Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
GWELEDIGAETH MONS.
News
Cite
Share
GWELEDIGAETH MONS. GAREDIG weledigaeth! Dangos yn y nos a wnaeth Y dydd y gorseddir Duw Yn enaid pob dyn annuw. Yn ei bwyll ni wrendy byd Gadlef y duwiau gwaedlyd Derfydd rhyfel: gwel y gau Mai gwan hylais magnelau Wrth floedd y nerthoedd sy'n ol,— Miwsig galluoedd moesol. Bedlinog. R. INGRAM.
COF A HIRAETH
News
Cite
Share
COF A HIRAETH .411 y Parch. B. Ca-i-olait Davies, diioeddar wein- idog eglwysi Tynygwndwn a Throedyrhiw, Ceredigion. CAROLAN 1 anawdd canu-ar ei ol— Haws i'r iaith alaru Anhawdded cynghaneddu Tan glwy cledd y dyfnfedd du. O 'r archoll im' oedd colli-ei wen iach Trist iawn oedd ei roddi Is tyweirch; bu distewi Ei lais mwyn yn loes i mi. Pan awn is tonnau tristyd,—ei weled Siriolai fy ysbryd; Gweis-angau waeau bywyd Ddarfyddent, gilient i gyd. Wiw gyfaill, hawdd ei goflo,—-gwyll y bedd Nis gall byth ei guddio; Ei wedd welaf-hawdd wylo 0 dan law'r du dramawr dro. Guaf wr, fe gyfeiriwn-yn fynych I fonwent Tyn'gwndwn, Lie gorwedd ef,—lie garwn Mwy yn gynnes, gynnes gwn. Anwylach brawd ni welais,-yn ei fron Nid oedd frad na malais Mor ddi-dro oedd,—mor ddi-drais Nes cyfaill im' nis cefais. Ni chariai wg na chwerwedd-un eiliad; Anwylai dangnefedd; Gwneud cymod, ac nid camwedd,' Fu ei air o'i grud i'w fedd. Ei rodiad a'i weithredoedd—a gofir Gan gyfain ardaloedd Un didwyll ei nod ydoedd, A dyn o reddf dyner oedd. Da awenydd di-hunan-oedd efe; Mor ddi-fost ymhobman Gallu gwyl! ond gwell ei gan Nid oedd, na neb mwy diddan. Diddan o dan dywyniad-haul awen, Arlwyai yn wastad Odlau hedd, yn wledd i'w wlad; Hwyl a gwen loewai'i ganiad. Diwyd drwy ei fywyd fu-i godi Dysgeidiaeth yr lesu; Hoffi'r gwaith o'i phregethu Wnai ei union galon gu. Nid oerion, dinod eiriau,-henaidd, gwan, Oedd ei goeth bregethau Ond clir-deg resymegau, Heb air gwag, na chleber gau. Fu neb a'i eglurebau-yn ddoethach Gwnai ddethol y gorau Olu, er iawn eglurhau Ei ddiwaelod feddyliau. 'E ddeil ei fawredd i lefaru,—er I I'w eiriau ef fethu O'i wael arch gwna lewyrchu Yn oleu byth fel y bu. Nzoo.
Rhaglen Eisteddfod Frenhinol…
News
Cite
Share
Rhaglen Eisteddfod Frenhinol Genedlaethol Cymru. Y mae Rhaglen Swyddogol yr Eisteddfod uohod, yr hon sydd i'w chynnal eleni yn Birkenhead, Medi 5ed, 6ed a'r 7fed, yn awr wedi ei chyhoeddi. Y mae yn Ilyfr glfin a threfnus, ac yn cynnwys manylion ynghylch lIe a gweithrediadau ein cynhulliad mawr Genedlaethol y bydd yn dda gan ei garwyr a'i iynychwyr eu gwybod. Ni WDawn sylwadau pellacb ar y Rhaglen ragorol hon na dywedyd ei bod yn adlewyrchu clod ar fedr a doethineb a diwydrwydd pawb a gymerasanfc ran yn ei aygiad allan, yn enwedig ar yr ysgrifennydd galluog a llalurus, Mr. Isaac Davies. Gall ein darllenwyr ddisgwyl nodiadau helaethach ar y Rhaglen hon a'r Eisteddfod agoshao! yn ein Jfnifyn yr wythnos nesaf.
