Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

ER COF AM GRIFFITH JOHN EVANS.

News
Cite
Share

ER COF AM GRIFFITH JOHN EVANS. GAN Y PRIFA^HRO T. Duwrs, M.A., ABER- HONDDTJ. Ymhlith yr ymgeiswyr a eisteddodd arholiad Coleg Aberhonddu ym IVIofii, 1915, yr oedd dyn ieuanc o'r enw Griffith J olm EVans. Cyn i mi ei weld ar ddiwrnod yr arholiad cawswn ar ddeall mai mab ydoedd i Mr. a Mrs. Evans, Blaenycwm, Pengarnedd, Maldwyn, ac wyr i'r clodfawr vV. Roberts, Penbontfawr, er iddo ddechreu pregethu ym Maesyrhaf, Castellnedd. Derbyniais nifer o lythyrau oddiwrth weinidog- ion a i hadwaenai, a rhodclent ganmoliaeth uchel lawn iddo fel pregethwr. Cefais hefyd gymer- adwyaeth hyiiod o uchel oddiwrth wahanol eglwysi a'i clywsai'n pregethu. Profiad cyff- redin gennyf bellach yw darllen llythyrau can- moliaeth i ymgeiswyr. Gwn mai peth hawdd yw mynd dros y terfynau mewn canmoliaeth, ond yr oedd rhywbeth yn y llythyrau a ddef- byniais am Griffith John Evans yn profi fod ganddo alluoedd arbennig ar gyfer y pulpud. Cyttuient oil i broffwydo dyfodol gwych iddo fel pregethwr. Bachgen a'i eiiaid ar dan dros ei Waredwr' oedd bam un a'i hadwaenai yn dda am dano. Ganed Griffith John Evans ym Mlaenyglyn, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, yn y flwvddyn 1892. Efe oedd yr ieuengaf o un ar ddeg o blant. Bed- yddiwyd ef gan ei daid, y Parch. W. Roberts o Benbontfawr. Ar ol tymor o brentisiaeth yn siop Mr. Roberts, The Stores, symudodd i Gaer- narfon, ac oddiyno i Gastellnedd i siop Mr. Levi James, Hong Kong Stores. Yn ystod ei arhos- iad yng Nghaernarfon bu'n aelod yn eglwys y Parch. Stanley Jones, a theimlai awydd i breg- ethu yr adeg honno. Yn ystod y ddwy flynedd a dreuliodd yng Nghastellnedd lletyai yn nhf Mrs. Evans (Neddferch), a chafodd gartref wrlli ei fodd. Dyma ddyfyniad. o lythyr a dderbyniais oddi- wrth Mr. James am dano He came to me as a stranger, but from the first his pronounced honesty, punctuality and strict attention to his duties caused me to take more interest than usual in him. He had not been with me many months before he had won not only the respect, but also the love of nearly all my customers His influence among the young men in the shop was most marked. He was always proud to call himself a follower of Christ, and nothing gave him greater pleasure than to help others to carry the banner. Eventually he told me one night that he had been pray" ing over the matter for some months, and he felt the answer was clear to give up his trade and enter the ministry Dangosodd Mr. James ei edmygedd o'i brentis trwy ei gynorthwyo yn ystod ei arhosiad ym Mhontypridd yn ysgol y Parch. Jenkyn Jones. Dechreuodd arholiad Coleg Aberhonddu dydd Sadwrn, a threuliodd Mr. Evans a'i gyd-ymgeis- wyr y Saboth yn y dref. Daeth cais ato nos Sadwrn i bregethu yng nghapel y Plough yng ngwasanaeth y bore. Mae'r rhai oedd yn bres- ennol yn son hyd y dydd. hwn am y gwasan- aeth a'r bregeth a'r ymgeisydd. Cyfarfflm ag un o ddiaconiaid y Plough fore dydd Llun, ac heb ragymadrodd o un math dywedodd yng Nghymraeg Aberhonddu Gofalwch dderbyn y student bregethodd gyda ni bore ddo'. Dyna, beth yw born preacher. Dim subscription, cof- iwch, os rejectwch ch'i hwna.' Pan ymddangosodd gerbron yr Is-bwyllgor nos Fawrth, canfyddai pawb fod yr arholiad yn pwyso'n llethol a.r ei feddwl. Ond gwnaeth