Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

LLANDEILO A'R CYLCH.

News
Cite
Share

LLANDEILO A'R CYLCH. Mat-wolaeth a Chladdedigaeth Private Morgan Jones.-Anadlodd ei anadl olaf bore Lion, Mehefin 25ain, yn ei gartref clyd yn Llandeilo, yn 23 oed Ymunodd a'r fyddin Brydeinig chwe blynedd yn ol pan mewo gwasanaeth gyda Mr. E. Roderick, yr Imperial, Llandeilo. Bu yn y wlad hon am ddennaw mis ar ol torriad allan y rhyfel; ond fe ddaeth i'w ran yutau, fel miloedd eraill, i fyned allan i wlad yr Aifft. Credai ef fel llawer eraill- Mil gwell yw marw'n fachgen dewr, Na byw yn fachgen llwfr.' Wedi bod yn yr Aifft am rai misoedd gafaelodd y dwymyn ynddo, a bu yn wael am amser hir. Adferodd ei iechyd i gymaint graddau fel y caniatawyd iddo gan ei feddygon i ddod yn ol i'r wlad hon i un o ysbytai Llundain Wedi bod yno am ryw chwe mis, caniatawyd iddo ddod adref fel discharged. Dyma'r cyfle cyntaf a gafodd ei annwyl fam i weini iddo, a gwnaeth hynny hyd y diwedd. Ond er ei holl ofal a galla meddygol goreu ein tref, marw wnaeth Morgan, mab Mr. a Mrs. Jones, Pontybren, ym mlodau ei ddyddiau, wedi rhoi ei oreu i'w Frenin a'i wlad. Fel ei athraw, tystiaf na tbroediodd ei gywirach na'i onestach ddaear Duw erioed. Gofalai am holl gyfarfodydd yr eglwys, wythnos a Saboth, ac ni esgeulusodd ei roddion at gynnal yr achosyn ystod ei absenoldeb gyda'r milwyr. Claddwyd ef pryn- hawn Iau, Mehefin 28ain. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan ei weinidog, y Parch. W. Davies, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. T. Thomas, Elim; S. Thomas, Salem; W. Harries, Penrheol; Corris Davies, St. Paul; ac E. Edmunds, Ebenezer. Chwareuwydyr organ gan Miss Mary Williams, organyddes eglwys y Tabernacl. Bu yn aelod ffyddlawn ac ymdrech- gar 0 eglwys y Capel Newydd, Llandeilo, ao Ysgol Sul Elim, er pan y derbyniwyd ef ychydig flynyddoedd yn ol Cysured yr Arglwydd ei rieni, ei chwiorydd, a'i frawd yn eu hiraeth. Cwrdd Blynyddol y Tabernacl.—Cynhaliwyd of ar y Sadwrn a'r Sul, Gorffennaf 8fed a'r 9fed, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Dr. B. Davies, Castellnewydd Emlyn, a D. H. Williams, Rhosmaen-street, Llaneeilo-yr olaf yn llanwy gwagle oherwydd i'r Parch H. Eynoa Davies, Llundain, fethu cyrraedd oherwydd y raid ofnadwy gymerodd le yn Llundain, dydd Sadwrn, Gorffennaf 8fed. Cafwyd cyfarfodydd dylanwadol. Arweiniai y gweinidog yn yr holl gyfarfodydd. Cafwyd canu rhagorol o dan arweiniad Mr. Joseph Williams, Ivorites- terrace, tra y chwareuid yr organ gan Miss Williams.* I -,tat Adroddiad Hgltvys y Capel Newydd.-Wele'r trydydd adroddiad ar ddeg i law o weithred- iadau eglwys y Capel Newydd. Dengys y fantolen ariannol y sefyllfa yn galonogol iawn, tra yr erys cynnydd sylweddol yn aelodaeth yr

RHANBARTH PENYBONT.

Advertising

Rehoboth, Pump Heol, Llanelli.

TREFFYNNON.