Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

0 FRYN I FRYN.-

News
Cite
Share

0 FRYN I FRYN. BID sicr, rhaid 0 Benboyr i Bencader a Gwarnoge. — yw gorffwys ar ol bod dros y fath bennau ac ar y fath war a Gwarnoge, a hynny a wnawn yn awr ar greigiau'r Mwmbwls. Iylawn a beichus yw ein cof a'n calon o'r trille hyn, a ninnau newydd gefnu arnynt. Pwy yn y byd a ddywed ystyr y trigair hyn ? Gymaint o anwybod- aeth a aiff gyda gwybodaeth a pho fwyaf yr olaf, mwyaf y blaenaf hefyd. Cyfle iawn i lenor o uchelgais i ryddid barn ac anffaeledigrwydd a geir ynglyn ag ystyron lleoedd yng Nghymru. Maent, rywsut, yn gawdel tameidiol o estron eiriau a Chymraeg Cynnar, yr hyn a demtia ddychymyg, ac a rydd ryw sail i bob dehonglydd i fod yn sicr yn ei feddwl ei hun. Diau fod llawer iawn, fel gwlad Canaan, o hanes Cymru a Chymry yn eu henwau a'r ffermdai a phen- tren a threfydd. Rhagorar enwau hyn yn hyn o beth ar enwau afonydd, ag eithrio aberoedd afonydd. Ac eto pa wlad fel Cymru am ei Phennau a'i Haberoedd ? Beth, er sampl, am PENBOYR ? Eler am daith, gan bwyll, o ben bwy gilydd i'r plwyf, heb hidio rhyw lawer am Sarn Elen, a charneddau a ffyrdd hen, a'r Bont a'r Deifi gyda'i thro sydyn a'i choedydd tal, caeadfrig ac na falier am olion Rhufain, ond edrycher yn wyneb y wlad. Y mae llawer o'i hanes hi yn ei hwyneb o hyd. Pan yn sefyll ar safdir Soar, yr ydys fel pe ar gwr terfyn. A rhyw gwr terfyn yw pob pen. Ar derfynau ceir y pennau o hyd. Wrth ddal golwg ar yr olygfa o gylch safle Soar, pwy eill wadu mai ystyr Penboyr yw Penbower ? Y mae bower mor debyg i'r gwir a byer neu boyr '—dau air a olyga, meddir, dir ffermydd wedi dod i'w ben wrth droed mynydd-dir. Y fath hyfrydle yw lie Soar. Pwy na chanai ymlaen wrth ei weld, Tua Soar boed im' ffoi ? Mor wledig ac annwyl yw ei bumffordd gul a esgyn i wahanol gyfeiriadau oddiwrth yr addoldy ? A pha le arall yng Nghymru yn dlysach a mwy Jerusalemaidd pan y llenwir hwynt gan addolwyr y Saboth, oil yn eu dillad parch, yn disgyn ac yn esgyn i'w ac o'u hodfeuon fel engyl ysgol Jacob ? Rhyw gysgodfa bryniau a choed a geir yma, ac mae'r cwbl yn Beilbower i Fatris ucheldo, a thai newyddion iach, a ffermydd a dyffryn a swyna fardd ac a ddefiry addolwr. Ffordd bynnag y mae am enw'r plwyf, adwaenom un yn y plwyf nad oes cymylau a thywyllwch o'i amgylch ef; ac erbyn heddyw, wedi blynyddoedd lawer o wasanaeth didwyll, y mae yn fynydd amlwg ac yn gysgod a chefn i bobl lawer—y Parch. J. G. Owen. Y fath gaffaeliad o ddiogelwch ac arweiniad i ardaloedd ein gwlad ydyw ei gweinidogion hir-arhosol a thryloyw eu cymeriad. Wedi'r cyfan, pa ben a chanddo gymaint yn ein pen bach ni a I^IENCADKR ? Pencader a lithrodd o'n pen ar ein papur, ac nid Pedcadair. A lie i ymladd, ac nid i orffwys mewn cadair, yw Pencader. Erys cadernid ym Mhencader, eto am gadair y ceisir, ac nid am gaidernid. Y pethau a bery i ni yn ddiddordeb o hyd yma yivr siop y buom ynddi yn brentis, a'r hen gapel y buom ynddo 'run pryd yn addoli, ac atgofion o leoedd a phersonau. Pa ryfedd ein bod yu cofio'r siop-y siop y buom ynddi gyda chorff gwan yn malu coffi, ac yn torri haearn, ac yn gwerthu dybaco ac esgidiau a chordroi, ac yn cerdded blaenon talgoed ar wynlawr eira ym mis Ionawr i ddangos samplau hadau i ffermwyr. Och fi mae'r oerni yn ein gwaed