Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Iv WERS SABOTHOL. +61
News
Cite
Share
Iv WERS SABOTHOL. +6 1 i Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL- | I i Gan y Parch. D. EUROF WAL TERS, 5 M.A., B.D., Abertawe., 6  24all' -'klllcaji Lfellgvl loaii.Loaii.I xxi.i.5-2? (.M?/i.?/?<!)- Y TRSTYN ETOAXDJU.Eithr y pethau hyn a ysgrifeunwyd, fel y credoch chwi mai yr lesu yw Crist, Mab Duw a chan gredu, y caffoch yn eilw ]C, f. -loall -x. 31. Ni chaniata'r gofod prin sycld geniiyrn yma i ni roddi Rhagymadrodd i'r Efengyl a elwir gen- nym wrth yr enw Efengyl loan.' Gan i'n gwersi y chwe mis diweddaf fod yn yr Efengyl hon, daeth rhai o'i nodweddion yn lied glir ger ein bron. Y mae'n iawn sylwi yma fod medd- ylian craff wedi ymdreulio ar yr Efengyl hon. Pwy a'i cyfansoddodd ? Ai atodiad ydyw i'r Efengylau eraill ? A ydyw yn rhoddi hanes llythrennol ac adroddiad cywir o fywyd a geir- iau'r Gwaredwr ? A ellir cysoni'r tair Efengyl arall a'r Efengyl hon ? Dyna rai o'r cwestiynau yr ymwregysodd ysgolheigion i'w cyfarfod. A. theg ydyw dweyd mai cwestiynau cyfreithlou a naturiol ydynt cwestiynau a rheidrwydd yn en eyutial, nid cwestiynau myiupwy inohonynt. Bu amser pan yr amheuid yn bendant berthynas loan yr apostol o gwbl a'r Efengyl, ond crbyn hyn y mae tuedd beirniadaeth yn ol at dradd- ndiad yr Eglwys gyda golwg ar yr awdur. Nid yw'r lleisiau o bell ffordd eto'n unol. Er yn c\-dnabod perthynas loan a'r llyfr, niyn rhai nad yw yn ei ffnrf bresennol fel y daeth o law loan eraill a haerant mai Efengyl yn ol loan ydyw, wedi ei chyfansoddi gan un a ddysgwyd gan loan. Ar y llaw arall, er cydnabod awdur- aeth loan, cydnabyddir nad hanes moel a llyth- rennol geir yn yr Efengyl hon, eithr ffeithiau a geiriau hanes yr lesu drwy gyfrwng profiad addfed a myfyrdod hir yr awdur. A gwelir safbwynt ac amcan yr awdur wrth ysgrifennu'n barhaus ar hyd y llyfr. Yn ol ei gyffesiad ei hun A llawer o arwyddion eraill a wnaeth yr lesu yngwydd Hi ddisgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn. Eithr y pethau hyn a ysgrifeun wycl fel y credoch chwi mai yr lesu yw Crist, Mab Duw; a chan gredu, y caffoch fywyd. yn Hi enw Ef (xx. 30, 31). Efengyl .wedi ei liysgrifennu i gwrdd ag amheuon a gau-athrawiaethau ydyw, ac y mae gennyni wybodaeth am syniadan C37feiliornus gyda golwg ar berson y Gwaredwr yn rhan olaf y ganrif gyntaf. Ceir yn yr Efengyl hon olwg ar y disgyblion yn eu cred a'n hangred, a chlywir Thomas yn cyffesu o'r diwedd Ey Arglwydd. a'm Duw.' Gwelir y dyrfa'n ymrannu gyda golwg ar yr lesu a'i eiriau 'Ac er gwneuthur ohono gymaint o arwyddion yn eu gwydd hwynt, ni chredasant ynddo.' Dywed traddodiad i loan yr apostol gyrraedd oedran mawr, ac mai yn Ephesus y treuliodd ddiwedd ei oes. Gan ein bod yn gwybod am heresiau a flinent yr Eglwys yn Asia Leiaf tua diwedd y ganrif gyntaf, a'n bod fel yn taflu gorcn ar amcan ysgrifeniad yr l^fengyl hon, uodwn hwynt yma'n fyr. (1) Dysgai un o'r enw Cerivthus mai dyn sym.1 ydoedd yr lesu hyd fan neilltuol yn Ei hanes, pryd y daeth y Crist nefol i undeb ag ef am dymor. (2) Ceid Crist-- iouogiou Iddewig dan yr enw Ebioviaid a wad- en