argraff ddymunol dros ben ar y Pwyllgor. Yn ei wyleidd-dra a'i bryder yr oedd yn foneddig- aidd, ac yn urddasol. Corff eiddil oedd ganddo, ond yr oedd gwefr yn ei bersonoliaeth. Er ei fod yn ofnus iawn yn y rhan gyntaf o'r arhol- I iad personol, pan ofynnwyd iddo ddarllen pen- nod o'r Beibl a thraddodi darn o bregeth, new- idiodcl ei wynepryd a diflannodd pob cryiidod. J Teimlai'r Pwyllgor ar uiiwaith fod pregethwr ger eir bron. Edrvchai ymlaen gyda diddordeb neilltuol at ei yrfa. yn y Coleg-ytig Nghaerdydd ac Aber- lionddu ond oherwydd ei wyleidd-dra a ddiffyg ymddiriedaeth ynddo'i hun fel myfyriwr teimlai yn bryderus ynglyn a'i waith yn y Coleg Ceuedl- aethol yng Nghaerdydd. Sicrheais ef fod llawer yn y Coleg yn gwybod llai nag ef ymhob cangen o wybodaeth. Trefnais ei gwrs am y flwyddyn gyntaf, ac mewn llythyr a ysgrifeimodd yr wythnos ddilynol dywedodd Rwyn pender- fyjiu gwt:eud fy ngoreu er mwyn y Coleg, a'r cyfeillion sy'n fy nghynorthwyo, ond yn fwy na'r oil er mwyn fy Ngwaredwr.' Ond byr iawn fu ei arhosiad. vng Nghaerdydd. 1 Cynghorid pawb ar y pryd i aitesto yn ol cyn- llun Arglwydd Derby. Gwell peidio a beirniadll ffordd vSwyddfa Rhyfel i gael mil wyr i'r fyddin, j ond pennod sal yw hon yn hanes y Llywodr- aeth. 'Roedd y myfyrwyr mewn penbleth eiiby (I. Pan glywsant y byddai lie a gwaith i nifer ohonynt yn Ysbyty Net ley, a sefydlasid gan Syr William James Thomas, peiiderfynasaiit anfon cais at yr awdurdodau milwrol, ond fe'u hatebwyd na ellid ystyried eu cais heb iddynt attesto. Ar ol iddynt attesto fe'u hysbyswyd na ellid ystyried eu cais, am. nad oedd ganddynt brofiad o waith ysbyty. Yn gynnar yn y flwyddyn 1916 fe lwyddodd y Cadfridog Owen Thomas i ddarbwyllo'r Swyddfa Rhyfel mai doeth' fyddai sefydlu adran arbennig o'r R.A.M.C. ar gyfer gweinidogion a myfyrwyr diwinyddol. Penderfynodd un ar ddeg o fyfyrwyr Coleg Aberhonddu fanteisio. ar y cyfle hwn, a theithiasant i Rhyl, ac yn eu plith Griffith John Evans. Bu naw yn llwyddiannus, ond fe wrthodwyd flau gan y meddyg, sef Griffith John Evans a J. J. Da vies. Ni synnais ddim pan glywais i'r brawd Evans gael ei wrthod gan y meddyg, am mai cyfansoddiad brau oedd ganddo. Dychwelodd i'r De, ond ymhen pythef- nos derbyniodd lythyr oddiwrth recruiting officer yng Nghroesoswallt yn ei orchymyn i fod yno ar ddiwrnod penodedig i ymuno a'r fyddin. Gyrrodd air yn ol ar fy nghais-a gyrrais innau yr un pryd-fod ganddo certificate of rejection, ond yr ateb oedd. gorchymyn pendant i fod yng Nghroesoswallt y Sadwrn dilynol. Cymerwyd oddiwrtho y certificate of rejection a dderbyniasai yn Rhyl bythefnos ynghynt, a phasiwyd ef i'r fyddin gan feddyg yng Ngwrecsam. Nid oedd yn ddigon cryf ym marn mi meddyg i ymuno (L'r Royal Army Medical Corps, ond yr oedd yn ddigon cryf ym marn mcddyg arall i ymuno ST Royal Welch Fusiliers. Mawr oedd fy syndod pan dderbyniais lythyr oddiwrtho o Derpwl yn rhoi'r hanes. Teimlai --ac ni allai lai na. theimlo—iddo gael cam dybryd. O'r holl fyfyrwyr yn y Coleg ar y pryd, Griffith John Evans oedd y mwyaf anghymwys i ymuno a'r fydclin. Nid oedd dim yn fwy gwrthun iddo nac yn fwy croes i'w deimladau 11a thrin arfau rhyfel. Gan ei fod o'r farn iddo gael cam, credai fod ffordd iddo ddyfod yn rhydd, neu i'w drosglwyddo i'r R.A.M.C. IJrfyn- iodd arnaf i'w gynorthwyo ac er y gwyddwn mai ychydig o obaith oedd i'w gael