Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Hyn a'r Hall 0 Babilon Fawr.…

News
Cite
Share

Hyn a'r Hall 0 Babilon Fawr. I (TAN EYNON. I Hyn a'r Hall o sir Gaernarfon fuasai'r pen- nawd priodol yr wythnos hon, am fy mod wedi cael y fraint-am y tro-o ffarwelio a Babilon efo'i bombs a'i Zeppelins a'i chynhyrfiadau Sen- eddol, am dawelwch glan y mor yng Nghricieth a Cholwyn Bay. Nid da gormod o fel ebe'r hen ddiareb, ac na gormod o Babilon a'r fedd- yginiaeth oreu i ysbryd cystuddiedig yw swn y mor ac awyr bur y mynydd. Ar ol blwyddyn ynghanol berw a thwrw'r Ddinas fawr, dedwydd yw ymgladdu ynghanol tawelwch melys y wlad i wrando ar fref y ddafad a chan yr aderyn. Ond y mae diddordeb o natur arall-httiizaii I nterest-yn perthyn i Gricieth, yn rhinwedd y ffaitli mai yma y niagwyd Prifweinidog Prydain Fawr, os nad Prifweinidog y byd yn bresennol. Heb golli amser, ar ol i'r gwlaw mawr gilio, aeth- pwyd ar bererindod i Lanystumdwy i weled y lie bu Lloyd George yn treulio ei brclltisiaeth foreaf fel politician. Ar fy hynt gelwais yn y bwthyn diaddurn lie y bn ei fam yn codi ei dau fachgen, a thy ei hen ewythr Richard Lloyd y drws nesaf iddo. Gwelais y g'egin fechan lie y bu y fam a'i dan fach amddifad yn ymladd brwydrau cyntaf bywyd pan oedd yr amgylchiadau'n gyfyng, a'r wy berwedig hwnnw wedi ei rannu rhwng y d d a u frawd bychan yn cael ei gyfrif yn amheuthun. Mr. Lloyd George ei hun sydd wedi dweyd yr hanes, ac y mae'n arwydd o wir fawredd ac yn glod calon iddo nad oes arno gywilydd adrodd stori ramantus bore oes. Ac y mae'n stori gwerth ei dweyd mewn ffordd o ysbrydoli bechgyn yr oes hon i ddilyn ol ei draed. Gwelais yr ysgoldy lie y bu'n arwain y gad yn erbyn dysgu catecism Eglwys Loegr, a dangos- Wyd y fan lie safai'r hen efail got lie y cynhelid parliament y pentref. Dyna'r He y bu Lloyd George yn dysgu'r ABC yn yr ystyr wleid- yddol; a chyda help Baner enwog Thomas Gee, a dylanwad personol hen athrawon profedig fel Michael Jones o'r Bala, ac Evan Jones, Caer- narfon, tyfodd y llanc ieuanc o Lanystumdwy maes o law i fod yn brif wladweinydd yr oes. Gwelais hefyd y capel bychan diaddurn yng Nghricieth a'i wyneb ar y mor, lie y bu Richard Lloyd yn torri bara'r bywyd i'r saint am gynifer otflynyddoedd. Mae yng Nghricieth rhyw bym- theg cant o drigolion, ac y mae yma hanner dwsin os nad saith o addoldai. Fe ddaw dydd maes o law pan y bydd peth fel hyn yn amhosibl. Nid am fod angen diffodd enwadaeth fel y cyf- ryw. Mae ychydig ohono yn dda, ond gyda thipyn o ras a synnwyr cyffredin dylasai fod yn bosibl i ni fel gwahanol enwadati Cymreig fyw o dan yr un to mewn mannau nad oes adnoddau gan bob enwad i gynnal ei achos ei hun. Saif cartref presennol Mr. Lloyd George, I Brynawelon,' ar fryn bychan a'i wyneb tua'r De. Y mae'r olygfa yn un o'r rhai ardderchocaf yn y byd. Mae'r Wyddfa a Chader Idris yn y golwg, a bau Aberteiii yn ymagor yn fawreddog yn y ffrynt. Lie ardderchog i galon luddedig yw lie fel hwn, a gobeithio nad yw'r dydd ymhell -ar ol gorffen y rhyfel-pan ryddheir yr hwn wnaeth fwy na neb arall i ennill y dydd o'i ofalon dirif, niodd y gallo fwynhau heddwch a thangnefedd Btynawelon.' Bum yn sgwrsio hwnt ac yma efo'r bro- dorion--a'r