t Dduwdod yr lesu, er yn cydnabod mai Efe ydoedd y Messiah. (3) Daliai dosbarth at-all luai ymddangosiadol yn unig ydoedd corff yr lesu, ac felly nad oedd ymgnawdoliad gwirion- eddol wedi cymryd lie. Yr oedd i'r heresi hon amrywiol ffurfiau, ond yn gyffredin iddynt yr oedd y syniad fod inater-popeth creedig- yn ddrwg, yn llygredig, ac yn llygrn, ac felly nad allai'r dwyfol ddyfod i g}rlTyrddiacl. a mater. Ni allai'r dwyfol felly gymryd cnawd yn wir- ioneddol. Y mae athrawiaeth y Rhagarweiniad i'r Efengyl hon (i. 1-18)—sef Gwers y Saboth cyntaf o'r fiw-vddyu-yn taroyn erbvll yr heresiau hyn oil. Ac y mae ei dylauwad ar gredo'r Eglwys mewn oesau dilynol bron yn ddifesur. I*in perygl ydyw methu darganfod, neu anwybyddu, ei gwerth i'n bywyd. Yngolwg yr awdur, yr lesu ydyw dehonglydd digA-mat yr Anweledig Ni welodd neb DdllW erioed yr unig-anedig T' -J: -_J'M I'ab, yr Hwn sydd ym mynwes y Tad, Hwnnw a'i hysbysodd Ef.' Mor fawr ydyw'r lesu yn ei olwg fel yr a yn ol heibio Abraham, tad y genedl Iddewig heibio Adda, tad yr hil ddynol; at Dduw, wrth olrhain ei haniad. 0 gylch yr lesu y try popeth, a thrwy yr lesu yr esbonnir popeth. Efe yw y Gair.' Ac wrth ddefnyddio'r term hwn- y Gair —gwnai'r awdur ddefnydd o ymadrodd cyfarwydd y pryd hwnnw, sef, yn iaith wreiddiol yr Efengyl—Logos. Yii y de- chreuad yr oedd y Logos.' Y mae'r erthyglau a'r tractliodail o bryd, i'w gilydd ar y gair hwn yn lluosog iawn. Cyfyd anhawster ynglyn a dehongli'r term o'n hansicrwydd gycla golwg ar y ffynhonnell y tynnwyd ef ohono gap awdur yr Efengyl. Y mae'n anilwg fod y gair Logos mewn ystyr arbennig 3'n gyfarwydd i'w clelarllenwyr, gan nad yw'r awdur yn cynuyg ei egluro. Gallasai'r sj^niad ddyfod iddo o un o dxlwy ff),lihonliell--yr Hen Destament, neu athroniaeth, yn neilltuol athroniaeth Philo o Alexandria, (i) Yr Hen Destament. Trwy 'Air yr Arglwydd y crewyd y bydoedd. Deuai Gair yr Arglwydd at y proffwydi. Yng nghyf- nodau diweddaraf y genedl, tueddid at athron- yddu uwchben yniadroddion o'r fath, neu per- sonoli'r Gair fel cennad Duw yn Ei ddatgudd- iadau. Drachefn, ceir Doethineb yn Llyfr y Diarhebion, ac yn arbennig yn un o lyfrau'r Apocryffa, yn-dra thebyg i berson. (2) Athron- iaeth, yn neilltuol athroniaeth Philo o Alexan- dria. Iddew ydoedd Philo a gymerai'r Hen Destament fel sail neu ddefnydd ei ddysgeid- iaeth. Cymhwysai syniadau athroniaeth Roeg- aidd at yr Hen Destament, a cheisiai uno'r ddau a'i gilydd. O'r athroniaeth hon dygai'r syniad am y Logos yn yr ystyr o Reswm, neu'r amlyg- iad o feddwl dwyfol yn y greadigaeth. Yr oedd athroniaeth Alexandria, ac yn arbennig athron- iaeth Philo, yn gyfuniad rhyfedd felly o syn- iadan Hebreig nen Iddewig ac eiddo athronwyr Groeg. Syniai Philo am Dclnw fel un mor bell oddiwrth y greadigaeth fel na allai dcn-fod. i gyffyrddiad a'r gweledig. Rhyugddo a'r gwel- edig, tybiai fod cyfryngau, a'r Logos yn bemiaf ohonynt. Ond nid yw'n glir pa mor bell yr ystyriai Philo y Logos fel person neu fod ar wahan. i Dduw, er ei fod ar brydiau; Y11 dyfod yn agos iawn r at hynny. Yr oedd y term Logos felly yn un eyfarwydd iawn mewn ystyr neilltuol yn y ganrif