Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

DYFODOL ADDYSG CYMRU.I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

DYFODOL ADDYSG CYMRU. VI. YR IEITHOEDD A DDYSGIR. Y GYMRAEG YN YR YSGOLION-A YW YN Caul Ciiware TEG ? Y cwestiwn yn awr yw, A ydyw y wlad, a'r Awdurdodau Addysg, yn barod i roi yr arwein- iad, y gefnogaeth, a'r symbyliad angenrheidiol er galluogi bechgyn a merched Cymru i fan- teisio, fel y dylent, ar eu meddiant o ddwy iaith ? Yn yr oes o'r blaen credai llawer mai trwy gau yr iaith Gymraeg allan o'r ysgol yn gyfan- gwbl y dysgai'r plant Saesneg gyflymaf a sicraf. Cydsyniai'r rhieni a hyn, gan dybied y buasai dylanwad y cartref, y chware, y gwasanaeth crefyddol a'r Ysgol Sul yn diogeli bywyd yr hen iaith. Ond erbyn hyn gwelir gan bawb mai camgymeriad dybryd oedd hynny. Amddifadid yr athraw oarf gwerthfawr ym myd addysg, a'r plentyn o'i etifeddiaeth ddeallol, a'r bobl o'u heiddo cenedlaethol. Cydnebydd yr awdurdodau uchaf ym myd addysg heddyw, fod cenedl ddwyieithog yn sefyll ar raddeg uwch mewn gallu meddyliol nag a wna pobl unieithog. Gosoder, er enghraifft, y gwladwr Cymraeg sy'n medru Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr, dyweder, a'r llafurwr yng Ngwlad yr Haf, a gwelir mor annoeth a fvddai i ni anwybyddu etifeddiaeth ieithyddol ein cenedl. Ymddengys nad oedd gwerth y Gymraeg mewn addysg yn cael ei iawn brisio gan yr Awdurdodau pan dynnwyd allan Gynllun Addysg pob sir o dan Ddeddf Addysg Ganolraddol Cymru canys mewn dwy o'r siroedd yn unig—Arfon a Dinbych-y gwnaed darpariaeth yn y Cynllun Addysg ar gyfer yr iaith Gymraeg. Ond daeth tro ar fyd. Drwy ymdrechion daionus Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddeng mlynedd ar hugain yn ol, agorwyd drws yr Ysgol Elfennol iddi. Ac er nad yw'r iaith Gymraeg hyd yma wedi cael y He a'r parch a haedda, eto mae'r frwydr-ilior bell ag y mae a fynno a'r Ysgolion Elfennol-wedi ei hennill, a dysgir iaith y Cymro heddyw ymron ymhob Ysgol Elfennol yn y Dywysogaeth. Cyfrifir fel yn fantais heddyw yr hyn a ystyrrid yn anfantais gynt. Wrth annerch Cynhadledd Gydgenedl- aethol ar Addysg ychydig flynyddoedd yn ol, dywedodd Syr Owen M. Edwards, Prif Arolygwr Ysgolion Cymru Credaf fod pob athraw yng Nghymru a feddyliodd am y peth yn tybied mai mantais, ac nid anhawster, yw dwyteithydd- iaeth. Gwel y geill plentyn yn yr Ysgol Elfennol yng Nghymru, drwy ddysgu Cymraeg a Saesneg, fwynhau y lies a ddeillia mewn ysgolion drutach drwy ddysgu Lladin a Groeg a'r Ffrangeg.' Gwir fod y Saesneg i rai plant, a'r Gymraeg i eraill, mewn rhyvv ystyr yn iaith estronol yn ol fel y bo iaith yr aelwyd. Eto i gyd siaredir y Gymraeg a'r Saesneg ymhob sir yng Nghymru, ac mewn pump ohonynt gan fwy na hanner eu trigolion a gellir disgwyl gweled nifer y bobl ddwyieithog yn cynhyddu'n barhaus fel y delo addysg ddwyieithog yr ysgolion yn fwy cyffred- inol ac effeithiol. Ond ni ddylid rhoi heibio'r Gymraeg pan elo plentyn o'r Ysgol Elfennol i'r Ysgol Ganolraddol. Dylai holl gyfundrefn Addysg Cymru, o ddosba.rth y babanod hyd nes yr enillir gradd yn y Brifysgol, fod yn ddwy- ieithog. Nid oes yr un rheswm digonol dros beidio cael hynny mae llawer o resymau cryf- ion dros fynnu sicrhau hynny. Ystyriaethau o'r uatur yna ysbrydolodd bolisi Bwrdd Canol Addysg Cymru o fewn y blynydd- oedd diweddaf. Cymeradwya ac anoga'r Bwrdd ddysgu Cymraeg ymhob Ysgol Ganolradd yng Nghymru. Cefnogir hynny yn gynnes a chym- hellir hynny yn daear gan Adran Gymreig y ? Swyddfa Addysg yn Llundaiu. Cytuna'r ddau mai'r arf goreu i ddatblygiad meddyliol a deallol plentyn y Cymro fo'n arfer Cymraeg gartref yw'r iaith Gymraeg, a bod astudio'r Gymraeg yn fantais addysgol hyd yn oed lIe na bo hi'n iaith yr aelwyd. Gyda hyn, fel y nodwyd mewn ysgrif ilaenorol, mae medru Cymraeg yn gym- hwyster, gwerthfawr i'r neb a chwenycho lenwi swydd gyhoeddus yng Nghymru. Yn y cysyllt- iad hwn hefyd, da yw cofio fod bywyd crefyddol a llenyddol Cymru yn gysylltiedig a'r iaith Gym- raeg bydda:i gwanychu gafael yr iaith ar y werin yn niweidiol i grefydd a llenyddiaeth. Cydnabyddir fod y Cymro yn fwy llenyddol ei chwaeth nag ydyw'r Sais gwelir hyn yn nifer y papurau a'r cylchgronau a gyhoeddir yn yr iaith Gymraeg, ac yn y ffaith nad yw'r rhyfel wedi lladd nemor un o'r papurau Cymraeg, tra mae nifer mawr o bapurau Saesneg dyddiol ac wythnosol wedi gorffen eu gyrfa cyn gorffen y rhyfel. Gwelir dylanwad y Pulpud Cymreig yn y ffaith fod 30 o bob cant o'r boblogaeth yng Nghymru yn aelodau crefyddol, tra nad oes ond 10 o bob cant o'r boblogaeth yn Lloegr felly. Y Gymraeg yn yr Ysgol Ganolraddol. Mae brwydr y Gymraeg y.u cael ei hennill yn yr Ysgolion Canol- raddol. Cymliellir dysgu'r Gym- raeg gan Awdurdodau Addysg pob sir yng Nghymru. Allan o r 102 Ysgolion Canolraddol yn y Dywysog- aeth, nid oes ond deg lie na ddysgwyd y Gymraeg yn ystod y fiwyddyn 1915-16. Wele restr o'r deg :—Bangor Friers (Bechgyn), yn sir Gaer- narfon Iylanolwy, yn sir Mint Llandaff Howells (Merched), yn sir Forgannwg Y Fenni (Merched) yn sir Fynwy Milford Haven, Pembroke Dock, Tenby, yn sir Benfro; Presteign, yn sir Faes- yfed Casnewydd (Bechgyn), eto (Merched), ym Mwrdeisdref Sirol Casnewydd. Cynhwysir yr iaith Gymraeg yng nghwrs addysg pob un o'r 92 Ysgolion Canolraddol eraill. Yn naturiol telir mwy o sylw i'r iaith mewn rhai ysgolion na'i gilydd. Os cymerwn y siroedd yn ol cyfar- taledd y plant sy'n dysgu Cymraeg yn.yr Ysgol- ion Canolraddol, cawn a ganlyn Allan o bob cant o'r bechgyn a'r merched yn y gwahanol Ysgolion Canolraddol. ceir fod yn dysgu'r Gyn- raeg yn sir Abertein, 78 Brycheiniog, 54 Arfon, 54 Caerfyrddin, 50 Mon, 50 Morgannwg, 47 Meirion, 44 Maldwyn, 41 Mynwy, 31 Din- bych, 30 Penfro, 15 Fflint, 13 Maesyfed, 10. Ac yn y Bwrdeisdren Sirol-Merthyr, 37 Aber- tawe, 19 Caerdydd, 7 Casnewydd, o. Yn y tair sir ar ddeg, o'u cymryd gyda'i gilydd, ceir fod 42 neu 43 allan o bob cant o'r ysgolorion yn dysgu Cymraeg. Eto ceir gwrthgyferbyniadau hynod. Meirion yw'r sir fwyaf Cymreig ei phoblogaeth yng Nghymru-iiiae 90 o bob 100 o'i thrigolion yn medru Cymraeg—ond nid oes ond llai na hanner y cyfartaledd hwnnw, sef 44 o bob cant o'r plant yn yr Ysgolion Canolraddol, yn dysgu Cymraeg, Mae hynny'11 wastraff ar eiddo addysgol gwerth- fawr y sir. Ar y llaw arall mae Morgannwg, y sir fwyaf poblog, a lie y ceir cymysg ieithoedd a chenhedloedd, a lIe nad oes ond 38 o bob canc o'r bobl yn medru Cymraeg, eto i gyd yn mynnu cael dysgu yr iaith Gymraeg i 47 allan o bob cant o'r plant yn yr Ysgolion Canolraddol, neu naw o bob cant yn fwy nag a geir ym Meirion Gymreig Felly hefyd Fflint er fod 42 o bob cant o'r bobl yn medru Cymraeg, nid. oes ond 13 o bob cant o'r plant yn cael dysgu'r iaith tra Mynwy, lie na cheir ond 10 o bob cant o'r bobl yn deall Cymraeg, yn mynnu cael gwers Cymraeg i 31 o bob cant o'r plant yn yr Ysgol- ion Canolraddol. Dengys hyn fod Awdurdodau Addysg y siroedd gweithfaol yn fwy effro na'r siroedd amaethyddol a Chymreig