Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

! Diaconiaid Ddoe a Heddyw.I

News
Cite
Share

Diaconiaid Ddoe a Heddyw. I GAN GRIFFITH JOHN, I GAN GRII?f,ITI-I JOIIIZ, I I in. I D R. oedd yr ienengaf y pryd hwnnw o fiaen- oriaid Y-. Yr oedd o gylch 30 oed, yn briod, a chanddo blant. Bychain iawn, hyd yn oed y dyddiau hynny, oedd ei enillion ef. Ond meddai ar un gynysgaeth a wnaethai i fyny am anamlder danteithion bwrdd ei gartref, a chadwodd y fendith lionno ar hyd ei fywyd yr oedd yn frwdfrydig o awyddus am wybod- aeth. Yn ddiau efe oedd yr aelod mwyaf diw- ylliedig ei feddwl a fu yn Y- o'i chychwyniad hyd heddyw diwylliedig ydoedd D.R. yn yr ystyr a wna dyn yn gadarn ac yn wasanaethgar fel crefyddwr. Mi wn iddo yn y blynyddoedd hynny brinhau i fesur gwpwrdd bwyd ei deulu er mwyn llyfrau—llvfrau cydredol a'r breniu- lyfr, y Beibl-oblcgid angerddoldeb ei ddyniun- iad am amgyfired dysgeidiaeth a chyfrinion y gyfrol ysbrydoledig. Yn ffodus, yn fuan wedi ymaelodi yn Y- gwellhaodd amgylchiadau D.R,; ac o hynny ymlaen mwynhaodd gyfran dda o fwyndcrau a hyfrydwch y byd sydd yr awron, yn ei deulu ac yn gymdeithasol. Ychydig iawn iawn o faniach disylwedd gaffai le yn ymddiddanion a chymdeithas D.R. Am grefyeld-ei hawliau; ei-haddysg, ei gofynion a'i dyledswyddau arbenuig yr hoffai ef siarad a'r cwmni foddlonai i ymgolli yn y pethau gwell oedd y cwmni cydnaws a'i ysbryd ef. Gyda j hwy y dedwyddid ac y diddorid ef. A phwy bynnag a droai ato, yn y gwaith neu ar yr heol, oni fyddai ei ymadrodd ef yn un a arweddai ar y capel, ei wasanaeth a'i bobl, elai D.R. yn fud yn ei gwmni, ac yn fuan enciliai mewn ymchwil am gwmni arall, neu i unigedd y maes agored. Ffaeledd ymddangosiadol D. R., os ffaeledd hefyd, oedd cyfyngder ei orwelion meddyliol. Yr oedd yn Galfiniad eithriadol o gul ei syn- iadau. Credai fod yr athrawiaeth o etholedig- aeth ddiamadol yn amlwg ganfyddadwy yn yr Epistolau oil ac yn nysgeidiaeth symlaf yr Athraw Mawr Ei Hun. Cymhwysai hyd yn oed syniadau mwyaf cyfriniol y disgybl annwyl i ategu ei gredo ef, D.R. A phan addysgai yn yr Ysgol Sul, neu y cynghorai yn y gyfeillach, gorweddai ei gredo yn blygion trwchus ar ei addysg a'i gynghorion. Ond yr hyn oedd yn 6d yn ei hanes, pan fyddai ar ei liniau, 11i fyddai eiliw o Galfiniaetk ar ei ymadrodd gweddi. A thystiai yng nglilyw gwrthrych gweddi nad oedd odid ddim rhyngdo ef, D.R., a'r pryf nad yw yn marw, a'r tan nad yw yn diffodd.' Gan ainlaf, pan yn gweddïo, yr oedd yn eithafol o ddiobaith gyda golwg ar ei gyflwr ysbrydol. Ond gwnaetli D.R. wasanaeth ardderchog yn Y- a hynny am ysbaid hwyach o amser na neb o'i gyfoedion. Y tro diweddaf y cyfar- fyddais ag ef—erbyn hynny yr oedd yn fwy na 70 oed—dywedodd wrthyf fel yma 'Rych chwi, yn fy adnabod i yn dda, ac yn gwybod fy hanes. Mi wnes i lawer o ffwlbri yn ystod fy mywyd, a gWll i mi wneud llawer o driciau sal ddigon. Ond wyddoch chwi, ——, mae rhywbeth yn dweyd, ac yn dweyd o hyd ac o hyd yn yr hen galon yma, nad wyf fi ddim i fod yn golledig. Fe fydd yn od jawll os na ffeindia'r Duw da ryw gornel fach i fi yn y nefoedd, lie y gallaf Ei addoli Ff a'i wasanaethu ynglyn a manion Ei balas Ef.' Wele enghraifit o D.R. ar ei limau Trugarog ydvvyt Ti, 0 Arglwydd ein Duw Dy drugaredd yn unig yw na ddarfu am danom, a'th drugaredd anfeidrol yw yr achos ein bod ni yma heno ar yr awr weddi hon. Gad i ui, bethbynnag gedwi Di oddiwrthym, i sylw'eddoli ein bod yn Dy wyddfod sanctaidd. Na ad, 0 Arglwydd, i'n hanwiredd a'n pechodau, er eu niaint, i'th gadw Dijiraw tra y ceisiwn Dy addoli. 