Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Y DRYSORFA GANOLOG.

News
Cite
Share

Y DRYSORFA GANOLOG. At Olygydi y I'yst. SYR,-—Esgusoder fi am ofyn, Pa le mae'r mater hwn yn sefyll ami erbyn hyn, tybed ? Camsyniad mawr fyddai gadael iddo orffwys am flwyddyn am nad yw'r TJndeb yn cael ei gynnal. Os oedd angen cynorthwyo achosion gweiniaid a gweinidogion teilwng niewn lleoedd bychain o'r blaen, y mac'il sicr fod angen gwneud heddyw. Os oedd baiclx yr amgylchiadau'n drwm i lawer teulu cyn y rhyfel, pa faint mwy erbyn hyn, pan y mae bron popeth wedi codi yn ei bris yn agos i gant y cant ? Hynny yw, ni wna punt heddyw brymi fawr yii fwy na wnai deg swllt cyn y rhyfel. Y ffaith yw. y mae'11 syndod sut y mae llawer teulu bacli yn cael dau ben y llinyn ynghyd. Ffaith arall yw ein bod fel Enwad yn colli cyfle euraidd i wneud y peth yn llwyddiant, yn arbennig yn y rhannau gwledig. Ni welodd amaethwyr y wlad y fath amser am brisiau uchel am eu nwyddau, ac nid yw'n debyg y gwel neb sydd yn fyw y fath amser eto ar ol i'r rhyfel ddarfod. Y mae'r ffermwr wedi gweld llawer tro ar fyd, a Ilawer gaeaf o aflwyddiant ond y mae ers dwy flynedd yn haf llwyddiant arno. Ond atolwg, pa nifer o eglwysi gwledig sydd wedi symud gyda'r mudiad hwn er cy- northwyo'r neb sydd yn llai ffodus ? Efallai mai mwy priodol fyddai gofyn y cwestiwn, Gerbron pa nifer o'r eglwysi gwledig y mae'r mater wedi ei osod yn ei degwch a'i deilyngdod ? Os felly, paham ? Ar bwy y mae'r bai ? Ai ar swydd- ogion y mudiad ? Ai ar y diaconiaid a'r gwein- dogion ? Ai ar y Cwrdd Chwarter ? Ai ar y pwyllgorau apwyntiedig yn y Cyfundebau i yn v Cyftindebau i ddwyn y mater ymlaen ? Ar bwy ? Efallai y bydd rhywrai yn barod i dybied fod gofyn cwestiwn fel hyn yn tueddu at fod yn rhy ber- sonol; ond y mae'n llawn bryd i wynebu'r ffeithiau a threfnu i'w cyfarfod, os yw'r mater i lwyddo. Sut i'w Iwyddo yw'r cwestiwn. Sut y mae wedi llwyddo mewn mannau, a sut y mae pethau eraill yn llwyddo ? Gaf fi roddi un enghraifft ? Pan oeddem fel eglwys yn y wlad rai blynyddoedd yn ol yn adnewyddu a helaethu ein capel, trefnwyd i rai fyned a dy i dy i gasglu addewidion, ac nid hir y buwyd cyn casglu deuddeg cant o bunnau. Dyna'r modd y gwneir yn gyffredin gyda chap- elan'! wlad, ac nid yn anil y metha ymweliad personol. Tybed na wnelai cynllun fel hwn lwyddo gyda'r Drysorfa Ganolog ? Wel ie sut i'w gael yw'r cwestiwn. Ai nid eill Pwyllgor y mudiad—os na wna neb arall-enwi hanner dwsin, mwy neu lai, o frodyr ymhob Cyfundeb yn selog o blaid y mudiad ac yn barod i aberthu drosto, a threfnu nifer o eglwysi i fod o dan eu gofal i ymweled a hwynt ar y Saboth, a gosod y mater gerbron y gynulleidfa, ac annog yr eglwysi i oenodi rhyw nifer i fyned o gwmpas i ofyn i bob un yn bersonol ? Goreu oil os medr yr ymwelwr fod yn un ohonynt. Mentrwn gredu, os argyhoeddir yr eglwysi gwledig o deil- yngdod yr achos, y byddant yn barod i symud ar y llinellau hyn. Yr wyf wedi cael cryn fantais i adnabod y ffermwyr fel un sydd wedi ei godi yn un ohonynt a byw yn eu plith, a'm profiad yw fod gan y ffermwr galon i helpu pan wel angen. Y mae hyn wedi ei brofi gan y parodrwydd i gyfrannu at y Groes Goch a materion eraill yn ystod y rhyfel. Mynner rhywun i fyned at y ffermwr, ac y mae'n debyg o gael. (Qnid oes rhai,' meddir, yn y Cyfundebau wedi eu penodi i hyn ? Ond ai nid yw'n bosibl cael mwy o ysbryd pwsh ein Prifweinidog, a chael y gwaith wedi ei wneud ? Nid oes dadl am deilyngdod y peth, a'r alwad am wneud. Nid bradychu cyfrinach yw rhoi un enghraifft, heb enw nac enwad na lie. Dywedai gweinidog yn ddiweddar mewn cyfrinach uad oedd ef, na'i wraig, na'i blant wedi gweled ymenyn ar eu bwrdd ers rhai misoedd, am na fedreut fforddio ei gael! Y mae lie i ofni fod teulu llawer gwas yr Arglwydd yn dioddef yn dawel fel yna, a hynny pan y mae digon o gyfoeth yn yr eglwysi, a pharodrwydd, mi gredaf, i gynorthwyo pe'r elid o gwmpas pethau yn y ffordd a awgrymwyd. Clywais fod rhai person au ac eglwysi yn erbyn y mudiad. Ond a yw enwad cyfan yn barod i wynebu methiant ar gyfrif yr ychydig hyn ? Gobeithio nad yw. Os methir, byddwn yn an- ffyddlon i'n goruchwyliaeth, ac fe'n ceblir gan rai sydd eto heb eu geni. Na feier ar yr eglwvsi nes cael cyfle i ddeall y mater, ac na ddyweder am y ffermwyr eu bod yn gybyddlyd nes cant gyfle i wrthod. Da gennym weld y parodrwydd i ddangos cydymdeimlad sylweddol a'u milwyr sy'n amddi- ffyn ein gwlad. Teifyngant ein goreu. Ond ai ni allwn ledu tipyn ar cin cydymdeimlad i fil- wyr y Groes sydd yn ffosydd a ffrynt yr am- gylchiadau ? Teilyngant hwythau ein goreu, a bydd ein help yn elfen o lwyddiant i'r Deyrnas. Terfynaf gydag apel daer at hob un fedr roi help, i wneud, a hynny mor fuan ag sydd bosibl Coded pob un ag y mae Duw wedi ei gviiys- gaeddu a gallu i'w gyilc a'i waith. HEN FFERMWR.

IAil Fradychu Ymneilltuaeth.…

| RHAMANT DARUTH. I-