Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

1, Y DIACON A'I SWYDD.*

News
Cite
Share

1, Y DIACON A'I SWYDD.* GAN MR. DANIEI/JONES, YSGOl, Y CYNGOR, TALYBONT. Yn yr ycliydig sylwadau geisiwn wueud ar y tejtyn uchod, nid ydym am gyfyngu ein hunain yn hollol i waith ysbrydol y diacon, ond ceisiwn daflu cipdrem frysiog ar yr oil o'i ddyledswyddau. Mae'r llinell derfyn rhwng y tymhorol a'r ysbrydol mor deneu fel mai rhwydd iawn fuasai rhoddi cam o un i'r llall, a hynny megis yn ddiarwybod. 'All events are ultimately spiri- tual,' meddai un awdur galluog. Mae gan rai dynion syniadau cyfeiliornus am waith diacon. Credant mai ei unig waith yw eistedd yn y cor mawr ar y Sul, myned a'r elfennau 5 o amgylch ar y Cymundeb, a chasglu. A chyda llaw, oes yna ryw reswm droj i'r diaconiaid eistedd yn y cor mawr ? Onid gwell fuasai iddynt eistedd ymysg y gynulleidfa ? EI WAITH CYNTEPIG. Diameu mai i wasanaethu byrddau, i ofalu am y trefniadau allanol, yr elusenau—yn eu casgliad a'u dosbarthiad—yr etholwyd y diacon- iaid cyntaf. Eto nid oes sicrwydd fod y llinell derfyn rhwng y tymhorol a'r ysbrydol wedi cael ei chadw yn glir, neu fe dyfodd rhai, megis Stephan a Phylip, yn fwy na'u swydd. DEWISIAD Y DIACONIAID. Mewn eglwys fyddo o ddim o faint ulae gwahanol ddosbarthiadau o ddynion, megis amaethwyr, masnachwyr, crefftwyr, &c., Y11 y gynulleidfa. Os yn bojibi, dylasai pob dosbarth gael ei gynrychioli yn y ddiaconiaeth er mwyn i'r swyddogion gatrl gwybod teimlad yr eglwys o hyd. Os bydd unrhyw fath o anhwyldeb ar berson, un o'r pethau cyntaf wna'r meddyg yw teimlo sut mae'r pulse yn curo. Pan fyddo'r arwydd lleiaf o oerfelgarwch a chlaiarineb yn dod i'r golwg ymysg rhyw ran o'r aelodau, gall y brodyr, drwy gael cynrychiolaeth fel yr awgrymwyd, gael gafael ar y drwg yn bur fnan, a thrwy hynny ei ladd yn yr eginyn. Mewn rhai eglwysi bydd cythraul y canu,' fel y gelwir ef, yn amlygu ei hun yn bur fynych. Os bydd cerddor ag fydd mewn cydymdeimlad a'r cantorion a'r cerddorion ymysg y diaconiaid, gall drwy fod yn wyliadwrus weled y cymylau duon yn ymgasglu; a thrwy ddoethineb, tact a gras, gall daflu olew ar y tonnau cynhyrfus, a thrwy hynny eu tawelu cyn i'r llestr gwannaf dderbyn un niwed. Mae'r Ysgol Sul yn un o brif feithrinfeydd yr Eglwys. Os bydd diacon yn arolygwr, ca gyfle ardderchog i adnabod y ffyddloniaid a'r anffyddloniaid, ac i hyfforddi'r ieuainc ymhen eu ffordd. Drwy gael cynrychiolaeth o'r fath a nodwyd ceir peth mae'r inspectors yn alw yn yr ysgolion

[No title]

1, Y DIACON A'I SWYDD.*