Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

0 FRYN I FRYN.

News
Cite
Share

0 FRYN I FRYN. A HYNNY.yw'r olwg a geir ar fyd cyfan yr avVT 'Gyrrais yr holl ddynion bob un ytn mhen ei gymydog.' hoii. Brawddeg Zechariah ydyw hon a gadd gaii Dduw. A Duw a wiiaetliai hyn, ac nid Zechariah. Nid oes y fath allu a chariad i wasgaru fel i gasglu. A beth da vw byd a theyrnas a £0'11 ben-ben ? Y wedd fwyaf gwanychol a dinistriol ar genedl a gwlad yw eu bod yn ddi-ymddiried yn ei gilydd, ac yn Ish- maelaidd. Dyma babel waeth na 1'h wr Babel. Tuedd anocheladwy chwyldroadaeth ydyw gwneud y lliaws yn wamal ac yn ansicr. Mae'n wir fod chwyldroad yn deffro hygoeledd a rhyw fath o ymddiriedaeth, 0 dyfiant fel cicaion Jonah, eto cydymdeithia a hi, gyda hynny, lawer o amheuaeth a dtwgdybiaeth. Hawdd yw darllen hyn allan o gaethgludiadau'r genedl Iddewig ac o'i dychvvelitul i'w gwlad. A chadd yr ysbryd hwn ei gynhaeaf llawn yn ystod chwyldroad yr Ymgnawdoliad. Y brofedigaeth yn y fath argyf- yngau yw i ymddiriedaeth golli ei gafael yn ei phrif wrthrycli, sef Duw, ac am hynny nid hir y deil ei gafael mewn dynion ac egwyddorion. Nid un i dolach rhyw lawer a hi vw ffydd, yn enAvedi, yn ei sylfeini cynhenid a chyntaf. Rhyw ddarlun egwan o hyn yw rhai creaduriaid bach aelwydgar a fo ar grwydr ac yn ceisio am eu cartref a'u meistr. Gwlla rhywun a rhywbeth y tro am dro, hyd nes dod i'r tro iawn ac os na ddaw hwnnw i ran Tango,' cyll ei ynni a'i hwyl, ac a'n gaethwas i farw. Darllenir hyn yn wyneb yr Iddewon YIll Mabilon. Yr oeddent wedi colli eu teml, a'u dinas, a'u defodau, a'u dynion mawr, a'u Duw, ac am hynny yr oedd eu hymddiriedaeth yn y byd o'r tuallan iddynt yn ysigedig a diymadferth. A phian ysbeilid yr Iddew o'i fyd oddiallan, collai ei gwbl, canys o'r braidd yr oedd ef eto wedi breuddwydio am ei fyd o'i fewn. Mor debyg i hyn ydyw heddyw, sef heddyw y teyrnasoedd a heddyw y dosbarthiadau mawr- ion crefyddol. Rhyw ffydd HAP NL, U ANHAP ydyw ffydd heddyw. Nid ffydd mo'r gair goreu, ond amheuaeth neu anymddiried- aeth.' Dychwelodd miloedd, do, ugeiniau o fil- oedd o Iddewon i'w gwlad ar arch Cyrus, ond blinid hwynt yn fawr gan amheuaeth, er fod y tayiiyddoedd yn bloeddio canu o'u blaen, a holl goed y maes yn curo dwylaw. Rhyw ddod yn ol yn ofnus ac ansicr a wnaethent a phan welsent eu dinas a'u gwlad yn adfeilion ac yn garneddau ac yn llwch, ymddangosai ad-drefnu pethau fel ° r blaeu iddynt yn fwy camp na chreadigaeth y bYd. Ceisia Zechariah am adferiad tair gwedd yn eu ffydd, sef yn Nuw, mewn dynion, ac mewn egwyddorion. Rhain yw tair byddin y con- cwestau mawr. Dywedai Syr William Robertson y dydd o'r blaen We see in this tremendous contest much more than a struggle of armed forces. The psychology of the nation, not the discipline of its army, is concerned. Quality is going to win the war.' Hwn ydyw un o sylwadau mwyaf dwyfol