Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
IICAN SERCH. I
News
Cite
Share
II CAN SERCH. Y RHOSYN a welais unwaith Yn tyfu ger y lli*, A welaf heno'n tyfu Yng ngwrid dy ruddiau di. A phlannodd engyl Gwynfa Ddyfnderoedd glesni'r nen Yn eigion mawr di-waelod Dau berlyn byw dy ben. Bti'r nos yn Iliwio'r plethan A'i dduaf, ddyfnaf ddu; A duach fil vat heno Na'r nosliw dua' sy'. Disgynnodd ceriwb ieuanc Yn ddistaw ar dy fron, A phlannodd lili'r nefoedd Yn nyfnder oariad hon. Blodeua yno, Gwenno, Gan wasgar hyd y Hawr Aroglau puraf, goreu, Y tragwyddolfyd mawr. PRYDYDD IECANC,
D YCHVVBIJIAD Y MILWR.
News
Cite
Share
D YCHVVBIJIAD Y MILWR. Alato-I Pen Rhaw.' AETH heibio'r hir gyflafan ddu, Distawodd rhu y fagnel A dod yn ol wna'r milwr derch 0 Sosydd erch- y rhyfel: Ond gwnaeth i'w elyn olaf ffoi Cyn iddo droi a dychwel. O'i wirfodd aeth i faes y gad Dros urddas gwlad ei dadau, A brwydro wnaeth nes cario'r dydd Ar wane y penrhydd dduwiau; Ac eto hyd ei weryd bydd Yn derydd droa iawnderau. Er gweled llawer cyfaill cun Yn disgyn idd ei weryd, Mae ef yn fyw, a dylai gael Rhan hael o fwyniant bywyd; Creulondeb fyddai'i gadw n dlawd Gan dduwies Ffawd ormeslyd. Rhown iddo barch: mae'n haeddu mwy Na thai y plwy' i'w gadw Mae wedi prynu'i wlad bob darn A'i gadarn gleddyf gloyw; Rhy hwyr fydd dechreu ei fawrhau Pan fo mewn eisiau'n marw. Mae'n dod yn ol a ddeffry can Ei genedl lan i'w dderbyn? Mae'n dod yn ol a cherddi hedd Anrhydedd ar ei delyn; Ac eto gwelir ef a'i Wen 0 dan v eoeden gelyn. Penygroes, Llandebie. B. H. J. (Mab-yr-Awen).
.'-EMYNAU.
News
Cite
Share
EMYNAU. O PY lesu, addfwyn Iesu, Edrych ar bererin gwan, Sydd yn ceisio dringo'i fyny, Ond yn methu dod i'r lan Arglwydd tirion, Dyro imi help Dy law. O ARGLWYDD tirion, cadw fi Rhag pechu yn Dy erbyn Di; A dyro imi ddwyfol ras All lwyr ddileu fy mhechod cas. O! DDUW ein hiachawdwriaeth Sy'n helaeth gyfiawnhau Y pechaduriaid mwyaf, Faint bynnag fydd eu bai; Mae gennyt Ti drugaredd I'r a-dyn gwaotba, gaed, Trwy rinwedd anorchfygol Yr Oen a'i werthfawr waed. PAM carai'r byd a'i bethau ? Oferedd ynt i gyd 0 cyfod fy serchiadau At bethau'r nefol fyd; Cael rhan o'r nefoedd yma, Cyn treulio f'oes i ben, Ac eto'i chael yn gyflawn Mewn byd goruwoh y nen. I Briton Ferry. «J. LODAVIOK. I
AR OL VAVASOR, j
News
Cite
Share
AR OL VAVASOR, Mab Dr. Lloyd Morgan, Pcmtardulais. HALLT wylir drwy'r holl deulu—am un hoff I Mewn hedd sydd yn cysgu Mewn mawr gwyn, am un mor gu, Greddf enaid yw gruddfannu. I CYFAILL.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Nis gellwch fod yn obeithiol os bydd eich nerfau wedi rhedeg i lawr. Cryfhewch eich nerfau, a gwellhewch eich Iechyd, trwy gymryd Sanatogen yn ddyddiol. I fod yn wir obeithiol (optimist) rhaid i chwi fod yn ddyn neu ddynes iach a llawn ynni, gyda swm helaeth o allu adgyfnerthol wedi ei ystorio yng nghelloedd yr ymenydd a'r nerfau. Rhydd hyn i chwi dawelwch a chysur—llawenydd yn eich gwaith-bywiogrwydd a brwdfrydedd-y gallu i wynebu pethau yn deg ac heb syflyd. Y mae digalondid yn dyfod o ymenydd sydd yn derbyn maeth gwael/ meddai Mr. RICHARD LE GALLIENNE, y bardd enwog a'r dyn dysgedig. Ac fe chwanega Pe buasai Sanatogen wedi bod yn y byd yn gynharach, gallasem fod yn clywed llai am ddigalondid (Pessimism) y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y mae Sanato- gen wedi profi ei hun yn rhodd Duw mewn gwirionedd i weithwyr gyda'u hymenyddiau. Er nad yw'n anelu at unrhywJ I brysuro i fyny' o ddeddfau naturiol iechyd, y mae mewn modd hollol ddiogel a chyfreithlon yn cynorthwyo cwrs natur ei hun i adfer iechyd trwy gyflenwi'r ymenydd a'r nerfau gyda'r elfennau pwysicaf o fwyd mewn ffurf sydd yn sicrhau eu cymhwysiad mwyaf cyflym. Y mae pob llond llwy yn talu rhywbeth i ni ym mane ein hynni, gan chwanegu'n gyson at effeithiolrwydd ein bywydau.' Meddyliwch am y geiriau hyn, a gweithredweh arnynt! Cpral Saitiei yn nyiot Nid yw o un diben gwneud penderfyniadau pendant os na fydd gennych y gallu nerfol i'w cario allan. Y mae Sanatogen yn rhoddi i chwi ddigonedd o allu nerfol, ac y mae ei ddefnyddiad parhaus yn eich cadw i fyny at safon uchaf posibl iechyd ac ynni. Ar ol cymryd Sanatogen yn rheolaidd bydd i chwi deimlo cyflenwad difesur bron o ynni ynoch, bywiogrwydd meddwl, a'r ieuengrwydd hwnnw a'ch caria ymhell, ac a gyfnewidia eich holl ragolwg o fywyd. Canolbwyntiwch eich meddwl a'ch nerth ewyllys ar yr un peth hwn-sef, i godi eich iechyd a'ch gallu nerfol i'r pwynt uchaf trwy Sanatogen. Beth bynnag arall a wnewch, gwnewch yn sicr o hyn. Cynilwch mewn cyfeiriadau eraill os rhaid, ond peidiwch gwasgu eich hun yn y mater holl-bwysig hwn o sicrhau effeithiolrwydd meddyliol a chorfforol. Y mae dogn o Sanatogen yn costio oddeutu dwy geiniog, ac y mae pob dogn yn dwyn budd sicr mewn iechyd a gallu nerfol. Gofynnwch i'r fferyllydd am y gwir a'r gwreiddiol Sanatogen (o is. gc. y tin), wedi ei wneuthur yn Penzance gan Genatosan, Itd. (Pwrcaswyr Prydeinig Cwmni Sanatogen)—Cadeirydd Lady Mackworth—12, Chenies Street, London, W.C. i. NODIAD.-Bydd i Sanatogen yn ddiweddarach gael ei ad-enwi GKNATOSAN —y gwir Sanatogen-er ei wahaniaethu oddiwrth efelychiadau israddol.