Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Coleg Caerfyrddin. I

News
Cite
Share

Coleg Caerfyrddin. I Oynhaliodd Pwyllgor Annibynnol y Sefydliad uchod ei gwrdd blynyddol am 10.30 o'r gloch bore Iau, Mehefln 21ain. Llywyddwyd gan y Parch. J. Stephens, Llwynyrhwrdd, y cadeirydd am y flwyddyn. Arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch. D. Morgan Davies, y Llyfrfa, Abertawe. Cafwyd presenoldeb y Parchn. Athro J. O. Stephens B. Davies, Llandysni; Dyfnalit Owen Evans, Penygraig; D Morgan, Cana; John Griffiths, Aberafon Penar Griffiths, Pentre Betyll; D G. Williams a D. R. Davies, St. Clears; D. E. Williams, Henllan; J. Lewis, Blaenycoed; D. Williams, Abergwili W. H. Cassam. Hen Gapel; D. Peregrine, B.A., Tre- lech; D. Adams, B.A., B D., Dowlais; W. C. Jenkins, Cydweli; D. J. Thomas, ysgrifennydd y Pwyllgor, a Mr. G. Phillips, y trysorydd; ynghyda'r Mri. George Davies, Peniel; Gomer Henry, Llandeilo; G. P. Cook Davies a D. Jones, Abertawe; a W. Dunn Williams, Caer- fyrddin. Rhoddodd yr Ysgrifenydd a'r Trysorydd eu hadroddiadau. Dywedodd yr olaf ddarfod i'r eglwysi fod yn ffyddlon iawn yn eu casgliadau tuag at y Coleg yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, er gwaethaf yr argyfwng tost presennol, a'r galwadau mynyoh sydd arnynt am gynhorthwy ariannol; a gobeithia y Pwyllgor y dangosir eleni eto yr un caredigrwydd a haelioni tuag at y myfyrwyr a'r Sefydliad. Cydymdeimlwyd a phorthynasau y diweddar Barch B. Carolan Davies, Tynygwndwn, a Mr. D. Davies, Rhydyrhaw, Peniel-y cyntaf yn un o hen fyfyrwyr y Coleg, a'r ddau yn ffrindiau y Sefydliad ac aelodau o'r Pwyllgor. Dawiswyd Mr James Henry, Llandeilo, yn gadeirydd am y flwyddyn ddyfodol; y Barch. D. Morgan, Cana, a Mr. B Davies, Glasfryn, Abertawe, yn arehwilwyr W. Dann Williams i fod yn aelod o'r Pwyllgor Ariannol; y Parchn. Rhys Griffiths, M.A., B D., a Rowland Evans, Llanelli, i fod yn aelodau o'r Pwyllgor LIeoI, a'r personau canlynol o gylch Lerpwl i fod yn aelodau o'r Pwyllgor CyffredinolParchn. 0 L. Roberts, D. Adams, B A., J. O. Williams (Pedrog), M.A., J. Vernon Lewis, M A., B D.; J. J. Roberts, B.A, Birkenhead; Morgan Llewellyn, Manchester; Mri. Robert Davies, Lerpwl; W. Jones, Penrhiw, West Darby-road; a Howard Davies, L. & P. Bank Walton-road Derbyniwyd y tri myfyriwr a faont ar brawf am flwyddyn i gyflawn freintiau'r Colag, set Mri. T. Emlyn Jones. Llandysul S. D Griffiths, Llanstephan; a W, S. Griffiths, Aberafon Dygodd yr Athro Stephens dystiolaeth dda i'w cymeriadau a'u gwaith Y mae deuddeg o'r myfyrwyr Annibynnol wedi ymrestru yog ngwasanaeth eu gwlad; rhai ohonynt wedi dychwelyd o'r ffrynt er ymwellhau o'u clwyfan, a'r gweddill ar y maes yn bresennol. Penderfynwyd gadael ar yr Athro Stephens a'r Ysgrifennydd i anfon llythyr at bob un ohonynt yn datgan gwerth- fawrogiad y Pwyllgor o'r hunan-aberth a wneir ganddynt. Pasiwyd i longyfarch Dr. E. Griffith Jones— un o hen fyfyrwyr y Coleg-ar ei etholiad yn Gadeirydd Undeb Seisnig Lloegra Chymru a'r Parch. Towyn Jones ar ei ddewisiad i lanw cylch pwysig yngJýn a'r Parti Cymreig a gwaith y Senedd. Etholwyd y Parch. O. L. Roberts, Lerpwl, i draddodi anerchiad i'r myfyrwyr pan ddeuai'r cyfleustra, Talwyd diolchgarwch i't Cadeirydd am ei wasanaeth yn ystod y flwyddyn; i holl swydd- ogion y Pwyllgor am euffyddlondeb a'u gwaith, a therfynwyd gan y Parch. Penar Griffiths. Philadelphia. T. W. MORGAN.

Advertising