I Nazareth, Deri. I
News
Cite
Share
I Nazareth, Deri. I Cyfarfodydd Neilltuol at; A rbennig .Cyfar- fodydd yr edrycliid ymlaen atynt gyda chryn dipyn o cldiclclorcleb oedd y cyfarfodydd gynlial- iwyd yn Nazareth, Deri, y Sul a'r Jlun, Awst y 1 geg a'r 2ofed, am eu bod yn gyfarfodydd dathlu banner canmlwyddiant yr achos yn y lie, yn ogystal a dathlu Jiwbili clirio'r ddyled ar y capel. Gwahoddwyd i wasanaethu yn y cyfarfodydd hyn ddau frawd ddechreuodd eu gyrfa bregethwrol yn Nazareth, sef y Parchn, D. Stanley Jones, Caernarfon, a J. B. Llewellyn, Pontllaufraith. Neilltuwyd cyfarfod prynhawn Lluh i ddathlu'r hanner can mlwyddiant a Jiw- bili'r ddyled. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. D. G. Jones, y gweinidog. Cymerwyd at y rliaunau arweiniol gan y Parch. Harries Jones (M.C.), Deri. Yna dywedodd y Llywydd fod yn dda-ganddo am y cyfarfod y prynhawn hwnnw. Pobl Nazareth wedi bod yn edrych ymlaen am y cyfarfodydd hyn, a bellach wele hwynt wedi dod yn rhydd o Babilon dyled. Yna galwodd ar Mr. Edward Jenkins i roddi hanes ymgyrch yr eglwys yn ystod yr hanner can mlynedd diw- eddaf. Dywedodd fod yna rai tenluoedd wedi dod o Ferthyr i'r Deri oddeutu'r flwyddyn 1865. Buont am beth amser yn cadw eu haelodaeth ym M< rtliyr, ac wedi hynny ymaelododd rai ohonynt yn y Fochriw ond teiinlent fod y pell- ter yn ormod iddynt, ac felly mai buddiol fyddai cychwyh achos iddynt eu hunain yn y Deri. Y teuluoedd hyn oedd eiddo John Morris, David Morris ac Enoch Evans; ac y mae'n debyg fod yna bedair ach o deulu'r John Morris hwn wedi bod yn aelodau yn eglwys y Deri. De- chreuwyd yr achos yn yffud o gyfarfod gweddi yn nhy John Morris. W, edi bod yn cynnal cyfarfodydd gweddi ac Ysgol Sabothol am beth amser yn nhy Mr. Morris, awd ati i sefydln eglwys Annibynnol yn y lie, a gwnaed hynny yn nhy John Morris, Awst xBfed, 1867. Gwasan- aethwyd ar achlysur sefydliad yr eglwys gan y Parch. Mr. Thomas, yr hwn oedd yn weinidog yn y Fochriw ar y pryd. Yna aed ati i gymryd tir at godi capel. Cafwyd y cerryg i godi'r capel yn rhad gan berchennog y tir. Dechreuwyd adeiladu yn Hydref, 1867. Enw'r capel hwnnw oedd Bethel, a chostiodd ychydig dros £ 200. Yn fu n wedi hynny dechreuodd y Wesleaid achos yn y lie, a buont yn cael benthyg y capel ar yn ail a'r Alluibynwyr am beth amser, ac yn y diwedd gwerthwyd y capel cyntaf hwn i'r Wesleaid am ^150. Aed ati i godi'r capel pres- ennol, Nazareth, oddeutu'r flwyddyn 1874. Gos- odwyd y garreg sylfaeu i lawr gan Mr. John Jeremiah, yr hwn oedd yn arolygwr gweithfaol yn New Tredegar. Pregethwyd yn y cyfarfodydd agoriadol gan y Parchn. Job Miles, Bethesda, Merthyr (yr adeg honno), a D. Thomas, Gwern- llwyn, Dowlais. Costiodd y capel hwn oddeutu £ 990. Adgyweiriwyd y capel yn 1889, a chost- iodd hynny dros £4°6. Hefyd talwyd Hog arian o dros £ 900. fel y mae'r eglwys wedi talu yn gyfangwbl dros £ 2,500. Teimlent y dylent ddiolch am y cynhorthwy gawsant gan eglwysi'r cylch. Aent o gwmpas i werthu tocynnau'r wyl de flynyddol, a chawsent dderbyniad croesawus gan yr eglwysi. Rhif yr eglwys pau. sefydlwyd hi oedd 7. Y mae'r gweinidogion canlynol wedi bod a gofal yr eglwys arnynt :—Parchn. Mr. Thomas (Fochriw yr adeg honno) J. Griffiths (Fochriw yr adeg honno, Pembroke Dock yn awr) 1872-1876; John Jones, 1877-1879; J. Pethian Davies, 1882-1886; R. O. Jones, 1888- 1899 W. B. Richards, 1901-1904 D. G. Jones, 1911 hyd yn bresennol. Codwyd y brodyr can 1/nol i bregethu gan yr eglwys :—Mr. Moses Davies, yr hwn £U'11 bregethwr cjaiortliwyol liyd ddiwedd ei oes, yr hyn gymerodd le oddeutu dwy flyuedd yn ol, ac yntau wedi symud yr adeg honno i fyw ym Mhenmaiii, Mynwy Mr. D. T. Jenkins, yr hwn aeth yn fyfyriwr i'r Bala, ac wedi hynny sefydlodd fel gweinidog yn yr America; y Parch. D. Stanley Jones, Salem,- Caernarfon a'r Parch. J. B. Tlewellyn, Pont- llanfraith. Y mae'r eglwys yn gwisgo gwedd lewyrchus yn bresennol o dan ofal y Parch. D. G. Jones, a rhifa'r aelodau oddeutu 120. Yna cafwyd gair gan y Parch. J. B. Llewellyn, un o blant yr eglwys. Dywedai fod yn dda ganddo fod yno ar achlysur mor ddiddorol yn hanes yr eglwys. Atgofion lawer ganddo am yr amser dedwydd dreuliwyd ganddo yn yr eglwys. Yn dymuno llwyddiant mawr i'r eglwys eto yn y dyfodol. Yna cafwyd gair gan y Parch. D. Stanley Jones. Meddyliai y prynhawn hwnnw am bennod rhamant yr eglwys fach. i"Fod Cymru yn fwy dyledns i'r eglwys fach nag a feddyliai lawer. Yr eglwys fach, fel rheol, sydd yn gwneud y gwrhydri mwyaf. Ei bod yn bwysig i'r ieuainc i fyw i fyny a thraddodiadau'r gorffennol. Cym- hellai'r uiamaii yn arbeiinig i adrodd hanes y cwrdd hanner canmlwyddiant hwn i'r plant, fel y byddai hynuy'n ysbrydiaeth iddynt yn nerth Ysbryd Duw i wneud gwrhydri mwy yn y dyfodol. Ei bod yn dechreu pennod newydd yn liaues yr eglwys. Disgwylid i'r bennod dde- chreuir yn awr i ragori ar bennod y gorffennol. Dymunai Dduw yn rhwydd i'r eglwys yn y dyfodol. Wedi canu emyn, daeth y cyfarfod diddorol hwn i ben. Yn yr hwyr am 6.15 de- chreuwyd y cyfarfod gan y Parch. Rhys D. Jenkins, Gosen, Rhymni. a phregethwyd yn nerthol a dylanwadol gan y Parchn. J. B. Llewellyn a D. Stanley Jones. Gwelsoni yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn y Parehn. D. Harris Jones (M.C) a Williams (B.), Deri, a J. Morgan Jone.j, Poiillotyn. Arhosed bendith y Nef ar lioll jnndrechion yr eglwys eto, a bydded i ddylanwad da y cyfarfodydd hyn fod yn sym- byliad ac yn ysbrydiaeth iddynt i arfer dwbl ddiwydrwydd yn y dyfodol, gan gofio nad ydyw eu llafur hwv yu ofer vn yr Arglwydd. Gosen, Rliymni. RHYS D. JENKINS.