a thragwyddol y rhyfel hwn, ac mae rhywbeth mwy na meddyliwr yn yr un a'i dywedodd. Ond teg yw dweyd i un o broffwydi bach Duw ei weld filoedd o flynyddoedd cyn geni Syr William. A dyna yw baich rlian ayntaf lylyfr Zechariah, sef i berswadio'r bobl mai cy- meriad, a hwnnw'n gwaelodi ar ymddiriedaeth yn Nuw, sydd yn mynd i greu o newydd ar wyneb y ddaear. Yn hyn o beth y ceir gwendid yr oes hon. Oes wan ei ffydd ydyw hon. Faint o Dduw sydd ganddi, ac o ddynion, ac o egwydd- orion ? Dywed yr arddangosiadau mai gwan ydyw ei ffydd ynddynt. Ceisio dweyd ydym nad yw pobloedd heddyw yn vmddiried vii ei gilydd. Ofn a drwgdybiaeth a her a gymer le ymddiriedaeth yn awr, ac am hynny mae cyf- reithwyr a heddgeidwaid a dreadnoughts yn wir boblogaidd. Ac nid rhywbeth lie a dosbarth yw'r anymddiried hwn, ond mae'n gyffredinol. Y mae mor amlwg yn yr enwadau ag ydyw yn y gweithfeydd a'r teyrnasoedd. Araf y daeth i mewn i'n plith. Ofnai rhai ohonom mai efe ydoedd, a hynny dros ugain mlynedd yn ol. Gwelid ef yn dod, dipyn yn anelwig, o draw yr adeg honno, gan bwyll ei gam ac yn chwilotgar ei drem, yn ddieflyn bach digon neis, a'i neges I dros chware teg i bawb a llwydd i'r achos goreu ac elai yn ei flaen i yrru rhwng Cyfalaf a Llafur, a rhwng pobloedd a'u harweinwyr gwladol, a rhwng aelodau eglwysi a'u dewis-swyddogion, a rhwng gwyr a gwragedd, a phlant a rhieni. A heddyw wele ei gam eithaf yn y rhyfel ofn- adwy hWll. Ni bu'r byd erioed o'r blaen yn llawnach o aur ac arian, ac o ddysgedigion ac athronwyr, ac o gyfleusterau a chynorthwyon teithio a gweithio a gwynfyd, ac o Fyrddau a Chynghorau ac Undebau a Phwyllgorau a Chy- nadleddau a Federasiwnau a Seneddau a Deddfau a Dynion, i gadw ei hun wrth ei gilydd ac yn ei Ie ond eto ni bu erioed yn dlotach o ymddir- iedaeth, ac am hynny gwelir ymhob man bron, Beware of dogs.' Bid sicr, nid ydys yn ddi- ffydd ond lie mae o ryw fath ac i ryw radd, mae'n wan ac yn wyllt ac yn ansicr, ac yn rhyw chwilmanta beiau yn fwy nag yn ymhyfrydu mewn rhinweddau. Rhyw ffydd fel ffydd beili ydyw, neu mewn rhai mae fel ffydd dyn ar foddi, ac yn eraill nid yw'n ddim ond ffydd swyddogaeth. Mae'n eiddil, mae'n anuiddig, ac yn grintachlyd fel baban afiach. Cyll mewn sefydlogrwydd a hoywder. Ble ceir ffydd sad, hoyw a chadarn heddyw ? Nid yw ymhlith gweithwyr a'u harweinwyr a'u meistri; nid yw yn y wlad a'r Senedd nid yw yn yr enwadau a'r eglwysi. Colledigaeth a marwolaeth sydd yn dywedyd, Ni a glywsom a'n clustiau son am dani hi.' Mewn cynhadledd o bwys y dydd o'r blaen siaredid gan leygwr yn bennaf ar grefydd yn yr eglwysi, ac meddai un ohouynt: How do the parsons expect us to believe things while they all differ them- selves ? They don't believe all they say—not they.' Clywsom am aelod oedrannus o gymeriad rhagorol ar ei wely marw am amser maith, ac eto'n annhueddol i dderbyn gweddi oddiwrth un o'i gyd-aelodau