Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
CENNAD HEDD. JPRII DWY QEINIOQ YN Y MIS. Golygydd, Pueh. JACOB JONES, Merthyr. :J :1 RHfFYN AWST, 1917. OYNHWYSIAD: Y diweddar Barch. D. Lewis (Dowi Medi), L ia ielli (gyda darinn), gan y Gfolygydd, ftleatins Iddowig-y Dyohwelfad i WIadyr Addewid. Tyfiant y Bywyd Ysbrydol yng Ngoleuni y Bywyd Anmnol, gan y Parch D. Wynn Aubrey, Ystrad- j gynlaia. ( S-UTJSa Dylanwad y Bhyfel ar Grefydd Cymru, gan H. Oofnodion Misol, gan y Golygyddc,-g Bwyatfil Gw yllt Ewrop'—liolooh yn Maosu-.Cynhadledd y Wealeaid Soisnig—Sasiwn y Do-Bin Oymdo gion Graddedig.11 • -j Nodiadau Llenyddol, Y Wers Babothol, Igan iy Parch. Ben, Davies, Llandyfltd. ¡ rw <Mt BwyMh'< *Ty<t.' Tr «tw arftrol I Ddoabarthwyr I Athrofa Aberystwyth. (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru.) Prifathraw—T. P. ROBERTS, M.A., tt.D. DBCHRBUA'R 46ain Tymor ar Ddydd Mercher, Hydref 3ydd, 1917. Parotoir yr efrydwyr ar gyfer ArhoUadau Prifysgol Cymru. Cynygir amryw o Ysgoloriaethau (rhai ohonynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn ban. Cymer yr Arholiad le yn Aberystwyth at y iSfed o fis Medi, 1917 Am fanylion peUach ymofynner a— J. H. DAVIES, M.A., Cofrestrydd. Y Drysorfa Gynorthwyol. Taer erfynnlr ar eglwysi a phersonau unigol i wneud pob ymdrech i dalu EU CYFRANIAD BLYNYDDOL at y symudiad uchod o hyn i DDIWEDD MIS AWST. Gellir gwneud hynny trwy Drysorydd Cyfundebol y symudiad, neu yn uniongyrchol i'r Trysorydd Cyffredinol- Mr. T. DAVIES, 56, St. Quintin Avenue, London, W. 10 Newid Cyfeiriad. MAE'R. Parch. O. Evans, D.D., wedi symud o 10, Prince's Avenue, i 46, Mulgrave- street, Liverpool, S. AT SWYDDOGION EGLWYSIG. Llythyrau Cymeraowyaeth WEDI eu hargraffu 4g enw yr Eglwys Vt amynt, ac wedi eu rhwymo yn giyf. Prisoedd am Flaendal—3s. 6c., 5s.. a 6s. 6c. Cludiad y" rhad. Cynhwysa y lythyr Dair Rhan, sef Un Ran i'w xhoddi iir Trosglwyddedig Un Ran i'w hanfon i Weinidog neu Swyddogion yi Eglwys i ba un y tros- glwyddir yr Aelod, yn eu hysbysu o hynny a chedwif y Rhan aral] gan yr Eglwys ei hun; I'w gael gan J OSBPH WIIXIAMS & SUNS (Merthyr), fttd., Swyddfa'r TVST. Merthyi
AT EIN GOHEBWYR. I
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Edmygwr.-Dan eich enw pricdol yn unig y gall eich llythyr ymddangos. M¡;wn Llcw.-B. B.