gyntaf, -ac yn un hwylus iawn at yr amcan oedd gan awdur yr Hfengyl hon. Ond yn nwylaw yr Hfengylwr, cymerai'r term ystyr tra gwahanol i'r hyn oedd gan Philo a'r Rabbiniaid Iddewig, yn ogystal a chan yr athronwyr Groegaidd. Manteisio ar air a syniad cyfarwydd a wnaeth. Nid ydym i feddwl bod dylamvad Philo a'r cyf- ryw athronwyr ar ei feddwl; yn unig defnyddiai sYlliad oedd yn aduabyddus fel echel a1' yr lion y troai ei ddysgeidiaeth am yr lesu. lesu Grist ydyw'r gwir Logos.' A dywed yr awdur yn y Rhagarweiniad bethau mawrion am gyf- lawnder a pherffeithrwydd y datguddiad a gaed yn lesu Grist. Wedi cyflwyno'r lesu fell)" i'r Iddew ac i'r G-roegwr. trwy gy-frwng cyffredin iddyiit, ymcdy a'r term Logos, ac ni cheir ef mwy yn ei ystyr neilltuol ar hyd yr Efengyl. Tery'r awdur ar yr enw lesu Grist yn i. 17, ac o hynny allan geiriau a gweithredoedd yr lesu adroddir ganddo, fel y credai ei ddarllen- wyr 3-nddo ac y caent fywyd. Mai lesu 3-w Crist '—y Messiah. Dethola ddywediadau a gweithredoedel ym 1113-wyd yr lesu i aiiiewi licill- tuol. Y mae efe yn cfengylydd yn Irytrach na chrouiclwr digyffro. A chan gredn, y caffoch fywyd yn Bi enw Hf.' Gair mawrgauddo ydyw Bywyd o'r dechreu, a dengys mai rhodd fawr y Gair a'r Crist ydyw Bywyd. Cymcr yr awdur yn ganiataol fod hanes yv lesu yn hysbys i'w ddarlleuwyr drwy Efengylau eraill. Gwydclai ange.11 ei oes, ac ysgrifennai i gwrdd a'r angen liwnnw. Golygfeydd mewn drama fawr, megis, roddir ganddo, ac am hynny ni ddilyna fauyl- ion yr hanes. Person dwyfol ydyw'r lesu iddo. Efe yw Goleuni'r Byd a Baxa'r- Bywycl, y Bngail Da a'r Wir Winwyddeu. Tra y saif y tair Efeng3rl arall yn uwch fel llyfrau hanes, y bedwaredd Efengyl ydyw Llyfr Defosiwn yr Eglwys. Eir drwy'r tair Efengyl gyda diddordeb, a gofynnir, Pwy yw Hwn ? Ittyh Efengyl loan, Hwn yw y Gair Hwn yw Crist, Mab Duw.
[No title]
News
Cite
Share
SARDIS, EFAILFACH.—Cynhaliodd yr eglwys hon ei chyfarfodydd blynyddol y 80.1 a'r Llun, Mehefin 3ydd a'r 4ydd, pryd y gwas- anaethwvd gan y Parchn. W. Crwys Williams, Abertawe, a D. M. Davies, Waunarlwydd. Dat- ganwyd unawdau yn ystod y cyfarfodydd gan Miss Lewis, Llwynypia j
Gowerton.
News
Cite
Share
Gowerton. Diwrnod mawr eglwys y Tabernacl oedd. y dydd olal: () Fai, 1917—dydd ordeiniad P. Nicholas o Goleg CaerfA-rddin yn weinidog ami. Uy\vyddwyd am 2 o'r gloch gan y Parch. 1). M. Davies, Wauuarlwydd, prycl yr oedd y capel yn orlawn. Dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch. W. Glasnant Jones, Duuvant. Yna cafwyd gan yr ysgrifeiiilydd ychydig o hanes y gweinidogion fu ar yr eglwys ei. achos yn y lle )-it 1883, ynghyda hanes yr alwad i Mr. Nicholas. Holwyd y gofyniadau i'r gweiuidog gan y Parch. S. Williams, Glandwr, ac atebwyd hwynt yu fyr a chryno. Wedi cael arwycld gau y gynulleidfa drwy godi llaw ein bod yn croesawii Mr. Nicholas i'n plitli, ac iddo yntau gydnabod hynny'r un modd, offrymwyd yr urdd-weddi gan y Parch. J. C. Ivloyd, Cnvys, Traddodwyd siars i'r gweinidog gan y Parch. D. Williams, Maenclochog, oddiwrth x Tim. iv. 6, ac i'r eglwys gan y Parch. D. H. Thomas, Gors- einon, oddiwrth I Cor. xvi. 10- -y ddau yn