yn awr, ac ni edy'r dwvmvn do bell ein gwddf er treigl blynyddoedd, A oes yn awr is y nen Debyg i'r dwymyn doben ? A pha lane na chona i'w fedd am le addoli bore ei oes ? Ac yr oeddem yn addolwr bach mawr, er yn brentis siop, a hynny ar ddyddiau codi'n fore a dal ati'n hwyr. Arferem addoli yn yr hen gapel ym Mhencader gyda llanciau bach eraill am awr brin ar nos Wener, a hynny drwy gan- iatad meistres na feddyliodd erioed fod gan brentis bach tlawd ei deimlad a'i gof. Bu raid i ni y dydd o'r blaen droi i mewn i hwn; ac er mai esgynlawr drama a welsom yn lie ei bulpud, yr oedd i ni yr un mor gysegtredig. Piti o'r hen gapel pan geir yn ei le y capel newydd. Pam rhaid troi'r hen gapel yn chwareudy, a gwneud y newydd ar enw o addoldy ? 0, nage wir Er mwyn Duw a dynion, cyn bo i'r hen addoldy gael ei droi yn chwareudy, malurier ef yn llwch, a gadawer i'r borfa las a llygad y dydd dyfu ar fan ei fedd. Rhoddasom ar bapur y geiriau a ganlyn a geir ar ei wyneb mallwyd Pencader, built soon after 1650; rebuilt 1785 rebuilt 1827. M. Rees, minister.' A thra yn gwneud hyn, daeth atom wraig ty'r capel (yr hen gapel, bid sicr, canys nid oes tai i'r capelau newydd), ac meddai hi gyda throt yn ei llais: I Lycoch chi, syr. Yn Cwmhwplin dechreuws yr achos, a wedyn a'th e' i Ffynonfaer, a wedyn symudws e' o Ffynonfaer o dan bont y reilwe, a dyma lIe buws e' ar ol hynny nes codson nhw y capel newy' Cofied y darllenydd nad yw hyn i'w gael yn Hanes Annibynwyr Cymru,' oblegid na chadd y ddau Ddoctor Thomas a Rees gyfle i siarad a'r fenyw hon. Pedwar peth poblogaidd yr ardal yn ein bach- gendod ni oedd, Dysgu Sol-ffa, Ympryd Sara Jacob, Darlleniadau Ceiniog Jones, Blaenblodau, a Dadleuon Diwinyddol aelodau Pencader yn eu Hysgol Sul ac ar lawr cegin Mary'r Ystafell. Erys ei thy yn atgof o a fu, ond aeth hi i'w bedd flynyddoedd lawer yn ol. Chwysodd ami i bregethwr bach gwan fwy o'i blaen hi a'i chyd- ddadleuwyr nag a chwysai o flaen y gynulleidfa wrth bregethu. Cyngor ofnadwy i lefarwr amharod ac ofnus ydoedd cyngor nos Sul cegin Mary'r Ystafell, a hi oedd y pennaf gwr-pel gwr hefyd—yn croes ac yn traws holi. 01- rheiniwn yr ymchwilio a'r dadleu a'r ymgodymu hyn yn ol i Thomas Daniel, un a ddeallai ei Feibl yn dda, ac a gyfansoddodd holwyddor- egau buddiol, ac a sefydlodd yn y lie yr Ysgol Sul, ac a bregethai lawer yn yr ardal a'r cylch- oedd yn ddyn clir ei ddeall, a chryf ei feddwl, a byth-arhosol ei ddylanwad. Hoffem dreulio oriau yn yr ardal hyfryd hon, ond ni chaniata gofod; fellv, ar redeg, awn ymlaen i GWARNOGE. Ië, Gwarnoge. A dyma ben draw y byd. Pan el y dieithr i'r cwm hwn ar ffordd y CwniAvd-du teimla rywbeth yn dweyd wrtho hyd yma yr ei, a dim ymhellach.' Caea'r byd am dano, ac aiff y foneddiges drefol a theg yn welw ei gwedd. Gwarnoge Pwpwai Gurnos yr enw twt Gwernogle, ac yr ydoedd yn nyddiau ei farw yn trefnu i ohebu a'r Postfeistr Cyffredinol i'w newid o Gwernogle i Gwarnoge Ac yr oedd gwrando a gweld Gurnos yn dadleu dros y dyfnewidiad yn gwneud yr enw del Gwernogle yn wrthunbeth. Gwelsom yng nghofnodlyfr yr eglwys tua chanrif yn ol nodiad am Williams o'r Wern yn pregethu yn y lie' am ddeuddeg o'r gloch ddydd gwaith, ac yn cael IJ- am ei wasanaeth. Gwarnoge oedd yr enw y pryd hwnnw, ac yn ddiweddarach na hynny hefyd. A Gwarnoge yw yr enw