Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

I Arholiadau'r Meysydd Llafur.

EFFAITH Y RHYFEL ARi WERIN…

News
Cite
Share

fyddir yn fuan fod hyn oil yn anhepgorol angenrheidiol i sicrhau diogelwch dyfodol y ddynoliaeth. Y n sicr ni fyddai effeitliiau llai yn gymesur ffrwytli aberth a dioddef- aint mor ddifesur. Gwelir yn barod arwyddion rhyddhad caethion canrifoedd poblogaeth afrifed tiriogaethau enfawr Rwsia, yn gweled gwawr ffyniant cysur ac annibyniaethi personol, yn prysuro i adfer rhyddid Fin- land, ac ail greu Poland unedig ac anni- bynnol; gwelir China yn ymryddhau oddi-j wrth feiehiau trymion ei hymgyfathracli &'r Almaen; Japan yn gorfod troedio yn ofalus a gwyliadwrus; Ynysoedd Mor y De a brodorion fyrdd Affrjca Ellmynaidd ¡ yn gorfoleddu yn nymchweliad gormes y Teuton yr Armeniaid yn rhyw betrusgar obeithio fod gaeaf hir eu merthyrdod ar roddi ffordd i hawddfyd hafddydd rhyddid; Arabia yn cyhoeddi ei hannibyniaeth a'r cenhedloedd Slavonaidd bod ag un yn penderfynu manteisio yn sylweddol ar yr holl drybestod presennol. I sicrhau sef- ydliad yr oruchwyliaeth newydd, can- fyddir elfennau tra gwahanol yn gweith- redu. Hyd yn hyn gallu milwrol a morawl yn bennaf sydd wedi bod yn ymgodymu, a'r fantais, ar y cyfan, ar ochr gormes ac ysbryd rhyfel. Heddyw gwelir ysbryd cydweithrediad yn ceisio darganfod telerau heddwch cyfiawn, gan arnlwg fwriadu defn- yddio undeb gweithwyr y gwledydd i roddi terfyn ar y brwydro pan gytunir ar drefniadau ystyrrir yn foddhaol gan gyn- rychiolwyr y bobl, a hynny heb falio fawr am ganiatad a chymeradwyaeth penadur- iaid a gwladweinwyr—pobl bwysig sydd fel rheol wedi llwyr a chyfiawn fforffedio parch ac ymddiriedaeth y werin ymhob man. Effaith uniongyrchol hyn oil fydd rhoddi terfyn buan ar hoedl pob math o lywodr- aeth gwrth-werinol. Gwelir Rwsia yn yraffurfio"a Weriniaeth Gymdeithasol Gyf- unol; yn eithaf tebyg troir yr Almaen yn ddiatreg un ai yn ymerodraeth hollol gyfansoddiadol fel Prydain, neu yr hyn sydd llawer fwy tebygol a boddhaol hefyd -yn Weriniaeth Gyfunol yn cofleidio gyda phawb eraill egwyddorion masnach rydd, ac yn ymwrthod yn llwyr a therfynol a gorfodaeth a pharatoadau milwrol, er llaw- enydd diffuant ei phobl. Gwastateir an- nhrefn Deheudir Ewrop drwy greu Gwer- iniaeth Unedig y Balkans-yn cynnwys Bosnia, Herzegovina, Servia, Montenegro, Albania, Roumania, Bulgaria a Groeg, a'r gweddill o diriogaethau Ewropeaidd Twrci ond Caercystenyn—y cyfan heb doll o un- rhywfath ar fasnach, a'u byddinoedd wedi eu gwasgar a'u diarfogi. Y mae'n amlwg fod Ymerawdwr Aws- tria yn dra awyddus i ddyfod i gytundeb heddychol a'i ddeiliaid Slavonaidd a chyda diflaniad amcanion uchelgais gwlad- weinwyr Rwsia, nid oes unrhyw rwystr anorfod ar y ffordd gyda rhywfaint o fedr dylid llwyddo yn fuan i wahanu Awstria oddiwrth ei chymydog trahaus. Mewn gwirionedd, y mae Rwsia ac Awstria y naill fel y Hall yn dra awyddus i roddi terfyn ar y brwydro, ac i gyfarfod yn hael liawliau eu lliaws man genhedloedd. Yn y Gorllewin, yn ddiau y mae Alsace- Lorraine yn anhawster ond rhaid rhoddi i'r boblogaeth eu dewis rhwng Ffrainc a'r Almaen, neu fodolaeth annibynnol fel Switzerland-y cwrs doethaf o lawer iawn. Os terfynir y rhyfel ar linellau o'r fath, nid anodd ffurfio barn weddol gywir am y dyfodol. Rhyddheir y gwledydd oddiwrth faich annioddefol paratoadau milwrol; rhoddir pob cymhellion i lafur ymhob man i gynhyrchu cyfoeth a chyf- I falaf gyda'r diwydrwydd a'r cyflymrwydd mwyaf; gofala llafur hefyd am gyfran llawer helaethach o'r cynnyrch yn raddol, efallai'n fuan, gwelir cyni a thlodi yn cilio o'r tir, a phob cenedl yn ymddatblygu yn ol ei phriod anianawd hi ei hun. Yn barod gwelir esiampl o hyn ynglyn a'r Iwerddon—er presenoldeb gwyr fel Syr Edward Carson a Bonar Law yn y Llyw- odraeth, gwahoddir yr Iwerddon i ben- derfynu ei dyfodol ei hunan—ac yn ddi- amheuol bydd iddi hawlio y rhyddid hel- aethaf yn ei hymdrin a'i materion car- trefol hi ei hun—a sicrheir ar fyrder yr unrhyw freintiau i'r Alban ac i Gymru. Yn yr un modd estynnir yn ddiwarafun yr etholfraint i filiynau lawer, yn wryw ac yn fenyw, gyda chanlyniadau o ddirfawr fantais i'r werin bobl. Helethir felly der- fvnau rhyddid ar bob Ilaw-gartref ac oddicartref—ond nid yn hawdd nac heb ymdrech y dihangwn, ni ym Mhrydain rhag yr aflwydd a ddisgwylid gan 'Diplomatist' i'n goddiweddyd. Dadleuir gan y rhai a ymhyfrydant mewn rhyfel ac a ganfydd- ant yng ngelyniaeth parhaol gwledydd obaith a sicrwydd eu mawredd a'u llwydd- iant, fod buddugoliaeth yn anhepgor cyn heddwch ond hawdd dirnad y cytunir yn Stockholm- ar delerau fydd yn hwyluso buddugoliaeth, os nad yn gwneud brwydro pellach yn ddianghenraid. Ar ol claddu mwy na miliwn o'u meibion, y mae, yn hynod annhebyg fod pobl yr Almaen yn parhau yn rhyw ryfelgar iawn eu hysbryd. Mewn cydweithrediad a gweithwyr gwled- ydd eraill, medrant ddwyn y rhyfel i der- fyniad buan, sydyn a boddhaol. Dichon mai o enau plant bychain gwerin dysyml Rwsia y perfteithir doethineb gwleidyddol yn y dyddiau diweddaf hyn.