'Rym ni, Ti a'i gwyddost, yn sylweddoli i fesur ein han- nheilyngdod o'r fraint honno. Mae hynny ainbell waith yn ein digalonni, ac yn peri i ni ameu y perthynwn i'th deulu Di mae ein pechodau mor fawr, a'n hanwiredd mor ddu, hyd yn oed i'n golygon ni. Er hynny, 0 Arglwydd Dduw y tadau, 'rym ni fel hwythau am lynu i ddis- gwyl am a deisyf am < in hiachawdwriaeth yn lesu Grist. Hyderwn ein bod ni wedi ein hachub rhag pechu yn rhyfygus, ond mynnwn i Ti ein hachub yn llawer llwyrach. Maddeu i ni am ein bod mor barod, mor barod bron ag i ni i fwyta ein bara beunyddiol, i lithro i gamweddau, ac i droi ymaith oddiar y llwybrau uniawn sydd yn dibennu mewn tragwyddol wynfycl. Maddeu hefyd galedwch ein calon pan fel yma yn ym- grymu ger Dy fron, ac hefyd ystygnigrwydd ein hysbryd yn wyneb ein gwybodaeth olionot Ti, a'th gariad fel y'th ddatguddiwyd yn lesu Grist a'i groes. Arglwydd da, cymoder ni a Thi heno ynddo Ef ar waethaf ein drygioni mawr. "Arglwydd, os creffi ar anwiredd, 0 Arglwydd, pwy a saif ? Ie, beth a dda\v ohonom ? ie, hyd yn oed y goreu ohonom ? 'Does diin ond treulio'r oes dragwyddol yn rhy bell oddiwrthyt Ti i'th glywed mwyach yn ein galw ni yn ol. Diolcli, clywn Di heno yn ein galw, ie, yn galw arnaf n, D.R., i ddychwelyd o'm llwybrau pell. Rho Dy gymorth i ni i ddychwelyd yn awr, yr awr hon. Ti, 0 Arglwydd, yw unig fugail ac esgob ein heneidiau. Os dychwelwn felly atat- yn hytrach, os peri Di hynny trwy Dy ras-yna ni lithrwn ni byth mwyach mor ddifeddwl i weithredoedd drwg.' D.R. oedd yr unig un o flaenoriaid Y—■—• a wyddai ac arferai reolau gramadeg yn weddol gywir. W Wele eto enghraifit o D.R. yn y gyfeillach Frodyr a chwiorydd, nid yn ami y teimlaf awydd diolch wrth ddod i'r hen dy ysgol hwn, i ddiolch am ein breintiau crefyddol. Ond heno, pe gadawn y ffrwyn i'm tafod, gwaTeddwn Diolch oblegid inae'r lie yma fel wedi ei ffaglu gan Ysbryd Duvy. Trueni, onite, na baem ni yn wastadol mewn ysbryd diolch gwresog ac mae'n gywilydd wyneb i ni na baem ni felly yr, -tillac h iiiae ein d y l- yn anilach mae ein dyled i Dduw am L, i gariad tuag atom yn aros yr un. Un o'r pethau sydd yn fy mhoeni yn enbyd yw y1: amrywio sydd ar fy mhorfiad, Heno caf fy hun fel pe ar glog- WVll uchaf mvnydcl D uw, ond fel rheol yr w, f yng ngwaelodion y pantiau isaf. Weithiau gwrandaw ar Mr. H. yn pregethu ie, a phan y gWll i fod ei enaid yn fflamio yn y bregeth, gwrandawaf arno mor ddigyffro ac mor ddi- eneiniad a phe bai ef a minnau ond darnau pren. Diolch i Dduw mai nid felly y byddaf bob amser. Yn ddios, mae gwrando yr Efengyl fel yna yn bechod o'r fath dduaf. Frodyr a chwiorydd, ni fwriadwn pan godais ar fy nhraed i fynd i'r cyfeiriad hwn ond dyna fi wedi ei ddweyd bron heb yn wybod i fy hun an. Medd- yliwch chwi am y peth eto feallai y bydd hynny yn foddion gras i chwi, ac wrth gwrs i minnau. Ond y frawddeg oedd ar fy meddwl wrth ddod i'r cwrdd heno oedd hon Megis yr etholodd Ef ni ynddo Ef cyn. seiliad y byd." Beth fedd- yliwch chwi nawr am yffaith yna ? oblegid mae yn ffaith Paul a'i dywedodd. Pan fyddaf fi yn fwyaf digalon ac ymron anobeithio gyda golwg ar fy nghyflwr, fy noddfa yw hyderu y'm hethol- wyd i ynddo Ef er cyn seiliad y byd.'

Advertising

1, Y DIACON A'I SWYDD.*