Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Horeb, Casllwchwr. |

Advertising

CYFARFODYDD CHWARTEROL.

IGwnewch ef yn Gyhoeddus.

I Porth madog.

DYFODOL ADDYSG CYMRU.I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

amgyffred yr iaith a llenyddiaeth Seisnig. Ceir yn y Gymraeg lawer o'r elfennau sy'n gwahan- iaethu'r Saesneg oddiwrth iaith a llenyddiaeth Deutonig Germani, o'r hwn gyff yr hana y Saesneg. Casgliadau. Cydfarna awdurdodau addYSgOl1 heddyw y gellid rhoi i blant Cymru I wybodaeth drwyadl, nid yn unig o'r Gymraeg a r Saesneg, ond hefyd o unrhyw iaith arall a fyddai' 11 zvir wasanaethgar iddynt yng ngyrfa bywyd or ol Ilaw. Gellid sicrhau hyn drwy estyn blwyddynneu ddwy ar oes y plentyn yn yr ysgol-a bydd hynny'n fwy angenrheidiol nag erioed wedi yr elo'r rhyfel heibio yn wir, bydd yn hanfodol os yw Cymru i ddal ei thir yng nghystadleuaeth cenhedloedd y byd. Rhaid peidio anghofio'r ochr fasnachol o werth ieith- oedd. Pe ceid athrawon cymwys, gellid cael lie i'r Rwsieg a'r Yspaeneg yn nosbarthiadau uchaf yr ysgolioll, os estynnir oes y plant am flwyddyn ynddynt. Tra yn cofio fod un o bob pump o drigolion Cymru yn ddyfodiaid o genhedloedd eraill, nis gallwn anghofio mai aberth cenedl y Cymry a wnaeth ei Chyfundrefn addysg yn bosibl. Ac os, fel yr hyderir yn awr y gwneir, y gosodir holl Addysg Cymru yn hollol rydd, yn sicr nid gormod yw disgwyl i'r dyfodiaid diethr hyn, a fanteisiant ar Addysg Rydd Cymru, gynorthwyo hyd y medront y genedl Gymreig i sicrhau ei huchelgais cenedlaethol mewn addysg. Mae'r elfen estronol ym mhoblogaeth Cymru er dydd- iau'r Rhufeinwyr wedi cael ei llyncu i gorff cenedl y Cymry. Gwneir hynny ymhen cen- hedlaeth neu ddwy a'r newydd-ddyfodiaid estronol presennol yn ein plith. Nerth mawr i'r genedl Gymreig a fyddai fod holl drigolion Cymru yn medru iaith y genedl. Gellir sicrhau hyn os rhoddir ei lie priodol i'r iaith Gymraeg ymhob dosbarth ymhob ysgol. Dyhead Cymru heddyw yw unoli, cydraddio, cenedlaetholi a gwerineiddio ei holl gyfundrefu addysg o ddosbarth y babanod i fyny hyd ddosbarth graddau prifysgol. Gwel na eill sicr- hau hyn hyd nes y caffo reolaeth gyflawn a dilyfiethair ar yr holl gyfundrefn ymhob gradd ac agwedd ohoni. Pan gaffo'r cyfryw reolaeth, pan ganiateir iddi y rhau gyfreithlon fo'n digwydd iddi o grants y Uywodraeth, a phan y ca hithau gyfrannu i Gyllid yr Ymerodraeth yn 01 cyfartaledd ei chyfoeth i gyfoeth y gweddill o'r deyrnas, bydd Cymru yn abl ac yn barod i waddoli addysg gwerin Cymru yn llawer mwy hael nag sydd yn bosibl tra bo pethau fel y gwelir hwynt heddyw. (Y diwedd.)