i werth y Gym- raeg mewn addysg heddyw ac mewn masnach yfory. Safle 1 eithoedâ Eraill. Mae rhieni yng Nghymru yn naturiol uchelgeisiol dros eu plant. Dymunant i'w plant ddysgu Lladin, am yr agora y ¡ drws i'r Brifysgol a'r galwedigaethau dysgedig. Dymuna eraill i'w plant ddysgu'r Ffrangeg, am fod penodiadau masnachol da yn gofyn gwybod- aeth o'r iaith honno. Felly, heblaw y Saesneg, a gymerir gan bawb o'r plant, Lladin a Ffangeg sy'n cystadlu a'r Gymraeg. Ond gwna'r plant yn well yn yr arholiadan yn y Gymraeg nag yn un o'r ieithoedd eraill. Allan o bob cant fo'n eistedd arholiad, pasia 62 mewn Ffrangeg, 65 mewn IIadiii, a 92 mewn Cymraeg. Gan nad oes ond ychy dig niewn cymhariaeth o blant yr Ysgolioii Canolraddol yn myned ymlaen i'r Brifysgol, ymddengys fod gormod o le yn cael ei roi yn yr ysgolion i'r Lladin. Cyn- hyddu'n gyflym mae'r teimlad y dylid gosod y Gymraeg ar yr un tir a'r Saesneg hymn- yw, fod pawb o'r plant i'w dysgu yn rJleolaidd. Anffodus yw'r trefniant presennol orfoda rhieni yn ami i ddewis rhwng y Gymraeg a'r Ffrangeg gellid yn rhwydd ei gwneud yn bosibl i'r neb a fynno ddysgu'r ddwy. Canigymeriadau Cyffredin. Mewn oes o'r blaen tybid fod y Gymraeg yn rhwystr i'r plant ddysgu Saesneg yn gyflym. Profwyd m a i camgymeriad mawr oedd y lath dybiaeth. lybia llawer heddyw y byddai dysgu Cymraeg yn gyffredinol yn yr Ysgolion Canolraddol yn golygu cau y Ffrangeg allan o lawer dosbarth. Mae hyn mor bell o fod yn wir fel y maentumir gan y mwyaf profiadol heddyw fod gwybodaeth o'r Gymraeg yn gymorth mawr i feistroli'r Ffrangeg. Pan cliwil-ir ystadegau arholiadau Bwrdd Canol Addysg Cymru gwelir yn amlwg nad yw dysgu'r Gymraeg yn anfantais i ddysgu ieithoedd eraill hefyd ar yr un pryd. Yn wir, ceir fod yr Ysgolion lie yr astudir y Gymraeg gan fwvafrif y plant yn gwneud llawn cystal a llawn cymaint o waith mewn ieithoedd eraill ag a wneir yn yr ysgolion lie na cheir ond ychydig o Gymraeg. Cymerer ychydig o enghreifftiau. Yn yr ysgolion a gan- lyn, allan o bob cant o'r plant yn yr ysgol, astudir yr ieithoedd a nodir gan y nifer a roddir yina:- (jyianrit leith- gyda'r heb y Ysgol. Oym- Hrangeg Lladin. oedd Gym- Gym- raeg. eraill. raeg. raeg. Ystalyfera (Morgannwg) 90 83 85 258 168. Y stradgynlais (Brycheiniog). 83 87 91 261 178 Whitland (Oaer- fyrddin) .100 63 100 263 163 Caerdydd (Mor- gannwg) 7 95 60 U 176 169 Oasnewydd 97 71 1 169 169 Gwelir oddiwrth y rhestr lecilail uchod fod pob plentyn yn Ysgol Wliitland yn dysgu Cym- raeg a Lladin, -a 63 o bob cant ohonynt 3-11 dysgu'r Ffrangeg hefyd fod 90 o bob cant yn Ystalyfera yn dysgu Cymraeg, 85 yn dysgu Lladin, a 83 yn dysgu Ffrangeg fod 83 o bob cant yn Ystradgynlais yn dysgu Cymraeg, 91 yn dysgu Lladin, a 87 yn dysgu Ffrangeg. Nid yw dysgu Cymraeg, felly, yn un rhwystr i ddysgu Lladin na Ffrangeg, Y11 ogystal a Saesneg. Cymharer y tair ysgol hyn lie y telir cymaint o sylw i'r Gymraeg a'r pedair ysgol yng Nghaer- dydd a Chasnewydd lie yr esgeulusir y Gymraeg. Gwelir fod ymhob un o'r tair ysgol Gymreig fwy o nifer y cant o blant yn dysgu Lladin, ac ymron cynifer yn dysgu Ffrangeg, ag a geir yn y pedair ysgol sy'n ymarferol yn cau'r Gymraeg allan. Mae seirxiau'r llafariaid a'r cydseiniaid yn y Gymraeg, yn ogystal a'i chystrawen a rhai o'i phriod-ddulliau, yn galluogi'r neb a fedr Gym- raeg i feistroli'r Ffrangeg yn rhwyddach nag a fedr y neb 11a wyr ddim ond Saesneg. Gyda hyn oil, gellir hawlio fod astudiaeth o'r Gymraeg a'i Ilenyddiaeth yn haiifodol er iawn