Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

I Pontsenni.

News
Cite
Share

I Pontsenni. Marwolaath Mr, John Aaron.—Chwitb iawn yw meddwl fod yr hen frawd adnabyddus a pharchus hwn yn ei fedd. Mae gwacter mawr ar ei ol yn yr eglwys ac yn yr ardal. Yr oedd yr ymadawedig yn un o fasnachwyr mwyaf cyfrifol y cyichoedd, ac mae trwch o brudd-der ar y rnasnachty ar ol claddu yr hen berchennog anrhydeddus. Cafodd oes faith, ond nid oedd 84 o fiynyddoedd yn ddigon i gwrdd a dymun-. iadau yr ardalwyr- Bu am gyfnod hir yn Nhrecastell ar ol dod yno o gymdogaeth Caerfyrddin. Yr oedd yn un o sylfaenwyr yr achos Annibynnol yn y lie, a bu'u ddiacon yno am flynyddoedd lawer. Nid oedd neb ffyddlonach na neb yn teimlo mwy o ddiddordeb yn yr acbos Bu o help mawr i'r eglwys newydd o'i baban- dod i fyny. Yr oedd ei symudiad i Bontsenni yn golled bwysig i'r frawdoliaeth yn Nhrecastell, ac yr oedd teimladau hiraethlawn mewn llawer mynwes ar 01 y teulu. Bu eto yn aelod ffyddlon ac yn ddiacon teilwng yn Salem, Pontseuni, hyd awrei ymddatodiad, ac yr oedd yr achos yn Salem yn agos iawn at ei galon. Teimlir fod bwlch mawr ar y mar ar ol ei gladdu. Gadawodd weddw a thair o ferched hiraeth- Ion ar ei ol i gadw ei goffadwriaeth cysegredig yn wyrddlas yn y byd. Cafodd angladd anrhydeddus. Daearwyd ei weddillion marwol ym mynwent henafol Llywel. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch Volander Jones, Pentretygwyn, ac yn yr eglwys gan fleer y He. Yr oedd torf o berthynasau ya yr angladd o bell ac agos. Gwelsom amryw o weinidogion yn bresennol o wahanol enwadau, ymhlith pa rai yr oedd y Parch. Penar Griffiths, yr hwn sy'n fab chwaer i'r ymadawedig. Huned yr hen frawd yn dawel yn ei wely pridd.

MOLlANT A'R RHYFFL. I

I Y Parch. J. 0. Williams…

Advertising

Undeb yr Annibynwyr Cymreig.…