a chadd un allan ei reswm, sef ei fod wedi colli ei ymddiriedaeth yn eu cym- hwyster i weddio yn y fath le. Ergyd i'r un cyfeiriad ydyw'r geiriau hynny a briodolir i'r Prifathro Dr. Selbie, yn atebiad i ofyniad a gadd ynghylch Diwygiad ymhlith yr Eglwysi Rhydd- ion fel a fu gan yr Kglwyswyr, sef We shall not be ready for anything of the kind until we know better where we are ourselves.' Y11 wir, mae'r dwymyn ameu hon wedi lledu mor ofnadwy fel y ceir hi ar hyn o bryd yn gwan- ychu ffydd crefyddwyr hyd yn oed yn eu Duw, ac nid oes cywilydd arnynt i addef hynny, a hwynt-hwy yn grefyddwyr, ac yn wragedd fel y gwyr. Tybiwn ambell dro, oui buasai am ei enw, mai'r diafol a gawsai'r croeso mwyaf ar hyn o bryd. Rhyfedd fel y mae'r allanol o hyd yn delweddu'r mewnol. Ym miri ac auiihrefu ac aflun a difrod y Cyfandir darllenir yn gywir yr unfath fyd mewnol ei drigolion. Beth sydd yn cyfrif am fod a chynnydd yr ysbryd an- ymddiried hwn ? Ymhlith pethau eraill, ceir fod a ganlyn a Haw ynddo, sef awydd pobl am oruchafiaeth a blaenoiiaetli, heb hidio o gwhl am deilyngdod, ond yn unig gwelwch chwi fi.' Yn ail, ceir yn y cyfiif hwn y siom a ga'r rhai a arweinir yn en harweinwyr wedi gweld eu ffug a'u cynlhvyn, a'u cyfeilioru a'u budr-tlwa. Yn drydycld, daw gweriniaeth effro gerbron yn hyn, a wel ei hawliau heb ystyried ei dyled- swyddau, ac a lenwir o ragfarn a drwgdybiaeth at rai sydd mewn amgylchiadau gwahauol a ymddeiigys i'r llygad yn fwy esmwyth a gwell na'r eiddo hwynt. A bid sicr, un o alluoedd gwaethaf ymddiriedaeth iach a cliyffredinol yw Heidiaeth mewn Cymdeitlias, a Sectariaeth neu Knwadaeth mewn Crefydd. Prif siarad pob dydd, a hynnv ers tair blj nedd bellach, ydyw'r ad-eni a'r ad-drefnu sydd i fod ar Gyfandir Ewrop ond mae hynnv'n annatur- iol ac yn afresymol— yn wir, y lllae'll itliii-Ltwiol- hyd nes bo ad-eni yn cymryd lie vn Ymddiried- aeth y bobl mewn DUW A DYNION AC lJGWYDDORION. Yr oedd yn amser dycliweliad y gaethglud dri dyli o nod, sef Zechariah, Josua a Zorobabel. Y tri gallu hanfodol i gyfuniad cenedl a theyrnas, fel i ach-Libiactli pechadur,ydyw'r proffwyd a'r offeiriad a'r brenin. Yr ydym felly i edrych allan heddyw am ein Zechariah a'n Josua a'n Zorobabel. Y mae'n rhaid wrthynt, a'u Duw gyda hwynt. Nid yw o bwys o ba genedl y ceir hwynt, nac o ba ddosbartli—eu cael ydyw'r pwnc a chyda hynny, i gael y bobl i fod yn foddlon arnynt ac i ymddiried ynddynt. Mae'r defiroad i well vlnddirieclaeth i ddod o'r bobl. Dyma le yr ad-eni a sonnir am dano i ddechreu ei fyd. Cadwed pwyllgorau a chynadleddau o'r golwg. Y lleoedd dieithraf i adenedigaeth ydyw cynadleddau a phwyllgorau. Mamaethod an- ymddiriedaeth ydynt hwy. Sut mae i'r bobl i gael arweinwyr, i gredu ynddynt, a bod yn ffydd- lon iddynt ? Y mae hynny'n beth digon hawdd ond i'r bobl gael llonydd gan hen arweinwyr ffaeledig, a chan gynffonwyr rheiny. Creda'r