RHYL.
News
Cite
Share
RHYL. Y Gweinidog —Mae eglwys Carmel, Queen-st „ bellach wedi cael blwyddyn o brofiad ar eu gweinidog ieuanc, y Parch. E Jones Roberts, B A., ac y mae'r saint wedi eu llwyr foddloni ynddo. Bu'r brioda.s yn un hapus a llwydd- iannus ymhob ystyr. Pregetha yn rymus, a bugeilia yn addfwyn, ac y mae'r wedd lew- yrchus geir ar Carmel heddyw yn profi ei fod wedi ymroddi a'i holl egni i rannu bara'r bywyd i bobl ei ofal. Yr wythnos ddiweddaf daeth y newydd trist iddo fod ei frawd wedi syrthio ar faes y gelanedd, ac a ein cydym- deimlad mwyaf trylwyr allan iddo ef a'i fam weddw yn y brofedigaeth chwerw. Duw a sych bob deigr oddiwrth en Ilygaid hwvnt.' Ymweliad vr Athrc Edwards ill. A .— Bu'r Athro dysgedig yng Ngharmel ar daith gasglu. Hyderwii idd- -ac-l casgliad teilwng o'r eglwys a'r Coleg. Cawsom wledd o basgedigion breision ganddo. Credwn y bydd myned o'r athrawon ar deithiau casglu fel yma yn fantais diamheuol i'r Coleg yi-i jicr bydd clywed athrylith fel eiddo'r Athro yma yn foddion treigliad llawer hanner corou i gyfeiriad trysorfa ein Coleg. Rhaid i ni gyållahod- fan yma lld fedrem. ond rhoddi i'r drysorfa wedi ei bregethu grymus a'i apel gref ar ran Aberhonddu. Llwyddiant Eisteddfodot.I)a oedd gennyni glywed i'r cyfaill hynaws Huwco Penmain gipio cadair Eisteddfod Toronto am y bryddest oreu i Daniel Owen, y nofelydd. Cynonfardd oedd y beirniad, a chanwyd can y cadeirio gan Ap Tewdwx, sef Mr. George Harris, gynt o Gorv las; ur Gaerfyrddin. Rhagorol, Huwco Penmain. Y mae Huwco yn flaenor ffyddlon yng Ngharnxel, ac yn un o bregethwyr mwyaf cymeradwy y Cyfundeb yn wir, y mae'n un o indispeiisables pob mudiad daionus yn ein tref. Dim gronyn o'r ymwthiwr ynddo ni clhywid mohono erioed yn canu clodydd iddo ei hun.—-Enillodd Olwen Edwards, merch Huwco Penmain, y wobr am y stori fer orext yn Eisteddfod Corwen, Gwyl y Banc. Dywed y beirniad, y Parch. Tegla Davies —nofelydd campus ei hun--ei bod wedi tra rhagori ar ei chydgystadleuwyr. Gwvddom ei bod wedi curo yn y gystadleuaeth hon hen gewri—un o leiaf sydd wedi ennill yn yr Eis- teddfod Genedlaethol cyn yma, ac anllwy1 o beth oedd ei glywed yn cydnabod hynny heb gysgod surni yn ei ysbryd. Nid yw Olwen ono ugain oed. Penigamp Ewch rhagoch Ein Beciigy;i.Y mae holl fechgyn Cannel ar faes y gwaed—rhai bellach ers blynyddoedd. 'Doeu yn Rhyl yr un certified trade, ac ofer apelio am rycklhad. Blinodd pawb ar y tywallt Igwaed gwition, a gweddier am. i'r aflwydd fyned heibio. Hyd y ceir heddwch, byddwn fyw mewngobaith y daw'r dydd pryd na ddysgo'r cenhedloedd ryfel mwy.' Fe wireddir proffwydoliaeth Caledfryn yn y iii-aii- 'F ddofir rhwysg cleddyfau, Oes hir ni chant frashau Ar flaenau bidogau dur Ni reda gwaed creadur.' |g;Rhyl.. W. J. REliS.