd Addysg ydynt sylfaen ei gynyg- ion yn y Mesur, drwy'r cwblmor hollol amiigonol. Dywedodd wrtliym fod Prydain Fawr yn gwario £ 40,000,000 y flwyddyn ar addysg, a bwriada yntau j^chwanegu £ 4,000,000 arall atynt. Ni olyga'r cyfanswm hwn fwy nag 20/- y pen o'r boblogaeth. Ni allaf lai na chyferbj-nnu hyn a thraul addysg mewn gwledydd eraill yn yr Unol Daleithiau mae'n 29/3 y pen, ac yn New Zealand 30/- y pen o'r boblogaeth. Buasai gwario 30/- y pen yn y Deyrnas GyfUll01 yn golygu £ 70,000,000, ac nid y £ 44,000,000 a ddarperir yn y Mesur presennol. Felly, tra yn ddiolchgar iawn am y cynnydd amlwg yn y swrn a neilltuir at ddibenion addysg yn y Mesur presennol, hyderaf na fydd i Iywydd Bwrdd Addysg dybio ei fod wedi cyrraedd pen y daith mewn unrhyw fodd, and yr a efe gain mawr iawn ymlaen ymhellach y flwyddyn nesaf. Honnaf fod gen- nym ni sydd yn cynrychioli Cymru hawl i wasgu hyn at ei ystyriaeth. Cyfartaledd y dreth addysg yn Lloegr yw I/4t y bunt, tra yng Nghymru mae cyfartaledd y dreth yn 1/9. Ond nid yw hyd yn oed hyn yn ddanghseg deg o sel Cymru dros addysg fel yi hamlygir mewn aberth arian- nol. Treulir gennym ni yug Nghymru ar addysg bob blwyddyn swm cylartal i 16c. yn y bunt ar dreth yr incwm pan gymerir yr un safon yn Lloegr, ni threulir yno ar addysg end swm cyfar- tal i 8c. y bunt ar dreth yr incwm. Mae aberth Cymru felly dros addysg gymaint ddwywaith mewn cyfartaledd ag ydyyv eiddo Lloegr. Mwy na hyn, pe neilltuai Lioegr at addysg swm cyfar- tal o'i hincwm i'r hyn a gyfranna Cymru o'i hincwm hi, byddai rhywle o 60 i 65 miliwn o bunnau ganddi at wasanaeth addysg—swm nad yw ond ychydig yn fyr o safon yr Unol Daleith- iau. Dyfynnaf y ffigyrau hyn nid yn unig er mwyn cyfiawnhau'r rhan o'r grants a roddir eisoes i Gymru, ac am yr hwn y diolchodd fy nghyd-aelod Syr Herbert Roberts mor gynnes -ac yr wyf yn cyduno ag ef yn y diolch-ond nodaf y ffigyrau yn fwy arbennig er mwyn nodi a phwysleisio'r ffaith fod Cymru yn alluog i reoli ei materion addysg ei hun, ond y dylai hefyd gael gwneud hynny. Credaf fy mod wedi profi hynny yn foddhaol a llwyr. Siomedig braidd oeddwn na ddarfu i Lywydd Bwrdd Addysg wnend cyfeiriad o gwbl at ei araith at weithgarwch Cymru ym myd addysg nac at amgylchiadau arbennig y Dywysogaeth. Mae cynygiad Arglwydd Haldane i sefydlu Cyng- horau Taleithiol yn un sy'n hawlio sylw difrifol y Ty hwn a'r wlad oil. Teimlwn bob amser y byddai cylch dylanwad Prifysgol yn debyg o ffurfio rhanbarth bwrpasol at weinyddu mater- ion addysg yn Lloegr ond nid yw hynny'n dal mewn perthynas a Chymru. Yng Nghymru ceir cenedl gyfan, ac nid dim ond talaitli, yn llawn o sel dros addysg, yn barod i weithredu ynglýn a materion addysg, mi gredaf, o'r Brifysgol i'r Ysgol Elfennol. Da fuasai gennyf pe bai y Llywydd wedi gweled ei ffordd i gydnabod sef- yllfa pethau fel y maent yng Nghymru, ac i alw i gof y ffaith fod ei ragflaenydd, Mr. Birrell, un