en hwyliau goreu. Yna cafwyd anerchiad. gan y Proff. M. B. Owen, B.A., B.D., o Goleg Caer- fyrddiii, yn cynrychioli eglwys Elim, lie y byddai Mr. Nicholas yn cartrefii pan yn y Coleg, yn dymuno'n. dda iddo. Y Proff. J. O. Stephens, B.A., B.D., a ddyg- odd dystiolaeth iddo fel myfyriwr cliwycl a gonest. Yna'r Parch. n. Curig Davies, Bynea, yn ei longyfarch ar ran myfyrwyr y Coleg. Wedyn cafwyd anerchiadau gan frodyr o fani- eglwys Mr. Nicholas, sef y Mri. Melchior, James a Davies, yn dwyn tystiolaeth i'w gymeriad rhagorol fel dyn ieuanc ac fel prawf o syniad uchel yr eglwys am dano, anfonodd iddo ryw- beth mwy sylweddol na siarad, i roi yn ei law. Yn nesaf cafwyd gair gan y Parchn. J. Brenui Davies, B.A., B.D., Lewis Richards (M.C.), ac A. G. James (B.), Gowerton, yn Uongyfarch Mr. Nicholas ar ei ddyfodiad i'r, plith. Derbyniwyd llythyrau hefyd yn dymuno llwyddiant i'r gweinidog a'r eglwys oddiwrth amryw o weinidogion. TerfYllwyd oedfa'r pryn- hawn gan y Parch. D. Ffrwdwen Lewis, Felindre. Yr oedd boneddigesau'r eglwys wedi gwnend eu gwaith hwythau'n rhagorol drwy baratoi ar gyfer angen y dieithriaid yn festri'r capel. Dechreuwyd oedfa'r hwyr gan y Parch. D. T. Griffiths, Pilton Green, a chafwyd pregeth ar Natur Eglwys' gan y Proff. J. O. Stephens, B.A., B.D. ocldiar, Rhuf. i. 16. Pregethodd y Parch. J. T. Gregory, Peniel, oddiar Epliesiaid i. 16-19. Cawsom wledd feddyliol gan y ddau. Gwelsom hefyd yn bresennol y Parchn. J. Davies, B.A., Myiiyddbaeh W. Crwys Williams, a J. H. Hughes, Abertawe D. Jenkin Jones, Saron M. It. Thomas, Gorseinon W. Morgan, Brynteg; J. Ellis, Waungron, a James Jones (B.), Waunarlwydd.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
GENI, PRIODI, A WARW. PRIODASAU. WILLIAMS-JOHN.—Ar y Sulgwyn, yng nghapel y TabernacI, Aberdar, Mr. Richard Williams, diacon yn eglwys Siloh, a Mrs. Ann John—y ddau o Stag- street, Trecynon. Gweiuyddwyd y seremoni gan eu gweinidog-y Parch. J. Sulgwyn Davies. Mwynha- wyd y boroubryd priodasol yng ngbartref y briod- ferch. Gwelsom yn bresennol Mr. a Mrs. W. J. John; Mr. a Mrs. George BeddoeMorgan Mrs. M. Davies; a Mr. Richard John. Pob Iwc a bendith i'r ddau ddedwydd. MARWOLAETHAU. MORGAN.—Mai Slain, hebryngwyd gweddillion marwol y diweddar Mr. William Morgan (Gwilym Alaw) i dy ei hir gartref ym mynwent eglwys y plwyf, Penderyn. Bu'n diboeni'n hir, ond amynedd- gar. Bu yn ysgrifennydd eglwys Rhigos am 41 o flynyddoedd. Flwyddyn yn ol cyflwynwyd iddo dysteb fel gwerthfawrogiad o'i wasanaeth. Yr oedd trefniadau'r angladd yng ngofal y Parch. E. Wern Williams, Nebo, Hirwaun. Gweinyddwyd wrth y ty gan y Parchn. R. H. Davies, B.A., Owmbach J. H. Williams (W.), Hirwaun; Aneuriu Davies, B.A., B.D., Glyn-nedd ac E. Wern Williams, Nebo. Ym Mhenderyn, ar Ian y bedd, gan y Parch. M. P. Moses, Hirwaun. Gwelwyd hefyd yo bresennol y Parchn. T. G. Evans, Glynnedd, a Ben Vaughan, CwmdarJ Angladd luosog ac urddasol.—M. P. M.
Advertising
Advertising
Cite
Share
'I'Pt -J,oi¿" "Y: (I .(,:Jrr "f '10. ii 'r¡, "}. b. t7 _r"p, I The WcUhmaa't Fsk^oarit«. t- i ABON Sauce i | gir As good ati its liamz. 1 DON'T FAIL TO GST IT. t Rt, Si., |