Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
Y Drysorfa Gynorthwyol. Taer erfynnlr ar eglwysi a phersonau unigol i wneud pob ymdrech i dalu EU CYFRANIAD BLYNYDDOL atysymudiad uchod 0 hyn i DDIWEDD MIS AWST. Gellir gwneud hynny trwy Drysorydd Cyfundebol ysymudiad, neu yn uniongyrchol i'r Trysorydd Cyffredinol- Mr. T. DA VIES, 56, St. Quintin Avenue, London, W. 10. TY CWRDD Y CRYNWYR, LLANORINOOD. MEDI 3YDD—5^D, 1917. CYNADLEDDATJ HEDDWCH. Bore Mawrth a Mercher, y 4ydd a'r 5ed, am 10.30 y bore. Am fanylion pellach ymofyner a'r Parch. D. WYRE LEWIS, Rhos, Wrexham. CAPBL COPPA, PORTHMADOG. QYNHELLR Oyfarfod i Sefydlu y Parch. J. Mostyn (gynt o Abersoch) yn weinidog ar yr eglwys uchod am 2 o'r glochddydd Mercher, Medi 12fed, 1917. Llywydd, y Parch. W. J. Nicholson. Pregethir yr hwyr gan y Parchn. D. Stanley Jones, Caernarfon, a, T. E. Thomas, Coodpoeth. H. HUGHES, Ysg. CENNAD HEDD. PRI8 DWY GEINIOQ YN Y MI8. Golygydd, Parch. JACOB JONES, Merthyr. RHIFYN MEDI, 1917. OYNHWYSIAD: Y diweddar Mr. Job any Jenkins, Gowertoa, gal Mr Thomss Joces, Preswylfa, Gorseinon, Dylanwad y Shyfel ar GrüIydd Cymni (parhad), gan M. Yr Eglwys Heddyw, gan Mr. Thomas Thomas, pea- ywern. Dowlas's. Cofcodioa Misol, gaa y Go!ygydd-Bellaeh.wn Hhag om—Cyuhbciedd btockholra—Qorfaelið Gywilyddus-Sefydlisd Abertawe a Delieudir Oymru i'r Deillion. w America a'r Ddiod Feddwo!. 4* T.S.O., Perl- ydarreu. ?• Y Goiofn Farddonol- Clywed y UÔg, gau John Wilis, Seiosj, Wemr-gron—Y Gwrthodwr Odwybodo) gan M.—Onw yc galw arna*. asm H. J'1 Dtravant Y Biweddcr /Dew; Meai, g^i Moeseafab Hirwaun—Glasu mseio Gardd, gan Kanaid; Owmafon. gan Yg Wers Sabothol, gan y Parch, ben. Davies, Llandysul. Tw gaeS c Swyddfs'r • Tygt5 i Yr elw arlerol i Cdoatiurthwjr ]
AT EIN GOHEBWYR,\
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR, Mewn Llaw,—P'ontyclun—Clifton-road, Bir- kenhead-Galwadau.
TOWYN FEL LLAD MERYDD.
News
Cite
Share
TOWYN FEL LLAD MERYDD. MAE Towyn Jones yn defuyddio ei seib- iant drud i oleuo rhannau gorllewinol y Deheubarth ar gwestiwn y rl-iyfel, yn arbennig ei dibenion heddyw. Nid yr un yn hollol yw ei holl ddibenion heddyw ag oeddynt yn 1914. Wrth gwrs, erys y dibenion mawr yr un o hyd, megis adfer Belgium a Serbia a Gogledd Ffrainc, a rhyddhau'r byd oddiwrth hunllef a mell- tith gormes a militariaeth Germani; ond mae rhai newydd wedi codi ar eu hoi, ac aingylchiadau newydd yn R w s i a ac America a Groeg wedi newid llawer ar yr hen rai, fel y mae angen mawr am fyneg- iad newydd parhaus o'r amcanion y ty- wylltwn ein gwaed yn afonydd er mwyn eu cyrraedd. Mwy na hynny, ofer yw catt llygaid i'r ffaith fod y werin yn dechreu blino ar y rhyfel, ac fod anes- mwythder mawr yn ffynnu ymysg gweith- wyr gonest, a ffyddlon i'r Iylywodraetlx. Wrth weled sylweddoliad eu gobaith am oruchafiaeth yn pellhau o flwyddyn i flwyddyn, ac angenrheidrwydd am wynebu gaeaf arall o frwydro, y siom yn Rwsia, y methiant yn Asia a'r Balkans, y difrod ar y mor, a'r arafwch a'r dinistr yn Ffrainc, y bragwr yn ben Prydain, a'r gwlawogydd yn difa ein cynhaeaf yn ogystal ag yn rhwystro ein hymosodiadau, nid hawdd yw i'r werin gadw ei gwroldeb i fyny a phara'n siriol. Nid am nad yw mor deyrn- garol ag erioed yr ysbryd yn ddiau sydd barod, ond y cnawd sydd wan.' Syniad hapus dros ben gan hynny oedd i Towyn fynnu siarad wyneb yn wyneb a'i gyd- wladwyr, a dweyd y gwir wrthynt am wir gyflwr pethau, a'n rhagolygon ar dir a mor. Nid ydym wedi gweled adroddiad o'i areithiau, ond mynegir yn glir eu nod- wedd a'u hamcan, a gwyddom am yr effaith daionus sydd eisoes wedi eu dilyn. Gall Towyn wneud gwyrthiau a thorf, ac ni bu erioed fwy o angen y wyrth na heddyw. Bendith fawr fo arno ni wnaeth well gwaith mewn pulpud erioed. Da iawn gennym liefyd ganfod y llwydd- iant diamheuol sydd ar wasanaeth Towvn fel Chwip Gymreig. Ofnai rhai nad oedd Towyn wedi ei doiri allan i waith o'r fath, ond gwydaem ni am ei fanylrwvdd a'i fenter mewn organeiddio yn gystal a'i. hyawdledd ar lwyfan, a gwelir heddyw pa mor gyfoethog a gwerthfawr yw'r dalent hon ynddo. Gall ddigio a dwrdio yn ofn- adwy, ond mae ganddo hefyd genius at gyfeillgarwch, ac ni bu dawn fvvy gwas- anaethgar a gwerthfawr na hon erioed i (ldelio a dynion—ac yn eu plith aelodau Seneddol. Mae gwaith mawr o fiaen. y Xlywodraeth, ond os bydd ei holl aelodau mor ddewr a ffyddlon a Towyn, daw trwydclo yn llwyddiannus.