testyn, wrth reswm, oedd Lloyd George. Y maent oil yn falch dros ben ohono. Un hen frawd yn cofio am dano yn llanc deunaw' oed yn siarad mewn cyfarfod yn y Borth Porthmadog, wrth reswm. Yr oedd rhai o'r hen hoelion wyth yn bresennol, yn eu plith Thomas Gee, Dr. John Thomas, Lerpwl, y Parch. John Owen, Tynllwyn, ac eraill; a'r farn un- frydol, ar ol clywed araith y llanc o Gricieth, ydoedd ei bod yn ddyledswydd cadw llygad arno, am fod dyfodol go fawr yn ei aros; ac y mae'r borffwydoliaeth wedi dod i ben. Un hen frawd arall yn falch o'r anrhydedd mai efe oedd y cyntaf yn ol y cloc. bob amser i fotio dros Lloyd George ar fore'r lecshwn. Addefodd yn rhwydd nad oedd yn hoffi'r cwmni sydd o'i ddeutu'n ddiweddar, yn enwedig Northcliffe a'i wasg felen. Rhyw gofio am Chamberlain yr oedd yr hen Radical holliach, a cheisiais ei berswadio fod Lloyd George yn well Piwritan o'r ddau, wedi ei wreiddio'n ddyfnach yn egwyddorion tragwyddol, ac nad oedd fawr perygl iddo anghofio hen wersi'r aelwyd. Eto i gyd, nid yw Northcliffe yn ffafryn gan werin sir Gaernarfoll. Cynhyrfus dros ben yw sefyllfa pethau ar hyn o bryd yn y byd politicaidd. Cyfyd hyn yn bennaf yn herwydd ymddygiadau Mr. Arthur Henderson. Y mae Mr. Henderson ers tro bellach wedi bod yn aelod o Lywodraetli Prydain Fawr, ac eto'n dal ei hen swydd fel Ysgrifen- nydd Cyffredinol Plaid Llafur. Godro llaeth dwy fuwch yw peth felly. Amhosibl gwasan- aethu'r ddwy swydd yma i foddlonrwydd, ac nid rhyfedd fod camddealltwriaeth wedi codi o barth i'w waith yn hwylio i'r Gynliadledd Sosial- aidd yn Stockholm. Y peth difrifolaf yw fod yna berygl split yng ngwersyll Llafur. Mae'r Aelodau Seneddol sydd yn cynrychioli Llafur ar hyn o bryd yn ddwyblaid eisoes, a chyst iddynt arfer llawer o ras ac amynedd a doeth- ineb, lieu rhyngddynt a'i gilydd fe yrrir y llong i'r graig. Tasg go gynil felly sydd gan y Prif- weinidog i gadw'r peiriant i weithio yn wyneb y strikes a'r cynhennau ydynt mor gyffredin y dyddiau hyn. Yn anad popeth, gadawer i ni ohirio pob cynuen nes cael pen y Kaiser i lawr. Ni cheir heddwch mewn byd nac Eglwys nes daw hyn i ben. Mae'r Pab o Rufain wedi dihuno o'i drwm- gwsg pechadurus yn ddiweddar, ac wedi anfon neges at deyrnasoedd Ewrop yn galw am heddwch a thangnefedd. Y mae wedi dihuno rhyw dair blynedd yn rhy ddiweddar. Pah am na fuasai'n anfon negeseuon pan oedd bwyst- filod Germani yn anrheithio Belgium ? Paham oedd Rhufain yn fud pan oedd Cardinal Mercier yn llefain a llef uchel yn erbyn creulonderau anghenfilaidd Louvain a Din ant ? I,le 'roedd y Pab o Rufai 1 y pryd hynny ? Yr oadd yn llechu yn ei clwll yn y Vatican, ac yn ofni dweyd Bo wrth alluoedd y fagddu. Ond yn awr, pan y mae buddugoliaeth yn y golwg, ac America ar ddod i mewn, dyma'r hen wreigen o Rufain yn dod allan—o dan ysbrydoliaeth Awstria a Gerinaiii-ac yn galw am heddwch ar delerau Germanaidd. Os felly, yn ofer ac am ddim y bu'r holl aberth mawr. Na rhaid diorseddu Satan, a chyda help yr America fe wneir hynny maes o law. Yn y cyfamser, nid oes neb yn hidio botwm corn am rigwm anniben yr hen lane o lan y Tiber.

YR|ELFEN BERSONOL A'j C HREF…

SECT YD DIAETH YN YR EISTEDDFOD…

I ECO'R DDRYCIN.

'YN DY GWMNI DOF PR LAN.'