gan y preswylwyr styl,' a chennym ninnau yn wir. Tra yno yn awr am dridiau cawsom gwmni un o blant yr amser gynt o Brechfa, yr hwn erbyn heddyw a saif yn dvwysog fel cvfieithiwr o Roeg i 'G .d b Gymraeg ac mae iddo ei arbenigrwydd am droi emynau Saesneg i Gymraeg, a chryf aruthrol yw. ei farn a'i feddwl mewn diwinyddiaeth a chrefydd. Er yn frodor o tua thair milltir o'r pentref uchod, eto mae yn gymaint o Warn- ogewr ag ydyw o Frechfawr. A phwy yn rhag- orach nag ef am brynhawn o ymgom ? Llawer gwaith cyn hyn y cyfarfuom yn y dref fawr, Abertawe, ond ni chawsid awr o lonydd yno i siarad na meddwl. Bellach wele ryw feddwl anweledig yn ein cymryd i le didren a difodur a didwrw, ac i ganol ta-welwch ceunentydd a choed. Pa ryfedd ddarfod^i ni yn y fath le ddatgan iddo ein syndod am boblogrwydd emyn Newman, sef Lead, kindly Light,' ac yn enwedig ei boblogrwydd ymhlith y Cymry, lie y ceir amrai gyfieithiadau ohono. Bron nad oes gan bob enwad ei gyfieithiad ei hun ohono, a rhyfedd yw'r canu gwerinol sydd arno. Gwelai ein cyfaill deallus a medrus y cyfrif am y poblog- rwydd hwii yu y darlleniad cywir sydd ynddo o'r galon ddynol yn ei hymchwil edifeiriol am Dduw. Yr oedd ei esboniad o'r eniyn yn rhag- orol, ond yr oeddem yn rhwym o ddweyd nad oedd hynny'n ddigon 1 gyfrif am ei boblogrwydd yng Nghymru a chan y Cymry, gan ei fod yn emyn mor ddi-Efengyl, ac mor amhersonol yn ei ddarlleniad o'r Dwyfol. Y niae'n emyn purion i Mrs. Besant ac i H. G. Wells, ond ni wnaethai y tro i Morgan Rhys ac Ann Griffith. Dichon yr atebai i Williams, Pantycelyn, gan fod cy- maint o Daith y Pererin ynddo. Modd bynnag, aeth ein siarad a ni oddiwrth emyn J. H. Newman at lyfr H. G. Wells, sef Yr Anweledig Frenin.' Anodd gwybod pa un yw y mwy af-y brenin ynte yr awdur. Honna yr awdur ei fod wedi dod o hyd i'w frenin,' nid drwy yr Eglwys, ond drwyddo ei hun. Y mae'r gwr mawr hwn wedi treulio allan ei oes bron i ymosod ar yr Eglwys a'i chrtdo, ac i edrych yn gymharol ddibris ar y ffaith o Dduw ond yn awr, yn ol ei brysurdeb a'i arfer, wele efe yn rhoi duw y dyfodol mewn llyfr, yn llawn cymysgedd o Iddewaeth a Bwdiaeth a Wells- iaeth, bid sicr, a honna mai hwn a fydd duw y dyfodol: 'To this all true religion must ulti- mately come and the revival-is coming very swiftly.' Felly wir w Duw helpo John Jones a Pegi Lewis. Y mae dyn-ie, pob dyn-a llawer o'i amgylch- iadau yn ei dduw a'i addoliad, ac mae mwy o'i hunan yn ei dduw nag sydd o'i amgylcluadau, Am hynny y mae llawer o hunan-addoliad hyd yn oed yn y gwir addolwyr.' Dyn yw Wells, a dyn mewn twymyn ydyw ar hyn o bryd ac hyd yn hyn nid yw'r dwymyn yn dod allan yn dda. Gweddiwn am i'r dwymyn dorri allan yn dda, rhag iddo fynd yn waeth yn lie dod yn well; a chyniled ei longyfarchwyr eu geiriau, rhag cywilydd iddynt, yn amser y rhyfel yma a choiied Wells a phob un o'i fath sylw y diw- eddar Barch. William James, Aberdar, sef fod pechadur y Beibl yn well na dyn gwyddoniaeth. Y mae cryn ffordd eto rhwng dyn Wells yn The Invisible King a phechadur Luc xv. a'r Salm li. Ac mae Duw y ddeule'n wahanol hefyd. Arwyddair y llyfr hwn a ddylasai fod Mae'n dywyll iawn, a minnau'n mhell o dref.' Beth ? Dyna swn cloch y Mwmbwls yn y lli, yn rhy- buddio rhag perygl, ac mae llais wrth fy ochr yn galw i fwyd.

Salem, Heolgerryg, Merthyr.