YR EGLWYS A'R DYFODOL.*
News
Cite
Share
YR EGLWYS A'R DYFODOL.* CLYWIR ar bob Haw heddyw alwad am i'r Eglwys drefnu ei thy ar gyfer y dyfodol fod problemau dyrys o'i blaen, fod y rhyfel wedi datguddio pydredd ei chol- ofnau, ac fod ei hadeiladwaith presennol i'w dynnu i lawr bron yn llwyr, ac un arall i'w godi yn ei Ie. cyn y gall byth gyfarfod a'r galwadau mawr ddaw ami yn union wedi i'r rhyfel fynd heibio. Mae llawer o wir yn hyn, a llawer o anwir hefyd. Mae'n wir fod y rhyfel wedi dangos gwendidau a diffygion pwysig ym mywyd a dylanwad ysbrydol yr Eglwys. Nid yw wedi llwyddo hyd yn oed i dorfynyglu'r bragwr a'r tafarnwr, ac mae'n amlwg nad oes ar y Llywodraeth ronyn o'i hofn, ac nad yw yn gwrando hanner cymaint arni ac ar gyfrinfa Lafur. Nid yw ychwaith wedi cymryd unrhyw gam pwysig i hy- fforddi'r genedl yn egwyddorion ac amodau gwir heddwch Cristionogol, a gedy'r gwaith o son am heddwch i gymdeithasau bydol hollol, neu i ddyrnaid o heddychwyr sy'n barod i dderbyn unrhyw fath ar heddwch. Gwaeth na'r ewbl, nid yw'r rhyfel i bob golwg wedi ei deffroi yn ysbrydol-i na gweddi nac ymostyngiad nac addoliad na disgwyliad eithriadol ar i Dduw a Phen yr Eglwys ymyrryd yn Ei ffordd Ei Hun i ddod a threfn ar y byd. Aiff popeth ymlaen fel pe na bai ddim mwy nag arfer yn cymryd lie, ac mae cynulliadau'r cysegr mor deneu ac agwedd yr Eglv/ys mor oer a difater ag ericed. Yn yr holl ystyrron hyn mae'r cyhuddiad yn wir diamheuol, ac yn wir difrifol a pheryglus i'r eithaf. Mae yn drai sych ar ffydd ac ysbrydol- rwydd a beiddgarwch a thaerineb gweddi- gar yr Eglwys. Yr ydym yn beirniadu'r Pab yn ei ymgais edlychaidd am heddwch, ond nid yw'r eglwysi Protestanaidd ac Efengylaidd ronyn gwell nag yntau --os cystal, Ond mae yn anwir hollol i gyfeiriadau pwysig eraill. Mae cydymdeimlad a hunan- aberth yr eglwysi yn fwy aiiilwg nag erioed, a'u dyngarwch a'u haelioni arddercliog tu- hwnt i bob clod a chanmol. Nid oes ddim na neb yn yr holl deyrnas wedi derbyn mwy o gelled anadferadwy ac atalfa effeithiol ar eu gwaith nag eglwysi Crist, ac eto hwynt-hwy sydd wedi gweithio ac aberthu a cliyfrannu fwyaf o bawb at y milwyr a'r morwyr a/r carcbarorion, ac wedi diocldef yn fwyaf dirwgnaeh yn ystod yr holl helynt i gyd. Nid oes na war bonus nac uiddau na chanmoliaeth, na dim ond ciciau, wedi dod i ran gweinidogion o'r dechreuad, er nad oes neb wedi gwneud eu rhan yn wrolach, a'u cymryd at eu gilydd, i liniaru gofid a dioddefaint y rhyfel. Tjdodir a beirniedir hwy, ond nid ydynt yn ewyno. Ac mae'r un peth yn gywir am swydclogion yr eglwysi. Maent wedi gwasanaethu eu gwlad a'u Duw yn ffyddlon ryfeddol. Mewn gair, nid yw'r Elywodraeth, yn ei hymgais fawr i goncro gormes a chreulondeb a chamwri'r gelyn caled a thrahaus, wedi cael cefnogaeth a chymorth mwy cyson oddiwrth neb nag oddiwrth grefyddwyr y tir. A hynny nid oblegid eu bod yn cydweled a hi ymhob peth, ond am yr ystyriant hi yn ddyled- swydd arnynt i bleidio' r e. it- enion cyfiawn sydd ganddi mewn golwg.
[No title]
News
Cite
Share
'The Church and the Sacraments,' by P. T. Forsyth,.M.A., -D.D. (Longmans & Co. 6/- net.)