EFFAITH Y RHYFEL ARi WERIN…
News
Cite
Share
EFFAITH Y RHYFEL AR WERIN Y BYD. GAN MR. E. T. JOHN, A.S. YN ddiamheuol, ni ddadlennir i'r darfelydd meidrol yn nhreigliad canrifoedd lawer gyfanswm—nac, ysywaeth, y filfed ran o gyfanswm—alaeth Armagedon—y cartrefi diri sydd yn galaru difodiad anhymig meibion hawddgaraf cenhedloedd mwyaf gwareiddiedig a gwrteithiedig hanes daearu holl ddoniau blagur a blodau cen- hedlaeth gyfan o'r bron-colledion annirn- adwy eu hing a'u haeth, anamgyffredadwy eu maint a'u gwerth. Er fod y ddynol- iaeth yn anfesurol dlotach drwy eu hym- adawiad, anodd credu na fydd i'w haberth ddwyn rhyw fendith annhraethadwy i oes- oedd a ddel. Nid hawdd ychwaith ddirnad effaith seliri a chlwyfau yn amhariad iechyd corflf- orol degau o filiynau o wyr nerthol ym mlodau eu dyddiau, tra y mae'r golled ariannol yn aruthrol, ac yn gosod ar ysgwyddau cenedlaethau i ddyfod feich- iau anhygoel drymion. Tra y mae'n anodd cysoni galanastra mor anaele ag unrhyw ddamcaniaeth o Ddwyfol reoleiddiad amgylchiadau dynol, byddai'n anhawddach fyth gredu na fydd i ryw fantais a budd cymharol gymesur ddeilliaw o'r trybini a'r holl ddioddefaint. Fel rheol, syrth baieh traul rhyfel ar y werin, ac nid yn hawdd yr osgoir y gorth- rwm hwn ynglyn a'r rhyfel presennol. Eto gwelir arwyddion fod y bobl ymhob man yn effro i'r perygl, ac yn sicr y mae gwir sefyllfa pethau yn ddirfawr yn eu ffafr. I gyfarfod a'r llog ar ddyledion enfawr y gwledydd, rhaid cynhyrchu cyf- oeth ychwanegol ar raddfa digyffelyb ar y llaw arall, bydd gweithwyr yn fwy prin. Dylai cyflogau, felly, fod yn gymharol uchel, a'r werin yn alluog i sicrhau cysuron bywyd yn weddol helaeth, a thrwy eu dylanwad gwleidyddol yn gallu trefnu'r trethi fel y bydd pwysau'r ddyled wladol enfawr yn disgyn ar y goludog—yn bennaf ar gyfoeth segur—gan ganiatau i gyfalaf cynhyrchiol o leiaf log rhesymol. Efallai nad ydyw effeithiau gwleidyddol y rhyfel lawn eglured ac amlyced. Gan gyfeirio at The apparent paradox that I a war of liberation is not favourable to liberal institutions, while a diplomatic war is often fatal to despotic power, a paradox exemplified in the history of the French and German L, iiipires,'dywedai sylwedydd hynod o graff—a alwai ei hun yn Diplo- matist,' yn ysgrifennu ychydig cyn toriad allan rhyfei- -yn neilltuol o darawiadol: It will be possible to test this theory shortly on the larger theatre of a European war. If the British Empire is fighting a war of liberation against Imperialism and Militarism, then it may expect as a result that its political institutions will become more Imperialist and Militarist. While if the German Empire is fighting a war of aggression, then it may expect that its constitution will as a result be made more liberal and pacific.' Hyd yn hyn y mae ei ddarogan wedi profi'n boenus o gywir ynglyn a Phrydain hyderwn a chredwn y bydd lawn gywired ynglyn a'r Almaen. Y mae'n amlwg y bydd effaith y rhyfel ar genhedloedd y ddaear yn dibynnu ar natur telerau heddwch. Os parheir i frwydro nes dihysbyddu adnoddau'r gelyn —gan ei ddiofrydu wedyn i ystad o ddi- ymadferthwch—ni fydd o flaen y ddynol- iaeth ond rheidrwydd anorfod paratoad ar gyfer adeg ei adferiad, boed hwyr neu hwyrach. 0 dan y cyfryw drefniant, gyda rhyfel masnachol chwerw bob amser yn bodoli, nis gellid ond darogan dyfodol hynod dywyll a thymhestlog i werin y byd—dyfais dynol yn feunyddiol ber- ffeithio peiriannau dinistr, a chyfalaf, mewn undeb llwgr a llywiawdwyr y gwled- ydd, yn manteisio beunydcl ar reidiau a diwydrwydd y bobl, gan droi'r byd nid yn Ffair Gwagedd,' ond yn hytrach yn rhyw Ffair Trachwant a Gormes.' I raddau tra helaeth, dyna oedd rhagolwg y byd dyweder ychydig fisoedd yn ol; ond y mae'r chwyldroad Rwsiaidd a chyf- ranogiad yr Unol Daleithiau yn y rhyfel wedi trawsnewid y sefyllfa yn llwyr. l.:Nis' glir addaw yn bendant nac yn rhyw hyderus iawn derfyniad buan i'r alanas presennol, ond gellir cyfrif yn gwbl galonnog na chaniateir i unrhyw allu mil- wrol yn y dyfodol fygwth a pheryglu diogelwch a heddwch gwledydd y byd. Sefydlu y cyfryw drefn fendigaid ydyw unig amcan yr Unol Daleithiau, ac y mae arweinwyr y werin yn Rwsia yn gydgyf- rannog o'r unrhyw ysbryd. Seiliau han- fodol heddwch arhosol ydynt ryddid ac annibyniaeth dilestair cenhedloedd bych- ain a mawrion yn ddiwahaniaeth, awdur- dod effeithiol cyfraith gydwladol, perffaith ryddid masnach ymhob man, a diddymiad byddinoedd a llyngesoedd morawl ac awyrawl. Rhaid wrth ysbryd pybyr a neilltuol ffyddiog i gredu fod canlyniadau mor hynod ddaionus yn debyg o ddeilliaw o ddygn drychineb Armagedon ond can-