flynedd ar ddeg yn ol, wedi cyfiwyno i'r Ty "hwn Fesur Addysg a ddarparai am sefydlu Cyngor Cenedlaethol i Gymru, ac a ddarparai gyda llaw lod yr holl arian a roddid gan y Wlad- wriaeth at amcanion addysg yng Nghymru—ag eithrio'r grants i'r Brifysgol—i fod yn gyfangwbl o dan reolaeth Cyngor Cenedlaethol Cymru yn 01 ei ewyllys ei hun. Gwn fod y cwestiwn o reolaeth y Brifysgol ar hyn o bryd o dan ystyr- iaeth Dirprwyaeth Freuhinol Arghvydd Haldane. Ond nid yw'r Mesur hwn i ddod yn ddeddf eleni tybiaf y dygir ef i mewn y Senedd-dymor nesaf eto. Mawr hyderaf y bydd Dirprwyaeth Ar- glwydd Haldane wedi cyflwyno ei adroddiad cyn y dygir y Mesur hwn i mewn y tymor nesaf, ac y gwel Llywydd Bwrdd Addysg ei fiordd yn glir y pryd hwnnvv i ganiatau y cais a ddaeth o Gymru gyfan i sefydlu'r Cyngor Addysg Cenedl- aethol yr arfaethai y Llywodraeth ei greu un flynedd ar ddeg yn ol, ac y bydd darpatiaeth am hynny yn y Mesur a ddygir ymlaen gan y Llywodraeth y flwyddyn nesaf. Yr wyf yn hollol hyderus 11a welir nemawr wrthwynebiad o Gymr 11. Erys rhai manylion pwysig i'w pen- derfynu, megis nifeir y cynrychiolwyr a ganiateir i'r gwahanol ranbarthau o Gyanru ar y Cyngor Cenedlaethol. Ond teimlaf ynhyclerus y medr fy llghydwladwyr gytuno ar drefniant boddhaol DyTmunaf bwysaisio natur arbennig y broblem addysg yng Nghymru. Gwlad unieithog ydyw Lloegr gwlad dwyieithog i raddau pell ydyw Cymru. Ceir 44 allan o bob cant o'r boblogaeth yng Nghymru yn siarad Cymraeg. Ni cheir ond 4 allan o bob cant yn yr Alban yn siarad y Gaelaeg. Mae'r broblem yng Nghymru yn un llawcr mwy nag ydyw yn yr Alban. na'i- Iwerddon. Heblaw hynny, rhaid ystyried pwysigrwydd y Gymraeg ym myd llenyddiacth a chrefydd. Yn wyncb yr ystyriaethau pwysig hyn, gwelir y gellir gwahaniaethu rliwng cyfnndrefn addysg Cymru ac eiddo Lloegr. Dymunaf alw sylw Llywydd Bwrdd Addysg at y ffeithiau hyn, gan hyderu y chwilia i mewn iddynt yn ofalus ac mewn ysbryd o gydymdeimlad ac y bydd iddo ddwyn cynygion gerbron y Senedd fyddant yn cydgoi-dio A'il dyheac1 cenedlaethol, fel ag a wnaeth ei ragflaenwyr rai blyrivddoedd yn ol, ac fel yr addawodd y Prifweinidog presennol yn 1914 y gwneid pan ddygid Mesur Addysg newydd gerbron. Erys amryw bwyntiau eraill i'w hystyried ydynt yn ffafrio trosglwyddo-'r awdurdod i Gymru ei h\inan. l'vvysleisir hyn gan amryw gynygion a wneir mewn perthynas i'n byw3rd gweithfaol, addysgol a chymdeithasol. Nid wyf am foaled i mewn i'r cwestiwn hwnnw ar hyn 0 bryd. Mae'n gwestiwn mawr iawn. Ond rhaid i ni oil deimlo fod yn ein haros angen mawr am sefydlu Seneddau Cenedlaethol i'r rhai y gellid cyflwyno pob materion cartrefol perthynol i'r cenliedloedd ltynny, a dymunaf finnau ddweyd nad oes yr un cylch o weithgarwch yn yr hwn y mae gan genedl well hawl i weithio allan ei hiachawdwriaeth ei hun nag yng nghylch addysg.

Gwneud Enw Daym Merthyr Tydfil

I Briton Ferry.