Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

HYN A'R LLALL 0 BABILON Ii…

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. GAN EYNON. Mae'r Senedd yii iwy-fwy bywiog o ddydd i ddydd. Ceir rhyw banner dwsin, mwy nen lai, o frodyr taeog yn cwyno byth a hefyd fod y byd ymhell o'i le. Diau pe cawsent hwy eis- tedd yn y prif gadeiriau y buasai'r tryblith yn dod i drefn ar darawiad ainrant. Olid gan fod Rhagluniaeth fawr y nefoedd wedi arfaethu fel arall, nid oes felly ddim i'w wneud ond beio'r drefn fel y corfforrir honno yn y Prifweinidog neu rhyw bechadur mawr arall cyffelyb iddo. Gwir fod helynt ofnadwy Mesopotamia yn adlewyrcliu gvvaradwydd ar y cadfridogion a'r arweinwyr, o Austen Chamberlain a'r Arglwydd Hardinge a Syr John Nixon i lawr. Bwngler- waith drwyddo ydoedd, a phrawf o*r newydd fod eisian ail-eni'r fyddin. Clywsom am' fataliwn o lewod yn cael eu harwain gan asyn ar faes y frwydr ambell waith pan geid rhyw hogyn difarf, am ei fod yn dal Commission, yn arwain dynion dewrion i'w dinistr. Ond nid blunder hogyn difarf ydoedd hwn ym Mesopotamia, ac y mae'n rhaid nithio'r mater i'w waelod- Swm y cwbl yw, wedi'r cyfan, mai nid ffafr, nid dylanwad, nid gwaed glas, nid arian a phres raid lywodraethu yn y fyddin, ond talent a medr a gwroldeb. Ar y system mae'r bai—yr hen system bwdr fu'n cadw gwobrwyon yr hen wlad yma drwy'r canrifoedd i ryw un dosbarth o ddynion, ac yna rhyw Airs. corn wains-w est nen guy act yn tynnu'r gwifrau. Gobeithio nad yw'r dydd ymhell pan fo byddinoedd anferth Ewrop a'r byd yn cael eu gwasgaru, fel na ddysgont ryfel njwi,,ach' ond gan nad yw'r Mil Blyn- yddoedd eto, y mae'n bechadurus o beth fod bechgyn dewrion Cymru a mannau eraill yn cael beddau yn nhir yr estron yn herwydd diofalwch melltigedig martinets y fyddin. Drwg gennyf weled fod y Elywodraeth yr wythnos hon wedi ilclio'r inaes ar ddau o fater- ion pwysig i alluoedd y gelyn. Un canlyniad fydd ychwanegu rhyw un rhan o dair at swm y cwrw a fryweddir ar gyfer sychedigon yr hen wlad yma. Sonnir, yn wir, fod rhai gwladgar- wyr yn son am sefyll strike oddigerth iddyut gael rhagor o dwbl X. Ac y mae'r potwyr felly wedi ennill y dydd i'r graddau o rhyw 33 y cant, Ar y llaw arall, rhaid i'r ddiod fod yn fwy o ddiod fain. Rhagor o ddwr, ond dim rhagor o drefn. Gresyii o beth, er liyuny, fod Prydain Fawr yn gorfod tyniiu het i bobl y Red Cow a'r Green Man. A dyna'r ail surrender ydoedd. lionno i wyr y rhedegfeydd. eeffylau. Wrth ddarllen ambell i bapuryn byclian drewllvd ym Mabilon yma, gallesid meddwl fod gogoniant Prydain yn di- bynnu ar fod banner dwsin o geffylau, a banner dwsin o ffyliaid ar eu cefnau, yn rhedeg am arian, miloedd o ffyliaid eraill yn llygadrythu arnynt, a holl wehilion cymdeithas yn chwyddo'r cwmuÍ. Un o'r pwerau mwyaf llygredig yn' y deyrnas hon yw'r liyn a eelwyn y Sais fel y Turt. Diolch i'r nefoedd nad oes air Cymraeg am dano. Wel, y mae'r Turf i gael deugain o ddyddiau i redeg ceffylau, end ni cheir dim special trains na motors. Ar ol i'r merched gael vote, gobeithio y ceir y farn gyhoedd yn fwy iach ac yn fwy di-ofn ar fateriollfel hyn, Rhvw wt (licit-hi- fydd yn pregethu yn y City Temple bob 110s Saboth er pan ddaeth y gweinidog newydd o'r Amerig. Nid oes raid fod yr Efengyl ganddo. Dr. Saleeby oedd yn preg- ethu' nos Sul diweddaf- Nid yw Dr. Saleeby-- dyn ardderchog yn ei le-yi-i proffesu crefydd Crist o gwbl. Un o oleuadau'r Ethical Society ydvw. Ac eto ar nos Saboth dyma'r bwyd ddar- perir yn hen gapel Joseph Parker Wn i ddim ai D.Litt. wedi ei ennill ai D.Litt. wedi ei brymi sydd gan y Dr. Fort Newton, ond prin y mae peth fel hyn yn deilwng o hen draddodiadau godidog ein Teml fawr fvd-enwog. Wrth gwrs, pobl o bell sydd yn deall holl hanes y City Temple ond efallai y inaddeuir i rywun fel finnan on the spot am anturio dweyd ei farn yn awr ac yn y man. Un paragraff byr ar bwnc y Blaid, neu yn hytrach y Pleidiau Cymreig. Fel y dywedais yr wythnos ddiweddaf, y mae amryw o hoelion wyth yn ell plitli—dim eisiau gwell; ond paham yr anwybyddir hwy mor barhaus gan y pwcrau ? Yr enghraifft ddiweddaraf ydyw hon Dewisir pwyllgor o Seneddwyr i chwilio i fewn i agwecld ariannol y Fasnach Feddwol pe penderfyiiid rhywdro daro bargen a hi. Ceir pwyllgor o Scotchmen i edrych i fewn i sdyUfa pethau yn j yr Alban felly yr Iwerddon hefyd. Ceir dwsin, i mwy neu lai, o etholedigion i chwilio i fewn i natur pethau dros Loegr a Chyinrn. Pa sawl Cymro ? Dim mi Paliaiii Chwith iawn i mi ydoedd darllen am farwol- aeth fy hen gyfaill annwyl, Dafydd Rees o Gapel Mawr. Cofiwyf am dano ym luhoetliter brwydr fawr y Cyfausoddiadau.' Nid wyf am aflonyddu dim ar lwch yr hen ddadl honno, ragor na dweyd mai i Dafydd Rees yn iwy, efallai, nag i neb arall, y lllac'r heddwch i'w briodoli. Yr oedd tri ohonom ar y pryd yn aelodau o'r Cabinet ar un Haw, sef y bonheddwr trwyadl o'r Capel Mawr, fy hen gyfaill Keinion, a minnau. Nyni ein tri fu wrthi'yn heddychu ar un llaw, a'r anfarwol Herber yn blaenori ar y llall. Oucl wedi'r cyfan oil, tact digyffelyb y gwr o Gapel Mawr gariodd y maen i'r wal! Un o bendefigion natur wedi ei gaboli yn athrofa gras. Blin gennyf na chaf welcd ei wyneb annwyl byth mwy. Wrth fyned heibio, goddefer i mi blannu blodeuyn bychan ar ei fedd. Bedd g\vr Duw ydyw.,

Marwolaeth a Chladdedigaeth…

Advertising