yn rhydd, ysgrifennais at nifer o Aelodau Seneddol, ac ymysg eraill at Syr John Simon. Deallaf i eraill wneud yr un peth. Bn Mr. Sidney Robinson, A.S., a Mr. Towyn Jones, A.S., yn dadleu drosto gerbron yr awdurdodau milwrol. Bn llawer o ohebn am hir amser, ond ofer pob ymdrech i'w gael allan o'r fyddin na'i drosglwyddo i adran arall. Derbyniais nifer o lythyrau oddiwrtho yn yr amser hwn. Ar y dechreu teimlai'n ddrylliedig ei deimladau, ond glynai i gredu fod rhyddhad iddo. Yn raddol daeth yn fwy cynefin a'i sefyllfa a'i amgylchfyd, a dechreuodd edrych ar ei brofiad yn y fyddin fel rhan o'i baratoad ar gyfer y weinidogaeth. Cyfeiriai at hyn yn ami iawn yn ei lythyrau. Ym mis Rhagfyr croesodd i Ffraine, ac ar ol chwe mis o brofiad brawychus maes y frwydr daeth y dhvedc1 dair wythnos yn ol. Dyma ddarn o'r llythyr cyntaf a dderbyniais oddiwrtho ar ol croesi i Ffrainc Gwelwch fy mod bellach wedi cyrraedd Ffrainc. Glaniais yma Sul wyth- nos i heddyw. Y mae fy holl apeliadau yn ofer. Nid wyf yn gwybod pa bryd y byddaf yn myned i'r maes. Hyderaf y gweddiwch lawer drosof. Mae'n amser difrifol ac os wyf yn gwneud yn groes i'r hyn a ddylwn, gwyr Duw fod gennyf ddwylaw glan. Gwnes fy ngoreu yn y wlad yna, felly mae pob gobaith wedi cilio. Mae yma ardal brydferth, a diau y byddai ychydig wythnosau yma i feddwl tawel yn fen- dith fawr. Mawr obeithiaf fod heddwch yn yniyl, ac y caf ddod yn ol at fy ngwaith yn fuan.' Awgrymais iichod mai ychydig iawn o gyfle a gawsom i adnabod ein gilydd. Byr fu ei dymor yn y Coleg, ond nid oedd yn angenrheiuiol bod yn ei gwmni am hir am&er cyn canfod mai cy- meriad prydferth dros ben ydoecld. Mae atgof- ion hyfryd am dano yng Nghastellnedd ac er mai byr iawn fu ei arhosiad yng Nghaernarfon a Phontypridd a Chaerdydd, sieryd y Parchn. D, Stanley Jones ac O. Ijoyd Owen a H. M. Hughes yn annwyl iawn am dano. Hoffid ef gan bawb a'i hadwaenai—' a chan y gwirionedd ei hUll.> Pregethu'r Efengyl oedd uchaf yn ei feddwl hyd y diwedd. Cyfeiriai bron ymhob llythyr at ei waith yn y dyfodol. Gofynnai yn ami beth oedd fy marn am feithder y rhyfel. Edrychai ymlaen at ddiwedd y terfysg, a soniai yn ami am ddod yn ol i'r Coleg i ail-gydio yn ei hoff waith. Gellid disgwyl iddo deimlo'n eiddigeddus wrth y myfyrwyr a adawyd ar ol yn Y Coleg, ond nid oedd awgrym o hyn mewn un llythyr. Holai'n garedig am danynt, a dyinunai'n dda iddynt gyda'u gwaith. Mewn llythyr a ysgrif- ennodd yn Chwefror I have not dropped across any of the Brecon boys here yet. I have been expecting to meet someone all along. Though I have not been able to meet them here, I hope and pray we shall meet again in Brecon. It is a great experience, and should be a. great preparation for us as ministers. If spared, we can testify to the reality of what we intend preaching, having experienced it for ourselves.' Dyma ddarn o'r llythyr olaf a dderbyniais oddiwrtho I am trying to run over a few of my old friends (the Greek verbs), just to keep them in mind. Time is rather limited, of course, but it will be beneficial later on, if it be God's will for me to resume my studies--and it is a little change as well. I was so glad to hear the boys are well. It will be a great meeting, if it be God's will for us to meet again.' Meet again —ond nid yn y Coleg, ond yn Salem fry.'

GALWADAU.

-_........_.....__..-__-_..__..-...._…